Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff 
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro  
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth  Dros Dro  
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu     
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru

Yn Mynychu

  • Swyddog Arweiniol Gorfodi Trethi

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Byddai Swyddog Arweiniol Gorfodi Trethi ACC yn arsylwi’r cyfarfod.
     
  2. Nododd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Sean Bradley fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd. Llongyfarchwyd Sean ar ei rôl newydd y tu allan i’r sefydliad a diolchwyd iddo am ei gyfraniad fel aelod Bwrdd ac fel cyflogai ACC.
     
  3. Rhoddodd Jocelyn Davies wybod i’r aelodau ei bod wedi penderfynu peidio â derbyn rôl yn cadeirio comisiwn y mae Plaid Cymru’n ei sefydlu i archwilio llwybr cyfansoddiadol at annibyniaeth i Gymru. Gofynnodd y Cadeirydd am i’r gofrestr gwrthdaro buddiannau gael ei diweddaru i adlewyrchu hyn.
     
  4. Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir o’r drafodaeth a chytunwyd hefyd ar y cofnod wedi’i olygu ar gyfer ei gyhoeddi.
     
  5. Nododd y Cadeirydd benderfyniadau’r cyfarfod diwethaf a rhoddodd ddiweddariad am y camau gweithredu a oedd heb eu cymryd; cytunwyd y byddai tri cham gweithredu’n parhau ar agor.
     
  6. Nododd y Cadeirydd fod yr Egwyddorion Cyfathrebu wedi’u cytuno’n rhithwir gan y Bwrdd a gofynnodd am i’r cofnod gofnodi’r penderfyniad hwnnw’n ffurfiol.
     
  7. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gau adeilad QED yn dilyn y llifogydd diweddar. Roedd yr adeilad yn cael ei asesu am ddifrod ac roedd y tîm yn gobeithio y byddai’n gallu cael mynediad yn ystod y diwrnodau nesaf i dynnu’n cyfarpar, gwybodaeth bersonol am drethdalwyr ac eiddo personol pobl oddi yno.
     
  8. Roedd nifer cyfyngedig o liniaduron ar gael i’r rhai oedd â’u dyfeisiau yn QED ar hyn o bryd. Roedd cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith i reoli hyn ac roedd gwaith wedi dechrau er mwyn sicrhau ystafelloedd priodol i dimau ond roedd yn debygol y byddai timau’n cael eu gwasgaru ar draws ystâd Llywodraeth Cymru (Parc Cathays a Merthyr) ac yn gweithio o’u cartrefi dros y misoedd i ddod.
     
  9. Diolchodd y Bwrdd i staff ACC, Trysorlys Cymru a Llywodraeth Cymru am yr holl waith sy’n cael ei wneud er mwyn i’r staff allu parhau â’u gwaith. Nododd yr Aelodau hefyd fod digwyddiadau diweddar yn dyst i gryfder y cynllun parhad busnes a gwytnwch y sefydliad. Awgrymodd y Bwrdd y byddai’n ymarfer da i gymryd ychydig o amser, pan fyddai’r mater wedi’i ddatrys yn llwyr, i asesu effeithiolrwydd y cynllun parhad busnes a nodi unrhyw wersi a ddysgwyd.
     
  10. Byddai trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i hwyluso digwyddiadau gyda’r nod o ddod â thimau ynghyd, yn enwedig gan y byddai peth amser cyn y byddent yn gweithio o’r un lleoliad eto.

Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai’r Gweinidog yn mynychu rhan o gyfarfod Bwrdd mis Mehefin. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol mwyaf diweddar â’r Gweinidog ar 15 Ionawr; roedd ffocws y cyfarfod hwn ar berfformiad gweithredol, yn enwedig ‘Ein Dull’ a’r gwaith dadansoddi risg treth.
     
  2. Gwahoddwyd ACC i gyfranogi mewn rhaglen ymchwil ar ddatgan diben, wedi’i gweithredu gan Brifysgol Rhydychen. Mynychodd y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol gyfarfod cyntaf y grŵp ymchwil yn gynharach y mis hwnnw; ymhlith yr aelodau roedd cadeiryddion ac uwch arweinwyr o sefydliadau sector preifat fel Siemens, ac o’r sector cyhoeddus, fel Ystadau’r Goron, a’r Asiantaethau Taliadau Gwledig.
     
  3. Un wers a ddysgwyd o’r cyfarfod oedd argymhelliad i Fyrddau gyfeirio’n rheolaidd at eu datganiadau diben er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn faen prawf wrth wneud penderfyniadau. Nododd y Cadeirydd ei bod wedi cymryd cam i sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud hyn yn rheolaidd.

3. Adroddiad y Prif Weithredwr

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

4. Perfformiad ariannol

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

5. Adroddiad gan bwyllgorau

  1. Oherwydd agenda llawn, byddai Dyfed Edwards yn anfon diweddariad rhithwir at yr aelodau am gyfarfod a gweithgarwch diweddaraf y Pwyllgor Pobl. Byddai’r cofnod a gytunwyd ddiweddaraf hefyd yn cael ei anfon i’r Bwrdd er gwybodaeth.

6. Adroddiad gan Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

Cymeradwyaeth, penderfyniadau a chyfeiriad

7. Dyraniad cyllideb ar gyfer 2020-21

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

8. Rhaglen Gyfalaf

  1. Rhoddwyd trosolwg o’r dull a weithredwyd er mwyn cynnig am wariant cyfalaf, yn dilyn yr un fformat ag yn adrannau eraill Llywodraeth Cymru.
     
