Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Arwel Ellis Owen

Cadeirydd Annibynnol

Julie Morgan AM    

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Matthew Jenkins 

Llywodraeth Cymru

Rachel Lewis 

Llywodraeth Cymru

Ceri Griffiths 

Llywodraeth Cymru

Rachael Lovett    

Llywodraeth Cymru

Ben O’Halloran    

Llywodraeth Cymru

Kim Sparrey

Cyngor Sir Fynwy, COLIN

Kathy Proudfoot 

Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, COLIN

Bethan Jones Edwards

Cyngor Sir Ddinbych/ Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

David Hughes 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  

Simon Hatch 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Claire Morgan 

Gofalwyr Cymru

Vicki Lloyd 

Age Cymru 

Kate Young 

Fforwm Cymru Gyfan

Esyllt Crozier     

Gofal Cymdeithasol Cymru

Dianne Seddon     

Prifysgol Bangor

Elizabeth Flowers

Swyddfa’r Comisiynydd Plant

Valerie Billingham 

Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn  

Angela Hughes 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Tony Kluge 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe  

Anna Bird 

Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Cyflwyniadau

Cynhaliodd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr gyfarfod drwy gyfleuster fideogynadledda. Cynhaliwyd y cyfarfod o dan gadeiryddiaeth Arwel E Owen.  

Y Dirprwy Weinidog

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog ddiweddariad cryno ar Ddeddf y Coronafeirws a’r canllawiau cysylltiedig, a’r ymateb swyddogol i lythyr Cynghrair Cynhalwyr Cymru am y problemau sy’n wynebu gofalwyr ar hyn o bryd, gan roi sicrwydd i’r aelodau ynghylch ei hymrwymiad personol i gefnogi gofalwyr drwy gydol yr argyfwng hwn. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i roi adborth i’r Dirprwy Weinidog am y gwaith a wneir i gefnogi gofalwyr yn eu hardaloedd, a rhai o’r problemau sydd wedi cael eu nodi. 

Dyma’r pwyntiau allweddol a drafodwyd:

  • mae swyddogion yn bwriadu cyhoeddi ymateb i lythyr Cynghrair Cynhalwyr Cymru erbyn canol yr wythnos nesaf
  • mae cysondeb ar hyd a lled Cymru, ac ar draws y gwahanol sefydliadau yn y trydydd sector, o ran y pryderon sy’n poeni gofalwyr
  • mae anawsterau yn codi i elusennau sydd â staff ar ffyrlo. Mae’r sefyllfa’n effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr, megis darparu gwybodaeth a chyngor
  • mae llawer o ganllawiau technegol yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Rhaid gwneud ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd
  • disgrifiodd cynrychiolwyr o ddau fwrdd iechyd ac awdurdod lleol rywfaint o’r gwaith i gefnogi gofalwyr sy’n mynd rhagddo yn eu hardaloedd. Mae’r gwaith yn cynnwys ffonio gofalwyr i gael sgwrs ac i’w helpu drwy ddarparu cymorth cyfeirio, cynlluniau ar gyfer casglu bwyd a meddyginiaeth, a chymorth ariannol
  • mae’r rhan fwyaf o wasanaethau wedi bod yn hyblyg iawn ac wedi addasu eu dulliau o weithio. Mae’n bwysig cydnabod a chanmol y gwaith da sy’n cael ei gyflawni, yn ogystal â nodi’r problemau
  • codwyd yr angen i feddwl am ofalwyr wrth gynllunio strategaethau ar gyfer ymadael â’r sefyllfa
  • rhoddodd y Dirprwy Weinidog ymatebion cyffredinol i’r pwyntiau a godwyd, gan ddiolch i’r aelodau am eu cyfraniadau. Rhoddodd sicrwydd i’r aelodau fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu o dan yr amgylchiadau presennol

Gadawodd y Dirprwy Weinidog y cyfarfod. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i gefnogi gofalwyr fel rhan o’r ymateb i’r pandemig, gan gynnwys y canlynol:

  • mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer y sector. Hyd yn hyn darparwyd cronfa ymateb i COVID-19 ar gyfer y Trydydd Sector (£24m), cronfa galedi’r awdurdodau lleol (£30m), a chronfa ar gyfer gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion (£40m) i helpu darparwyr gofal cymdeithasol gyda’r costau ychwanegol sydd wedi codi oherwydd COVID-19
  • parhau y mae’r ymrwymiad cadarn i’r cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr, er bod y cyd-destun wedi newid. Mae’r ddogfen ymgynghori wedi ei pharatoi eisoes, ond bydd angen edrych arni eto i roi sylw i’r goblygiadau sy’n deillio o’r argyfwng COVID-19
  • mae swyddogion wrthi’n trafod y ddarpariaeth o PPE, ar gyfer gofalwyr nad ydynt yn derbyn tâl, gyda chydweithwyr, a byddant yn codi’r mater gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae trafodaethau tebyg yn cael eu cynnal ynglŷn â phrofion
  • mae’r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cadw at y dyddiad a bennwyd ar gyfer darparu’r wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y gwaith o weithredu argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a Chwaraeon, o ran sut mae Deddf  Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn effeithio ar ofalwyr
  • mae swyddogion yn ystyried beth y gellid ei wneud i leddfu pryderon yn ystod y cyfnod hwn, er enghraifft drwy ddarparu canllawiau ar-lein i ofalwyr ac awdurdodau lleol
  • mae cyllid wedi cael ei gadarnhau ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru er mwyn bwrw ymlaen â gwaith y Grŵp Ymgysylltu

Trafodaeth

Aeth yr aelodau ati i drafod yn fanylach y gwaith a wneir i gefnogi gofalwyr yn eu hardaloedd, a rhai o’r problemau sydd wedi cael eu nodi.

  • mae teuluoedd yn bryderus ynglŷn â chaniatáu i eraill (er enghraifft gweithwyr gofal) ddod i mewn i’w cartrefi oherwydd y risgiau a allai ddeillio o hynny. Mae’n bosibl bod hyn yn broblem tymor byr a fydd yn lleihau wrth i’r cyfyngiadau cael eu llacio. Rydym yn cadw mewn cof nad ydym yn gweld patrwm o awdurdodau lleol yn gorfod ail-flaenoriaethu pecynnau gofal i lawer o bobl i’r fath raddau ag y gellid fod wedi disgwyl
  • mae’r Comisiynydd Plant wedi datblygu man ganolog ar gyfer darparu gwybodaeth am y feirws i blant a phobl ifanc. Gofynnwyd i aelodau gysylltu os oedd ganddynt unrhyw wybodaeth i bobl ifanc y gellid ei chynnwys
  • mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru yn gweithio ar ddulliau cyfathrebu ac adnoddau sy’n ymwneud â mynediad gofalwyr at feddyginiaethau, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae dull gweithredu tebyg yn yr arfaeth ar gyfer manwerthwyr
  • cynhelir yr Wythnos Gofalwyr rhwng 8 - 14 Mehefin, a bydd y Partneriaid yn darparu’r digwyddiad o bell.
  • cododd aelod y mater bod pecynnau taliadau uniongyrchol wedi cael eu hatal am y tro, a’r dryswch sydd wedi codi ynglŷn â’r hyn y dylid ei wneud os oes gan rywun gynorthwyydd personol, sy’n gymwys ar gyfer taliadau uniongyrchol, ond sy’n gorfod gwarchod ei hunan (er enghraifft).  Cadarnhaodd swyddogion y byddai’r mater hwn yn cael sylw yn yr ymateb i lythyr Cynghrair Cynhalwyr Cymru
  • Bydd Carers UK yn cyhoeddi ei adroddiad 'Caring behind closed doors'.  Mae’r adroddiad yn cynnwys canlyniadau arolwg cyflym o ofalwyr a gynhaliwyd i ofyn sut y maent yn ymdopi â’r argyfwng COVID-19. Ymatebodd dros 4,000 o ofalwyr, ac mae’r data wedi cael eu dadansoddi ar lefel Cymru
  • mae perygl y gallai gofalwyr ifanc, yn enwedig y rheini a fydd yn troi’n 18 oed yn ystod y cyfnod hwn, ddiflannu o’r golwg, gan beidio a manteisio ar opsiynau y tu hwnt i’w rôl ofalu. Beth yw’r opsiynau ar ôl troi’n 18, a sut y gallwn gyrraedd y bobl ifanc hyn? Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu ein bod yn gorfod meddwl yn strategol yn y tymor canolig mewn perthynas â chanlyniadau na fwriedid eu cael. Gallai’r sefyllfa godi rhwystr ym mywydau’r gofalwyr ifanc hyn y tu hwnt i’w rôl ofalu.

Camau gweithredu

Cam gweithredu 1: Aelodau i roi gwybodaeth sy’n berthnasol i ofalwyr ifanc i swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer ei chynnwys yn y fan wybodaeth ganolog y mae’r Comisiynydd Plant yn ei darparu ar gyfer plant a phobl ifanc.    

Cam gweithredu 2: Gofynnwyd i’r aelodau barhau i anfon adborth i’r tîm Pobl Hŷn a Gofalwyr o ran enghreifftiau o arferion da ac unrhyw faterion sy’n ymwneud â darparu cymorth i ofalwyr.  

Cam gweithredu 3: Swyddogion i wneud ymholiadau ynghylch y sefyllfa pan fydd gofalwyr yn croesi trothwy 18 oed.