Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru: 8 Mawrth 2023
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru 8 Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Jackie Murphy, (Cadeirydd), TGP Cymru
- Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
- Aiden Jones, Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
- Andrew Willcox, Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
- Jennifer Gibbon-Lynch, Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
- Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru
- Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
- Caroline Rawson, Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP) Cymru
- Tracey Holdsworth, NSPCC Cymru
- Gareth Jenkins, Cynrychiolydd ADSS
- Neil Pring, HMCTS
- HHJ Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
- Emma Phipps-Magill, Voices from Care
- Nigel Brown, Cafcass Cymru
- Matthew Pinnell, Cafcass Cymru
- De Litchfield, Cafcass Cymru
- Lucy Roberts, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Gan fod rhai o'r aelodau yn bresennol am y tro cyntaf, gofynnodd y Cadeirydd i bob aelod gyflwyno ei hun a'i rôl.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:
- Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
- Sharon Lovell, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Tachwedd 2022 – i'w cymeradwyo cyn eu cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru a Materion yn Codi
Cytunwyd. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r cofnodion ac nid oedd unrhyw faterion yn codi.
Data / Perfformiad
Darparodd Nigel drosolwg o'r atgyfeiriadau a'r data perfformiad a oedd yn cynnwys dau adroddiad ar wahân. Roedd yr adroddiad cyntaf yn cynnwys y set arferol o ddata a rennir ag aelodau ac roedd yr ail adroddiad yn darparu data ar y Cynllun Peilot Braenaru yng Ngogledd Cymru.
Cafwyd trafodaeth fanwl wedi hynny, ac ymatebodd Nigel a Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor.
Cynllun Peilot TIG ar gyfer Gohebu gan y Cyfryngau
Rhoddodd Matthew drosolwg o Gynllun Peilot y Grŵp Gweithredu Tryloywder ar gyfer Gohebu a lansiwyd ar 30 Ionawr mewn tri llys – Caerdydd, Leeds a Carlisle, am gyfnod o 12 mis. Nod y Cynllun Peilot yw sicrhau bod “yr egwyddor tryloywder” ar waith – sy’n golygu y caniateir i newyddiadurwyr cymeradwy a blogwyr cyfreithiol ohebu ar yr hyn y byddant yn ei weld ac yn ei glywed yn y llys (o fewn paramedrau penodol). Mae’r Canllawiau yn egluro y bydd yn rhaid i unrhyw ohebu sicrhau nad oes modd adnabod y plentyn/plant sy'n gysylltiedig â’r achos.
Bydd y Cynllun Peilot yn gymwys i ddechrau ar gyfer mathau penodol o achosion cyfraith gyhoeddus cyn cael ei ymestyn i achosion cyfraith breifat ar ddyddiad nad yw wedi'i gadarnhau eto. Caiff y cynllun peilot ei adolygu ar ôl 12 mis.
Dywedodd Matthew fod y cyfryngau wedi gohebu ar sawl achos. Bydd Cafcass Cymru yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor wrth i’r cynllun peilot fynd rhagddo.
Cyflwyniad y Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
Rhoddodd Aiden ac Andrew gyflwyniad ardderchog ar farn plant sy'n gysylltiedig ag achosion llys teulu ar Gynllun Peilot TIG ar gyfer Gohebu gan y Cyfryngau. Roedd eu sylwadau yn ddefnyddiol iawn i'r pwyllgor.
Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori i Aiden ac Andrew am eu cyflwyniad ardderchog a gafodd effaith fawr arnynt.
