Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Hydref 2018
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018, Trefforest.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Jocelyn Davies, Anweithredol
- David Jones, Anweithredol
- Lakshmi Narain, Anweithredol
- Martin Warren, Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
- Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
Ymgynghorwyr
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru (TC)
- Catrin Millar, Pennaeth Cyfathrebu
- Tesni Addison , Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol
- Nicola Greenwood, Pennaeth Cyllid
- Jo Ryder, Pennaeth Staff
- Sam Cairns , Pennaeth Gweithrediadau
- Dave Matthews , Pennaeth Polisi
Ysgrifenyddiaeth
- Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd a’r ymgynghorwyr i'r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan Teresa Platt a Melissa Quignon-Finch, gyda Nicola Greenwood a Tesni Addison yn dirprwyo. Croesawyd Lucy Robinson i'w chyfarfod cyntaf fel Aelod Staff Etholedig; mae'r Bwrdd bellach yn llawn.
- Nodwyd bod y cyfarfod yn ben-blwydd cyntaf yr Awdurdod. Atgoffwyd yr aelodau y byddai Ysgrifennydd Cyllid y Cabinet yn ymuno â nhw’n ddiweddarach am y cyntaf o’i gyfarfodydd blynyddol â’r Bwrdd llawn, yn unol â'r Ddogfen Fframwaith.
- Cytunodd y Bwrdd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn ddisgrifiad cywir o’r hyn a drafodwyd, yn amodol ar un newid. Roedd yr aelodau’n fodlon ar y cofnodion a olygwyd ar gyfer eu cyhoeddi. Trafodwyd y camau gweithredu nad oedd wedi eu cwblhau, a chytunwyd y byddai chwe cham gweithredu’n parhau ar agor.
- Cafodd y Bwrdd wybod am wall gyda ffurflenni P60 staff. Roedd CThEM yn gweithio er mwyn datrys y broblem. Gofynnodd y Bwrdd am gael eu diweddaru am y sefyllfa yn y dyfodol.
- Roedd yr aelodau wedi cael eu briffio’n ddiweddar ar ddiogelwch digidol a chodwyd rhai cwestiynau am rôl yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) yn eistedd o fewn Llywodraeth Cymru. Cafodd y Bwrdd wybod bod y tîm, yn dilyn hyfforddiant diweddar Perchennog Asedau Gwybodaeth (IAO), yn adolygu’r llywodraethiant ynghylch diogelwch data a oedd yn cynnwys rôl y SIRO. Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi’n ddiweddarach.
Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau
2. Adroddiad perfformiad ariannol
Gwybodaeth wedi’i thynnu allan (Troednodyn 1).
3. Diben ACC
- Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet â’r cyfarfod. Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem, gan nodi bod y Bwrdd eisoes wedi cyfrannu at ddatblygu’r datganiad diben, a bod y tîm yn ceisio sylwadau terfynol a chytundeb mewn egwyddor.
- Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd nad darnau segur o destun mo datganiadau o ddiben ond meini prawf wrth wneud penderfyniadau, a’u bod yn atal arallgyfeirio difeddwl sy’n gallu achosi straen sefydliadol, costau cynyddol ac sydd weithiau’n cyfaddawdu’r cyflenwi. Mae datganiadau o ddiben yn egluro’r hyn y mae sefydliad yn bwriadu ei wneud a’r hyn nad yw’n bwriadu ei wneud.
- Ers rhannu’r datganiad diwethaf gyda’r Bwrdd, cafwyd trafodaethau gyda phartneriaid yn LlC a gwnaethpwyd gwaith pellach i fireinio’r testun. Cyflwynwyd y datganiad canlynol i’r Bwrdd:
- llunio a darparu gwasanaethau refeniw Cenedlaethol Cymru (i Lywodraeth Cymru)
- bod yn ganolfan ddibynadwy ar gyfer data (y trethdalwr) a dadansoddi er mwyn hysbysu gwasanaethau refeniw Cymru a chreu polisïau cyhoeddus ehangach
- Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried y datganiad, yn enwedig y testun yn y cromfachau. Trafododd yr aelodau a ddylid cynnwys ‘Llywodraeth Cymru’ er mwyn cyfyngu i bwy y gallai ACC wneud gwaith. Cafwyd trafodaeth helaeth a chytunodd y Bwrdd y gallai fod cyfleoedd yn y dyfodol lle byddai gofyn i’r sefydliad wneud pethau ar ran awdurdodau lleol ac adrannau llywodraeth eraill.
-
Nesaf, gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried a ddylid cynnwys ‘y trethdalwr’ er mwyn diffinio’r math o ddata y gallai ACC ei gadw. Cafwyd trafodaeth helaeth a chytunwyd ei bod yn teimlo’n briodol cynnwys y trethdalwr o ystyried cylch gwaith y sefydliad.
