Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Yn bresennol

Arwel Ellis Owen Cadeirydd
Vanessa Webb Prifysgol Abertawe 
Marie Davies Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Rhian Webber Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bethan Jones Edwards Cyngor Sir Ddinbych (ADSS)
Esyllt Crozier Gofal Cymdeithasol Cymru
Simon Hatch Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Claire Morgan Gofalwyr Cymru
Elizabeth Flowers Swyddfa’r Comisiynydd Plant 
Valerie Billingham Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn
Vicki Lloyd Age Cymru
Sean O’Neill Plant yng Nghymru
Dianne Seddon Prifysgol Bangor 
David Hughes ALl Merthyr Tudful
Kathy Proudfoot Is-gadeirydd Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr – ALl Pen-y-bont ar Ogwr
Kim Dolphin     Cadeirydd – Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr  - ALl Sir Fynwy
Johanna Davies  Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg
Angela Hughes       Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Anna Bird             Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Kate Cubbage Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru 
Swyddogion Llywodraeth Cymru  
Rachel Lewis   Pennaeth y Gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr
Ceri Griffiths   Uwch Reolwr Polisi, Pobl Hŷn a Gofalwyr
Ben O’Halloran Swyddog Polisi Gofalwyr

Ymddiheuriadau:

Alwyn Jones - ALl Wrecsam (ADSS)

Jon Day - Gofal Cymdeithasol Cymru 

Kate Young - Fforwm Cymru Gyfan

Jane Tremlett - Cyngor Sir Caerfyrddin / Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Anthony Jordan - Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol

1. Croeso a chofnodion y cyfarfod blaenorol – Arwel E Owen (cadeirydd)

Croesawodd y Cadeirydd bawb a diolchodd i'r aelodau am ddod i'r cyfarfod hwn yn ystod cyfnod mor anarferol, gan bwysleisio mai dyma'r amser i ganolbwyntio ar wella bywydau gofalwyr di-dâl. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y pwysau sydd ar ofalwyr drwy ddyfynnu o adroddiad Carers UK 'Unseen and Undervalued'. 

Croesawyd Sean O'Neill. Mae'n cymryd lle Lynne Hill, a bydd yn cynrychioli Plant yng Nghymru a'r rhwydwaith Gofalwyr Ifanc.

Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol ym mis Gorffennaf 2020 eu hadolygu a'u cymeradwyo. Roedd y ffocws ar ddechrau y pandemig ar amrywiaeth o bryderon ond yn enwedig ar gael cyfarpar diogelu personol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Ar hyn o bryd, mae’r pryder yn canolbwyntio ar fynediad at frechlynnau i ofalwyr di-dâl. 
Mae nifer o arolygon a darnau pwysig o ymchwil wedi'u cynnal a'u cyhoeddi ers dechrau'r pandemig.

Cynhaliwyd arolwg Cymru gyfan Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer pobl ifanc yn ystod hanner cyntaf 2020 ac mae'r adroddiad ar gael yn Mae arolwg plant a phobl ifanc newydd ar agor, sy'n edrych ar sut mae plant yn ymdopi â'r cyfyngiadau symud estynedig. Mae'r arolygon hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer llywio polisi. Anogir aelodau i rannu'r adroddiadau hyn â'i gilydd a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys anfon at ysgrifenyddiaeth y Grŵp Cynghori yn y gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr.

Cyhoeddodd y Comisiynydd Pobl Hŷn yr adroddiad 'Gadael Neb ar Ôl' a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion sydd wedi effeithio ar bobl hŷn yn ystod y pandemig. 

Mae prosiect cenedlaethol cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc yn mynd rhagddo. Dyfarnwyd cyllid ar gyfer gwaith i 17 o awdurdodau lleol yn 2020-21. Disgwylir iddynt gyflwyno diweddariadau byr ar eu cynnydd ddiwedd mis Ionawr. Cafodd ALl Ceredigion lansiad ar-lein llwyddiannus, ac roedd y Dirprwy Weinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ‘bresennol’ ynddo.  Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno elfennau craidd gofynion y prosiect, er enghraifft y logo cenedlaethol a manylion gwybodaeth sylfaenol megis enw, llun, corff cyhoeddi.  Mae problemau gofalwyr ifanc wedi denu diddordeb yn y cyfryngau yn ystod y mis diwethaf gyda darllediadau gan y BBC ac ITV. Roedd y Dirprwy Weinidog a Simon Hatch wedi cael eu cyfweld. 

