Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Jocelyn Davies, Is-Gadeiryddr
  • Dyfed Alsop , Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Aelod Anweithredol    
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol      
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol     
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredo
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, a derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Pennaeth Staff. Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Drysorlys Cymru (TC), a chyflwynwyr ac arsylwyr o ACC.
  2. Nid oedd unrhyw sylwadau ar unrhyw un o'r papurau i'w nodi. Byddai'r cofnodion ARAC diweddaraf yn cael eu dosbarthu tu allan i'r pwyllgor ar ôl iddyn nhw gael eu clirio.
  3. Cytunwyd ar gofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod diwethaf (Chwefror '23) gyda mân newidiadau.
  4. Nododd y pwyllgor eu diolch i'r Pennaeth Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid am eu gwaith ar yr adolygiad o Siarter ACC - gosodwyd hwn gerbron y Senedd a’i gyhoeddi ar wefan ACC ym mis Mai.
  5. Cyfarfod mis Chwefror oedd cyfarfod olaf Dyfed Edwards, wrth iddo gamu i lawr dros dro i dderbyn swydd 12 mis ar Fwrdd Betsi Cadwaladr. Diolchodd y Bwrdd i Dyfed am ei wasanaeth gan edrych ymlaen ato’n dychwelyd yn 2024.

A23-02-01: Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg cofnodion ARAC ar ôl eu clirio.   

Adroddiadau

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu 

  1. Rhoddwyd diweddariad ar flaenoriaethau diweddaraf Tîm Arwain (TA), wedi'u hadnewyddu a'u diweddaru i adlewyrchu cyfeiriad a chynllun busnes cyfredol y sefydliad yn y dyfodol. Bydd y rhain, ochr yn ochr â blaenoriaethau'r Grŵp Arweinyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG), yn cael eu rhannu â'r sefydliad.
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG 

  1. Ers y pedwerydd chwarter, mae SDLG wedi cynnal gweithdai datblygu arweinyddiaeth sydd wedi bod yn werthfawr o ran ffocws a sgiliau gwneud penderfyniadau'r tîm.
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu
  4. Wedi'i olygu
  5. Wedi'i olygu
  6. Daeth Prentis Ddatblygwr Meddalwedd yn drydydd mewn twrnamaint codio Diogel y Pedair Gwlad - llongyfarchodd y Bwrdd nhw ar y cyflawniad gwych hwn.

A23-02-02: COO i roi adborth i'r Bwrdd ar weminarau a gwersi a ddysgwyd. 

 Adroddiad ar Berfformiad 

  1. Rhoddodd y Pennaeth Data y wybodaeth diweddaraf ar fesurau perfformiad. Roedd darlun braf i’w nodi o'r duedd ar i lawr o ran risg treth - mae hyn oherwydd y gostyngiad yn nifer yr achosion, ond hefyd o ran faint o risg treth mewn achosion gwerth uwch (hy rhyddhad anheddau lluosog, sydd i lawr yn sylweddol).
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu

Adroddiad Cyllid ac ARAC

  1. Roedd uchafbwyntiau'r adroddiad yn cynnwys canlyniad cadarnhaol o ymgysylltu â rheolwyr cyllideb a arweiniodd at gywirdeb rhagolygon o 99%. Mae'r ffocws nawr ar baratoi ar gyfer y rownd gyllideb nesaf, yn enwedig deall sut fydd y gyllideb graidd staff gweithredu.
  2. Mae LlC wedi dechrau trafod y paramedrau a'r ystyriaethau ar gyfer cyllideb 2024-25. Bydd Trysorlys Cymru’n ymgysylltu ag ACC cyn gynted â phosibl, unwaith y bydd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth.
  3. Wedi'i olygu
  4. O ran yr archwiliad blynyddol, y bwriad yw dechrau ym mis Awst oherwydd amserlennu Archwilio Cymru, gan ddefnyddio dull gwahanol hefyd oherwydd safonau archwilio newydd sy'n seiliedig ar risg. Mae ACC wedi gosod ei gyfrifon ym mis Gorffennaf fel arfer, felly mae hwn yn gam newydd. Y nod ar gyfer cyhoeddi yw canol mis Medi.
  5. Roedd y pwyllgor rheoli achosion (CMC) wedi cynnal adolygiad effeithiolrwydd, a roddodd lefel uchel o hyder gan y grŵp. Ymhlith y meysydd i’w gwella roedd cynyddu ymgysylltiad CMC a dealltwriaeth o gylch gwaith ar draws ACC.

Diweddariad y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

  1. Cafodd y pwyllgor cydnabyddiaeth ariannol eu cyfarfod cyntaf o'r flwyddyn ym mis Mai, a oedd yn cynnwys diweddariad ar recriwtio a chynllunio olyniaeth. 

Adroddiad Trysorlys Cymru 

  1. Wedi'i olygu
  2. Cynhelir y gynhadledd dreth wyneb yn wyneb, ym mis Tachwedd mwy na thebyg - Trysorlys Cymru i anfon rhagor o fanylion pan fydd ar gael.

Trafodaeth y Bwrdd

Trefniadau Llywodraethu’r Ardoll Ymwelwyr

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog mae ACC yw’r corff cyflawni arfaethedig fydd yn gyfrifol am gasglu a gweinyddu'r Ardoll Ymwelwyr ar ran Awdurdodau Lleol (ALl) sy'n optio i mewn.
  2. Wedi'i olygu

 Risg Treth

Wedi'i olygu

Mapio Rhanddeiliaid

  1. Rhoddodd y Pennaeth Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid drosolwg i'r Bwrdd o weithgarwch mapio rhanddeiliaid ACC hyd yn hyn. Bydd diwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf yn cynnwys sesiwn ar alinio mapio rhanddeiliaid â blaenoriaethau diweddaraf Tîm Arwain, gan ganolbwyntio ar ble y gallai fod bylchau a risgiau a chyfleoedd ymgysylltu posibl i'r sefydliad. 

Myfyrdodau risg a goblygiadau ariannol

  1. Rhoddodd yr ysgrifenyddiaeth grynodeb llafar o'r goblygiadau risg ac ariannol cysylltiedig â thrafodaethau'r diwrnod.

Cau'r cyfarfod

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.