Roedd y cynllun gweithredu yn nodi'r camau gweithredu a'r gweithgareddau tymor byr i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Coetiroedd i Gymru.
Dogfennau
Coetiroedd i Gymru: cynllun gweithredu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1004 KB
Manylion
Roedd y cynllun yn ymdrin â’r cyfnod o 5 mlynedd rhwng 2015-2020. Mae'n nodi’r:
- egwyddorion sylfaenol
- y mecanweithiau cyflawni, a’r
- camau â blaenoriaeth
a oedd eu hangen er mwyn gweithredu'r strategaeth. Roedd yn gwneud cynnydd tuag at wireddu’r weledigaeth a'r canlyniadau a amlinellir yn y strategaeth.
Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, Archwiliad Dwfn i Goed a Phren. Yn ystod yr archwiliad hwnnw, aeth tasglu o arbenigwyr ati i weithio gyda'i gilydd. Datblygon nhw'r Tasglu Coed a Phren: argymhellion i sbarduno newid. Roedd eu hargymhellion yn amlinellu'r blaenoriaethau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Coetiroedd Cymru.