Ail-lansio'r PLO (Cyfraith Gyhoeddus)
Rhoddodd Nigel y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn ail-lansiad swyddogol y PLO ar 16 Ionawr, lle tynnodd Llywydd yr Is-adran Teuluoedd sylw at yr angen i bawb sy'n ymwneud ag achosion plant cyfraith gyhoeddus ailgysylltu ag egwyddorion craidd yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Mae Cafcass Cymru wedi amlygu chwe maes ffocws allweddol ac ers yr ail-lansiad, bu'n gweithio gyda staff i sicrhau eu bod yn deall beth a ddisgwylir ganddynt. Gwnaed hyn drwy gyfres o weithdai â phob aelod o staff sy'n ymwneud â chyfraith gyhoeddus, gan roi'r cyfle i ddeall neges a disgwyliadau'r Llywydd. Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd i weithio gyda Barnwr Cyswllt Cymru a thri Barnwr Teulu Dynodedig i hwyluso gweithdy ar y cyd i drafod dull gweithredu Cymru. Bydd Cafcass Cymru yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i’r pwyllgor.
Diweddariad a Phrosiect Peilot Gweithio Gyda'n Gilydd er mwyn Plant (Cyfraith Breifat)
Rhoddodd Matthew y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Peilot Gweithio Gyda'n Gilydd dros Blant (WT4C).
Cafodd rhaglen WT4C ei chreu er mwyn helpu aelodau o deuluoedd i ddeall beth sydd ei angen fwyaf ar eu plant yn dilyn cais i'r llys, pan fyddant yn gwneud trefniadau i dreulio amser gyda rhieni sydd wedi gwahanu ac aelodau pwysig eraill o'r teulu.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cytuno i ariannu prosiect peilot am 18 mis a fydd yn gwneud dau newid sylweddol i’r rhaglen. Fel rhan o'r newid cyntaf, bydd y ffi o £180 yn cael ei dileu a bydd y rhaglen ar gael yn rhad ac am ddim i bawb yn ystod y prosiect peilot.
Yn ail, yn flaenorol, byddai angen gorchymyn llys yn cytuno y dylai'r unigolion gymryd rhan yn y rhaglen yn dilyn y gwrandawiad cychwynnol. Fodd bynnag, gall ymarferwyr Cafcass Cymru bellach atgyfeirio rhieni/gofalwyr at y rhaglen unwaith y bydd cais y llys wedi’i dderbyn ac ar ôl cwblhau gwiriadau diogelu. Mae hyn yn golygu y gall y rhaglen fod ar gael yn llawer cynt yn y broses mewn achosion lle nad oes unrhyw bryderon diogelu, a fydd o fudd i lawer o blant a phobl ifanc. Bydd Matthew yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cynghori am gynnydd y cynllun peilot.
Recriwtio Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol
Rhoddodd Nigel y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cynghori am yr heriau presennol o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad addas. Mae hyn oherwydd y prinder gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru sy'n cael effaith ar Cafcass Cymru ac o fewn awdurdodau lleol.
Bydd Cafcass Cymru yn treialu menter newydd i recriwtio “Gweithwyr Cymdeithasol dan Hyfforddiant”, gan eu noddi i gwblhau cwrs gradd Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored yn dechrau ym mis Hydref 2023.
Unrhyw fater arall
Mewn ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan Paul Apreda, cadarnhawyd y canlynol:
- Bydd cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori yn dal i gael eu cynnal ar MS Teams gan fod y dull hwn wedi gwella presenoldeb mewn cyfarfodydd. Trefnwyd y cyfarfodydd nesaf ar gyfer; 05 Mehefin: 16:00 – 17:30 a 07 Tachwedd: 16:00 – 17:30
- Nid yw Cafcass Cymru yn caniatáu i ymarferwyr wneud recordiadau sain o gyfweliadau â rhieni.
- Mae Cafcass Cymru yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a HMCTS i ddatblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Yn olaf, manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i hysbysu aelodau'r pwyllgor cynghori y bydd yn ymddeol ac y bydd yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Cadeirydd yn dilyn y cyfarfod ar 5 Mehefin. Diolchodd Nigel i'r Cadeirydd am ei gwaith caled a'i chefnogaeth gan ddymuno'r gorau iddi. Ategwyd hyn gan bob un o aelodau'r pwyllgor.
Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.