Neidio i'r prif gynnwy

1. Awdurdod statudol

(a) Gwneir y dyfarniad Cyllid hwn ar yr Amodau ac yn ddarostyngedig iddynt, ac o dan awdurdod Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru, sy’n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

2. Dehongli’r Amodau hyn

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Amodau hyn at:

chi’, eich’ yn gyfeiriad at enw a chyfeiriad cofrestredig derbynnydd y grant fel y nodwyd yn y Contract

ni’, ‘ein’ yn cyfeirio at Weinidogion Cymru;

Cais’ yn cyfeirio at eich cais am Gyllid

Diwrnod Busnes’ yn cyfeirio at ddiwrnod heblaw am ddydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;

Amodau’ yn cyfeirio at y telerau ac amodau a bennir yn y contract;

‘Costau a ysgwyddir' yn cyfeirio at gost y nwyddau a/neu’r gwasanaethau yr ydych wedi’u cael ni waeth a ydych wedi talu amdanynt erbyn dyddiad eich hawliad;

Costau a ysgwyddir ac a dalwyd’ yn cyfeirio at y gost ar anfoneb ar gyfer y nwyddau a/neu’r gwasanaethau yr ydych wedi’u cael ac y talwyd amdanynt gennych chi drwy arian cliriedig erbyn dyddiad eich hawliad;

Digwyddiad Hysbysadwy’ yn cyfeirio at unrhyw ddigwyddiad a restrir yn Atodlen 3;

Proffil Cyflawni’ yn cyfeirio at y proffil cyflawni a osodwyd pan ydych yn llofnodi’r Contract

Personél’ yn cyfeirio at eich rheolwyr/cyflogeion a chyflenwyr neu unrhyw berson arall a benodir neu a gyflogir gennych mewn perthynas â’r Dibenion;

bydd unrhyw gyfeiriad at ddeddfwriaeth boed yn gyfraith ddomestig neu ryngwladol yn cynnwys yr holl ddiwygiadau ac amnewidiadau ac ailddeddfiadau o’r cyfryw ddeddfwriaeth sydd mewn grym o bryd i’w gilydd.
 

3. Yr hyn y mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r Cyllid ar ei gyfer

(a) Rhaid i chi ddefnyddio’r Cyllid at y dibenion hynny, yn unig, a bennir yn y Contract (y “Dibenion”). 

(b) Rhaid i chi gyflawni’r dangosyddion a’r canlyniadau a bennir yn y Contract (y “Targedau”).

(c) Os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Dibenion neu’r Targedau, bydd angen i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig cyn gweithredu’r newidiadau hyn. Nodwch nad oes rhaid i ni roi caniatâd, ond byddwn yn ystyried pob cais ysgrifenedig rhesymol.

(d) Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer unrhyw fath o weithgaredd a allai ddwyn anfri arnom yn ein barn ni, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i (1) dibenion gwleidyddiaeth plaid, (2) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol, (3) gamblo, (4) pornograffi, (5) cynnig gwasanaethau rhywiol, neu (6) unrhyw fath o weithgareddau anghyfreithlon.

(e) Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer: (1) prynu cyfarpar cyfalaf (ac eithrio fel y pennir yn y Dibenion), (2) eich ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â’r llythyr hwn, (3) Costau a Ysgwyddir neu Gostau a Ysgwyddir ac a Dalwyd gennych wrth gyflawni’r Dibenion cyn y cyfnod y cyfeirir ato yn y Contract.

4. Rhagamodau’r Cyllid

a) Ni fyddwn yn talu unrhyw ran o’r Cyllid i chi nes byddwch chi wedi derbyn y Contract ar RPW Ar-lein o fewn 30 diwrnod o ddyddiad y cynnig. 

b) Pan fydd angen i chi ddarparu gwybodaeth a dogfennau i ni fel tystiolaeth eich bod wedi bodloni Amod Arbennig benodol neu i ategu hawliad, rhaid i’r wybodaeth a’r dogfennau fod yn dderbyniol i ni ym mhob ffordd. Yr ydym yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw wybodaeth a dogfennau nad ydynt yn dderbyniol i ni am unrhyw reswm, a/neu ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau pellach neu ychwanegol i gefnogi’r cais am Gyllid.

