Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Medi 2019
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019, Trefforest.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Jocelyn Davies, Anweithredol
- Lakshmi Narain, Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr (mynychodd eitemau 11 a 13 yn unig)
- Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
Ymgynghorwyr
- Joanna Ryder, Pennaeth Staff
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru (TC)
Mynychwyr
- Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth (dros dro)
- Teresa Platt, Prif Swyddog Cyllid
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Matthew Deaves, Ysgrifenyddiaeth
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan David Jones.
- Aeth y Bwrdd drwy'r cofnod o wrthdrawiadau buddiannau aelodau a datganwyd nifer o newidiadau. Caiff y cofnod ei anfon at yr aelodau ar ôl y cyfarfod er mwyn iddynt ei ddiweddaru.
- Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod llawn a chywir.
- Trafodwyd y camau a oedd heb eu gweithredu a chytunwyd y byddai 5 yn aros ar agor.
- Nid oedd unrhyw faterion pellach yn codi
Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau
4. Adroddiad gan y Cadeirydd
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
5. Adroddiadau gan Gadeiryddion Pwyllgorau
Archwilio a Sicrwydd Risg
- Cytunwyd ar yr adroddiadau a'r cyfrifon blynyddol cyntaf ym mis Gorffennaf, a nodwyd bod y broses adroddiadau a chyfrifon gyntaf hon wedi mynd yn dda iawn a'i bod yn llwyddiant.
- Cafodd cyfarfod mis Medi ARAC ei ganslo am wahanol resymau, ac ymdriniwyd â materion yn electronig. Nodwyd hefyd fod gennym archwilwyr mewnol newydd o ganlyniad i gael archwilwyr newydd a newid mewn ysgrifenyddiaeth ers i Richard Bettley adael am swydd newydd yn Llywodraeth Cymru. Diolchodd Cadeirydd ARAC i Richard am ei holl waith caled yn sefydlu ARAC a'i waith ar yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut y gallai ysgrifenyddiaeth ARAC weithio yn y dyfodol. Caiff cyfarfod nesaf y Pwyllgor ei gynnal fis Tachwedd.
- Mae trafodaethau briffio cychwynnol gyda'r archwilwyr newydd eisoes ar y gweill.
Pwyllgor Pobl
4. Nid yw'r Pwyllgor wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd a bydd yn cyfarfod eto ym mis Hydref.
5. Mae un mater wedi'i drafod y tu allan i'r pwyllgor: staff yn gweithio ar ddau safle ac oblygiadau hynny.
6. Atgoffwyd y Bwrdd bod nifer fechan aelodau'r Pwyllgor hwn oherwydd natur sensitif rhai o'r materion a drafodir ond y dylid dosbarthu a thrafod papurau'r Pwyllgor fel y bo'n briodol.
6. Adroddiadau Bynyddol y Pwyllgor Pobl
- Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiad blynyddol yn ffurfiol gan y Pwyllgor Pobl.
7. Adroddiad y Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
8. Dogfen Fframwaith
- Mae'r Bwrdd wedi cael cyfle o'r blaen i roi sylwadau ar y ddogfen hon ac mae'r sylwadau hynny wedi cael eu hystyried; mae’r derminoleg wedi’i symleiddio er bod y ddogfen yn dal i gyfeirio at gynllun corfforaethol 19-22 a'r llythyr cylch gwaith cyfredol.
-
Cafwyd trafodaeth am unrhyw newidiadau pellach yr hoffai'r Bwrdd eu gweld yn cael eu gwneud. Pwysleisiwyd mai fframwaith yw’r ddogfen ac y dylai ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd ac nad yw yno i adlewyrchu pob posibilrwydd. Mae 3 newid yr hoffai’r Bwrdd eu gweld yn cael eu gwneud i'r ddogfen hon:
- 2.27 Teimlwyd y gallai'r paragraff hwn awgrymu bod gan y Gweinidog fynediad at ddata trethdalwyr eisoes – nad oes ganddynt – ac argymhellwyd y dylid dileu'r paragraff hwn.
- 3.7 Y dylid newid y paragraff hwn fel ei fod yn ei gwneud yn glir nad yw’r archwilwyr yn aelodau o ARAC ond eu bod yn mynychu ARAC fel arsylwyr.
- 5.0 Dylai'r paragraff hwn hefyd gynnwys gohebiaeth gyffredinol nid llythyrau gan Aelodau'r Cynulliad yn unig.
- Cymeradwyodd y Bwrdd y fframwaith hwn yn amodol ar y newidiadau uchod.
Trafodaeth y Bwrdd
9. Diweddariad am y prosiect Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
10. Cynlluniau newid Digidol
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
11. Adroddiad y Prif Weithredwr
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
12. Perfformiad ariannol
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
13. Cynllunio ariannol
- Cafodd y Bwrdd drafodaeth am ofynion cyllidebol y sefydliad yn y dyfodol a'i gyfranogiad yng nghylch cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd y Prif Weithredwr yn parhau i weithio ar y mater hwn yng ngoleuni'r drafodaeth hon yn barod ar gyfer cyfarfod gyda Thrysorlys Cymru a'r Gweinidog.
14. Diweddariad amcan dylunio
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
15. Diwrnod cwrdd i ffwrdd a chamau nesaf y Bwrdd
- Cafwyd trafodaeth ar y 2 gynnig a wnaed i'r Bwrdd gan y Cadeirydd.
- Y cynnig cyntaf gan y Cadeirydd oedd bod nifer o Ymgynghorwyr yn dychwelyd i gyfarfodydd y Bwrdd, sef rhai o aelodau'r Tîm Arwain a'r Pennaeth Cyfathrebu.
- Yr ail gynnig gan y Cadeirydd oedd y dylid parhau â'r strwythur o amcanion unigol ar gyfer aelodau anweithredol ac Aelod Staff Etholedig y Bwrdd, gan nodi bod hyn yn ffordd o sicrhau trosolwg y Bwrdd dros rai materion na fyddai’n digwydd fel arall o bosib, ac yn ffordd o greu ymgysylltiad adeiladol rhwng aelodau gweithredol ac anweithredol a’r Aelod Staff Etholedig sydd ag arbenigedd penodol i'w gynnig yn y meysydd hyn.
- Cytunodd y Bwrdd ar y 2 gynnig.
- Nodwyd bod y Prif Weinidog yn cefnogi cyflwyno cynrychiolwyr Undebau Llafur i eistedd ar fyrddau yng Nghymru.
Cau’r cyfarfod
16. Unrhyw fater arall
- Nid oedd unrhyw fater arall.
17. Rhagolwg
- Dylid gwneud rhagor o waith ar y Rhagolwg er mwyn cysoni'r Rhagolwg rhwng y Bwrdd, yr ARAC a'r Pwyllgor Pobl. Caiff fersiwn ddiweddaraf y Rhagolwg ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod hwn.
18. Adolygiad o’r cyfarfod
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath, tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.