Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: canllawiau - Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: crynodeb ac atodiad
Canllawiau i gyrff cyhoeddus ddod i benderfyniadau gwybodus am goffadwriaethau cyhoeddus presennol ac yn y dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb a Chasgliad
Nod y canllaw arfer gorau hwn yw helpu awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned a chyrff cyhoeddus eraill i ddod i benderfyniadau hyddysg ynghylch coffáu cyhoeddus sy'n bodoli eisoes ac yn y dyfodol, a thrwy wneud hynny'n cyfrannu at Gymru wrth-hiliol.
Mae Rhan 1, Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: deall y problemau, yn cyflwyno'r materion cymhleth sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus. Mae ei ffocws ar effaith cofebion ar gymunedau drwy’r hyn a gaiff ei goffáu, math, arddull a lleoliad. Mae’n ystyried pwysigrwydd edrych yn ôl a thystiolaeth hefyd.
Mae Rhan 2, Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: gwneud penderfyniadau, egwyddorion ac ymarfer, yn nodi pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd i wireddu'r cyfleoedd y mae coffáu cyhoeddus yn eu cynnig i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn Rhan 1, a gwneud cyfraniad cadarnhaol at Gymru wrth-hiliol.
Mae Cam 1 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau cynhwysol
I gydnabod eu heffaith gyhoeddus, dylai gwneud penderfyniadau am gofebion cyhoeddus fod yn wirioneddol gynhwysol, ac ni ddylid cael cofebion newydd heb gynrychiolaeth i bawb yr effeithir arnynt. Mae'r canllawiau’n nodi rhai egwyddorion cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol:
- cynnwys cymunedau amrywiol a gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau o'r cychwyn
- ystyried lle gallai effaith penderfyniadau gael eu teimlo — cydnabod cymunedau anghysbell o ddiddordeb yn ogystal â'r ardal leol, ac ymateb i amrywiaeth o fewn yr ardal leol
- meithrin perthynas barhaol gyda chymunedau lleol
- parchu dealltwriaeth leol yn ogystal â gwybodaeth a barn arbenigol
- ystyried y ffyrdd gorau o estyn allan i gymunedau amrywiol, a mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysylltu
- sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw.
Mae Cam 2 yn ymwneud â phennu amcanion ar gyfer cofebion cyhoeddus
Dylai cyrff cyhoeddus fod yn glir ynglŷn â'r hyn maen nhw am ei gyflawni drwy goffáu cyhoeddus. Dylent bennu amcanion sy'n diffinio'i rôl yn unol â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn hyrwyddo dilysrwydd a chydbwysedd, a dealltwriaeth glir wedi’i dad-drefedigaethu o'r byd. Nid yw hyn yn golygu sensro na dileu'r cofnod hanesyddol, ond mae'n golygu bod anghyfiawnder hanesyddol yn cael ei gydnabod, bod enwau da ffigyrau hanesyddol yn destun trafod a bod naratifau sy'n dibrisio bywydau dynol yn cael eu herio. Mae dad-drefedigaethu yn ceisio osgoi parhau mythau trefedigaethol hiliol am oruchafiaeth pobl wyn, ond nid yw'n golygu cael gwared ar bob tystiolaeth o'r gorffennol ymerodrol. Wrth bennu amcanion dylai cyrff cyhoeddus:
- ymgysylltu'n ddwfn a gwirioneddol gyda'r straeon sy'n codi o goffáu, clywed lleisiau gwahanol, a chaniatáu i safbwyntiau amrywiol gael eu mynegi
- ystyried sut y gellir defnyddio coffáu i ddyfnhau cyfleoedd addysgol a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion a digwyddiadau
- archwilio pynciau newydd i’w coffáu sy'n sicrhau gwell cynrychiolaeth ar gyfer gwahanol rannau o'r boblogaeth, a chydnabod y cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas gan grwpiau o bob math sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn y gorffennol a'r presennol
- defnyddio coffáu i gyfleu negeseuon cryf am ein gwerthoedd heddiw i ymgysylltu, ysbrydoli a dod â chymunedau at ei gilydd nawr ac yn y dyfodol.
Mae Cam 3 yn ymwneud â sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
Dylai penderfyniadau am gofebion y gorffennol a’r dyfodol fod yn seiliedig ar feini prawf clir a phenodol, wedi’u datblygu drwy ymgynghoriad cyhoeddus, ac sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd. Mae hon yn sail bwysig ar gyfer sefydlu consensws yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae set o feini prawf yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â phwy sy'n cael eu cofio ac ym mha ffordd.
Dylid cytuno ar feini prawf yn lleol, ond awgrymir y byddai fframwaith defnyddiol yn ystyried arwyddocâd, effaith a gwerthoedd.