5. Sut i hawlio’r Cyllid

a) Mae’r cyllid yn ymwneud â’r cyfnod a nodir yn eich contract a rhaid ei hawlio yn llawn erbyn 31/03/2022 neu ni fydd unrhyw rhan o’r Cyllid nad yw’n cael ei hawlio bellach ar gael i chi.

b) Rhaid i chi hawlio’r Cyllid yn ôl-weithredol a hynn’n seiliedig ar y Costau a Ysgwyddwyd ac a dalwyd gennych wrth gyflawni’r Dibenion yn unol â’r dyddiadau a nodwyd yn y Proffil Cyflawni. Rhaid i chi hawlio’r Cyllid yn brydlon. Yr ydym yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl unrhyw ran o’r Cyllid na fyddwch wedi’i hawlio’n brydlon. 

c) Rhaid ichi gyflwyno eich hawliadau drwy eich cyfrif RPW Ar-lein  gyda’r holl dystiolaeth ategol i fod yn gymwys i gael eich ystyried am daliad.

d) Rhaid ichi gyflwyno anfonebau a thystiolaeth ategol i gefnogi eich hawliad drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

e) Byddwn yn anelu at dalu pob hawliad dilys cyn gynted ag y bo modd ac fel arfer o fewn 30 Diwrnod Busnes ar ôl derbyn hawliad dilys a wnaed yn unol â’ch Contract, a bob amser cyhyd â bod rhag-amodau’r Cyllid a nodir yn Amod 5 uchod wedi’u bodloni ac, ar ddyddiad yr hawliad a dyddiad talu’r Cyllid i chi:

  1. fod y datganiadau a wnaed yn Amod 8 isod yn wir ac yn gywir ac y byddant yn wir ac yn gywir yn union ar ôl i’r Cyllid perthnasol gael ei dalu i chi; a
  2.  nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu nad oes posibilrwydd i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o’r Cyllid arfaethedig.

6. Eich ymrwymiadau cyffredinol chi i ni

(a) diogelu’r Cyllid rhag twyll yn gyffredinol ac, yn benodol, twyll ar ran eich Personél, a rhaid ichi ein hysbysu ni ar unwaith os bydd gennych reswm i amau bod twyll wedi digwydd yn eich sefydliad, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd, p'un ag ydyw'n ymwneud â'r Cyllid ai peidio. Rhaid i chi hefyd gymryd rhan yn y cyfryw fentrau atal twyll ag y byddwn yn eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd:

(b) cynnal gweithdrefnau priodol ar gyfer delio ag unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn rhai gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig;

(c) cydymffurfio â phob cyfraith a rheoliad domestig neu ryngwladol perthnasol, a chyfarwyddebau swyddogol;

(d) trefnu a pharhau i gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd a gaiff eu gwneud wrth gyflawni’r Dibenion.  Yr ydym yn cadw’r hawl i’w gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant;

(e) sefydlu a chynnal systemau ariannol, risg a rheoli priodol cyn defnyddio unrhyw ran o’r Cyllid i ddarparu grant neu i gaffael unrhyw nwyddau neu wasanaethau o drydydd parti;

(f)  cydweithredu’n llawn â'r Swyddog Llywodraeth Cymru ac unrhyw un o gyflogeion eraill Llywodraeth Cymru neu unrhyw ymgynghorydd a benodir gennym ni i fonitro’r modd y defnyddiwch y Cyllid a’ch cydymffurfiaeth â’r Amodau hyn;

(g) rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd unrhyw ddatganiad a wnaed yn Amod 8 yn anghywir mewn unrhyw fodd neu, o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir;

(h) rhoi gwybod i ni am unrhyw gyllid yr ydych wedi’i gael o unrhyw ffynhonnell a gaffaelir neu a ddefnyddir ar y cyd â’r Cyllid i gefnogi’r Dibenion yn uniongyrchol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’ch darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU drwy gyfnod y Coronafeirws a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw gyllidwyr eraill. Bwriad yr Amod hwn yw osgoi cyllid dyblyg mewn perthynas â’r Dibenion.

(i) Peidio â gwaredu, trosglwyddo neu wasgaru unrhyw offer a/neu ased a gaffaelwyd o fewn 5 mlynedd i Ddyddiad Diwedd y Prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig y grantwr ymlaen llaw.
 

