Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Kathryn Bishop - Cadeirydd
Jocelyn Davies - Anweithredol
Dyfed Edwards - Anweithredol
Lakshmi Narain - Anweithredol
Martin Warren - Anweithredol
Dyfed Alsop - Prif Swyddog Gweithredol
Sean Bradley - Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi

Ymgynghorwyr (advisors)

Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
Dave Matthews - Pennaeth Polisi
Sam Cairns - Pennaeth Gweithrediadau
Melissa Quignon-Finch - Pennaeth Adnoddau Dynol
Teresa Platt - Prif Swyddog Cyllid
Jo Ryder - Pennaeth Staff

Yn Cyflwyno/mynychu

Pennaeth Gwasanaethau Digidol
Rheoli Dyledion

Secretariat

Ceri Sullivan - Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau

  • Cofnodion y Cyfarfod diwethaf
  • Materion yn codi.
  1. Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd a’r ymgynghorwyr i'r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
     
  2. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Jones, Becca Godfrey a Catrin Millar.
     
  3. Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir o'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf. Fodd bynnag, cafwyd sylwadau am fân anghywirdebau. Bu’r Bwrdd yn trafod ac yn cytuno pa wybodaeth yr oedd angen ei thynnu allan o’r fersiwn ar gyfer ei gyhoeddi.
           
  4. Trafodwyd camau gweithredu’r cyfarfod diwethaf, a chytunwyd y byddai pum cam gweithredu yn parhau ar agor.
       
  5. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd ei bod yn bryd adolygu ei ddogfennaeth Cylch Gorchwyl a Rheolau Sefydlog. Byddai fersiwn wedi’i ddiweddaru, gyda’r newidiadau wedi’u tracio, ynghyd â diagram newydd o bartneriaeth, atebolrwydd a pherthnasoedd ar y cyd Awdurdod Cyllid Cymru (YR AWDURDOD)/Trysorlys Cymru, yn cael ei hanfon at yr aelodau i’w hystyried a’i gytuno.

Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd fod y Pwyllgor Cyllid wedi ymweld â swyddfa’r Awdurdod yr wythnos gynt. Rhoddwyd arddangosiad o’r system, a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i’r aelodau. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod cyfarfod chwarterol cyntaf y Cadeirydd ag Ysgrifennydd y Cabinet, yn unol â’r ddogfen fframwaith, wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol. Byddai’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr hefyd yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer eu cyfarfod chwarterol ar y cyd â TC ym mis Gorffennaf; yn y cyfarfod hwn, byddent yn trafod rôl YR AWDURDOD fel rhan o ddatganoli ariannol.
     
  2. Bu’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Strategaeth yn cynrychioli’r Awdurdod yn nigwyddiad Fforwm Trethi Ynysoedd Prydain yr wythnos honno. Cafodd y Bwrdd wybod fod y Prif Weithredwr wedi cyflwyno eitem yn y digwyddiad ac y byddai’r sleidiau’n cael eu rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.
     
  3. Roedd yr Awdurdod Dylunio, a sefydlwyd fel Pwyllgor dros dro i’r Bwrdd, wedi cwrdd am y tro olaf y diwrnod cynt. Byddai’r Pwyllgor Pobl newydd yn cael ei gadeirio gan Dyfed Edwards a byddai David Jones yn ymuno â’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) am y flwyddyn nesaf.
     
  4. Atgoffwyd yr aelodau am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd i drafod strategaeth a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf ac am yr adolygiad cymheiriaid oedd i’w drefnu tua adeg pen-blwydd cyntaf y Bwrdd. Byddai’r adolygiad cymheiriaid yn cyfrannu at ddatblygu’r Bwrdd yn y dyfodol.
     
  5. Cafwyd trafodaeth ynghylch cyfradd treth incwm Cymru. Er y byddai’n cael ei chasglu gan CThEM, nodwyd y gallai’r cyhoedd dybio mai YR AWDURDOD oedd yn gyfrifol am ei chasglu a’i rheoli. Pwysleisiwyd bod angen cynllun wrth gefn a chyfathrebu ynghylch y mater hwn. Gofynnodd y Bwrdd am gael eu briffio’n llawnach am hyn yn ddiweddarach.
     
