Sut ydym am ddiogelu a datblygu'n coetiroedd dros yr 50 mlynedd nesaf.
Cynnwys
Strategaeth
Yn 2018, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Coetiroedd i Gymru, ein strategaeth 50 mlynedd ar gyfer coetiroedd a choed yng Nghymru.
Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru. Mae wedi'i greu o amgylch pedair thema strategol:
- ymateb i newid yn yr hinsawdd
- coetiroedd i bobl
- sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig
- ansawdd yr amgylchedd
Cynllun gweithredu
Mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r camau gweithredu a'r gweithgareddau tymor byr i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Coetiroedd i Gymru.
Mae'r cynllun yn cwmpasu cyfnod o 5 mlynedd. Mae'n nodi:
- egwyddorion sylfaenol
- mecanweithiau cyflawni, a
- camau blaenoriaeth
Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru'r cynllun gweithredu i ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma. Bydd y fersiwn diwygiedig yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Dangosyddion
Mae adroddiadau Dangosyddion Coetiroedd i Gymru yn mesur ein cynnydd tuag at y canlyniadau lefel uchel a ddisgrifir yn Coetiroedd i Gymru.
Mae'r 23 dangosydd yn ymdrin â newidiadau o ran ardal a natur coetiroedd a choed Cymru. Maent hefyd yn monitro'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn cynnwys:
- ffynonellau data
- y duedd a ddymunir ar gyfer pob dangosydd
- gwybodaeth sylfaenol, lle bo ar gael.
- sylwebaeth yn nodi perthnasedd, pwyntiau allweddol ac unrhyw nodiadau i roi cyd-destun i'r data