7. Datganiadau

Yr ydych yn datgan: 

(a) bod gennych y pŵer i ymgymryd â’r rhwymedigaethau a bennir yn yr Amodau hyn a’u cyflawni, a’ch bod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i awdurdodi ymgymryd â’r rhwymedigaethau a’u cyflawni o dan yr Amodau hyn;

(b) na ragorir ar unrhyw gyfyngiad ar eich pwerau o ganlyniad i hawlio’r Cyllid, nac o ganlyniad i roi unrhyw sicrwydd a ystyrir gan yr Amodau;

(c) nad yw ac na fydd ymgymryd â’r llythyr hwn, ei gyflawni gennych chi na’r trafodiadau a ystyrir ganddo yn mynd yn groes i’r canlynol nac yn gwrthdaro â’r canlynol:

  1. eich dogfennau cyfansoddiadol;
  2. unrhyw gytundeb neu offeryn sy’n rhwymol arnoch chi neu’ch asedau neu sy’n gyfystyr â digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn o’r fath; neu
  3. unrhyw ddeddf neu reoliad neu orchymyn barnwrol neu swyddogol, sy’n gymwys i chi;

(d) nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu na ddisgwylir yn rhesymol i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o ddarparu’r Cyllid ac nad oes digwyddiad nac amgylchiad arall sy’n gyfredol sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, gyda therfyn ar gyfnod gras, rhoi hysbysiad, gwneud unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyfuniad o’r pethau hyn, yn gyfystyr â) digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch chi neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo;

(e) nad oes achos o ymgyfreitha na chymrodeddu nac achos gweinyddol ar y gweill, yn yr arfaeth, nac wedi’i fygwth hyd y gwyddoch, sy’n cael, neu a allai gael, effaith anffafriol ar eich gallu i gyflawni a chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o’r Amodau hyn;

(f) bod datgeliad llawn wedi’i wneud i ni o’r holl ffeithiau neu amgylchiadau perthnasol y mae’n ofynnol eu datgelu er mwyn sicrhau y gallwn gael darlun gwir a chywir o’ch busnes a’ch gweithgarwch (cyfredol ac arfaethedig), neu y dylid eu darparu i unrhyw berson sy’n ystyried darparu cyllid i chi;

(g) bod unrhyw wybodaeth, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, a ddarparwyd gennych chi i ni mewn cysylltiad â’r Cyllid, ar yr adeg y’i darparwyd neu’r dyddiad y nodwyd ei bod wedi’i darparu (yn ôl y digwydd): 

  1.  yn achos gwybodaeth ffeithiol, yn gyflawn, yn wir ac yn gywir ym mhob agwedd berthnasol;
  2.  yn achos amcanestyniad neu ragamcan ariannol, wedi’i pharatoi ar sail gwybodaeth hanesyddol ddiweddar ac ar sail tybiaethau rhesymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus;
  3.  yn achos barn neu fwriad, wedi’i gwneud ar sail resymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus a’i bod yn deg; a
  4.  nad yw gwybodaeth o’r fath yn gamarweiniol mewn unrhyw agwedd berthnasol, nac yn cael ei gwneud yn gamarweiniol gan fethiant i ddatgelu gwybodaeth arall,
  5. ac eithrio i’r graddau y cafodd ei diwygio, ei disodli neu ei diweddaru gan wybodaeth ddiweddarach a ddarparwyd gennych chi i ni.

(h) nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn rhai gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig;
(i)    na fydd derbyn y dyfarniad hwn o Gyllid yn arwain at gyllid dyblyg mewn perthynas â’r gweithgareddau angenrheidiol i gyflawni’r Dibenion. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw daliadau yr ydych wedi’u cael mewn perthynas ag effeithiau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19) gan eich darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU drwy gyfnod y Coronafeirws a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw gyllidwyr eraill.
(j) Ystyrir y byddwch wedi ailadrodd y datganiadau yn yr Amod 8 hwn ar bob dyddiad pan allai fod gennych rwymedigaeth i ad-dalu’r dyfarniad Cyllid i ni, a thrwy gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau sy’n bodoli ar ddyddiad o’r fath.
 

