Newidiadau dros dro i'r ffordd rydych yn adrodd am symudiadau defaid a geifr oherwydd coronafeirws.
Yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, mae ein staff EIDCymru yn gweithio o gartref. Ni ddylai hyn achosi unrhyw oedi yn ein gwasanaethau ar-lein neu ar y llinell gymorth. Ond, gallai adroddiadau symud papur gael eu peryglu pe bai oedi'n digwydd gyda gwasanaethau post.
Felly, a fyddech cystal â chyflwyno adroddiad ar bob symudiad defaid/geifr ar-lein yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ewch i wefan EIDCymru, neu cysylltwch â ni:
- ar 01970 636959, neu
- drwy ebost contact@eidcymru.org
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg