Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol a llywodraeth leol fel a gofnodwyd yn y cofrestrau etholiadol ar gyfer 2018.

Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol.

Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer yr etholwyr seneddol yng Nghymru yw 2,230,100; gostyngiad o 1.4% rhwng 2017 a 2018.
  • Dyma’r gostyngiad cyntaf ers y flwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2015 pan bu gostyngiad o 2% yn nifer yr etholwyr.
  • Ym mis Rhagfyr 2017 roedd nifer yr etholwyr seneddol ar ei uchaf ers mis Rhagfyr 2013 yn dilyn tair mlynedd yn olynol o bleidleisiau cenedlaethol. Mae hyn yn rhannol o leiaf oherwydd ymgyrchoedd a gafodd eu cynnal ar hyd y wlad yn annog pleidleiswyr cymwys i gofrestru yn ystod y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ac hefyd ar gyfer yr Etholiadau Cyffredinol ym mis Mai 2015 a mis Mehefin 2017.

Mae ystadegau’r Gofrestr Etholiadol yn seiliedig ar ffiniau etholaethau Seneddol ac yn cael eu cyhoeddi ar gyfer etholwyr Seneddol a llywodraeth lleol. Tan 14 Rhagfyr 2011, roedd ffiniau etholaethau Seneddol yr un fath â'r rhai ar gyfer etholaethau'r Cynulliad. Fodd bynnag, gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel bod y ddau yn awr yn wahanol (gweler y nodiadau isod).

Nodiadau

Gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn chwech ardal awdurdod lleol. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i finiau etholaethau Seneddol. Daeth y Gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o'r pwynt hwn ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng yr etholaethau Seneddol ac etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn gyfwerth â'r boblogaeth breswyl 18 oed a hŷn. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio (nid oes hawn gal ddinasyddion tramor o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad, carcharorion ayyb.), nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrif o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu cyhoeddi.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.