Mae Cam 4 yn ymwneud â gweithredu
Dylai cyrff cyhoeddus fod yn barod i weithredu i gyflawni eu hamcanion a mynd i'r afael â'r materion a godir gan goffáu cyhoeddus. Dylai unrhyw gamau gael eu seilio ar sylfaen dystiolaeth dda. Dylai cyrff cyhoeddus fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei goffáu eisoes a bod yn ymwybodol o'r hyn a allai fod ar goll. Mae'r camau sydd ar gael yn cynnwys:
- dehongli sy'n galluogi cofebion cyhoeddus i ffurfio rhan o gofnod cytbwys, dilys wedi’i ddad-wladychu o’r gorffennol y disgwylir i gyrff cyhoeddus ei hyrwyddo
- tynnu ac adleoli, lle mae cytundeb y gallai lleoliad llai sensitif fod yn fwy priodol
- gwaith newydd sy'n rhoi cyfle i gofio am ffigurau neu ddigwyddiadau anghofiedig hyd yma, i anrhydeddu unigolion neu ddigwyddiadau diweddar, ac i ymestyn cynrychiolaeth gyhoeddus i'r cymunedau niferus sydd wedi cyfrannu at lunio Cymru.
Wrth gymryd y pedwar cam hyn, bydd cyrff cyhoeddus yn gallu cyflawni eu cyfrifoldeb o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ‘adolygu ac ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu yn ein mannau cyhoeddus a chasgliadau, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.’ Byddant yn gallu defnyddio digwyddiadau coffa cyhoeddus yn fwy cyffredinol hefyd i gyfrannu at Gymru wrth-hiliol, i ddyfnhau dealltwriaeth o'n gorffennol a'i gwaddol, ac i ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol.
Atodiad: cefndir
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru. Cafodd yr archwiliad ei gynhyrchu gan grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall. Ei fwriad oedd adnabod cofebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladu yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r fasnach gaethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig, yn ogystal â chael cipolwg ar gyfraniadau hanesyddol pobl o dreftadaeth Ddu i fywyd Cymreig.
Yn dilyn cyhoeddi'r archwiliad cafwyd adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, 'Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o rai o agweddau anoddach a phoenus ein hetifeddiaeth o’r gorffennol. Daethant i'r casgliad, er y dylai'r awdurdod am benderfyniadau sy'n ymwneud â cherfluniau, cofebion neu goffáu dadleuol fod yn nwylo awdurdodau lleol a chymunedau yn y pen draw, y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022. Mae cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am ‘gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddad-gwladychu o’r gorffennol - disgrifiad sy’n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol cymunedau lleiafrifoedd ethnig’.' Mae camau penodol i ‘adolygu ac ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu yn ein mannau cyhoeddus a chasgliadau, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.’
Paratowyd y canllawiau hyn fel cam nesaf wedi'r archwiliad gan Gaynor Legall ac mewn ymateb i argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ac i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae wedi elwa ar gyfres o weithdai wedi'u hwyluso gan ddod â sbectrwm eang o randdeiliaid at ei gilydd, ac mae'n cael ei lywio gan eu barn. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, addysg a'r byd academaidd, llywodraeth leol, y lluoedd arfog, grwpiau ffydd, grwpiau cadwraeth treftadaeth a phobl LHDTC+. Mae dyfyniadau gan gyfranogwyr y gweithdy yn ymddangos yn y testun drwyddo draw.
Rhagor o Wybodaeth
Cyffredinol
Commonwealth War Graves, 2021. 'Report of the Special Committee to Review Historical inequalities in Commemoration'. Maidenhead: Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
Rodney Harrison, 2013. 'Heritage: Critical Approaches'. Oxon, Routledge.
Olivette Otele, Luisa Gandolfo, Yoav Galai (gol), 2021. 'Post-Conflict Memorialization: Missing Memorials, Absent Bodies'. Llundain: Palgrave Macmillan.
Ben Stephenson, Marie-Annick Gournet a Joanna Burch-Brown, 2021. 'Reviewing contested statues, memorials and place names: Guidance for public bodies'. Bryste, Prifysgol Bryste.
Llywodraeth Cymru, 2021. Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o goffáu yng Nghymru. Caerdydd, Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru, 2022. Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru, 2021. Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, Caerdydd: Comisiwn y Senedd.
Astudiaethau achos
Cerfluniau Cydffederal, UDA
Memorialization of Robert E. Lee and the Lost Cause, US National Park Service.
Southern Poverty Law Centre, 2019. ‘Whose Heritage? Public Symbols of the Confederacy’ gan y Southern Poverty Law Centre.
Gwefan United Daughters of the Confederacy.
Ty Seidule, 2021. Robert E. Lee and Me: A Southerner's Reckoning with the Myth of the Lost Cause. Efrog Newydd, St Martin’s Publishing group.
Teddy Roosevelt, Efrog Newydd
Dinas Efrog Newydd, 2018. Mayoral advisory commission on city art, monuments, and markers: Report to the City of New York. Efrog Newydd, Dinas Efrog Newydd.
James Loewen, 1999. Lies across America: What our historic markers and monuments get wrong. Efrog Newydd, The New Press.
‘Addressing the statue’ tudalennau ar Wefan yr American Museum of Natural History.
