Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 14 Rhagfyr 2023
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 14 Rhagfyr 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Dr Charles Musselwhite, Prifysgol Aberystwyth
Barry Stephens, Cymru Egnïol
Vicki Lloyd, Age Cymru, Cadeirydd
John Williams, Age Cymru
Faye Patton, Gofal a Thrwsio
Steve Milsom, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Sarah Rossington-Harris, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Norma Mackie, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Mirain Llwyd Roberts, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd
Adam Greenow, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Powys
Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Tref a Chymuned)
Tania Harrington, Stonewall Cymru
Peter Walters, Fforwm Pobl Hŷn Cymru
Stewart Blythe, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Amal Beyrouty, Women Connect First
Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru
Manon Edwards, Llywodraeth Cymru
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Richard Mulcahy, Llywodraeth Cymru
Henry Norman, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Jill Salter, Busnes yn y Gymuned
Chris Jones, Gofal a Thrwsio
Dereck Roberts, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
Darren Hughes, Conffederasiwn GIG Cymru
Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau, a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf
Nodwyd bod y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf yn gyflawn neu'n barhaus.
Nodwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi mynd i angladd Glenys Kinnock yn Llundain.
Ymgynghoriad 'Papur gwyn ar ddigartrefedd' (yng nghyd-destun pobl hŷn) (Henry Norman, Llywodraeth Cymru)
Rhoddodd Henry Norman gyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar yr ymgynghoriad papur gwyn, a nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- mae angen nodi'r risg sy'n gysylltiedig â digartrefedd cyn gynted â phosibl trwy amrywiaeth eang o sefydliadau a gwasanaethau
- yn y gorffennol, nid yw digartrefedd wedi effeithio ar bobl hŷn gymaint ag y mae wedi effeithio ar grwpiau allweddol eraill; fodd bynnag, mae ymchwil gan Tai Pawb wedi tynnu sylw at y risgiau a all godi oherwydd llety anaddas, landlordiaid gwael, a cham-drin domestig, a hefyd pobl hŷn yn gadael y carchar
- mae'r 'Papur gwyn ar ddigartrefedd' yn ceisio helpu pobl hŷn, ymhlith grwpiau eraill o bobl â nodweddion gwarchodedig; er enghraifft, mae'n cynnig newidiadau i gamau ataliol a gymerir gan awdurdod lleol, ac ehangu cyfrifoldeb dros atal a lliniaru digartrefedd i gynnwys mwy o sefydliadau
- bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 16 Ionawr 2024; i gwblhau ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad, ewch i'r papur gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
- mynegwyd pryderon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd i gyn-filwyr, yn enwedig cyn-filwyr iau, pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog; mae'r ddeddfwriaeth wedi newid, sy'n golygu nad yw'r blynyddoedd a dreulir yn gwasanaethu bellach yn cael eu cyfrif ar restr dai eu hawdurdodau lleol
- roedd pryderon hefyd ynghylch y cynnydd mewn prisiau rhent, a landlordiaid sy'n cyflwyno gorchmynion troi allan mewn argyfwng; gellir gwthio pobl hŷn allan o'u cartrefi, a hefyd rhai ardaloedd, er mwyn rhoi lle i ddemograffeg iau, yn enwedig mewn trefi prifysgol
- maes arall sy'n destun pryder yw rhyddhau cleifion o'r ysbyty; weithiau, ni all person hŷn ddychwelyd i'w gartref gan nad yw'r cartref yn addas mwyach; ni ellir rhyddhau person i fod yn ddigartref, ac mae hyn yn y papur gwyn, er bod angen ymchwilio'n fanylach i'r mater hwn; mae angen gweithio mewn modd trawslywodraethol rhwng y timau sy'n arwain ar ryddhau cleifion o'r ysbyty a digartrefedd i sicrhau bod pryderon fel hyn yn cael eu hamlygu
- wrth i gynigion gael eu datblygu ymhellach, dywedodd Henry Norman y byddai'n dod yn ôl i'r fforwm i drafod ymhellach
- ychydig iawn o ddata sydd ar gael am bobl hŷn a digartrefedd; mae angen mwy o ddata er mwyn inni allu datrys y broblem yn fwy effeithiol
- mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn hollbwysig er mwyn osgoi digartrefedd yn y lle cyntaf
- roedd awgrym y dylid ystyried "cartrefi am oes" yn ehangach yn ystod y cyfnod cynllunio ac adeiladu; er enghraifft, dylai proses gynllunio ystyried poblogaeth sy'n heneiddio
Cam gweithredu
Harri Norman i fynychu cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio (MAFA) neu weithgor yn y dyfodol i drafod y pwnc hwn yn fanylach wrth i gynigion gael eu datblygu ymhellach.
