Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tracey Holdsworth (Cadeirydd), NSPCC Cymru 
  • Lauren Shepherd, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Aiden Family, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Milo, Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru 
  • Gareth Jenkins, Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • HHJ Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
  • Neil Pring, GLlTEF
  • Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru
  • Nigel Brown, Cafcass Cymru 
  • Jane Smith, Cafcass Cymru 
  • Lydia Hall-Mulvaney, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac Ymddiheuriadau

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Sharon Lovell, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) 
  • Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
  • Mike Clark, TGP Cymru 
  • Donna Mulhern, GLlTEF
  • De Litchfield, Cafcass Cymru 
  • Matthew Pinnell, Cafcass Cymru

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.

Data / Perfformiad

Rhoddodd Aiden a Milo gyflwyniad ardderchog yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Digwyddiad Cwsmer Cudd a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023.
  • Trosolwg o flaenoriaethau'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ar gyfer 2024.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau arfaethedig y mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn cymryd rhan ynddynt; fel Cynhadledd Farnwrol yn Nenmarc, cyfrannu at fideos animeiddiedig newydd ar gyfer Cafcass Lloegr a chefnogi grŵp ymchwil o dan arweiniad Prifysgol Reading sy'n ystyried profiadau plant o achosion llys lle ceir honiadau fod plant wedi cael eu cam-drin yn rhywiol.

Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori i Aiden a Milo am eu cyflwyniad ardderchog, gan ddymuno'n dda iddynt yn y gynhadledd farnwrol yn Nenmarc.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Braenaru

Rhoddodd Nigel a HHJ Scannell ddiweddariad cynhwysfawr ar y Cynllun Braenaru peilot yng Ngogledd Cymru a'r trefniadau arfaethedig ar gyfer ei gyflwyno yn Ne-ddwyrain Cymru.

Nododd Nigel fod y Cynllun Braenaru yn gweithredu'n effeithiol yng Ngogledd Cymru a bod y cynllun peilot wedi cael ei ehangu am flwyddyn arall. Disgwylir i'r Cynllun Braenaru gael ei gyflwyno yn Ne-ddwyrain Cymru gan ddechrau o 29 Ebrill ac mae ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod pawb yn y sefyllfa orau bosibl adeg ei lansio. Cadarnhaodd NB ein bod wedi llwyddo i recriwtio unigolion i'r swyddi dros dro a ariannwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Nododd HHJ Scannell fod y Farnwriaeth yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r cynllun peilot a bod hyfforddiant eang wedi cael ei gynnal er mwyn sicrhau ei lwyddiant. Nododd HHJ Scannell fod y Farnwriaeth yn edrych ymlaen at gyflwyno'r cynllun peilot a'i fod yn debygol o gael ei gynnwys fel rhan o ymarfer ehangach yng Nghymru a Lloegr.

Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Nigel a HHJ Scannell i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor.

Fframwaith Ymarfer Cafcass Cymru

Ymunodd Jane Smith â'r cyfarfod i roi diweddariad ar Fframwaith Ymarfer Drafft Cafcass Cymru. Bydd y fframwaith yn adnodd i ymarferwyr a hefyd yn ddogfen a fydd ar gael i'r cyhoedd. Mae'r fframwaith yn adlewyrchu gwerthoedd craidd Cafcass Cymru a sut y byddwn yn eu cynnwys fel rhan o'n hymarfer.

Nododd Jane fod y fframwaith eisoes wedi cael ei rannu â'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc a'n bod wedi cael adborth cadarnhaol ganddo. Y cam nesaf fydd dylunio a chyfieithu'r fframwaith. Caiff erthyglau eu hysgrifennu i'w cynnwys yn y cylchlythyr mewnol am lansio'r fframwaith a chaiff manylion amdano eu hychwanegu at ein llawlyfrau sefydlu ac ar dudalennau'r fewnrwyd fewnol a'r rhyngrwyd allanol.

Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Jane i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor. Darparodd Samantha Williams sawl adnodd am ddim drwy'r sgwrs Teams yn ymwneud â chanllawiau i weithwyr cymdeithasol mewn achosion lle bo gan y rhiant anabledd dysgu.

Unrhyw Fater Arall

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.

Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 18 Gorffennaf drwy Teams.