Cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 30 Mehefin 2020
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 30 Mehefin 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol (drwy Teams)
- Barry Stephens, Cymru Egnïol
- Aileen Haskell, Cynghrair Pensiynwyr y Gwasanaeth Sifil
- Vicki Lloyd, Cadeirydd MAFA
- Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru
- Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Eitem 1: Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Croesawodd Vicki Lloyd bawb i'r cyfarfod - mae'n bwysig sicrhau bod cyfarfodydd dros y ffôn yn parhau, fel bod yr aelodau MAFA hynny nad ydynt yn gallu ymuno â'r cyfarfod ar-lein yn dal i allu bwydo eu barn a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau busnes a pholisi allweddol.
Eitem 2: Cynllunio ar gyfer adferiad; cefnogi pobl hŷn y tu hwnt i’r pandemig Covid-19
Pwyntiau allweddol a chamau gweithredu
Mae'n bwysig dechrau meddwl am y cyfnod "adfer" wrth gynllunio ar gyfer y 6 mis nesaf. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed am:
- eich profiadau yn ystod y misoedd diwethaf
- beth y mae pobl yn gweld ei eisiau
- eich meddyliau a'r effeithiau arnoch, a
- beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fod at y dyfodol?
Gwnaeth y rhai a oedd yn bresennol y pwyntiau canlynol:
- Mae teimlad cymysg ymhlith pobl hŷn yn y gymuned; mae rhai yn rhwystredig ac yn unig iawn, tra bo eraill yn cael profiadau cadarnhaol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Gan fod y cyfyngiadau’n cael eu codi'n araf, mae ar lawer o bobl hŷn ofn. Nid ydynt am adael eu hamgylchedd "diogel" i fentro y tu allan. Mae llawer o aelodau Cymru Egnïol yn brin o hyder ac mae'r sefydliad yn cynllunio rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb o bell yn gymdeithasol ym mis Medi gan nad yw llawer o aelodau Cymru Egnïol ar-lein ac felly nid ydynt wedi cael llawer o gyswllt wyneb yn wyneb, os o gwbl, yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
- Mae argaeledd toiledau cyhoeddus yn broblem enfawr i bobl hŷn, yn enwedig gan eu bod bellach yn dechrau mynd allan eto. Mae teimlad mawr o bryder ynghylch hyn.
- Gall nifer y bobl sy'n gwirfoddoli ostwng pan fydd pobl yn dychwelyd i'r gwaith, ond mae llawer o bobl yn ardal Llanharan/Llanhari yn dal i wirfoddoli ar ôl y gwaith ac mae hynny'n gweithio'n dda. Mae Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn monitro cyfraddau gwirfoddoli mewn rhai ardaloedd. Dylid parhau â grwpiau Cymru gydnerth lleol i'r dyfodol gyda systemau cymorth digonol ar waith.
- Mae llawer o ddryswch ymhlith pobl hŷn sy’n cael ei achosi gan negeseuon cymysg - dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda'r cyfryngau.
- Dylid ei gwneud yn orfodol gwisgo masgiau ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau. Gallai hyn wneud i bobl hŷn deimlo'n fwy cyfforddus. Fodd bynnag, roedd y ddau fynychydd yn dymuno cymeradwyo Llywodraeth Cymru am fod yn fwy gofalus drwy'r pandemig ac mae llawer o bobl hŷn hefyd wedi croesawu'r dull gweithredu hwn.
- Mae trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gymunedol yn feysydd sy'n peri pryder ynghyd â cham-drin pobl hŷn, iechyd a byw'n gyffredinol, y gostyngiad yn nifer yr ATMs, cau swyddfeydd post, mynediad at arian parod a sgamiau ariannol. Dylai Llywodraeth Cymru gasglu barn pobl ar y materion hyn cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud newid er gwell.
A yw'r pandemig yn cynyddu tensiynau rhwng y cenedlaethau?
- Mae pobl ifanc yn credu bod pobl hŷn yn mwynhau eu hymddeoliad yn gyfforddus, ond nid yw fel hyn i lawer o bobl sydd wedi ymddeol. Efallai fod y genhedlaeth iau yn meddwl na all dim byd beri niwed iddynt ond dylid gofyn iddynt wisgo masgiau gan fod y mwyafrif yn dewis peidio.
- Mae pobl iau'n teimlo bod yn rhaid iddynt newid eu bywyd er mwyn darparu ar gyfer pobl hŷn.
Ymatebodd Vicki Lloyd i'r sylwadau uchod drwy ddweud nad pobl iau o reidrwydd sy'n teimlo fel hyn, ond bod negeseuon y cyfryngau yn awgrymu bod grwpiau iau yn diystyru'r rheolau ac y dylai pobl hŷn gael eu blaenoriaethu a’u diogelu. Mae'r ffordd y mae pobl yn teimlo mewn gwirionedd yn ymddangos yn wahanol i'r negeseuon - er enghraifft, bydd pobl ifanc am ddiogelu eu neiniau a'u teidiau a'u perthnasau hŷn.
Mae uwchgynhadledd ar-lein dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn cael ei chynllunio ar gyfer yr hydref sy'n ymwneud ag unigrwydd ac ynysrwydd ac undod rhwng y cenedlaethau.
Roedd pawb yn cytuno ei bod yn hanfodol inni i gyd weithio'n effeithiol gyda'n gilydd; rydym i gyd yn gweithio i wella bywydau pobl hŷn. Mae fforymau awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol yn gweithio’n llawer gwell trwy gydweithio gyda’i gilydd.
Mae Age Cymru yn gweithio gyda Chynghrair Pobl Hŷn Cymru i gynhyrchu arolwg ymgysylltu ar brofiadau pobl hŷn o’r cyfyngiadau symud a gyhoeddir yn fuan. Fe'i cyflawnir mewn nifer o wahanol ffyrdd er mwyn darparu ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae Age Cymru yn siarad â llawer o unigolion drwy eu llinell ffôn, felly yn ogystal â chael ei gynnal yn ddigidol bydd hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o sgwrs ffôn gorfforol.