Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: 2 Gorffennaf 2020
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl 2 Gorffennaf 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Attendees
Julie Morgan AM | Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
Arwel Ellis Owen |
Cadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog |
Kim Sparrey | Cadeirydd COLIN – ALl Sir Fynwy |
Kathy Proudfoot | Is-gadeirydd COLIN – ALl Pen-y-bont ar Ogwr |
Simon Hatch |
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru |
Claire Morgan | Gofalwyr Cymru |
Kate Young |
Fforwm Cymru Gyfan |
Lynne Hill | Plant yng Nghymru |
Elizabeth Flowers |
Swyddfa'r Comisiynydd Plant |
Rhian Webber |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Valerie Billingham | Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Jane Tremlett | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Alwyn Jones |
Cyngor Wrecsam (ADSS) |
Sue Pearce | Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Hannah Brayford |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Angela Hughes |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Jon Day | Gofal Cymdeithasol Cymru |
Esyllt Crozier |
Gofal Cymdeithasol Cymru |
Anna Bird | BILl Hywel Dda |
Bethan Jones Edwards |
Cyngor Sir Ddinbych (ADSS) |
David Hughes |
ALl Merthyr |
Swyddogion Llywodraeth Cymru | |
Matthew Jenkins |
Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Chydweithredu, SSID |
Rachel Lewis | Pennaeth y Gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr |
Ceri Griffiths | Uwch Reolwr Polisi, Pobl Hŷn a Gofalwyr |
Ben O’Halloran |
Swyddog Polisi Gofalwyr |
Croeso a chyflwyniadau ar-lein – Arwel E Owen (Cadeirydd)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i ail gyfarfod ar-lein Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a nododd, er y cafwyd sylw cadarnhaol iawn yn y cyfryngau yn ystod Wythnos y Gofalwyr (w/c 08 Mehefin), bod mwy i'w wneud o hyd i godi proffil a gwella dealltwriaeth ehangach y gymdeithas o ofalwyr a phopeth y maent yn ei wneud. Soniodd y Cadeirydd hefyd am y gweminar ar-lein a gynhaliwyd ar 07 Mai rhwng Cymru a’r Alban pan cafwyd trafodaeth drylwyr am seibiannau a gwyliau byr. Mae academyddion a sefydliadau yng Nghymru yn gweithio mewn modd cadarnhaol ar y mater allweddol hwn, sy'n effeithio ar lawer o ofalwyr.
Tynnodd sawl Aelod sylw'n fyr at y gweithgarwch sy'n digwydd yn eu hardaloedd neu gan eu sefydliadau a'u partneriaid, i gefnogi gofalwyr ar yr adeg anodd hon. Roedd llinellau ffôn sy’n cynnig cymorth emosiynol yn arbennig o brysur, ac roedd y gofalwyr yn croesawu'r cyfle i siarad am eu sefyllfa, nid dim ond ceisio cyngor a gwybodaeth.
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoddodd y Dirprwy Weinidog drosolwg byr o sut y mae'r sefyllfa sy'n effeithio ar ofalwyr wedi datblygu ers y cyfarfod diwethaf ar 23 Ebrill. Roedd yn falch o weld bod swyddogaeth gofalwyr di-dâl bellach yn llygad y cyhoedd yn fwy nag yr oedd o'r blaen ac ar ddechrau'r pandemig. Mae'n deall y pwysau ychwanegol sydd ar ofalwyr ar hyn o bryd, a diolchodd i bawb sy'n gweithio i'w cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau penodol ar gyfer gofalwyr ac yn fwy diweddar, canllawiau i ofalwyr a mynediad i Gyfarpar Diogelu Personol (PPE).
Mae'n bwysig nodi'r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr argyfwng, gyda chynifer o sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Byddai'r trafodaethau nawr yn dechrau canolbwyntio ar symud yn ddiogel allan o’r cyfnod clo, gyda gofalwyr di-dâl yn cael lle canolog yn y sgwrs.
Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i ateb cwestiynau ac adrodd yn ôl i'r Dirprwy Weinidog ar y materion canlynol:
- Codwyd pryderon ynghylch y defnydd o'r term "gofalwr" yn ystod yr argyfwng COVID, oherwydd mae’r cyhoedd y cysylltu hynny’n fwy â staff gofal cymdeithasol cyflogedig. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r camddealltwriaeth diwylliannol ac efallai cael diffiniad clir o'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp o ofalwyr.
- Rhaid i waith cynllunio ystyried materion posibl sy'n debygol o godi yn y 9-12 mis nesaf, gan gynnwys pwysau'r gaeaf. Hefyd, mae angen ystyried heriau uniongyrchol a phenodol y gallwn fynd i'r afael â hwy yn y tymor byr.
- Canolbwyntio ar y mentrau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r argyfwng. Mae angen cadw'r enghreifftiau o arfer da ac ystyried pa rai a allai fwydo i mewn i'r cynllun cenedlaethol. Hefyd, sut y gallwn addasu'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd.
- Angen ail-feithrin hyder ymysg gofalwyr i ymgysylltu pan fydd mwy o wasanaethau'n ailddechrau. Mae llawer yn ofni ceisio’r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael ond mae angen seibiant a chefnogaeth mwy ymarferol arnynt.
