Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru: 5 Tachwedd 2024
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru 5 Tachwedd 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Tracey Holdsworth (Cadeirydd), NSPCC Cymru
- Jennifer Gibbon Lynch, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Aiden, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Milo, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Paul, Apreda FNF Both Parents Matter Cymru
- Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
- Gareth Jenkins, Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
- Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
- HHJ Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
- Donna Mulhern, GLlTEF
- Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
- Astrid Davis, Cadeirydd Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
- Matthew Pinnell, Cafcass Cymru
- De Litchfield, Cafcass Cymru
- Lee Gerrard, Cafcass Cymru
- Lydia Hall-Mulvaney, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)
Croeso ac Ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:
- Nigel Brown, Cafcass Cymru
- Mike Clark, TGP Cymru
- Sharon Lovell, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
- Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2024
Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.
Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
Rhoddodd Aiden a Milo gyflwyniad ardderchog yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Cynhadledd Llais y Plentyn y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yr oedd 991 o bobl wedi rhag-gofrestru i'w mynychu ac yr ymunodd cyfanswm o 499 o bobl yn ystod y cyfnod prysuraf.
- Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi datblygu a lansio adnoddau addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (PSHE) wedi'u hanelu at Gyfnod Allweddol 3 ac sydd bellach ar gael i bob ysgol.
- Mae Canllawiau i Ymarferwyr wedi cael eu lansio ar gyfer trefnu Amser Teulu Diogel, sy'n myfyrio ar brofiadau personol plant a phobl ifanc o ran teimlo'n ddiogel.
- Mae ap wrthi'n cael ei ddatblygu o hyd i gynnig ffyrdd eraill i blant a phobl ifanc ymgysylltu a chyfathrebu â Cafcass Cymru. Mae aelodau o'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi chwarae rôl allweddol yn y broses hon ac wedi mynychu nifer o weithdai o bell ac wyneb yn wyneb i rannu eu barn â Cafcass Cymru ac un o Ddadansoddwyr Busnes Llywodraeth Cymru.
- Mae Cafcass Cymru wedi comisiynu'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc i edrych ar ffynonellau gwybodaeth i blant a phobl ifanc, yn arbennig llythyrau i blant a chynnwys ar-lein. Diben hyn yw sicrhau bod ein hadnoddau yn glir ac y gall plant a phobl ifanc eu deall.
- Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn ystyried recriwtio mwy o aelodau, yn arbennig o leoliadau yng Nghymru ac sydd â phrofiad o gyfraith gyhoeddus. Bydd y broses recriwtio yn cael ei chynnal rhwng dechrau mis Rhagfyr 2024 a 10 Ionawr 2025.
Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori i Aiden a Milo am eu cyflwyniad ardderchog ac am y llwyddiannau uchod.
Gofynnodd Matthew i Gareth Jenkins beth fyddai'r ffordd fwyaf priodol o hyrwyddo'r broses recriwtio i'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ymhlith Awdurdodau Lleol ac awgrymodd Gareth y gellid gofyn i Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHOCS) a'r Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol hyrwyddo'r ymgyrch.
Gofynnodd Sara Kirkpatrick i gopi o gyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor Cynghori.
Cam Gweithredu: Lydia i rannu gwybodaeth berthnasol am y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc â Gareth Jenkins.
Cam Gweithredu: Lydia i rannu cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ag aelodau'r Pwyllgor Cynghori.
Data / Perfformiad a Gweithdy Mesurau sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau
Darparodd Matthew drosolwg cynhwysfawr o'r adroddiadau ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat. Darparodd Matthew grynodeb manwl o'r setiau data a'r dangosyddion perfformiad allweddol hefyd.
Neilltuwyd rhan fawr o'r eitem ar gyfer gweithdy ar ddyheadau ac amserlenni Mesurau sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau posibl ar gyfer y dyfodol. Cafwyd trafodaeth fanwl, ac ymatebodd Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor.
Roedd consensws cyffredinol ymhlith yr aelodau, er nad oedd angen dangosydd perfformiad allweddol newydd, y dylai Cafcass Cymru ystyried egluro a nodi'r hyn a gaiff ei gynnwys mewn ffurflenni cau achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat, sut mae hyn yn gydnaws ag erthyglau CCUHP, pwy yw'r gynulleidfa darged a ph'un a oes unrhyw dueddiadau i'w nodi.
Cam Gweithredu: Cyflwyno unrhyw sylwadau yn deillio o'r drafodaeth yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori. Rhoi ystyriaeth bellach i sicrhau mwy o eglurder o ran pa wybodaeth a gaiff ei chynnwys mewn ffurflenni cau achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat, pwy fyddai'r gynulleidfa a nodi tueddiadau a dadansoddi a yw Cafcass Cymru yn casglu data gwahanol a sut y mae'n gwneud hynny. Matthew a Lee Gerrard i roi'r cam gweithredu hwn ar waith.
Cam Gweithredu: Gofynnodd Sarah Coldrick i ddadansoddiad pellach gael ei gynnal o wybodaeth am Asiantaethau Mabwysiadu a gwybodaeth am wasanaethau nad ydynt yn rhan o asiantaeth. Lee Gerrard i ystyried y data ymhellach.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Braenaru
Rhoddodd Matthew ddiweddariad ar y Cynllun Braenaru peilot yng Ngogledd Cymru a Deddwyrain Cymru. Nododd Matthew fod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ac mai'r dyddiad lansio ar gyfer y ddwy ardal weithredol arall, sef De-orllewin Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, yw 3 Mawrth 2025. Bydd Cymru gyfan yn gweithio o dan y model Braenaru wedi hyn
Unrhyw Fater Arall
Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.
Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 11 Mawrth 2025 drwy Teams