Yn y canllaw hwn
7. Cofnodi Symudiadau
Rhaid dweud wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) am symudiadau o fewn tri diwrnod calendr a diweddaru cofrestr eich buches o fewn 36 awr.
Dyma enghreifftiau o symudiadau gwartheg:
- symud anifail sy’n cael ei werthu’n breifat o un fferm i fferm arall
- symud anifail o fferm i ladd-dy, marchnad neu faes sioe
- symud anifail o farchnad neu faes sioe i fferm
- symud anifail rhwng dau CPH gwahanol o fewn yr un busnes fferm
Cyn cael symud, rhaid bod gan y gwartheg y canlynol:
- tagiau swyddogol
- pasbort gwartheg dilys
- dim gwaharddiad symud neu gyfyngiadau eraill mewn grym
Rhaid i chi gydymffurfio ag amodau’r drwydded gyffredinol yng Nghymru.
Mae cyfyngiadau ar wartheg a anwyd neu a fagwyd yn y DU cyn Awst 1996. Rhaid gwneud cais i APHA am drwydded i’w symud.
Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau sydd i’w gweld yn Adran 3 i roi gwybod am symudiadau.
Eich cyfrifoldeb chi fel ceidwad yw rhoi gwybod i’r BCMS am unrhyw symudiadau o fewn tri diwrnod calendr.
Symud gwartheg ar gyfer eu gwerthu a/neu eu lladd
Bydd marchnadoedd, lladd-dai a mannau casglu a chrynhoi’n darllen ac yn cofnodi rhifau gwartheg unigol wrth iddynt gyrraedd.
Eich cyfrifoldeb chi fel ceidwad yw rhoi:
- manylion yr anifeiliaid perthnasol ar ffurflenni’r farchnad/lladd-dy
- cofnodi'r symudiadau 'ymadael' neu 'cyrraedd' ar BCMS
- llenwi’r adrannau priodol ar y pasbort
- diweddaru cofrestr y fuches trwy gofnodi’r holl symudiadau arni.