Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Julie Morgan, AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (yn bresennol o 10:30 i 11:30) Llywodraeth Cymru
Arwel Ellis Owen Cadeirydd Annibynnol
Matthew Jenkins Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis Llywodraeth Cymru
Ben O’Halloran Llywodraeth Cymru
Simon Hatch Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Kate Young Fforwm Cymru Gyfan
Claire Morgan Gofalwyr Cymru
Lynne Hill Plant yng Nghymru
Vicki Lloyd Age Cymru
Jon Day Gofal Cymdeithasol Cymru
Amanda Phillips Cynrychiolydd Cyngor Sir Bro Morgannwg/ Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Kim Sparrey Cyngor Sir Fynwy/ COLIN
Kathy Proudfoot Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr/COLIN
Esyllt Crozier Gofal Cymdeithasol Cymru
Dr Vanessa Webb Prifysgol Abertawe 
Dr Dianne Seddon Prifysgol Bangor
Rhian Webber Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Angela Hughes Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Anna Bird Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Tony Kluge Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Helen James Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Y Cyng. David Hughes Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr
Alwyn Jones Cyngor Sir Ynys Môn/ Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyniadau

Cyflwynodd y Cadeirydd ei hunan, gan groesawu pawb i’r cyfarfod. Fel Cadeirydd annibynnol newydd bydd yn cwestiynu ac yn herio cymaint â phosibl. Mae’n edrych ymlaen at yr her ac at ddod i adnabod yr aelodau.

Cyflwynodd yr aelodau eu hunain.

Daeth y Cadeirydd â’r cyflwyniadau i ben drwy ddweud y dylem allu cyflawni nodau’r grŵp o ystyried yr arbenigedd sydd ar gael ynddo.

Y Dirprwy Weinidog

Diolchodd y Dirprwy Weinidog i Arwel Ellis Owen am dderbyn rôl y Cadeirydd annibynnol, a hefyd i Matt Jenkins am ei waith yn cadeirio’r grŵp.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi ei gyflwyno i’r pwyllgor.

Nododd y Dirprwy Weinidog ddathliadau Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc (30/01/20) yn ei datganiad ysgrifenedig ar 29 Ionawr, gan gyhoeddi y byddai’n cyflwyno cynllun cardiau adnabod ar gyfer Gofalwyr Ifanc.

Heddiw, roedd angen trafod rhan y Grŵp Cynghori yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer gofalwyr.

Trafodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Roedd Matt Jenkins yn ddiolchgar am gyfraniadau Alwyn o’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Grŵp yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod nesaf.

Dechreuodd y drafodaeth ar y cerdyn adnabod ar gyfer Gofalwyr Ifan drwy fod y Cadeirydd yn gofyn ynghylch nifer y gofalwyr ifanc yng Nghymru. Soniodd Simon Hatch am waith yr Athro Saul Becker sy’n cael ei ystyried yn arweinydd ym maes ymchwil gofalwyr ifanc. Cytunodd yr aelodau y byddai’n fuddiol ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i siarad am ei waith.

Rhoddodd Simon Hatch y newyddion diweddaraf am y gwaith yr oedd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth ynghylch gofalwyr ifanc ymysg gweithwyr proffesiynol. Mae gweithwyr proffesiynol o feysydd addysg, fferyllwyr, a staff meddygfeydd yn cefnogi’r cynllun cardiau adnabod. Mae angen cyflwyno’r cynllun hwn ar draws Cymru gyfan.

Amlinellodd yr aelodau o awdurdodau lleol, sef un o’r cyntaf i fabwysiadu’r cynllun, y cyfle gwych i adeiladu ar y cymorth i ofalwyr a gynigir eisoes yn eu hardaloedd.

Soniwyd am ofalwyr sy’n chwiorydd neu frodyr a’r cyfle y mae’r cynllun cardiau adnabod newydd yn ei greu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y grŵp hwn o ofalwyr nad ydynt yn cael fawr o sylw.