-
Cytunodd y Bwrdd ar y datganiad o ddiben yn amodol ar y newidiadau arfaethedig.
-
Rhannwyd y camau nesaf gyda’r Aelodau. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft: gwaith pellach gan y Tîm Arwain i sicrhau bod y datganiad yn glir a bod ganddo eglurhad dealladwy cyson; cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol; a datblygu’r cynllun corfforaethol ar sail y datganiad hwn o ddiben a gytunwyd.
-
Nodwyd bod pwerau deddfu ACC yn gul benodedig a pherthnasol i dreth. Os oedd y sefydliad am wneud gwaith y tu allan i’w gylch gwaith cyfredol, byddai angen gwneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol.
-
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ar y datganiad arfaethedig. Roedd o blaid cynnwys ‘y trethdalwr’, gan nodi y byddai’n helpu i roi eglurder i’r cyhoedd ynghylch yr hyn y mae gan y sefydliad yr hawl i’w wybod am ei gwsmeriaid.
- Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ymlaen i ddweud ei bod yn glir o statws ACC, fel adran anweinidigol, fod y sefydliad yn gweithredu ar ran LlC. Teimlai hefyd y gallai fod cyfleoedd lle gallai ACC wneud pethau nad yw LlC yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, ac am y rheswm hwnnw teimlai Ysgrifennydd y Cabinet na ddylid cynnwys LlC yn y datganiad.
-
Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben drwy nodi ei bod yn bwysig cofio y byddai’r datganiad o ddiben yn cael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.
4. Cynllun corfforaethol
- Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau cynllun corfforaethol 2018-19. Yn ystod yr haf, gofynnwyd i’r arweinwyr ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd pob ymrwymiad. Ystyriwyd yr wybodaeth hon wedyn ochr yn ochr â’r Llythyr Cylch Gwaith a blaenoriaethau’r flwyddyn gyntaf.
-
Cafodd y Bwrdd wybod bod gwaith wedi dechrau mewn perthynas â’r holl ymrwymiadau ac y byddai’r Tîm Arwain yn ymgymryd â chynllunio manwl er mwyn crynhoi’r gweithgarwch blaenoriaeth uchel dros y chwe mis nesaf.
-
Bu’r Bwrdd yn ystyried y gwaith a wnaed yn ystod y 6 mis diwethaf. Awgrymodd yr aelodau y gallai rhai enghreifftiau o waith da gael eu cysylltu’n benodol yn ôl i’r cynllun corfforaethol a’u defnyddio at ddibenion cyfathrebu. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei grisialu yn rhan o ddrafftio’r Adroddiad Blynyddol.
-
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod sefydliadau newydd, yn aml, yn pryderu rhywfaint fod cymaint angen ei wneud. Gall hyn arwain weithiau at barlys ac amharodrwydd i ddechrau darnau newydd o waith neu dderbyn cyfrifoldeb. Ni fu hyn yn wir i ACC, sy’n sefydliad lle mae staff yn awyddus i archwilio ffyrdd newydd o weithio ac yn teimlo’n rhydd i gyfrannu. Teimlai Ysgrifennydd y Cabinet fod hwn yn wir gryfder y dylid ei ddathlu.
5. Ein dull o ymdrîn â risg treth
- Roedd yr Aelodau wedi cael eu briffio cyn y cyfarfod. Roedd y tîm yn ceisio cymorth gan y Bwrdd ynglŷn â dull strategol o nodi a rheoli risgiau treth.
- Dywedwyd wrth y Bwrdd, er bod Ein Dull o Weithredu yn nodi strategaeth lefel uchel y sefydliad ar gyfer gweithio gyda threthdalwyr a chynrychiolwyr er mwyn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr amser cywir, bod y tîm yn cydnabod y bydd pobl weithiau’n gwneud pethau’n anghywir, naill ai drwy wneud camgymeriadau neu’n fwriadol. Ni fyddai llwyddiant yn cael ei fesur o ran ansawdd gwasanaeth ACC yn unig, ond hefyd o ran gallu’r sefydliad i nodi a rheoli risg treth yn effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen i ACC ystyried yn gyfannol y risgiau lle nad yw treth efallai wedi’i thalu’n gywir, gan nodi’r broblem, yr achosion a’r atebion o’r dechrau i’r diwedd sy’n canolbwyntio ar leihau risgiau tebyg eto yn y dyfodol.
- Cyflwynwyd dull arfaethedig a chafwyd trafodaeth helaeth. Cytunodd y Bwrdd fod y gwaith hwn yn benderfyniad canolog o bwys i’r sefydliad. Cydnabu’r aelodau fod y dull yn arddangos arloesedd a’i bod yn unol â’r math o sefydliad yr oedd ACC am fod. Nodwyd hefyd fod y dull hwn yn adlewyrchu’r datganiad o ddiben a gytunwyd yn gynharach.
