Dylai ceidwaid da byw barhau i ddilyn gofynion rheoleiddio da byw a chofrestru.
Mae cyfyngiadau a gyflwynwyd gan coronafeirws wedi arwain at sefydliadau sy'n galluogi gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae gwasanaethau allweddol fel cofrestru da byw a chofnodi symudiadau yn parhau. Ond rydym yn annog pob ceidwad i ddefnyddio dulliau cofnodi electronig lle bo modd. Gallwch gael gwybod sut i gofrestru ar y gwefannau a restrir isod. Gallai defnyddio gwasanaethau post i adrodd am symudiadau ar bapur arwain at oedi. Felly dylech ystyried hyn cyn symud anifeiliaid.
Caiff gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr tagiau eu dosbarthu fel busnesau cyflenwi critigol. Maent yn dal ar agor, ond dylai ceidwaid sicrhau bod ganddynt ddigon o dagiau anifeiliaid ar eu daliad. Unwaith eto, gallai oedi mewn gwasanaethau post arwain at oedi wrth gyflenwi. Felly, wrth archebu tagiau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn caniatáu digon o amser.
Dylech gysylltu â'r gwasanaeth perthnasol:
- os oes gennych unrhyw ymholiadau cofrestru da byw a symud
- os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r amserlenni adrodd cyfredol
Dylech hefyd wirio am unrhyw newidiadau i brosesau cofnodi yn ystod y cyfnod hwn.
Da Byw | Sefydliad | Gwefan | Ffôn | Llinell Hunanwasanaeth | E-bost |
---|---|---|---|---|---|
Defaid/Geifr | https://www.eidcymru.org | 01970 636959 | cysylltu@eidcymru.org | ||
Gwartheg | http://www.bcms.gov.uk | 0345 0503456 | 0345 0111212 Eng 0345 0111213 Wel |
bcmsenquiries@rpa.gov.uk | |
Moch | https://www.eaml2.org.uk | 0844 3358400 | https://www.pighub.org.uk/iip/footer_nav/contactus.eb | ||
Ceffylau | Gall ceidwaid gysylltu â’u Corff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) neu eu PIO ar gyfer brid penodol | https://llyw.cymru/pasbortau-ceffylau-sefydliadau-cyhoeddi-syn-rheoli-llyfrau-magu | EquineIDceffylau@gov.wales |
Gall ffrindiau, perthnasau neu gymdogion barhau i'ch cynorthwyo, os oes angen. Ond mae'n rhaid i chi ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth.
Gallwch gysylltu â'n gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS) os oes angen help neu arweiniad arnoch.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau adnabod da byw eraill ac adrodd ar symudiadau, cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.