Mae’r cynllun i ofalwyr a’r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet eu trafod. Mae hyn er mwyn cael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y ddwy ddogfen ac i amlinellu’r camau nesaf.

Codwyd materion sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth ac addysg gofalwyr ifanc. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw hi bod gofalwyr yn gwybod am yr hyn y gallant ei ddisgwyl mewn perthynas â’r rôl ofalu cyn iddynt gyrraedd unrhyw bwynt argyfwng. Rhaid bod yr wybodaeth wedi ei thargedu a’i darparu pan fo’i hangen fel nad yw’n ormod.

Gadawodd y Dirprwy Weinidog.

Sesiwn y prynhawn

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn awyddus i gwrdd â’r aelodau’n unigol yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn cysylltu ag aelodau nad ydynt yn bresennol, gan ofyn iddynt sut y maent yn bwriadu cyfranogi a lle y byddant yn gallu gwneud hynny.

Aeth y Cadeirydd drwy gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol.

Cam gweithredu 1: Y Cadeirydd i drafod â’r Dirprwy Weinidog y cyfle i anfon llythyr at arweinwyr llywodraeth leol a chadeiryddion byrddau iechyd i dynnu sylw at waith y Grŵp Cynghori a hefyd i amlinellu’r disgwyliadau o ran darparu cyllid. Nawr bod y cyllid wedi ei gadarnhau, gellid anfon llythyrau o fewn y pythefnos nesaf.
Cam gweithredu 2: Yr ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu papur sy’n tynnu ynghyd y prif bwyntiau trafod ar gyfer y gweithdai, a fydd yn cael eu hystyried wrth ddatblygu cynllun cenedlaethol i ofalwyr. Wedi ei gwblhau.
Cam gweithredu 3: Gwahodd Dr Seddon i roi cyflwyniad ar gasgliadau ei hymchwil mewn cyfarfod yn y dyfodol. Mewn cyfarfod o’r Grŵp Cynghori yn y dyfodol, bydd Dr Seddon yn cyflwyno ei chasgliadau a’r adborth o ddigwyddiad rhannu gwybodaeth Cymru a’r Alban ynghylch toriadau byr a seibiant, sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Mai.

 

Y newyddion diweddaraf gan y Grŵp Ymgysylltu

Rhoddodd Simon Hatch yr wybodaeth ddiweddaraf o’r cyfarfod cychwynnol a gynhaliwyd ar 22/01/20. Mae rôl llais y gofalwyr yn bwysig iawn yn y gwaith o ddatblygu cynllun cenedlaethol newydd. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn anfon rhestr o’r bobl a oedd yn bresennol ar ôl y cyfarfodydd. Roedd ymateb y rheini a oedd yn bresennol yn gadarnhaol iawn, ac roeddent yn benderfynol y byddai’r grŵp yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith o ddatblygu’r cynllun cenedlaethol, gan ymateb i’r angen i ystyried gofynion gofalwyr a’r problemau sy’n eu hwynebu.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n awyddus i gyfrannu at waith y grŵp hwn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Cytunwyd y byddai cofnodion y Grŵp Ymgysylltu yn cael eu rhannu â grwpiau gofalwyr ar lefel leol.

Trafododd yr aelodau a ddylid darparu pwynt mynediad a rennir ar gyfer aelodau’r Grŵp Ymgysylltu, ac efallai y gellid gwneud hynny ar gyfer aelodau’r Grŵp Cynghori hefyd.

Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Rhoddodd Matt Jenkins groeso i Rachel Lewis yn rhinwedd ei swydd fel Pennaeth newydd y Gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr.

Gwnaed ymddiheuriadau am yr oedi cyn cyhoeddi cyllideb 2020-21, ond rhoddodd Matt Jenkins gadarnhad ar lafar bod Gweinidogion wedi cytuno cyllid gofalwyr ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol a’r cyllid ychwanegol, tuag at y cynllun cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, i awdurdodau lleol ei ddefnyddio.