- Cydnabu’r Bwrdd fod y darn hwn o waith yn gwahaniaethu’r sefydliad oddi wrth awdurdodau treth eraill. Mae’n cydnabod sut mae ACC am ymdrin â’i gwsmeriaid a sut mae am gael ei ystyried. Mae’n adlewyrchu gwerthoedd a diwylliant y sefydliad a byddai felly’n anodd cyfiawnhau dewis dull arall. Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am ddarn rhagorol o waith a nododd fod hwn yn offeryn rheoli da. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd sicrhau bod y llywodraethiant ar waith, yn enwedig lle byddai staff yn arfer disgresiwn i bennu pa gwsmeriaid a allai dalu a pha gwsmeriaid na allai dalu.
- Holwyd a oedd y ddeddfwriaeth gyfredol yn cefnogi’r dull yr oedd ACC am ei fabwysiadu tuag at ddarnau penodol o waith ac awgrymwyd y gall fod angen rhai mân newidiadau yn y dyfodol. Nodwyd pwysigrwydd mesurau oherwydd byddai angen eu defnyddio i gefnogi unrhyw geisiadau am newid.
- Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi’r dull. Teimlai y byddai’n sbarduno gwell canlyniadau, mewn gwell ffordd. Nododd bwysigrwydd enw da, gan egluro y bydd ACC yn sbarduno newid negyddol os bydd yn ymdrin yn annheg â phobl, ac y bydd pobl felly’n ystyried trethi a gwaith ACC mewn goleuni gwahanol. Dywedodd hefyd y bod enw da sefydliad yn anodd ei adfer ar ôl iddo gael ei ddifetha. Mae’r enw da sydd gan ACC ar hyn o bryd yn caniatáu iddo fod yn arloesol a gwneud pethau newydd gyda chwsmeriaid mewn ffordd wahanol.
6. Adroddiad gan y Cadeirydd
- Atgoffwyd y Bwrdd o broses werthuso tri cham y Bwrdd a gynlluniwyd i ddigwydd dros y misoedd nesaf. Ffocws gwerthusiad y Bwrdd fyddai sicrhau bod aelodau’n gweithredu’n effeithiol ac fel tîm uchel ei berfformiad.
-
Diolchodd y Cadeirydd i’r timau am y brîff diweddar ar nifer o bynciau. Roedd y rhain yn cynnwys diogelwch digidol a chynlluniau ACC o ran datblygiadau diogelwch. Cafodd y Bwrdd ei sicrhau gan y brîff a thrafododd flaenoriaethau rhesymol ar gyfer y dyfodol. Byddai brîff arall yn cael ei drefnu maes o law.
-
Cyflwynwyd hefyd i’r Bwrdd enghreifftiau o waith lle defnyddiwyd Ein Dull o Weithredu. Er enghraifft, darn o waith a wnaethpwyd ar ddisgowntiau dŵr a oedd o ganlyniad uniongyrchol i ymgysylltiad rhanddeiliaid gyda gweithredwyr tirlenwi a chynhyrchwyr gwastraff.
-
Cafodd yr aelodau wybod y byddai cyfarfod nesaf y Grŵp Partneriaeth gyda TC a’r Ysgrifennydd Parhaol yn digwydd yn ddiweddarach yr wythnos honno, ac y byddai’r drafodaeth yn canolbwyntio ar yr wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad ac adolygu’r datganiad o ddiben. Byddai’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr ac aelodau’r tîm hefyd yn mynd i Fforwm Treth Ynysoedd Prydain ym mis Tachwedd.
-
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o ddathliadau diweddar yn ogystal â'r rhai yn adroddiad Perfformiad Sefydliadol y Prif Weithredwr.
7. Adroddiad gan y Prif Weithredwr
- Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad perfformiad sefydliadol. Rhannwyd rhagor o ddathliadau ac adborth cwsmeriaid gyda’r Bwrdd ynghyd â throsolwg o dueddiadau cynnydd diweddar.
-
Trafodwyd y data gan y Bwrdd. Nododd yr aelodau y dylai adroddiadau o hyn ymlaen ganolbwyntio ar weithrediadau busnes-fel-arfer, fel: nifer y trafodiadau TTT; faint o dreth sy’n cael ei thalu/sydd ei ddim yn cael ei thalu; yr amser mae’n gymryd i gasglu dyledion yn llwyddiannus ac ati. Cafodd y Bwrdd wybod bod y data hwn yn cael ei gasglu ynghyd ar hyn o bryd a bod sleidiau’n cael eu creu i ddarlunio’r wybodaeth hon. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr aelodau ei fod yn awyddus i awtomeiddio mwy o wybodaeth i wella lefel y data a ddarperir, ond, o ystyried oed y sefydliad, fod hyn yn cymryd amser.
