Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

1. Croeso a chyflwyniadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
     
  2. Nodwyd y byddai’r cyfarfod Bwrdd a drefnwyd i’w gynnal ar 15 Ebrill yn cael ei ganslo oherwydd effaith COVID-19. Yn lle’r cyfarfod hwn, byddai cyfres o gyfarfodydd rhithwir wythnosol, byrrach yn cael eu cynnal dros y ffôn neu Teams.
     
  3. Roedd amserlen ar gyfer y cyfarfodydd hyn wedi’i drafftio a byddai’n cael ei chylchredeg maes o law.
     
  4. Nododd y Cadeirydd na fyddai’r newidiadau dros dro hyn i’r ffordd y mae’r Bwrdd yn cwrdd yn peryglu’r llywodraethiant sydd ar waith ac y byddai’n parhau, yr un fath ag erioed, er mwyn ceisio sicrhad a chraffu’n effeithiol.

2. Parhad busnes a llesiant staff

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Llywodraethiant wrth wneud penderfyniadau a threfniadau dirprwy’r Prif Weithredwr

  1. Cafodd y Bwrdd wybod bod cofnod o benderfyniadau a thrafodaethau COVID-19 wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau llywodraethiant wrth wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn.
     
  2. Roedd trefniadau wedi’u trafod a’u cytuno er mwyn sicrhau bod rhywun y dirprwyo i’r Prif Weithredwr pe byddai’n absennol ar fyr rybudd. Byddai Sam Cairns yn dirprwyo i Dyfed yn ei ddyletswyddau fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu lle byddai angen.
     
  3. Awgrymwyd drafftio dogfen yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu diwygiedig ar gyfer y Bwrdd a’i bwyllgorau yn ystod y cyfnod hwn. Cytunodd y Cadeirydd i ddrafftio rhywbeth a’i gylchredeg er mwyn cael sylwadau a chytundeb.

4. Diweddariad ar bolisïau/dulliau gweithredol (brîff ar gyfer y Gweinidog)

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

5. Perthynas Waith â Llywodraeth Cymru a chymorth yn ystod COVID-19

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

6. Unrhyw fater arall

  1. Roedd yr archwiliad interim ar gyfer yr adroddiad blynyddol a chyfrifon wedi’i gynnal o bell ac wedi’i gwblhau bellach. Gall fod rhai problemau gydag adnoddau yn y tîm Cyllid ond os yw’r tîm yn gallu gweithio o gwmpas hynny dylai’r archwiliad terfynol gael ei wneud yn llwyddiannus ac o bell.
     
  2. Gwnaethpwyd cais am eitem ar dwyll yn y dyfodol gan fod seiber-ymosodiadau yn digwydd yn aml yn yr amgylchiadau presenol.
     
  3. Byddai’r Aelodau’n croesawu diweddariadau rheolaidd ar ein sefydliadau partneriaeth a rhanddeiliaid a sut maent yn ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.
     

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.