Diweddariad gan Lywodraeth Cymru
Nododd swyddogion y bu’r gwaith yn canolbwyntio ers y cyfarfod diwethaf ar adroddiad cynnydd 6 misol y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, yn ogystal â'r gwaith o benodi comisiynydd pobl hŷn newydd i Gymru. Cafodd y ddeddfwriaeth ei diwygio i adlewyrchu tymor saith mlynedd newydd penodiad y Comisiynydd newydd, a bydd yr hysbyseb ar gyfer y swydd yn cael ei chyhoeddi ddechrau mis Ionawr 2024.
Cytunwyd y byddai is-grwpiau yn cael eu hailgyflwyno, gyda'r grwpiau cyntaf yn canolbwyntio ar yr adolygiad cynnydd 6 misol, tai a digartrefedd ac ailagor gwasanaethau dydd, sy'n cael ei arwain gan dîm arall yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cam gweithredu
Swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu a gwahodd aelodau MAFA i gyfarfodydd is-grŵpiau.
Cymunedau oed-gyfeillgar a thrafodaeth
Cyflwynodd aelodau newydd MAFA, o rwydwaith oed-gyfeillgar yr awdurdodau lleol, eu hunain gan ddisgrifio rhywfaint o'r gwaith a wneir yn eu hardaloedd:
Mirain Llwyd Roberts, Cyngor Gwynedd
Mae awdurdod lleol Gwynedd bron wedi cwblhau ei gais am fynediad i Rwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd ("y Rhwydwaith Byd-eang").
Un o'r prif faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn yn yr ardal hon yw trafnidiaeth.
Mae'r awdurdod lleol yn parhau i ymgymryd â gwaith pontio'r cenedlaethau, ac mae ganddo enghreifftiau gwych o arferion da.
Mae gwaith yn cael ei wneud i ddeall sut y gall yr awdurdod lleol gyrraedd oedolion hŷn mewn modd mwy effeithiol. Mae prosiect diweddar, "Taith trwy Wynedd" wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth gyrraedd pobl hŷn anodd eu cyrraedd.
Adam Greenow, Cyngor Powys
Yn ddiweddar, mae'r awdurdod lleol wedi recriwtio 13 o gynrychiolwyr newydd ar gyfer pobl hŷn, ac maent yn eistedd ar y gwahanol fforymau ar draws Powys.
Gan fod Powys yn ardal mor fawr a gwledig, gall fod yn anodd dod â phobl at ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae'r awdurdod lleol yn cynnal sioe deithiol sydd â'r nod o gasglu adborth a sylwadau ar wasanaethau amrywiol ar draws y rhanbarth.
Norma Mackie, Cyngor Caerdydd
Mae Caerdydd wedi bod yn aelod o'r Rhwydwaith Byd-eang ers 18 mis, ac mae'r cynnydd a welir yn y maes hwn yn wych, gyda lansiad gwefan sy'n cyfeirio pobl hŷn at wasanaethau allweddol, a chylchlythyr sy'n cael ei gyhoeddi'n ddigidol a thrwy dulliau nad ydynt yn ddigidol bob 3 mis.
Mae Caerdydd wedi gweld llawer o broblemau sy'n gysylltiedig â pobl hŷn yn mynd yn ynysig ers y pandemig COVID, ac felly mae wedi mynd ati i ddod â phobl at ei gilydd wyneb yn wyneb a thrwy ddulliau hybrid.
Hayley Gwilliam, Cyngor Abertawe
Mae Abertawe wedi gwneud cais i'r Rhwydwaith Byd-eang, ac mae'n aros am y canlyniad.