  6. Cafodd y Bwrdd wybod y byddai ystadegau Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn cael eu rhyddhau’r bore canlynol, ac y byddai rhywfaint o gyfathrebu’n cael ei wneud gan ddefnyddio tudalennau cyfryngau cymdeithasol YR AWDURDOD.
     
  7. Nododd y Cadeirydd fod cryn recriwtio wedi digwydd ers y tro diwethaf i’r Bwrdd gwrdd, a diolchodd i bawb yn y sefydliad am eu gwaith caled.

3. Adroddiad y Prif Weithredwr (Adrodd Gweithredol)

  1. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Bwrdd fod y Pwyllgor Gweithredol (ExCom) wedi cwrdd a thrafod ei fis cyntaf llawn o adrodd gweithredol. Nodwyd y byddai’r mathau o ddata a gyflwynir yn newid dros amser wrth i’r Pwyllgor Gweithredol ddatblygu ei ddangosfwrdd gweithredol, ac mai data o 1 Ebrill i 10 Mai yn unig a gyflwynwyd, ac felly na ellid dod i gasgliadau cryfion ar hyn o bryd. Dywedwyd wrth y Bwrdd y byddai’r adroddiad, yn y dyfodol, yn cynnwys data un mis calendr.
                 
  2. Byddai’r Pwyllgor Portffolio Newid yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos ganlynol, ac felly byddai’r adroddiad gweithredol nesaf i’r Bwrdd yn cynnwys diweddariad gan y Pwyllgor.
     
  3. Holwyd barn aelodau’r Bwrdd am yr wybodaeth a ddarparwyd a’i fformat. Cytunodd yr Aelodau fod yr adroddiad a ddarparwyd yn fan cychwyn da a bod y sylwadau’n ddefnyddiol ac yn ddisgrifiadol; fodd bynnag, roeddent yn teimlo y byddai angen mwy o ddadansoddi tueddiadau a mwy o gynrychioliaeth graffig o ddata caled.
     
  4. Trafodwyd nifer uchel y galwadau a gafwyd, gan gynnwys galwadau a gafwyd y tu allan i oriau’r ddesg wasanaeth. Awgrymwyd y gallai’r galwadau niferus hyn fod o ganlyniad i’r gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu helaeth a wnaethpwyd wrth agosáu at fynd yn fyw, ond nododd y Bwrdd y byddai angen monitro hyn yn y dyfodol a, phe byddai angen, adolygu oriau’r ddesg wasanaeth. Nododd y Bwrdd hefyd y data am amser datrys ymholiadau, gan nodi bod y galwadau hyn yn cael sylw cyflym ac effeithlon.
     
  5. Trafododd y Bwrdd y data yn nodi bod mwyafrif y cwsmeriaid TTT yn Lloegr. Nodwyd bod hyn efallai am fod y sefydliadau wedi’u cofrestru yn Lloegr, er bod y cwsmeriaid eu hunain yn gweithio yng Nghymru. Cytunwyd i edrych ar hyn yn fanylach, yn enwedig am fod mwyafrif y gwaith ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid yn digwydd yng Nghymru.
     
  6. Bu’r Bwrdd yn ystyried yr ystadegau am siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad, gan nodi bod newid sylweddol wedi bod yn y ganran – o draean i chwarter, o ganlyniad i gynyddu niferoedd y staff yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd y ganran hon yn gymesur â nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol, wedi i’r Awdurdod gwblhau ei strategaeth Gymraeg, gosod nodau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad, er mwyn cefnogi strategaeth LlC i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

4. Adroddiadau gan Bwyllgorau

  1. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd fod yr Awdurdod Dylunio, pwyllgor dros dro’r Bwrdd, wedi cwrdd am y tro olaf y diwrnod cynt. Bu ei aelodau’n trafod dwy eitem barhaus, sef cau’r Rhaglen a chau’r Pwyllgor ei hun.
                         