  2. Ni roddwyd cyfle i’r Bwrdd roi sylwadau am y cynigion arfaethedig cyn iddynt gael eu cyflwyno am fod proses ddeuol yn cael ei gweithredu oherwydd cyfyngiadau amser. Fodd bynnag, gofynnwyd i’r aelodau adolygu a chymeradwyo’r dull ar gyfer cynnig am gronfa cyfalaf, ystyried y Biblinell Gyfalaf a chymeradwyo’r rhaglen a’r broses ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

  3. Roedd cydweithwyr Llywodraeth Cymru yn fodlon ar ansawdd y cynnig a byddent yn ei ystyried ac yn ymateb i ACC maes o law. Awgrymwyd y gallai gwahanol ddull fod yn fwy priodol yn y dyfodol, lle byddai ACC yn ceisio cymeradwyaeth am gyllideb gyfalaf ochr yn ochr â refeniw; gwneir hyn gan Adrannau eraill Llywodraeth Cymru.

9. Polisïau gorfodi sifil a throseddol

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

10. Cofrestr Risg Corfforaethol

  1. Rhannwyd y Gofrestr Risg Corfforaethol gyda’r Bwrdd fel rhan o’i drefniadau sicrhau a chraffu blynyddol.
     
  2. Roedd Tîm Arwain wrthi’n adolygu’r gofrestr risg gyfredol er mwyn sicrhau bod pob risg allweddol yn cael ei adlewyrchu’n gywir.
     
  3. Cytunodd y Bwrdd ar y gofrestr risg ac roedd yn fodlon ar y ffordd y cyflwynwyd y risgiau i’w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol.

11. Datganiad gweledigaeth a’r camau nesaf ar gyfer y Gymraeg

  1. Gofynnwyd i’r Bwrdd gefnogi datganiad gweledigaeth drafft ar gyfer y Gymraeg, wedi’i ddatblygu gan staff yn y diwrnod cwrdd i ffwrdd ym mis Ionawr. Cyflwynwyd y datganiad canlynol: 

    Mae ACC yn sefydliad lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Gall ein pobl ddysgu, gwella a mwynhau defnyddio’r iaith yn eu gwaith pob dydd.
     
  2. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan a chytunwyd i gefnogi’r datganiad, gyda’r cafeat y byddai cysylltiad yn cael ei gwneud i’n gwasanaethau allanol, naill ai yng ngeiriad y datganiad ei hun neu’r strategaeth ehangach.
     
  3. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod y strategaeth hon yn adlewyrchu diwylliant a gwerthoedd y sefydliad.
     
  4. Byddai’r Bwrdd yn cael diweddariad yn nes ymlaen.

Trafodaeth

12. Gwerthuso effeithiolrwydd y Bwrdd a chynllunio ar gyfer olyniaeth 

  1. Cafodd y Bwrdd wybod y byddai nifer o benodiadau Anweithredol yn digwydd yn ystod yr haf ond, am fod hyn yn benodiad Gweinidogol, byddai angen i ni ddisgwyl am gymeradwyaeth ffurfiol cyn i ni ddechrau unrhyw gyfathrebu am hyn.
     
  2. Cynhaliwyd y gwerthusiad Effeithiolrwydd Bwrdd ym mis Ionawr, ac anfonwyd trosolwg o’r camau gweithredu a gymerwyd o’r ymarfer hwnnw at aelodau’r Bwrdd yn dilyn y sesiwn. Croesawodd y Cadeirydd awgrymiadau ar gyfer camau pellach i wella cyfarfodydd y Bwrdd a chytunwyd bod angen mwy o amser i drafod y canlyniadau ac y byddai hwn yn ymarfer da i’w gynnal cyn i aelodau newydd ymuno â’r Bwrdd.
     
  3. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd gwerthuso diwedd blwyddyn ar ei chyfer hi a phob aelod o’r Bwrdd. Gofynnwyd hefyd iddynt gyfrannu at ei gwerthusiad drwy ddarparu sylwadau i’w hystyried gan yr Ysgrifennydd Parhaol cyn cyfarfod adolygiad diwedd blwyddyn y Cadeirydd ym mis Mawrth.
     
  4. Roedd gwelededd y Bwrdd yn faes a oedd yn sgorio’n gymharol isel yn yr holiadur effeithiolrwydd, ac awgrymwyd trafod hyn rywdro arall er mwyn penna a oedd angen cymryd camau. O ystyried y byddai llawer o’n pobl yn gweithio o Swyddfeydd LlC Merthyr dros yr wythnosau i ddod, awgrymwyd y gallai un o ddigwyddiadau’r Bwrdd yn y dyfodol gael ei gynnal yno.

Cyfarfod yn cau

15. Unrhyw fater arall

  1. Mynegodd y Prif Swyddog Gweithredol ei ddiolchgarwch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth yn dod o hyd i ddesgiau i staff ar ôl cau QED. Nododd fod CNC a Revenue Scotland hefyd wedi cynnig cefnogaeth, a bod hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

16. Rhagolwg

  1. Atgoffwyd yr Aelodau fod hon yn ddogfen waith a fyddai’n cael ei diweddaru’n barhaus.
         
  2. Roedd eitem ar y rhagolwg i drafod y Llythyr Cylch Gwaith ym mis Ebrill, ond cafodd yr aelodau wybod y gallai hon yn cael ei thynnu pe byddai’r Gweinidog yn teimlo bod y llythyr cyfredol yn addas at ddiben o hyd.

17. Adolygiad o’r cyfarfod

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.