Cafwyd trafodaeth fer am ofalwyr ifanc sy'n cyfieithu ar ran y person y maent yn gofalu amdano, yn enwedig wrth ddefnyddio iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.  Cytunwyd na ddylai unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol ddisgwyl i ofalwr ifanc "gyfieithu”.  Dylai Gofal Sylfaenol ddefnyddio dehonglwyr proffesiynol a mathau priodol eraill o gymorth lle mae angen cymorth ar yr unigolyn sy'n derbyn gofal neu ar y gofalwr i gyfathrebu â’r meddyg teulu / staff y practis.
 

2. Ymgynghoriad cyhoeddus y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr – diweddariad llafar - Ceri Griffiths, Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ymhell dros 80 o ymatebion. Bydd y nifer terfynol yn uwch oherwydd bod rhai o’r rhain yn ymatebion ar y cyd gan grwpiau sy'n cynrychioli gofalwyr neu fyrddau iechyd. Cyflwynwyd eraill fesul rhanbarth gan gynnwys nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Bydd dogfen grynhoi ffurfiol ar yr ymgynghoriad yn cael ei drafftio gan Lywodraeth Cymru yn dilyn dadansoddiad o'r ymatebion, ac fe’i cyhoeddir cyn gynted â phosibl. Dilynir hyn gan gyhoeddi’r cynllun cenedlaethol ei hun.

Roedd y trosolwg yn grynodeb ffeithiol byr o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r sylwadau a gyflwynwyd ar gyfer pob cwestiwn. Roedd yn seiliedig ar sampl bach yn unig, fodd bynnag, gan mai cael a chael eu cynnwys wnaeth llawer o ymatebion a gyflwynwyd yn agos i’r y dyddiad cau ar 20 Ionawr.

Effaith COVID-19 

Roedd y pryderon allweddol a amlygwyd yn cynnwys cynnydd mewn oriau gofalu, yr effaith negyddol ar iechyd, a lles a gofalwyr yn teimlo eu bod ar goll ac wedi’u hanghofio. Nodwyd fod problemau wrth gael gafael ar ofal sylfaenol a gwasanaethau'n cael eu hatal, fel cau canolfannau dydd a chymorth wyneb yn wyneb, yn achosion pryder mawr.

Cafwyd rhai enghreifftiau da o'r ffordd y mae sefydliadau wedi addasu i'r heriau a gyflwynir gan y pandemig ond i lawer, mae ailgychwyn gwasanaethau a ataliwyd yn allweddol, yn enwedig felly darpariaeth wyneb yn wyneb. Dywedodd llawer o ymatebwyr fod angen cynnydd yn y Lwfans Gofalwyr a mwy o eglurder o ran cyfathrebu. Dylid rhoi blaenoriaeth i ofalwyr ar gyfer y brechlyn. Mae angen cau'r gagendor digidol i lawer o oedolion sy’n gofalu ond hefyd i ofalwyr ifanc. Mae angen gwneud mwy i ddarparu seibiant.

Nodweddion gwarchodedig 

Ymhlith yr ymatebion codwyd anghenion y canlynol: rhai â nam ar eu clyw, yn ofalwyr a’r rhai sy’n cael gofal; pobl  o gefndir Pobl Dduon, Asiaiadd ac Ethnig Leiafrifol; pobl LGBTQ; a phobl â gwahanol anghenion crefyddol a diwylliannol. Cyfeiriwyd at ofalwyr hŷn sy'n gofalu am blant sy'n oedolion a'r rhai ag anableddau dysgu a chorfforol.  

Blaenoriaethau

Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion yn awgrymu diwygiadau bach i eiriad y tair blaenoriaeth genedlaethol bresennol. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r rhai a samplwyd yn cytuno ag ychwanegu'r bedwaredd flaenoriaeth a awgrymwyd – ar gyfer gofalwyr mewn addysg a gofalwyr sy’n gweithio. 

