Cofrestr Buddiannau ar gyfer Comisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)
Mae'r gofrestr yn seiliedig ar saith categori o fuddiant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Categori 1: Swyddi Cyfarwyddwyr
Enw |
Dyddiad dod i rym |
Enw'r cwmni |
Natur Busnes y Cwmni |
Rhagor o wybodaeth |
---|---|---|---|---|
Eluned Parrott |
03/08/2016 |
Parrott Communications |
Ymgynghoriaeth reoli (marchnata, strategaeth, hyfforddiant) |
Partneriaeth â'i phriod/partner |
David Clubb |
Hydref 2018 |
Afallen PAC (Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig) |
Ymgynghori ynghylch cynaliadwyedd, yn canolbwyntio ar gadw arian a sgiliau yng Nghymru a helpu sefydliadau i weithredu fframweithiau a ffyrdd o weithio Cenedlaethau'r Dyfodol. |
Er mwyn rheoli gwrthdaro buddiannau, boed yn ganfyddedig neu’n wirioneddol, nid wyf wedi gwneud unrhyw waith sy'n gysylltiedig ag ynni neu seilwaith ers canol Medi 2021, ac ni fyddaf yn derbyn unrhyw dâl ariannol gan Afallen am unrhyw waith a wneir gan y cwmni yn y sectorau hyn yn ei gyfanrwydd nes i'm tymor gyda'r comisiwn ddod i ben. |
Helen Armstrong |
30/03/2020 |
The Mindful Growth Company |
Hyfforddi a mentora |
|
Jenifer Baxter |
01/04/2021 |
Diwydiant Cymru |
Ariennir gan Lywodraeth Cymru – hyd braich, yn cefnogi diwydiant ledled Cymru |
|
David Clubb |
Ebrill 2021 |
Hiraeth Energy PAC |
Datblygu dau brosiect ynni gwynt 300MW sy'n arnofio ar y môr yn y Môr Celtaidd |
Er mwyn rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau, boed yn ganfyddedig neu'n wirioneddol, nid wyf wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau ymgysylltu ar ran Hiraeth Ynni ers canol Medi 2021, ac ni fyddaf yn ymgymryd ag unrhyw waith ymgysylltu â rhanddeiliaid pan fyddaf yn aelod o'r Comisiwn. |
Rhaid cofrestru pob Swydd Cyfarwyddwr â thâl y comisiynwyr neu aelod agos o'u teulu (priod neu bartner neu blentyn dibynnol). Mae ‘tâl’ yn cynnwys unrhyw gyflogau, ffioedd a lwfansau neu fuddion trethadwy (e.e. car cwmni). Dylid hefyd gynnwys swyddi cyfarwyddwyr di-dâl lle gwneir taliad drwy gwmni arall yn yr un grŵp.
Categori 2: Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn ac ati â Thâl
Enw |
Dyddiad dod i rym |
Enw'r Cyflogwr neu'r Cwmni |
Natur Busnes y Cyflogwr |
Natur y Swydd |
Rhagor o wybodaeth |
---|---|---|---|---|---|
Priod/partner Eluned Parrott |
01/11/2009 |
Prifysgol Abertawe |
|
Rheolwr Canolfan Asesu Anabledd |
|
Nick Tune |
01/09/2017 |
Atkins |
Ymgynghoriaeth Peirianneg, Dylunio a Rheoli Prosiectau |
Arweinydd technegol ar gyfer y busnes yn fyd-eang, rwy'n pennu polisi a strategaeth ac yn cyflawni gweithrediadau technegol dros Atkins ar lefel fyd-eang |
|
David Clubb |
Hydref 2018 |
Cymorth Clubb Cyf |
Ymgynghoriaeth Amgylcheddol |
Ymgynghori |
|
Eluned Parrott |
15/10/2018 |
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru |
Plaid wleidyddol |
Ymgynghoriaeth reoli – ailstrwythuro sefydliadol ac ymgynghori ar strategaeth |
|
Eluned Parrott |
06/11/2018 |
Trafnidiaeth Cymru / Keolis Amey |
Cwmni gweithredu trenau |
Cynghorydd Interim ar gyfer Materion Allanol / Cenedlaethau'r Dyfodol |
|
Eluned Parrott |
20/08/2018 – 31/12/2018 |
Cymdeithas Cludiant Cymunedol |
Sefydliad y trydydd sector |
Cyfarwyddwr Interim i Gymru |
|
Eluned Parrot |
01/07/2020 |
Parrott Communications |
Ymgynghoriaeth Gyfathrebu
|
Cyfarwyddwr
|
Contract: Aelod cyswllt gydag Ymgynghoriaeth Gyfathrebu 34/7
Ymgynghori ar brosiect pŵer gwynt gyda Coriolis Energy
Ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparu cyngor ar bolisi ar gyfer yr ymgynghorydd arweiniol. |