O ran y cynllun grantiau i’r trydydd sector, sef Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, ar gyfer 2020-2023, awgrymwyd y dylai’r sefydliadau sydd wedi sicrhau cyllid gyfrannu at waith y Grŵp Cynghori.

Bydd eitem benodol ynglŷn â gofalwyr yn cael ei hychwanegu at agenda cyfarfod Bwrdd Gweithredol y GIG ym mis Ebrill.

Cynllun cenedlaethol i ofalwyr

Cynigiodd Matt Jenkins amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu a chyhoeddi’r cynllun newydd. Mae hyn yn cynnwys bod y Dirprwy Weinidog yn mynd â phapur i gyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf. Caiff hynny ei ddilyn gan ymgynghoriad cyhoeddus, o bosibl cyn torri ar gyfer gwyliau’r Pasg. Bydd y cyfnod ymgynghori ar y ddogfen hon yn para 12 wythnos, ac wedyn bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried a’u defnyddio i ddatblygu cynllun yn yr hydref. Bydd hwnnw’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet, a bwriad y Dirprwy Weinidog yw gwneud Datganiad Llafar cyn y Nadolig.

O ran cynnwys, pwysleisiodd Matt Jenkins yr angen i gael mewnbwn defnyddiol oddi wrth y Grŵp Ymgysylltu ac unrhyw weithdai a gynhelir, gan roi sylw hefyd i ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a holiaduron.

Aethpwyd ymlaen i roi sylw i nifer o gwestiynau, ee yr angen i barhau i rannu arferion da a gofyn a ddylem edrych eto ar y blaenoriaethau cenedlaethol? A ddylai fod thema craidd sy’n ymwneud ag ymyrryd yn gynnar yn hytrach na chyrraedd pwynt argyfwng? A yw hyn yn ymwneud â manteisio i’r eithaf ar ein prosesau, gan ganolbwyntio ar nodi, adnabod, asesu? A oes angen inni ystyried materion sy’n ymwneud â chasglu data a chanolbwyntio gwaith ymchwil? 

Roedd cytundeb cyffredinol o ran amserlenni a’r angen i edrych yn fanylach ar y tair blaenoriaeth genedlaethol bresennol. Cytunodd yr aelodau fod y blaenoriaethau cenedlaethol yn parhau’n addas ar gyfer eu diben, ond efallai bod angen blaenoriaeth ychwanegol i ystyried rhai pryderon nad ydynt wedi cael digon o sylw hyd yn hyn?

Roedd pwyslais cryf hefyd ar newid cymdeithas; er mwyn sicrhau mwy o gydnabyddiaeth o werth gofalu; yr angen i gymdeithas gymeradwyo’r cynllun newydd. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud gwaith sy’n ymwneud â hyn, gan ganolbwyntio ar Gymru fel cymdeithas ofalgar.

Awgrymwyd y dylai’r ddogfen ymgynghori fod yn addas ar gyfer gofalwyr ifanc ac ar gyfer y cyfryngau digidol.

Cafwyd trafodaeth ynghylch sut y bydd y gwaith yn cael ei ddyrannu a’r posibilrwydd y bydd angen grwpiau gorchwyl a gorffen.

Roedd cytundeb o ran pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn gysylltiedig â gwaith cynllunio strategol ehangach, a phwyslais ar ystyried bod gofalwyr yn rhan o’r holl agweddau ar bolisi’r llywodraeth.

Cytunwyd bod angen cael cynrychiolydd o’r adran addysg ar y Grŵp Cynghori.

Daeth y cyfarfod i ben am 13:00.

Camau gweithredu o gyfarfod 29 Ionawr

Cam gweithredu 1: Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon llythyrau ynglŷn â chyllid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol.
Cam gweithredu 2: Dod ag ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i gyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori.
Cam gweithredu 3: Gofyn i’r Athro Saul Becker gyflwyno ei waith ynghylch gofalwyr ifanc i’r Grŵp.
Cam gweithredu 4: Sefydliadau’r trydydd sector i roi adborth i’r Grŵp Cynghori ynghylch eu gwaith a ariennir gan Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.