Roedd galw am fwy o gydnabyddiaeth i ofalwyr mewn lleoliadau gofal sylfaenol a mwy o gyllid ar draws pob sector.  Mae gofalwyr hefyd eisiau cydnabyddiaeth bod gofalu'n fwy na swydd amser llawn. Mae angen mwy o gymorth seicolegol.

Ni ddylid cael loteri cod post pan ddaw'n fater o ofalwyr yn cael Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Mae angen gwneud gwelliannau i gronfa ddata gwybodaeth DEWIS. Mae angen cyfleu gwybodaeth bwysig i ofalwyr cyn gynted â phosibl. 

Mae angen gwell cydnabyddiaeth o ofalwyr gan gyflogwyr, a mwy o gyfleoedd i ofalwyr gael gafael ar gyngor a hyfforddiant i ddychwelyd i'r gwaith. Roedd rhai enghreifftiau o arfer da yn cael eu rhannu megis rhaglen e-ddysgu Dysgu i Fyw ar gyfer gofalwyr gan Gofalwyr Cymru

Siarter gofalwyr 

Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r rhai a samplwyd yn cytuno y dylid creu siarter gofalwr. Roedd rhai cafeatau e.e. sut y bydd yn gosod meincnod yn llwyddiannus i ddarparwyr ac eraill anelu ato, a’i gyrraedd. 

Y Gymraeg

Roedd un o'r ymatebion wedi codi yn eglur bwysigrwydd y dyletswyddau cyfreithiol presennol ar awdurdodau lleol ac eraill i gyflwyno'r 'cynnig gweithredol' ynglŷn â'r Gymraeg, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio eu dewis iaith mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lleoliadau eraill. 

3. Trafod ymatebion cychwynnol i’r ymgynghoriad ar y cynllun Gofalwyr – pawb

Y nod yw cwblhau testun y cynllun gofalwyr cyn diwedd mis Mawrth. Bydd y cynllun yn cael ei ddrafftio ochr yn ochr â'r ddogfen Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad. Dyna'r llinell amser a ddymunir, ond mae swyddogion yn wynebu pwysau ychwanegol wrth ymateb i'r don bresennol o Covid felly efallai y bydd newidiadau yn yr amserlen a gwaith yn cael ei ohirio.

Tynnodd Sean O'Neill sylw at y ffaith bod Plant yng Nghymru wedi cynnal trafodaeth fanwl gyda gofalwyr ifanc a bod eu hadborth wedi'i gynnwys yn ymateb eu sefydliad. Cafwyd trafodaeth fer ynghylch y ffaith bod llawer o'r un themâu wedi codi ymhlith yr ymatebion a samplwyd, a chroesawyd nifer yr ymatebion a gyflwynwyd i'r ymgynghoriad gan bawb. Cytunwyd bod nodi astudiaethau achos a gweithgarwch cadarnhaol yn bwysig. Siaradodd David Hughes yn fyr am weithgarwch ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. 

Awgrymodd sawl aelod o'r Grŵp Cynghori y gallent ddarparu grŵp gorchwyl a gorffen bach i gynorthwyo swyddogion i ddrafftio rhannau penodol o'r cynllun cenedlaethol newydd.

4. Gweithgaredd Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr – diweddariad llafar - Kate Cubbage, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Pan oedd y Grŵp Cynghori yn cael ei greu, cafwyd trafodaethau ynghylch a fyddai gofalwyr unigol yn rhan o'r grŵp. Roedd y Dirprwy Weinidog blaenorol Huw Irranca-Davies wedi cytuno i greu Grŵp Cynghori ond gyda chymorth grŵp a fyddai'n hwyluso aelodaeth ehangach o ofalwyr ac aelodaeth gofalwyr unigol.  

Mae gan y grŵp gynrychiolaeth eang o ofalwyr sydd i gyd wedi'u cysylltu â rhwydweithiau ehangach. Roedd y broses recriwtio, gyda Llywodraeth Cymru, yn deg ac yn dryloyw. Mae gan y grŵp hefyd aelodau sy’n weithwyr proffesiynol rheng flaen, ac o feysydd iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Cyfarfu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020 ac roedd aelodau'n gallu rhannu eu profiadau a dod i adnabod ei gilydd.

