Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tracey Holdsworth (Cadeirydd), NSPCC Cymru 
  • Mike Clark, TGP Cymru 
  • Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru 
  • Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Emma Phipps-Magill, Voices from Care 
  • Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
  • Donna Mulhern, GLlTEF
  • Matthew Pinnell, Cafcass Cymru 
  • De Litchfield, Cafcass Cymru 
  •  Anna Sinclai, Cafcass Cymru 
  • Lydia Hall-Mulvaney, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac Ymddiheuriadau

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Nigel Brown, Cafcass Cymru 
  • Ei Hanrhydedd y Farnwres Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
  • Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru 
  • Sharon Lovell, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
  • Gareth Jenkins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Cynrychiolydd
  • Lauren Shepherd, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol I Bobl Ifanc)
  • Jennifer Gibbon Lynch, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol I Bobl Ifanc)
  • Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
  • Caroline Rawson, Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP) Cymru

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.

Data / Perfformiad

Darparodd Matthew drosolwg cynhwysfawr o'r adroddiadau ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat. Darparodd Matthew grynodeb manwl o'r setiau data a'r dangosyddion perfformiad allweddol. Yn ogystal, rhoddodd Matthew ddiweddariad ar y Peilot Braenaru sydd wedi'i ymestyn yng Ngogledd Cymru ac wedi'i lansio yn Ne Cymru a Gwent. 

Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor. 

Cytunwyd y dylai mesurau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau fod yn eitem benodol a fydd yn cael ei chodi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori ym mis Tachwedd. Byddai hyn yn rhoi cyfle i aelodau'r pwyllgor ystyried dyheadau ac amserlenni i'r dyfodol.

Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc

Rhoddodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gyflwyniad da a thrylwyr iawn drwy recordiad, gan ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o gynhadledd staff Cafcass Cymru ar 18 Ebrill 2024.
  • Llwyddodd Cafcass England i gael gradd ‘Eithriadol’ gan Ofsted.
  • Prosiect Braenaru Cyfranogiad Pobl Ifanc Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu archwilio ffordd newydd o helpu pobl ifanc sy'n mynd trwy achosion gofal i gael clust i wrando arnynt.
  • Datblygu ap i gynnig ffyrdd eraill i blant a phobl ifanc ymgysylltu a chyfathrebu â Cafcass Cymru.
  • Llysoedd Braenaru i ddrafftio canllawiau er mwyn sicrhau bod canllawiau ar gael yn hawdd i blant a phobl ifanc i'w helpu yn ystod eu hachosion.
  • Yn ogystal, croesawodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc holl aelodau ei Bwyllgor Cynghori i fynychu ei ddigwyddiad ar-lein ar 25 Gorffennaf a fydd yn canolbwyntio ar leisiau plant a phobl ifanc.

Rhoddodd Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori ganmoliaeth i'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc am ei gyflwyniad ardderchog ac ategodd ymrwymiad y pwyllgor i weithio'n agos gyda'r Bwrdd.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Braenaru

Rhoddodd Anna ddiweddariad cynhwysfawr ar y Cynllun Braenaru peilot yng Ngogledd Cymru a lansiad y Cynllun Braenaru yn Ne-ddwyrain Cymru. 

Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Anna a Donna i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor. 

Cytunwyd y bydd dogfennau sy'n wynebu tuag allan y mae Cafcass Cymru yn eu darparu i rieni a phlant mewn perthynas â materion Braenaru yn cael eu rhannu â'r pwyllgor. Mae LH-M wedi dosbarthu'r dogfennau i aelodau. 

Gofynnodd Paul i'w bryderon mewn perthynas â chynnwys adroddiadau RIC DASH gael eu cofnodi.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Fframwaith Ymarfer

Rhoddodd Matthew ddiweddariad cryno ar lansio'r Fframwaith Ymarfer a'r ffordd y mae Cafcass Cymru yn bwriadu ymgorffori'r Fframwaith i ymarfer.

Unrhyw Fater Arall

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben. 

Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 5 Tachwedd drwy Teams.