Cynhelir llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol i bobl hŷn yn Abertawe, ac yn ogystal â dod â phobl ynghyd, mae'r awdurdod lleol yn gallu manteisio ar y cyfle i glywed gan unigolion. Mae yna deithiau cerdded, clybiau bowlio, boreau coffi, a chôr gyda thros 300 o bobl.
Mae "gorsaf gydweithredu" wedi cael ei datblygu gan swyddogion y cyngor sy'n gweithio ar bolisi pobl hŷn. Mae hwn yn fan lle gall pobl ymweld ag ef, ac o bosibl gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill y cyngor.
Mae rôl y hyrwyddwr oed-gyfeillgar yn Abertawe yn golygu bod eiriolwr dros bobl hŷn o fewn yr awdurdod lleol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn cyfarfodydd ac wrth wneud penderfyniadau polisi.
Sarah Rossington-Harris, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Oherwydd anawsterau technegol, nid oedd Sarah yn gallu cymryd rhan lawn yn y cyfarfod heddiw, ond fe ailadroddodd fod yr awdurdod lleol yn canolbwyntio ar yr un meysydd â'r awdurdodau eraill, a bod lles pobl hŷn yn ganolog i'w waith.
Cytunwyd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gyda'r aelodau newydd a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn iddynt gyfarfod yn iawn yn y Flwyddyn Newydd.
Gan nad oedd digon o amser i drafod yr eitem hon ar yr agenda yn fanwl, cytunwyd y byddai'n cael ei rhoi ar agenda'r cyfarfod nesaf ym mis Mawrth.
Cam gweithredu
Swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu cyfarfod rhwng y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac aelodau newydd MAFA.
Swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau Oed-gyfeillgar yn eitem ar agenda'r cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2024.
Yr hawl i dai digonol, 'Cyflwr tai pobl hŷn' yng Nghymru
Mae Gofal a Thrwsio yn elusen tai sy'n addasu ac yn gwella cartrefi. Mae ganddi 13 o asiantaethau ledled Cymru, ac mae'n gweithredu ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae ganddi nifer o raglenni gwahanol ar waith, fel ei rhaglenni o'r ysbyty i gartref iachach ac ymdopi'n well - pobl 50+ sy'n byw gyda cholled synhwyraidd.
Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu'n aruthrol, ac maent yn fwyfwy cymhleth o ran eu natur oherwydd iddynt gael eu nodi yn llawer hwyrach.
Cafodd adroddiad cyflwr tai pobl hŷn yng Nghymru ei lansio yn gynharach eleni.
Mae nifer o heriau - cyflwr tai yn dirywio, codiadau mewn costau gwaith gwella, prinder contractwyr dibynadwy, cymhlethdod cynyddol o ran cwblhau gwaith i gefnogi rhywun mewn modd sy'n sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddigon annibynnol i allu byw gartref.
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- mae hon yn broblem sylweddol ym Mhowys gan ei bod yn ardal mor wledig; mae pobl yn gyfoethog o ran eu hasedau ond yn dlawd o ran arian parod; byddai angen gwneud atgyweiriadau sylweddol i'r eiddo hyn
- gall amharodrwydd unigolion i symud fod yn broblem, ond wedyn mae ganddynt yr hawl i aros yn eu cartrefi
- mae'n bwysig herio'r syniad bod pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain yn iawn ac yn gallu fforddio atgyweiriadau a gwelliannau i'w cartrefi
- pe bai gennym gyfraith, yna byddai angen y seilwaith i wneud iddi weithio; nodwyd hefyd nad yw llawer o ddyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd; mae'n rhaid i'r ddeddfwriaeth ddod gydag adnoddau
Unrhyw fater arall, a dyddiad y cyfarfod nesaf
Roedd cytundeb cyffredinol y dylai cyfarfodydd MAFA fod yn 2 awr o hyd yn hytrach na 1.5 awr er mwyn caniatáu trafodaethau manylach.
Cadarnhawyd mai 20 Mawrth 2024 yw dyddiad y cyfarfod nesaf.
Bydd y cyfarfod ym mis Mehefin yn gyfarfod hybrid, a gall pobl fynychu wyneb yn wyneb yn adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.
Ni chofnodwyd unrhyw faterion eraill, a daeth y cyfarfod i ben.