-
Nodwyd y byddai tueddiadau yn y farchnad dai yn effeithio ar faint y dreth a gesglir ac felly byddai’n ddefnyddiol i’r Bwrdd fod yn ymwybodol o’r tueddiadau hyn a’r effaith ar ein gwaith.
-
Roedd y Bwrdd yn falch o weld parhad y bartneriaeth rhwng ACC a TC a bod honno bellach yn nodwedd barhaol o waith y sefydliad.
8. Adroddiadau gan bwyllgorau - ARAC
- Rhoddodd Cadeirydd ARAC drosolwg o weithgarwch diweddar. Cafodd yr aelodau wybod bod y Pwyllgor wedi parhau i adolygu a gwella’r broses rheoli risg. Roedd y datganiad archwaeth risg a drafodwyd yng ngweithdy’r Bwrdd wedi cael ei ystyried ymhellach gan aelodau ARAC. Byddai ystod o archwaethau y gellid ei chysylltu’n ôl â gwahanol risgiau. Byddai’r rhain yn cael eu rhannu gyda’r aelodau i’w hystyried, a hynny y tu allan i’r cyfarfod i ddechrau, ac yna i’w cytuno’n ffurfiol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.
- Bu’r Pwyllgor yn goruchwylio paratoadau ar gyfer adroddiad blynyddol cyntaf ACC. Yn bennaf, mae’r gwaith hwn wedi cynnwys sicrhau bod prosesau ac amserlen yn barod.
- Roedd yr adolygiad archwilio mewnol cyntaf o lywodraethiant ACC bellach yn dod i ben, gyda’r arsylwadau rhagarweiniol yn nodi nad oedd dim byd sylweddol oedd angen mynd i’r afael ag ef.
- Gofynnodd yr aelodau am i ragolwg ARAC gael ei rannu ochr yn ochr â chofnodion y Pwyllgor ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd yn y dyfodol er mwyn rhoi trosolwg o feysydd gwaith ar gyfer y dyfodol.
9. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
- Llongyfarchodd Ysgrifennydd y Cabinet y sefydliad am flwyddyn gyntaf lwyddiannus. Aeth ymlaen i ddweud bod y sefydliad wedi magu enw da iawn a bod barn rhanddeiliaid am y sefydliad yn gadarnhaol. Soniodd er enghraifft am y Pwyllgor Cyllid, a oedd yn cefngi gwaith ACC, a’i lwyddiant parhaus.
- Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Bwrdd fod diddordeb cynyddol yn yr awdurdod y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, gan roi gwybod i’r aelodau bod ACC wedi bod yn destun sgyrsiau diweddar gydag Ysgrifennydd y Trysorlys.
-
Nododd fod y ffigurau a gyflwynwyd iddo, yn ei gyfarfodydd rheolaidd â Chadeirydd a Phrif Weithredwr ACC, yn galonogol a’u bod yn fetrigau datblygiadol sefydliad sydd bellach yn camu ymlaen yn gyffyrddus. Dywedodd hefyd fod y sefydliad wedi cael dechreuad da ac mai’r her bellach i ACC fyddai parhau’r gwaith da a datblygu ei enw da a’i lwyddiant presennol ymhellach.
10. Adroddiad y Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
- Rhoddodd Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru wybodaeth am weithgarwch diweddar. Dywedodd wrth y Bwrdd fod cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i chyhoeddi yn gynharach y mis hwnnw. Byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf gan gynnwys rhagolwg ar gyfer trethi datganoledig Cymru.
- Byddai cyllideb y DU yn cael ei chyhoeddi ar 29 Hydref a gallai fod newidiadau o bosib i Dreth Dir y Dreth Stamp. Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi’n ddiweddarach.
- Rhoddwyd diweddariad cryno ar y farchnad dai yng Nghymru a chafodd y Bwrdd wybod y byddai’r rhagolwg economaidd a chyllidol cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn hir. Ni ragwelwyd unrhyw newidiadau ar gyfer LlC.
- Roedd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) wrthi’n cynnal ei thrydydd adolygiad o ddatganoliad cyllidol Cymru. Mae rhai o staff ACC wedi cael eu cyfweld a byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
- Byddai rhywfaint o waith yn cael ei wneud gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) i ddatblygu gweithdrefnau a fyddai’n caniatáu newidiadau cyflym i ddeddfwriaeth treth.
- Byddai’r rhai hynny sy’n gymwys i dalu Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC) yn cael llythyr gan CThEM yn rhoi gwybod iddynt am y newid, a byddai’r llythyr hwn yn dod gyda thaflen wybodaeth wedi’i chynhyrchu gan LlC.
11. Unrhyw fater arall
- Ni chodwyd unrhyw fater arall.
12. Rhagolwg
- Roedd y Bwrdd yn fodlon ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.
13. Adolygiad o’r cyfarfod
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath, tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.