Neidio i'r prif gynnwy
Parc Gwledig Porthceri

Mae Parc Gwledig Porthceri yn fosaig cyfoethog o gynefinoedd coetir ar hyd arfordir de Cymru.

Mae gan y safle gysylltiadau da, gyda mynediad i'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n croesawu nifer fawr o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae gwella bioamrywiaeth ac atgyfnerthu ecosystem ei goetir yn amcanion canolog ar gyfer Parc Porthceri, ac mae'n gartref i rywogaethau prin fel y corryn cacwn a maenhad gwyrddlas. Yn nodedig, mae'r parc yn gadarnle hanfodol i'r Sarth, gydag amcangyfrif o 90% o boblogaeth y coed prin hyn yn y DU yma. Mae lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, fel erydu pridd a bygythiad rhywogaethau anfrodorol, yn hanfodol er mwyn gwarchod y rhywogaethau unigryw hyn.

Mae Parc Gwledig Porthceri yn cynnig amgylchedd coetir deinamig ac amlbwrpas, gan ddarparu digon o gyfleoedd ar gyfer hamdden, addysg amgylcheddol a gwirfoddoli. Mae Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri yn chwarae rhan ganolog wrth archwilio cynefinoedd a chadw cofnodion o brosiectau parhaus, gan ein galluogi i nodi tueddiadau, a llywio arferion rheoli ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle, Marcus Goldsworthy : 

"Mae Parc Gwledig Porthceri yn enghraifft wych o sut y gallwn ni gydbwyso cadwraeth â chyfranogiad y gymuned ag ymgysylltu â'r gym. Drwy warchod bioamrywiaeth unigryw'r parc a gwella ei gyfleusterau, rydyn ni'n creu amgylchedd cynaliadwy sydd o fudd i natur a phobl. Mae ein partneriaethau â sefydliadau amrywiol yn dangos effaith gadarnhaol hymdrechion ar y cyd i gyflawni ein nodau amgylcheddol."

Mae cydweithredu yn allweddol i lwyddiant y parc. Mae partneriaethau gyda sefydliadau fel y GIG, Banc Lloyds, Grŵp Afonydd Caerdydd, a Bowel Cancer UK yn gwella'r manteision ar gyfer defnyddwyr a'r amgylchedd. Mae'r grwpiau hyn yn cyfrannu cymorth gwerthfawr at amryw dasgau ar gyfer gwarchod cynefinoedd, gan gynnwys bondocio, plannu coed, clirio nentydd a rheoli dolydd.

Mae'r tîm o barcmyn ym Mharc Porthceri hefyd wedi bod yn bartner ag Innovate Trust ers dros wyth mlynedd. Mae'r cydweithredu hwn yn cefnogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd meddwl, gan gynnig cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan mewn tasgau cadwraeth a meithrin sgiliau amgylcheddol drwy weithgareddau amrywiol a rhaglenni hyfforddi.

Mae Parc Gwledig Porthceri yn enghraifft wych o gydweithio cymunedol ac ymdrechion cadwraeth pwrpasol, gan greu cynefin coetir bywiog sy'n parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

National Forest for Wales

Find out more about the National Forest for Wales and how you can get involved.