Neidio i'r prif gynnwy

Presennol

  • Jackie Murphy: Cadeirydd
  • Paul Apreda (PA): FNF Both Parents Matter Cymru
  • Sarah Coldrick (SC): Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Catrin Cracroft (CC): Cynrychiolydd Cymdeithas y Gyfraith
  • Beth Flowers (BF): Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Gareth Jenkins (GJ): ADSS Cymru
  • Sara Kirkpatrick (SK): Cymorth i Fenywod Cymru
  • Mark Lewis (ML): Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi
  • Des Mannion (DM): NSPCC Cymru
  • Judge Helen Mifflin (HHJ M): Y Farnwriaeth
  • Sean O’Neill (SO): Plant yng Nghymru
  • Zoe Richards (ZR): Anabledd Dysgu Cymru
  • Dan Ronson (DR): Y Cyngor Cyfryngu Teuluol
  • Rakhshanda Shahzad (RS): Black Association of Women Step Out (BAWSO)
  • Nigel Brown (NB): Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell (MP): Cafcass Cymru
  • Rhianon James (RJ): Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

1. Croeso a Chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Sharon Lovell: Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol

Oedodd Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru i gofio Denise Inger, SNAP Cymru, a fu farw ym mis Medi. Roedd ei chyfraniad i waith y Pwyllgor yn werthfawr iawn a bydd colled ar ei hôl.

Mae Amanda Daniels, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, SNAP Cymru wedi bod mewn cysylltiad i gadarnhau y bydd hi’n mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol.

2. Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 – llofnodi cyn cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru

Roedd un newid i’w nodi. Dyddiad cywir y cyfarfod nesaf oedd 3 Tachwedd ac nid 30 Tachwedd.

3. Materion yn Codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi. Fodd bynnag, roedd un cam gweithredu heb ei gyflawni o dan eitem 5. Nodwyd bod yr Ysgrifenyddiaeth wedi cysylltu â DM i ofyn am y cofnodion a’r cyflwyniad o drafodaeth ford gron i’w dosbarthu. Bydd y cam gweithredu hwn yn cael ei gario ymlaen.

4. Data Perfformiad Medi 2020

Darparodd NB drosolwg o’r atgyfeiriadau a’r ffigurau perfformio ar gyfer mis Medi 2020. Dilynwyd hynny gan drafodaeth ac ymatebodd NB ac MP i gwestiynau a godwyd gan aelodau o’r pwyllgor. Gofynnodd PA am adborth a gafwyd gan rieni a phlant. Esboniodd MP fod gan Cafcass Cymru broses gwyno a chanmoliaeth ar waith, a bod unrhyw adborth yn cael ei groesawu gan fod y sefydliad wedi ymrwymo i ddysgu a gwella ei wasanaethau.

5. Y wybodaeth ddiweddaraf am Fframwaith Cyflenwi Gwasanaethau Dros Dro COVID-19, a Thu Hwnt

Y sefyllfa ddiofyn i’r sefydliad yw y dylai mynychu llys a gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd ddigwydd yn rhithwir. Fodd bynnag, gall ymarferwyr gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â phlant a mynychu llys ddigwydd pan fo hynny’n angenrheidiol a bod modd gwneud hynny’n ddiogel. Mae’r dull “cyfunol” yn gweithio’n dda ac yn wir mae’n well gan rai pobl ifanc gyfarfod ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Dywedodd NB ei fod yn gobeithio, yn y dyfodol, y byddai dull cyfunol o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd rhithwir yn cael ei fabwysiadu.

Dywedodd MP wrth yr aelodau fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb â phlant a theuluoedd yn cael eu cynnal pan fo angen yn swyddfeydd Cafcass Cymru yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno a Chaerfyrddin. Y gobaith yw y bydd swyddfeydd Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd ar gael yn fuan.