  2. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y byddai gwybodaeth bellach am gau’r rhaglen yn cael ei rhoi o dan eitem barhaus yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

  3. Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth am gau’r Awdurdod Dylunio, gan nodi bod yr aelodau wedi cydnabod bod llawer wedi’i gyflawni a bod y pwyllgor wedi cydweithio’n dda, heb lawer o amser i gyflawni cyn ‘mynd yn fyw’. Yn ystod ymarfer gwersi a ddysgwyd mewn cyfarfod blaenorol, oedd â’i allbwn wedi’i rannu gyda’r Bwrdd llawn er gwybodaeth, roedd nifer o wersi wedi’u nodi y gellid eu defnyddio gan YR AWDURDOD a/neu adrannau eraill LlC. Un o’r gwersi hyn oedd bod angen eglurder ynghylch rolau goruchwylio pwyllgorau dros dro o’r fath, a’r ansicrwydd achlysurol ynghylch pa eitemau a ddylai fynd at y Bwrdd a pha rai ddylai fynd at yr Awdurdod Dylunio.

  4. Hysbysodd y Cadeirydd y Bwrdd y byddai cofnod cyfarfod olaf yr Awdurdod Dylunio yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd fel papur i’w nodi ar gyfer cyfarfod llawn nesaf y Bwrdd.

5. Adroddiad Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru

  1. Rhoddod Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru (TC) yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Bu dadl yn y Cynulliad y diwrnod cynt ynghylch Treth Tir Gwag. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod cydweithio da wedi dechrau rhwng TC a’r Awdurdod ynghylch rhyddhau ystadegau TTT a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i friffio’n ddigonol.
     
  2. Byddai TC yn cyhoeddi darn o waith a wnaethpwyd yn ddiweddar gan Gerald Holthom ynghylch Ardoll Gofal Cymdeithasol LlC.

  3. Roedd TC yn trefnu digwyddiad ar gyfer mis Gorffennaf i nodi 10 mlynedd o ddatblygiad o ran datganoli cyllidol.

6. Diweddariad Cyllid

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

Trafodaeth y Bwrdd

7. Cau’r Rhaglen

  1. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd ei bod wedi mynychu cyfarfod olaf y Bwrdd Rhaglen a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, a bod rhai eitemau allweddol o ddogfennaeth a luniwyd ar gyfer y cyfarfod hwnnw wedi’u rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.
     
  2. Fel rhan o weithgareddau cau’r Rhaglen, lluniwyd cyfres o ddadansoddiadau o wersi a nodwyd ac a ddysgwyd. Strwythurwyd hyn ar ffurf tair haen, a phob un yn manylu mwyfwy, a byddent yn cael eu ddefnyddio mewn amrywiol ffyrdd. Byddai adolygiad rhaglen ôl-weithredol yn cael ei gynnal yn yr hydref, a’i ganlyniadau’n cael eu rhannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth.

  3. Diolchodd y Bwrdd i bawb a gyfrannodd at waith y Rhaglen. Cydnabu’r Aelodau yr holl waith caled a wnaethpwyd ar y Rhaglen ac ansawdd y dogfennau cau a gwersi a ddysgwyd, gan bwysleisio mor bwysig yw sicrhau bod y gwersi hynny a nodwyd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.

8. Contractau TG

Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).

9. Pwerau Troseddol

Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).

10. Unrhyw Fater Arall

  1. Nodwyd bod adborth cadarnhaol am y ddeddfwriaeth wedi’i dderbyn gan randdeiliaid a bod gwaith ynghylch negeseuon cyfathrebu allanol yn datblygu’n cyflym.

11. Rhagolwg

  1. Nododd y Cadeirydd fod y rhagolwg yn ddogfen waith, sy’n rhoi’r cyfle i’r Bwrdd roi sylwadau am agendâu a gynllunnir ar gyfer y dyfodol.  Roedd y Bwrdd yn fodlon ar yr eitemau ar gyfer y cyfarfod canlynol.

12. Adolygiad o’r Cyfarfod

Gwybodaeth wedi’i golygu (Troednodyn 1).

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath, tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.