Jenifer Baxter |
01/01/2021 |
Protium Green Solutions |
Cwmni / datblygwr ynni sero net |
Cyfarwyddwr Peirianneg a Phennaeth Protium yng Nghymru |
|
Aleena Khan |
20/06/2021 |
Atkins |
Ymgynghoriaeth Peirianneg, Dylunio a Rheoli Prosiectau |
Cynllunydd Trafnidiaeth Graddedig |
|
Steve Brooks |
01/08/2021 |
Villiers Park Educational Trust |
Elusen symudedd cymdeithasol genedlaethol sy'n darparu rhaglenni ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn Lloegr |
Rwy'n darparu cymorth a chyngor ar faterion allanol a rheoli |
|
Steve Brooks |
01/08/2021 |
Steve Brooks Consulting |
Rwy'n darparu amrediad o wasanaethau, gan gynnwys cymorth a chyngor ar bolisi, ymchwil, cyfathrebu, strategaeth, arweinyddiaeth, newid sefydliadol a hyfforddi / mentora. |
Sylfaenydd / unig fasnachwr |
Yn ogystal â'r gwaith llawrydd rwy'n ei wneud yn ôl y galw ar gyfer cleientiaid eraill yn y datganiad hwn, rwyf hefyd yn gwneud gwaith gyda chleientiaid eraill gan gynnwys Concern Worldwide; Drummau House Ltd, Cymru Masnach Deg Cyf, Hub Cymru Africa a Fforwm Masnach Deg yr Alban. |
Steve Brooks |
29/11/2021 |
Avanti Transformation Ltd |
Gweithgareddau Ymgynghoriaeth Reoli (ar wahân i reoli ariannol) |
Aelod Cyswllt |
Nid wyf wedi derbyn unrhyw dâl ers mis Mehefin 2022 pan gefais fy mhenodi yn gomisiynydd. |
Eurgain Powell |
07/03/2022 |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Iechyd Cyhoeddus |
Rheolwr y Rhaglen Datblygu Cynaliadwy |
|
Steve Brooks |
04/09/2022 |
Deryn Consulting Ltd. |
Ymgynghoriaeth materion cyhoeddus a chyfathrebu strategol |
Darparu cyngor ar faterion cyhoeddus a chyfathrebu strategol ar gyfer Deryn Consulting Ltd a'u cleientiaid. Rwy'n gweithio fel Uwch Ymgynghorydd ar sail llawrydd. |
Rwy'n gweithio ar y cyfrifon canlynol: Marvel Limited. |
Rhaid cofrestru pob cyflogaeth â thâl y comisiynwyr neu aelod agos o'u teulu, gan gynnwys unrhyw ffynonellau tâl nad ydynt yn amlwg mewn unrhyw gategori arall.
Categori 3: Rhoddion, lletygarwch ac ati
Enw |
Dyddiad Dechrau (pan gafodd ei dderbyn) |
Disgrifiad o'r rhodd |
Enw'r unigolyn neu’r sefydliad a roddodd y rhodd |
Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|
|
|
|
|
|
Rhaid cofrestru pob rhodd, lletygarwch, buddion materol neu fantais sy'n werth mwy na £100 y mae comisiynwyr neu aelod agos o'u teulu wedi derbyn sy’n gysylltiedig ag aelodaeth o CSCC neu'n deillio ohoni. Er hynny gall yr aelodau gofnodi pob rhodd a dderbyniwyd os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Categori 4: Tâl neu fuddion materol eraill
Enw |
Dyddiad Dechrau (pan gafodd ei dderbyn) |
Disgrifiad o'r tâl neu'r budd |
Y cwmni neu'r corff arall sy’n gysylltiedig |
Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|
Eurgain Powell |
Medi 2021 |
Ar hyn o bryd rwy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru fel aelod o'r Panel Adolygu Ffyrdd, bydd hyn yn dod i ben yn haf 2022 |
Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru |
|
Rhaid cofrestru unrhyw dâl y mae comisiynwyr neu aelod agos o'u teulu yn ei dderbyn gan unrhyw gwmni cyhoeddus neu breifat sydd â chontract gyda [enw'r corff] neu sy'n tendro am unrhyw gontract gyda [enw'r corff].
Categori 5: Tir ac Eiddo
Enw |
Dyddiad Dechrau (pan ddaeth yn berchennog) |
Natur yr Eiddo |
Lleoliad Cyffredinol |
Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|
David Clubb |
2010 |
Coetir: Allt Hengeraint |
Aberaeron |
|
Rhaid cofrestru unrhyw dir y mae gan gomisiynwyr neu aelod agos o'u teulu ddiddordeb uniongyrchol ynddo ac mae'n glir ei fod yn gysylltiedig â gweithgareddau [enw'r corff] (ac eithrio eiddo preswyl).