8. Digwyddiadau Hysbysadwy a’u canlyniadau

(a) Rhaid i chi ein hysbysu ni ar unwaith o unrhyw Ddigwyddiad Hysbysadwy sydd wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd ond yr ydym ni hefyd yn cadw'r hawl i'ch hysbysu chi pan fyddwn ni o'r farn bod Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd;

(b) Byddwn naill ai 

  1.  yn eich hysbysu chi ein bod ni'n ystyried, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, nad oes modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy; neu 
  2.  os byddwn ni'n ystyried, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, fod modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy, yn ceisio trafod y Digwyddiad Hysbysadwy â chi gyda'r bwriad o gytuno ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy.

(c) Mae hawl gennym gymryd unrhyw un o’r camau a restrir yn Amod 9(d):

  1.  os na fyddwn, er gwaethaf ein hymdrechion, wedi llwyddo i drafod y Digwyddiad Hysbysadwy gyda chi; neu
  2.  os byddwn yn eich hysbysu nad oes modd unioni’r Digwyddiad Hysbysadwy yn ein barn ni; neu
  3.  os na chytunir gyda chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni; neu
  4.  os cytunir gyda chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni a chithau wedyn yn peidio â dilyn y camau hynny, neu os na fodlonir unrhyw amod sy’n gysylltiedig â’r camau gweithredu (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, yr amserlen ar gyfer y cyfryw gamau gweithredu) mewn modd sydd wrth ein bodd ni; neu
  5. os yw’r ffordd o weithredu yn methu ag unioni’r Digwyddiad Hysbysadwy mewn modd sydd wrth ein bodd ni.

(d) Os digwydd unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn Amod 9(c) gallwn eich hysbysu, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, ein bod yn gweithredu fel a ganlyn: 

  1.  tynnu'r dyfarniad Cyllid yn ôl; a/neu 
  2.  ei gwneud yn ofynnol eich bod yn ad-dalu’r cyfan neu ran o’r Cyllid; a/neu
  3.  atal dros dro neu’n derfynol bob taliad pellach o’r Cyllid; a/neu 
  4.  gwneud pob taliad pellach o’r Cyllid yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a bennir gennym ni; a/neu 
  5.  tynnu pob swm sy’n ddyledus i ni o dan yr Amodau hyn o unrhyw gyllid arall yr ydym wedi’i ddyrannu i chi neu a allai gael ei ddyrannu i chi; a/neu
  6.  arfer yn eich erbyn unrhyw hawliau eraill a allai fod gennym mewn perthynas â’r Cyllid.

(e) Rhaid i bob ad-daliad Cyllid gael eu gwneud cyn pen 20 Diwrnod Busnes i ddyddiad ein gorchymyn. 
 

9. Gofynion monitro

Rhaid i chi:

(a) darparu i ni’r cyfryw ddogfennau, gwybodaeth ac adroddiadau y gallwn yn rhesymol ofyn amdanynt o bryd i’w gilydd, er mwyn i ni fonitro eich cydymffurfiaeth chi â’r Amodau gan gynnwys:

  1. adroddiad cynnydd gan gynnwys gwariant a ragwelir yn y  dyfodol.

(b) cyfarfod â'r Swyddog Llywodraeth Cymru a pha bynnag rai eraill o’n cynrychiolwyr y gallwn yn rhesymol ofyn ichi eu cyfarfod o bryd i’w gilydd.
 

10. Gofynion archwilio

(a) Rhaid i chi:

  1.  cynnal cofnodion cyfrifyddu cyflawn, cywir a dilys sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r Dibenion;
  2.  yn ddi-dâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl i chi dderbyn cyfnod rhesymol o rybudd (dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi), ymweld â’ch mangre a/neu arolygu unrhyw un neu rai o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha bynnag ddogfennau neu gofnodion eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r modd y defnyddiwch y Cyllid. Nid yw’r ymgymeriad hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac y mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny;
  3.  cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r cais a’r holl ddogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â’r Cyllid am saith mlynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo

(b) O dan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad eang i ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud ag arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae pŵer ganddo ef a’i swyddogion i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol, sy’n rheoli neu’n dal dogfennau, roi pa bynnag gymorth, gwybodaeth ac esboniadau y gofynnant amdanynt; a’i gwneud yn ofynnol i’r personau hynny ymddangos ger eu bron i’r cyfryw ddiben.  Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar unrhyw adeg resymol.

