Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

1. Croeso a chyflwyniadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dyfed Alsop ac Andrew Jeffreys.

2. Parhad busnes a llesiant staff

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Llywodraethiant y Pwyllgor Rheoli Achosion

  1. Dywedwyd wrth y Bwrdd y byddai Becca Godfrey (Prif Swyddog Strategaeth yn dychwelyd) yn cadeirio’r Pwyllgor Rheoli Achosion am fod Sean Bradley bellach wedi gadael y sefydliad. Er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o hyd ar draws Gweithrediadau, Polisi a Chyfreithiol, byddai Amy Bowden (Pennaeth Cyfreithiol dros dro) hefyd yn ymuno â’r pwyllgor fel cynrychiolydd cyfreithiol. Byddai adolygiad o drefniadau llywodraethu’r pwyllgor yn cael ei gynnal cyn hir.
     
  2. Cafodd y Bwrdd wybod hefyd y byddai Amy yn cynrychioli’r adran gyfreithiol fel ymgynghorwr i’r Bwrdd ac i’r Tîm Arwain o hyn ymlaen.
     
  3. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod cam gweithredu heb ei gymryd i ddogfennu trefniadau llywodraethu’r Bwrdd yn ystod y sefyllfa gyfredol; byddai darn byr o waith yn cael ei ddatblygu am y tro, a darn manylach o waith yn dilyn.

4. Penodiadau Cyhoeddus

  1. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd fod penodiadau cyhoeddus wedi’u hatal tan fis Medi 2020. Roedd gwaith wedi dechrau gyda Thrysorlys Cymru a’r Uned Cyrff Cyhoeddus i roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer pan godir yr ataliad. Byddai’r Cadeirydd yn rhoi gwybod i’r Bwrdd dros y misoedd i ddod wrth i faterion ddatblygu.

5. Llythyr Cylch Gwaith

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

6. Unrhyw fater arall

  1. Cafwyd bygythiad cynyddol i bob sefydliad oherwydd ymosodiadau seiber gyda chynnydd cyffredinol o ran gweithredoedd gwe-rwydo. Fodd bynnag, mae mesurau’n cael eu rhoi ar waith ac yn destun gwaith ac roedd nifer o brofion eisoes wedi’u cynnal. Roedd staff hefyd wedi cael gwybod am y risg cynyddol hwn i’w bywyd gwaith a’u bywyd cartref. Byddai eitem ar hyn yn dod gerbron y Bwrdd yn y dyfodol.
     
  2. Mae’r strategaeth tymor hwy ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig ar agenda i’w thrafod yn y dyfodol, ond nodwyd, o ystyried digwyddiadau diweddar, y gallai’r gwaith hwn newid, o ran cwmpas ac amserlen.
     
  3. Cytunodd aelodau’r Bwrdd y gallai fod yn ddefnyddiol ystyried yr hyn a allai fod yn ddangosyddion rhybudd cynnar o newidiadau yn ein cyd-destun yn yr amser cythryblus sydd i ddod.
     

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.