Cyrhaeddodd wythnos y Grŵp Ymgysylltu bron i 100 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru drwy ei sesiynau trafod ar gyfer gofalwyr ganol mis Hydref 2020, y cwbl yn cymryd rhan i ddeall profiadau pobl yn ystod pandemig presennol Covid 19. Yn ystod yr wythnos hon, cyd-gadeiriodd aelodau'r Grŵp Cynghori ddigwyddiadau gydag aelodau o'r grŵp Ymgysylltu. Mae'r Aelodau'n gweithio ar bapur i'w gyflwyno i'r Grŵp Cynghori yn amlinellu eu barn am y cynllun gofalwyr cenedlaethol. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd ond mae ymrwymiad i gynnal yr aelodaeth yn dal yn uchel iawn. Mae'r Aelodau’n dymuno adeiladu ar yr hyn y maent eisoes wedi'i gyflawni i helpu i lywio'r trafodaethau yn y dyfodol. Anogodd Arwel yr aelodau i edrych ar y cofnodion gweledol a baratowyd o ganlyniad i sesiynau'r wythnos ymgysylltu

Pwysleisiwyd mai prif ffocws y grŵp Ymgysylltu yw cefnogi'r Grŵp Cynghori a bydd y cynhyrchion i gyd yn cael eu rhannu â Chadeirydd y Grŵp Cynghori, ac ymhlith aelodau'r Grŵp Cynghori.

5. Unrhyw fater arall  

Ar hyn o bryd mae swyddogion yn trafod cyllid i gefnogi gofalwyr. Gofynnodd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i swyddogion a oedd unrhyw gadarnhad o'r £1 miliwn o gyllid blynyddol i Fyrddau Iechyd i gefnogi gofalwyr. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn cysylltu â nhw ynghylch hyn cyn gynted ag y byddant yn gwybod rhagor. 

Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad ariannu blynyddol y Gronfa Gofal Integredig. Dywedodd sawl aelod y byddai angen cyllid tymor hwy ar gyfer gweithredu'r cynllun. Mae cyllid blynyddol tymor byr yn golygu bod gwaith cynllunio'n fater munud olaf iawn a chyda’r Gronfa Gofal Integredig yn dod i ben ar ôl mis Mawrth 2022, mae ar aelodau eisiau clywed am unrhyw raglenni yn y dyfodol.  

Cytunwyd y bydd aelod o dîm Cronfa Gofal Integredig y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei wahodd i'r cyfarfod nesaf.  Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i fod yn grŵp â blaenoriaeth o fewn cyllid y Gronfa Gofal Integredig yn 2021-22. Yn y cyfarfod ar teams, rhannwyd yddolen at gyllideb ddrafft flynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr a datganiad llafar y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd  ar 12 Ionawr

Mae dolen at y blogiau cyhoeddus ar-lein i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru wedi'i rhannu cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw at y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y blog - 31 Ionawr ond byddai trafodaethau pellach felly anogir aelodau i gynnal deialog yn y dyfodol â’r adrannau perthnasol yn Llywodraeth Cymru. 

Eglurwyd bod y diwrnod hawliau gofalwyr ifanc blaenorol a oedd wedi'i drefnu o’r blaen ar gyfer diwedd mis Ionawr wedi'i ailenwi'n Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc a'i fod bellach ar 16 Mawrth.

6. Cloi’r cyfarfod / dyddiad y cyfarfod nesaf

Bydd dyddiad cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori yn cael ei ddosbarthu cyn gynted â phosibl. Mae'n debyg o fod yn gynnar – canol mis Mawrth.  

Atgoffwyd yr Aelodau bod etholiadau nesaf y Senedd wedi'u trefnu ar gyfer dechrau mis Mai. Felly, bydd y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau tua diwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill 2021. (Y dyddiad yw 9 Mawrth 2021, gan ddechrau am 10:30).