Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Aelod Gweithredol
  • Sam Cairns, Aelod Gweithredol
  • Rebecca Godfrey, Aelod Gweithredol
  • Lucy Robinson, Aelod a Etholwyd gan y Staff 

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth Swyddog Pobl
  • Kate Innes, Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau, ymddiheuriadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; byddai Anna Adams yn dirprwyo.

2. Parhad busnes a llesiant staff

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai'r feddalwedd 'Diligent Board' yn cael ei gweithredu dros yr wythnosau nesaf a byddai angen i Aelodau Anweithredol ymgymryd â hyfforddiant. Codwyd cwestiwn ynghylch defnyddio Teams drwy gyfrifon/iPads Aelodau Anweithredol ACC, a chytunodd y Cadeirydd i ymdrin â’r mater dros yr wythnosau nesaf.
  2. Byddai'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn mynychu cyfarfod y Bwrdd ar 18 Mehefin. Roedd hyn yn rhan o'r trefniant a wnaed o dan y Ddogfen Fframwaith i'r Gweinidog gyfarfod â'r Bwrdd llawn yn flynyddol.
  3. Yn flaenorol trefnwyd diwrnod cwrdd i ffwrdd strategaeth y Bwrdd dros ddiwrnod llawn ond byddai hyn bellach yn cael ei ganslo a'i ddisodli gan gyfres o sesiynau byrrach. Byddai rhyw fath o ryngweithio anffurfiol hefyd yn cael ei drefnu ar gyfer y Bwrdd.

4. Cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Mis Mai

  1. Cytunwyd ar Gofnodion cyfarfodydd mis Mai fel cofnod cywir o'r hyn a drafodwyd, cytunwyd hefyd ar y cofnodion wedi'u golygu at ddibenion cyhoeddi.

5. Trysorlys Cymru

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

6. Unrhyw fater arall

  1. Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.

 

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.