Neidio i'r prif gynnwy

Ein hymrwymiad yw creu rhwydwaith o goetiroedd ar hyd a lled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Croeso i Goedwig Genedlaethol i Gymru

Yn ystod gwanwyn 2020, cyhoeddwyd ein hymrwymiad i’r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn: 

  • creu ardaloedd o goetiroedd newydd
  • helpu i adfer a chynnal rhai o’n coetiroedd hynafol pwysig

Mewn amser, bydd yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd ledled Cymru. Bydd hyn yn dod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd coetiroedd newydd a reolir a grëwyd ar gyfer y Goedwig Genedlaethol yn:

  • darparu mannau ar gyfer hamdden a natur
  • helpu i ddal a storio carbon
  • darparu pren - adnodd cynaliadwy ar gyfer adeiladu

Mae creu Coedwig Genedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad hirdymor, sy'n rhychwantu degawdau lawer. Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i ddeall y ffordd orau o ddarparu'r Goedwig Genedlaethol. 

Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru

Rôl y Swyddogion Cyswllt yw helpu coetiroedd i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Mae chwe Swyddog Cyswllt wedi’u lleoli ledled Cymru. Maent yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddant yn helpu perchnogion coetiroedd i greu a gwella safleoedd coetir.

Gallant hefyd gyfeirio safleoedd coetir at gynlluniau perthnasol. Gallant gynnig cymorth gyda cheisiadau ar gyfer:

  • Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru
  • Y Grant Buddsoddi mewn Coetir
  • Coetiroedd Bach

Gall y cynlluniau hyn helpu coetiroedd i ddod yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Manylion cyswllt Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru:

Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru

Ar 23 Mehefin 2023, fe wnaethom agor Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi coetiroedd rhagorol i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sy’n berchen ar goetir yng Nghymru, neu sydd â rheolaeth drosto. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi:

  • ddangos sut mae eich safle yn cwrdd â Disgwyliadau Coedwig Genedlaethol Cymru
  • cael cynllun rheoli coetir ar waith

Cyn gwneud cais, mae angen i chi gysylltu â Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru.

Y Grant Buddsoddi mewn Coetir

Ar 13 Mehefin 2022, agorwyd ceisiadau ar gyfer cylch cyntaf y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot yn 2021.

Bydd y cynllun yn darparu cymorth ariannol i bobl i:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwella ac ehangu coetiroedd presennol

yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i fod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n:

  • cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur

Coetiroedd Bach

Ym mis Ebrill 2023 gwnaethon ni ddechrau derbyn ceisiadau am Grant Coetiroedd Bach. Bydd y grant yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025. Mae hyn yn dilyn cynnal cynllun peilot llwyddiannus yn 2020.

Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer pobl i greu coetiroedd bach. Rhaid i'r coetiroedd hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sydd

  • yn cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi'r cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur

Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais a dyddiadau ar gael (ar Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol).

Digwyddiad y Goedwig Genedlaethol - Eich Safbwyntiau a’ch Lleisiau

Cynhaliwyd cyfres o sesiynau trafod ar-lein 10 i 12 Mawrth 2021, i roi cyfle i bobl drafod Coedwig Genedlaethol Cymru.    

Agorodd y Prif Weinidog y digwyddiad tri diwrnod ar-lein. Cyhoeddodd brosiect arddangos newydd i gynyddu nifer safleoedd enghreifftiol Coedwigoedd Cenedlaethol ledled Cymru.  Coetiroedd fydd y rhain yn ogystal â'r rhai ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd y coetiroedd hyn yn ein helpu i gyflawni ein canlyniadau Goedwig Genedlaethol. Maent hefyd yn cydnabod yr amser, yr ymdrech a'r brwdfrydedd y mae cynifer o bobl yn eu rhoi i reoli ein coetiroedd gwych.  

Yn ogystal â hyn bydd cyllid ar gael i:

  • wella coetiroedd i safon Coedwigoedd Cenedlaethol yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer 
  • ardaloedd coetiroedd newydd.  

Bydd rhagor o fanylion yn dilyn dros y misoedd nesaf.

Mae recordiadau o'r digwyddiad ar gael ar ein rhestr chwarae YouTube Coedwig Genedlaethol Cymru.

Casgliad y Werin

Mae Casgliad y WerinCyn dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru. Casgliad o adnoddau sy'n cysylltu â hanes, diwylliant a phobl Cymru ydyw. Gall unrhyw un gyfrannu ato.

Mae rhaglen y Goedwig Genedlaethol yn cydweithio â:

  • yr Amgueddfa Genedlaethol
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a
  • Chomisiwn Brenhinol henebion Cymru

i greu Casgliad y Werin y Goedwig Genedlaethol i Gymru.  Bydd creu ardal bwrpasol i’r Goedwig Genedlaethol ar Gasgliad y Werin Cymru yn galluogi cymunedau i ymgysylltu â’i gilydd.  Gallant goladu atgofion, naratif a chyfryngau ar eu cysylltiadau personol â choed.

Ewch i Gasgliad y Werin y Goedwig Genedlaethol

Os oes gennych gyfraniad ar gyfer y casgliad, e-bostiwch nationalforestwales@llyw.cymru

 

Safleoedd y Goedwig Genedlaethol hyd yma

Yn hydref 2020 cyhoeddwyd y 14 safle Coedwig Cenedlaethol cyntaf.

Mae'r safleoedd hyn yn nodi dechrau ein hymrwymiad. Maent yn rhan o'n hystâd, ac yn cael eu rheoli a'u cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Eleni, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i edrych ar goetiroedd newydd  a rhai sy’n bodoli eisoes. Byddwn yn trafod y nodweddion a'r manteision y mae angen iddynt eu darparu i fod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.

Gweld map o'r holl safleoedd.