Sinclaire Devereux Marber, 2019. ‘Bloody Foundation? Ethical and Legal Implications of (Not) Removing the Equestrian Statue of Theodore Roosevelt at the American Museum of Natural History’.
Margaret Thatcher, DU
Dawn Foster, 2019. A statue of Margaret Thatcher? No plinth will be too high for the vandals. The Guardian.
Will it ever go up? Plinth still awaits Thatcher statue in Grantham yn The Lincolnite (2021).
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2008. Crynodeb o ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar P-03-142: Deiseb i dynnu cerflun Margaret Thatcher o’r Senedd. Caerdydd, Llywodraeth Cymru.
Cerflun o Ferch dros Heddwch, Seoul
Thomas J.Ward a William D.Lay, 2019. Park Statue Politics: World War II Comfort Women Memorials in the United States. Bryste, E-international Relations.
David Shim, 2021. Memorials’ Politics: Exploring the material rhetoric of the Statue of Peace. Memory Studies. Thousand Oaks, SAGE Journals.
Comisiwn Hanes ‘We are Bristol’, Bryste
Cole, T. a Burch-Brown, J. et al. 2022. The Colston Statue: What Next? ‘We are Bristol’ History Commission Full Report. Bryste, Cyngor Dinas Bryste.
Gwybodaeth Amgueddfeydd Bryste.
Cais cynllunio am ail blac yn 2018.
Adroddiad Bristol Live ‘How the city failed to remove Edward Colston’s statue for years’.
Antonia Layard, 2021. Listing Controversy II: Statues, Contested Heritage and the Policy of ‘Retain and Explain’ . Bryste, Ysgol y Gyfraith Bryste.
Rhodes Must Fall, University of Cape Town
Britta Timm Knudsen a Casper Andersen, 2019. Affective politics and colonial heritage, Rhodes Must Fall at UCT and Oxford. Llundain,Taylor a Francis.
Amit Chaudhuri, 2016. The real meaning of Rhodes Must Fall. The Guardian.
Stolpersteine, Europe
Gwefan Stolpersteine
Natalie Bennie, 2019. The rhetoric of counter-monumentality: The Stolpersteine Project. Ann Arbor, Pro Quest.
Mary Seacole, Llundain
Gwefan Mary Seacole Trust.
Gwefan Nightingale Society.
Adebayo, Dotun MBE, 2015. ‘What Did Mary Seacole Ever Do For Us As Black People?’
Leopold II, Gwlad Belg
Gia Abrassart et al. 2022. For the decolonisation of public space in the Brussels-Capital Region: a framework for reflection and recommendations. Brwsel, Senedd Ranbarthol Brwsel.
Adam Hochschild, 2020. The fight to decolonize the museum. The Atlantic. Washington DC, The Atlantic.
Decade of Centenaries, Gogledd Iwerddon
Gwefan Decade of Centenaries gan y Community Relations Council, Belfast.
Jonathan Evershed, 2015. From Past Conflict to Shared Future?: Commemoration, peacebuilding and the politics of Loyalism during Northern Ireland’s "Decade of Centenaries". Cork, University College Cork.
Cofeb Picton, Caerfyrddin
Disgrifiad Rhestr Cadw.
Dylan Rees, 2020. Sir Thomas Picton (1758-1815): Hero and Villain? Caerfyrddin, Cymdeithas Hynafiaethau sir Gaerfyrddin.
Statues Redressed, Lerpwl
Gwefan Statues Redressed.
Parciau Cerfluniau, Hwngari ac India
Gwefan Szoborpark.
Gitta Hammarberg, 1995. Dead Statues – or alive? Signs of Ambivalence in Transition-Era Hungary. Berkeley, Macalester.
Matthew de Tar, 2015. National Identity After Communism: Hungary’s Statue Park. Llundain, Taylor a Francis.
Tom Wilkinson, LSE blog 2019 ‘Coronation Park and the Forgotten Statues of the British Raj’
Paul M. McGarr ,2015. ‘The Viceroys are Disappearing from the Roundabouts in Delhi’: British symbols of power in post-colonial India. . Caergrawnt, Cambridge University press.
Cerflunwaith a Chestyll Cymru
Cadw, 2023, ‘A king’s welcome to Caernarfon Castle’ in 'Heritage in Wales' rhifyn 76, Caerdydd, Llywodraeth Cymru.
Howard M. Williams, 2017, The Art of Failure at Flint, a gyhoeddwyd i awduron blog ‘Archaeodeath’.
Howard M. Williams, 2023, Hands of Memory: Caernarfon’s New Heritage Art, a gyhoeddwyd i awduron blog ‘Archaeodeath’.
Betty Campbell, Caerdydd
Gwefan Monumental Welsh Women.
Dolenni o'r ddogfen hon
Lle mae’r ddogfen hon yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid ystyried dolen fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth ar gynnwys neu argaeledd tudalennau cysylltiedig ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all godi yn sgil eich defnydd ohonynt.