Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer sefydliadau yn unig. Bydd angen i drethdalwyr nad oes ganddynt gyfreithiwr neu drawsgludydd gysylltu â ni i ofyn am ffurflen TTT bapur.

Dim ond un cofrestriad a ganiateir i bob sefydliad, gan gynnwys rhai sydd â nifer o leoliadau neu swyddfeydd.

Dylech ganiatáu hyd at bythefnos i gwblhau'r broses. Os oes gennych gais brys, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Cyn i chi ddechrau

Ni allwch gofrestru sefydliad fwy nag unwaith, felly cadarnhewch yn gyntaf a yw eich sefydliad eisoes wedi'i gofrestru ar gyfer ffeilio TTT ar-lein.

Os nad ydych yn siŵr a oes cyfrif yn bodoli'n barod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Beth fydd ei angen arnoch

Wrth gofrestru eich sefydliad, byddwch angen eich:

  • rhif cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau
  • rhif elusen
  • cyfeirnod unigryw trethdalwr (CUT) eich partneriaeth neu ymddiriedolaeth
  • CUT hunanasesu os ydych yn hunangyflogedig
  • rhif cofrestru TAW

Bydd arnoch hefyd angen manylion:

  • prif gyswllt o fewn eich sefydliad
  • gweinyddwr ar-lein wedi’i enwi ar gyfer rheoli cyfrifon defnyddwyr

Rhaid i gyfeiriadau e-bost fod yn gyfeiriadau e-bost unigol fel 'enw.cyntaf@', ac nid blwch post a rennir fel 'gwybodaeth@'.

I gwblhau’r broses gofrestru

Bydd eich gweinyddwr ar-lein yn derbyn rhif cofrestru eich sefydliad drwy e-bost wedi'i amgryptio o fewn pythefnos.

Dylai hwn gael ei rannu gyda holl gyfeiriadau perthnasol y sefydliad er mwyn creu cyfrifon cysylltiedig.

Rhaid iddynt ddefnyddio hwn i greu cyfrif defnyddiwr gweinyddwr ac i reoli defnyddwyr.

Cymorth

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda’r broses hon.