- Tynnodd sawl aelod sylw at y pwysau ychwanegol sydd ar lawer o ofalwyr ifanc. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dod i'r amlwg bod cau ysgolion wedi cynyddu cyfrifoldebau gofalu i rai gofalwyr ifanc, a bod methu â mynd i'r ysgol yn golygu nad ydynt wedi cael rhyw fath o seibiant.
- Angen ystyried y lleoliad cymunedol yn ofalus. Sut rydym yn hybu’r ysbryd cymunedol rydym yn ei weld mewn sawl rhan o gymdeithas ond gan ystyried hefyd y ffaith bod rhai ardaloedd yn gweld lleihad? (Roedd gofalwyr ifanc yn gymwys o dan ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ddysgwyr sy'n agored i niwed i gael mynediad i leoliadau ffocws yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ar y cyd â phlant y gweithwyr allweddol, os oeddent yn dymuno ac os oedd yn briodol).
- Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod ymgynghoriad cyhoeddus y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn cael ei gohirio dros dro oherwydd COVID. Mae i hynny, a'r cynllun newydd ar gyfer gofalwyr, gysylltiadau allweddol â'r strategaeth ar gyfer Unigrwydd ac Ynysigrwydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae angen symud ymlaen gydag ymgynghoriad y Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr ac ymgynghoriad Cymdeithas sy'n Heneiddio cyn gynted â phosibl.
Ymadawodd y Dirprwy Weinidog â'r cyfarfod.
Trafodaeth ar effaith COVID-19 ar ofalwyr a chynllunio adferiad
Rhoddodd Matt Jenkins drosolwg byr o safbwynt Llywodraeth Cymru. Yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus, mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn heriol iawn, ac ni fyddwn yn dychwelyd i fywyd arferol yn y dyfodol agos. Mae'n bwysig bod data'n gallu llywio sgyrsiau er mwyn ein helpu i ddeall i ba gyfeiriad y mae'r maes polisi yn symud. Bydd adnoddau ariannol yn fater pwysig wrth symud ymlaen. Mae potensial i greu cronfa caledi ariannol ar gyfer gofalwyr di-dâl.
- Mynegodd yr Aelodau bryderon mawr ynghylch lles seicolegol gofalwyr. Mae amgylchiadau presennol llawer o ofalwyr yn anghynaliadwy a byddant yn cael effaith negyddol hirdymor.
- Dylai rôl technoleg o ran galluogi gwasanaethau i barhau a chreu ffyrdd newydd o gyflenwi gael ei chynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr.
- Mae Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gweithio ar adroddiad a fydd yn bwydo i mewn i waith Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar eu canfyddiadau gan bobl hŷn yn ystod pandemig COVID-19.
- Cynhaliodd swyddfa'r Comisiynydd Plant arolwg o blant yng Nghymru, ac ymatebodd tua 24,000 o bobl. Ar hyn o bryd maent yn dadansoddi'r rhain ac yn edrych am faterion penodol megis y rhai y mae gofalwyr ifanc yn adrodd arnynt.
- Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn disgwyl canlyniadau arolwg gofalwyr ifanc Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU a ofynnodd am wybodaeth am y materion sy'n peri gofid ac sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, sy'n deillio o COVID-19.
- Cafwyd cytundeb y dylid cael 2-3 o gamau gweithredu penodol i'r Grŵp Cynghori fynd i'r afael â hwy yn y tymor byr. Roedd enghreifftiau'n cynnwys cefnogi iechyd meddwl, helpu gofalwyr i ofalu gartref a gofalwyr unigol a'u cynlluniau brys a’u cynlluniau wrth gefn eu hunain.
Y camau nesaf
- Cafwyd cytundeb bod angen bwrw ymlaen â'r Cynllun Cenedlaethol a'r ddogfen ymgynghori dros yr haf. Cynhelir trafodaeth bellach ar y cynllun mewn cyfarfod yn y dyfodol.
- Mae angen ymchwilio ymhellach i'r materion sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, nid dim ond eu cyfrifoldebau gofalu, ond y cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol pan fônt 18 oed a throsodd.
- Mae'r 2-3 o gamau gweithredu penodol i'w hystyried a gellir gweithio arnynt y tu allan i gyfarfod y Grŵp Cynghori fel y gellir cytuno arnynt a'u rhoi ar waith.
Pwyntiau gweithredu
- Swyddogion i ddosbarthu'r ddolen i’r gweminar ar Seibiant / Gwyliau Byr Cymru / yr Alban i aelodau’r Grŵp Cynghori.
- Anna Bird i anfon crynodeb o'r ymatebion i'w hymgynghoriad diweddar ar strategaeth gofalwyr Gorllewin Cymru i'r Ysgrifenyddiaeth, i'w ddosbarthu i Aelodau.
Cau'r cyfarfod / dyddiad y cyfarfod nesaf
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a'u presenoldeb a daeth y cyfarfod i ben. Bydd y dyddiad ar gyfer cyfarfod llawn nesaf y Grŵp Cynghori yn cael ei ddosbarthu'n fuan.