11. Rhwymedigaethau i drydydd partïon

(a) Nid oes dim yn yr Amodau hyn sydd yn gosod unrhyw rwymedigaeth arnom ni mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth sy’n ddyledus gennych chi i unrhyw drydydd parti (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, cyflogeion a chontractwyr).

(b) Rhaid i chi ein hindemnio ni rhag unrhyw rwymedigaethau, hawliadau, achosion cyfreithiol, galwadau am dâl, colledion, costau a threuliau, y bu i ni eu dioddef neu eu hachosi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o ganlyniad i neu mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant ar eich rhan chi i gyflawni, yn llawn neu’n rhannol, unrhyw rwymedigaeth a allai fod arnoch i drydydd parti.

12. Hawliau eiddo deallusol a chyhoeddusrwydd

(a) Nid oes dim yn yr Amodau hyn yn trosglwyddo i ni unrhyw hawliau mewn eiddo deallusol a grëir gennych chi o ganlyniad i’r Dibenion.

(b) Rhaid i chi gydnabod y cymorth a gewch gennym ni mewn perthynas â’r Dibenion. Rhaid i’r gydnabyddiaeth honno fod ar ffurf a gymeradwyir gennym ni, a rhaid iddi gydymffurfio â chanllawiau brandio Llywodraeth Cymru.

(c) Rhaid ichi ddarparu i'r Swyddog Llywodraeth Cymru fanylion pob cymeradwyaeth a restrir yn Amod 13(b) i’w cymeradwyo gennym ni cyn defnyddio'r cyfryw ddeunydd ac ni chaniateir ichi ddefnyddio manylion o’r fath heb gael ein cymeradwyaeth ysgrifenedig ni ymlaen llaw. Byddwn yn ceisio ymateb i bob cais ysgrifenedig o fewn 14 Diwrnod Busnes.

(d) Yr ydych yn cytuno bod hawl gennym, o ddyddiad y llythyr hwn hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y Cyllid gynnwys manylion eich sefydliad a’ch busnes chi, a'r Cyllid a’r Dibenion mewn deunyddiau hyrwyddo ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac yr ydych yn cytuno ymhellach i gydweithredu â cheisiadau rhesymol gennym ni at y diben o baratoi deunyddiau o’r fath.  
 

13. Gwybodaeth

(a) Yr ydych yn cydnabod ein bod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (yr “FOIA”), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr “EIR”), Deddf Diogelu Data 2018 (y “DPA”) a fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((EU) 2016/679) (“GDPR y DU”).

(b) Yr ydych yn cydnabod mai ni sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn absoliwt a ddylid:

  1.  datgelu unrhyw wybodaeth a gawsom o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid, i’r graddau y mae’n ofynnol ein bod yn datgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan yr FOIA neu’r EIR; a/neu
  2.  esemptio unrhyw wybodaeth o’r gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR.

(c) Yr ydych yn cydnabod y gallwn rannu unrhyw ddata yr ydych yn eu darparu i ni ag asiantaethau gwrth-dwyll a thrydydd partïon at ddibenion atal a datgelu twyll. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd sydd ar gael yn llenyddiaeth canllawiau'r cynllun yma cynllun Y Grant Buddsoddi mewn Coetir
 

14. Prynu nwyddau a gwasanaethau

Rhaid i chi fodloni gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus, sydd ar gael ar y ddolen hon Rhaglen Datblygu Gwledig / Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 i 2020: canllaw technegol i tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus | LLYW.CYMRU

15. Hysbysu

(a) Rhaid i bob hysbysiad a roddir o dan yr Amodau hyn fod mewn ysgrifen drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

(b)  Ystyrir bod hysbysiad wedi’i gyflwyno’n briodol fel a ganlyn:-

Drwy RPW Ar-lein: ar yr adeg y’i trawsyrrir, neu’r Diwrnod Busnes nesaf os trawsyrrir ar ôl 4pm neu ar benwythnos neu wyliau cyhoeddus. 

16. Cydraddoldeb

Rhaid ichi fod â pholisïau cydraddoldeb ar waith ynghylch cyflogaeth, defnyddio gwirfoddolwyr a darparu gwasanaethau, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

17. Y Gymraeg

(a) Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ac mae strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg yn darparu gweledigaeth ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ymhellach.