Gofynnodd PA pa ganran o waith uniongyrchol gyda phlant sy’n digwydd. Dywedodd NB nad yw’r sefydliad yn casglu’r union wybodaeth honno, ond dywedodd fod cyfanswm o 160 o asesiadau risg wedi’u cwblhau rhwng wythnos gyntaf mis Medi a thrydedd wythnos mis Hydref mewn perthynas â gwaith uniongyrchol gyda phlant.

Yna gofynnodd PA pam nad yw ymarferwyr yn rhoi eu cyfeiriadau e-bost i ddefnyddwyr gwasanaeth. Esboniodd MP fod cyfeiriadau e-bost cyffredinol yn ôl ardal weithredol yn cael eu darparu, ynghyd ag anogaeth i’w defnyddio.

Holodd PA hefyd a yw Cafcass Cymru yn recordio sgyrsiau. Cadarnhaodd MP nad yw’r sefydliad yn recordio unrhyw un o’r trafodaethau platfform gyda phlant a theuluoedd.

6. Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfiawnder Teuluol, Adfer a Diwygio

Dosbarthwyd y diweddariad hwn i aelodau cyn y cyfarfod. Darparodd NB drosolwg llawn o’r wybodaeth yn yr adroddiad, gyda mewnbwn gan GJ. Ychwanegodd GJ fod y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol wedi bod yn gweithio ar gynnig i gael cynllun gwaith strategol. Yn ogystal, cyhoeddwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid tymor byr i dreialu Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) yng Nghymru.

Wrth ateb cwestiwn PA ynghylch cynrychiolaeth ar weithgorau Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Breifat, dywedodd MP fod y ddau Weithgor yn cael eu cadeirio gan farnwyr yr Uchel Lys – Mr Ustus Keehan ar gyfer cyfraith gyhoeddus a Mr Ustus Cobb ar gyfer cyfraith breifat. Ychwanegodd MP fod y ddau grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Cafcass, Cafcass Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi, y farnwriaeth, cyfryngwyr ac awdurdodau lleol.

Dywedodd HHJM nad oedd yn ystyried annog y defnydd o adran 76 fel newid mawr, ac mai’r broblem yw’r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud tra bo plentyn yn derbyn gofal o dan adran 76. Ymatebodd GJ y gallai adran 76 fod yn briodol fel cynllun hirdymor i blant dan rai amgylchiadau, yn enwedig plant hŷn.

7. Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield – Adroddiad ar Achosion Cyfraith Breifat

Derbyniodd yr Aelodau gopïau o’r adroddiad hwn cyn y cyfarfod, sef y cyntaf mewn cyfres a oedd i’w chyhoeddi gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gysylltiad cryf ag ardaloedd difreintiedig ac atgyfeiriadau cyfraith breifat. Dywedodd MP fod hwn yn adroddiad dadlennol iawn ac anogodd yr aelodau i’w ddarllen.

8. Adroddiad Blynyddol Cafcass Cymru

Dywedodd NB wrth yr aelodau y bu oedi cyn cynhyrchu adroddiad blynyddol y sefydliad oherwydd digwyddiadau eleni. Bydd fersiwn eleni’n fersiwn fyrrach, a bydd yn cysylltu’n ôl â Chynllun Strategol Cafcass Cymru. Caiff ei gyhoeddi rhwng nawr a chanol mis Mawrth 2021. Pan fydd drafft terfynol ar gael, caiff ei ddosbarthu i’r aelodau i gynnig sylwadau.

9. Unrhyw Fusnes Arall

Gan nad oedd mater arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben.

10. Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf am 9:30 – 11:00 ar 16 Mawrth 2021.

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru am eu hamser a’u cyfraniad gwerthfawr i’r cyfarfod.

Taaflen weithredu

Rhif eitem yr agenda Cam gweithredu Yn arwain
Eitem 3 – Materion yn Codi – Diweddariad ar Ddarparu Gwasanaethau (COVID-19) (Cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 – Eitem 5) DM i anfon cofnodion a chyflwyniad y drafodaeth ford gron at RJ i’w dosbarthu. Ysgrifenyddiaeth / DM