Categori 6: Cyfranddaliadau
Enw |
Dyddiad Dechrau (pan gawsant eu caffael) |
Enw'r Cwmni neu'r Corff |
Natur Busnes y Cwmni neu'r Corff |
Ydy Gwerth y Cyfranddaliad > 1% o'r cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd |
Ydy Gwerth y Cyfranddaliad > 50% o'r cyflog blynyddol gros |
Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|---|---|
Steve Brooks |
01/07/2021 |
Steve Brooks Consulting (Unig Fasnachwr) |
Rwy'n darparu amrediad o wasanaethau, gan gynnwys cymorth a chyngor ar bolisi, ymchwil, cyfathrebu, strategaeth, arweinyddiaeth, newid sefydliadol a hyfforddi / mentora. |
Nac ydy |
Nac ydy |
Rwy'n gwneud fy ngwaith llawrydd fel unig fasnachwr. |
Rhaid cofrestru unrhyw gwmnïau neu gyrff eraill y mae gan gomisiynwyr neu aelod agos o'u teulu unrhyw fuddiant llesiannol ar ffurf cyfranddaliadau sydd naill ai: â gwerth ar y farchnad o fwy nag 1 y cant o'r cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd; neu â gwerth o fwy na 50 y cant o'u cyflog blynyddol gros sylfaenol
Categori 7: Aelodaeth/Cadeiryddiaeth cyrff sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru
Enw |
Dyddiad Dechrau |
Enw'r Sefydliad |
Aelod neu Gadeirydd y Sefydliad? |
Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|
Nick Tune |
01/03/2012 |
Down to Earth Construction |
Aelod |
Rwy'n aelod o fwrdd Down to Earth Construction, cwmni buddiannau cymunedol sy'n hyfforddi grwpiau agored i niwed ar adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy |
Eluned Parrott |
01/01/2017 |
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
Aelod |
|
David Clubb |
Mai 2018 |
Bwrdd Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth o fewn STEM |
Aelod |
|
Steve Brooks |
28/06/2022 Diweddarwyd 23/02/23
|
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) |
Aelod |
Rwy'n ymddiriedolwr elusen a chyfarwyddwr cwmni ar gyfer CGGC, sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy grantiau a chontractau
Rwy'n aelod o Bwyllgor Archwilio a Rheoli Risg CGGC. Daeth fy nghyfnod fel ymddiriedolwr elusen a chyfarwyddwr cwmni WCVA sy'n derbyn arian Llywodraeth Cymru drwy grantiau a chontractau, i ben ar 17 Tachwedd 2023. Nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb pendant bellach yn WCVA. |
Steve Brooks |
28/06/2022 |
Living Streets (Cymdeithas y Cerddwyr) |
Aelod |
Rwy'n ymddiriedolwr elusen a chyfarwyddwr cwmni ar gyfer Living Streets, sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy grantiau a chontractau |
Steve Brooks |
28/06/2022 Diweddarwyd 23/02/23 |
Cymdeithas Dai Trivallis |
Aelod |
Rwy'n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Cymdeithas Dai Trivallis, sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy grantiau. Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Pobl Trivallis. O 2023 ymlaen mae'r swydd yn cael ei thalu. |
Steve Brooks |
28/06/2022 |
Sefydliad Bevan a'r Sefydliad Materion Cymreig |
Aelod |
Rwy'n aelod arferol o Sefydliad Bevan a'r Sefydliad Materion Cymreig – er nad wyf yn aelod o fwrdd yr un sefydliad na'r llall. |
Steve Brooks |
29/09/2023 |
Cymdeithas Dai Trivallis |
Aelod |
Rwy'n aelod o Gomisiwn Asedau a Datblygu Trivallis' |
Rhaid cofrestru Aelodaethau neu Gadeiryddiaethau (naill ai â thâl neu'n ddi-dâl) unrhyw gorff sydd wedi'i ariannu'n llawn neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru (ar wahân i CSCC) ar gyfer comisiynwyr neu aelod agos o'u teulu.
Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau
Enw |
Dyddiad Dechrau |
Enw'r Clwb neu'r Gymdeithas |
Natur y rôl / Gwybodaeth Ychawangol |
---|---|---|---|
Eluned Parrott |
01/10/2017 |
Y Sefydliad Marchnata Siartredig |
Cymrawd y sefydliad |
Jenifer Baxter |
2015 |
Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol
|
|
Jenifer Baxter |
2018 |
Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio |
|
Steve Brooks |
2019 |
Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Gweithgynhyrchwyr a Masnach |
Cymrawd |
Steve Brooks |
2020 |
Cymdeithas yr 20fed Ganrif |
Aelod Arferol |
Steve Brooks |
2021 |
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain |
Myfyriwr-aelod |
Hefyd rhaid cofnodi aelodaeth neu safleoedd rheoli cyffredinol neu waith rheoli unrhyw glwb neu gymdeithas breifat sydd â gofynion aelodaeth ar gyfer comisiynwyr. Nid yw ‘gofynion aelodaeth’ yn cynnwys gofyniad i dalu tâl aelodaeth na chytuno i unrhyw delerau neu amodau aelodaeth ac eithrio telerau neu amodau ar gyfer dewis aelodau.