(b) Pan fo’r Dibenion yn cynnwys neu’n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg oni bai ei bod yn afresymol neu’n anghymesur gwneud hynny. Rhaid iddynt gael eu darparu mewn modd nad yw'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  

(c) Pan fo darpariaeth gwasanaethau yn ffurfio rhan o’r Dibenion, rhaid i chi weithredu’n unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac amcanion Cymru 2050. Yn ymarferol, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  1.  Sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig a gynhyrchir, gan gynnwys deunydd digidol, yn ddwyieithog.
  2.  Sicrhau bod unrhyw arwyddion yn ddwyieithog.
  3.  Sicrhau y cynhelir unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi neu ddigwyddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog.
  4. Hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn weithredol (gan gynnwys darparu gwasanaethau a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg) o fewn gweithgareddau a ariennir.

(d) I gael cyngor cyffredinol ynghylch darparu gwasanaethau’n ddwyieithog ac i gael gwybodaeth am sefydliadau a all eich helpu, cysylltwch â “Helo Blod”, sef gwasanaeth sy’n rhoi cyngor ar y Gymraeg, drwy ffonio 03000 258888 neu e-bostio heloblod@llyw.cymru

18. Datblygu cynaliadwy

Rhaid i’r modd y defnyddiwch y Cyllid gyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi weithio mewn modd cynaliadwy (yr egwyddor datblygu cynaliadwy) wrth gyflawni'r Dibenion er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd ataliol, integredig, hirdymor a chydweithredol sy'n cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

19. Swyddogaethau Gweinidogion Cymru

Yr ydych yn cydnabod bod gan Weinidogion Cymru ystod o swyddogaethau a fydd yn parhau i gronni a chael eu diwygio, a bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â phob swyddogaeth unigol yng ngoleuni’r holl ystyriaethau perthnasol, gan eithrio pob ystyriaeth amherthnasol. Yr ydych yn cytuno na fydd dim sy’n gynwysedig yn yr Amodau hyn neu sydd ymhlyg ynddynt, neu sy’n codi oddi tanynt neu mewn cysylltiad â hwy, mewn unrhyw fodd yn niweidio, yn llyffetheirio, neu’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu unrhyw rai ohonynt, nac yn rhwymo Gweinidogion Cymru, neu unrhyw rai ohonynt i arfer eu swyddogaethau, neu ymatal rhag eu harfer, mewn unrhyw fodd penodol.

20. Cyffredinol

(a) Os digwydd i unrhyw un o’r Amodau hyn, ar unrhyw adeg, fynd, neu gael ei ystyried, yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy mewn unrhyw fodd o dan unrhyw gyfraith, nid effeithir ac nid amherir mewn unrhyw fodd ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb a gorfodadwyedd gweddill y darpariaethau. 

(b) Ni fydd methiant neu oedi ar ein rhan ni i arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi o dan yr Amodau hyn yn gweithredu fel hepgoriad o’r cyfryw bŵer, hawl neu rwymedi, nac yn ein rhwystro rhag arfer y cyfryw bŵer, hawl neu rwymedi ymhellach, neu arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi arall. Mae’r pwerau, yr hawliau neu’r rhwymedïau a ddarperir drwy hyn yn rhai cronnus, ac nid ydynt yn eithrio unrhyw bwerau, hawliau neu rwymedïau a ddarperir drwy gyfraith.

(c) Rhaid i unrhyw ddiwygiad neu amrywiad i’r Amodau hyn fod yn ysgrifenedig a’i roi gennym ni ichi dderbyn Contract diwygiedig drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.  

(d) Ni chaniateir ichi aseinio, na gwaredu mewn unrhyw ffordd arall, eich hawliau, eich buddion, eich rhwymedigaethau na’ch dyletswyddau o dan yr Amodau hyn.

(e) Bydd Amodau 7, 9, 11, 13, 14, a 21(e), a’r cyfryw Amodau eraill y mae angen iddynt, drwy oblygiad, barhau y tu hwnt i daliad olaf y Cyllid, yn parhau felly yn eu llawn rym ac effaith.

(f) I chi yn unig y gwneir y dyfarniad Cyllid ac nid oes gan neb arall hawl i wneud unrhyw hawliad mewn perthynas â’r Cyllid, nac ychwaith i ddibynnu ar unrhyw rai o’r Amodau hyn neu eu gorfodi.

(g) Dan amgylchiadau lle’r ydych yn cynnwys dau neu fwy o bersonau neu gyrff, bydd rhwymedigaethau’r personau neu’r cyrff hynny ar y cyd ac yn unigol, ac fe fydd diffygdalu ar ran un o’r personau neu gyrff yn cael ei gyfrif yn ddiffygdalu gan bob un.

(h) Llywodraethir a dehonglir yr Amodau hyn, ac unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau digontract) sy’n codi mewn cysylltiad â, neu yn sgil, eu ffurfio neu eu maes pwnc, yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru, ac y mae’r partïon i’r Amodau hyn yn ymostwng i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr. 

Atodiad 1 Digwyddiadau Hysbysadwy

1. bod ad-dalu unrhyw ran o’r Cyllid yn ofynnol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol;  

2. eich bod yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o’r Amodau; 

3. nad yw’r Cyllid, yn llawn neu’n rhannol, yn cael ei ddefnyddio at y Dibenion;

4. eich bod yn methu â chyrraedd unrhyw un neu’r cyfan o’r Targedau;

5. bod cynnydd anfoddhaol tuag at gwblhau’r Dibenion, gan gynnwys bodloni’r Targedau;

6. eich bod yn methu â darparu gwybodaeth am y Dibenion yr ydym ni neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw rai o’i archwilwyr, asiantau neu gynrychiolwyr, yn gofyn amdani;

7. bod rheswm gennym gredu eich bod chi a/neu unrhyw rai o'ch Personél yn cymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus neu wedi bod yn rhan o weithgarwch twyllodrus [wrth i'r Dibenion gael eu cyflawni];

8. ein bod ni wedi gordalu Cyllid i chi;

9. bod cyllid dyblyg mewn perthynas ag unrhyw ran o’r Dibenion. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw daliadau yr ydych wedi’u cael mewn perthynas ag effeithiau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19) gan eich darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU drwy gyfnod y Coronafeirws a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan Lywodraeth Cymru.

10. bod unrhyw ddatganiad a wnaed yn Amod 8 yn anghyflawn, yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fodd, neu y profir ei fod felly, neu o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir; 

11. bod addasiad i farn yr archwilydd (sy’n golygu bod y farn honno yn un amodol, yn anffafriol neu dan ymwadiad) am eich datganiadau ariannol;

12. bod digwyddiad neu amgylchiad wedi codi sy’n gyfredol ac sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, gyda therfyn ar gyfnod gras, rhoi hysbysiad, gwneud unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyfuniad o’r pethau hyn, yn gyfystyr â) digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch chi neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo;

13. bod moratoriwm mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw un o’ch dyledion neu’ch asedau, neu fod compównd neu gytundeb gyda’ch credydwyr, wedi’i gytuno, ei orchymyn neu’i ddatgan;  

14. eich bod yn atal neu’n gohirio talu unrhyw ddyledion neu nad ydych yn gallu talu’ch dyledion, neu eich bod yn cyfaddef yn ysgrifenedig nad ydych yn gallu talu eich dyledion; 

15. bod gwerth eich asedau yn llai na’ch rhwymedigaethau (gan ystyried rhwymedigaethau digwyddiadol a darpar rwymedigaethau);

16. eich bod yn dechrau negodiadau, neu’n ymgymryd ag unrhyw gompównd, cytundeb cyfaddawdol, aseiniad neu drefniant, gydag un neu ragor o’ch credydwyr gyda golwg ar ad-drefnu unrhyw un neu ragor o’ch dyledion (oherwydd anawsterau ariannol gwirioneddol neu ddisgwyliedig);

17. bod unrhyw gamau, achos neu weithdrefn yn cael eu cymryd mewn perthynas â chi ynghylch:
(a) gohirio taliadau, moratoriwm mewn perthynas ag unrhyw ddyled, dirwyn i ben, diddymu, mynd i ddwylo gweinyddwyr neu ad-drefnu (gan ddefnyddio trefniant neu gynllun gwirfoddol neu fel arall); neu
(b) compównd, cytundeb cyfaddawdol, aseiniad neu drefniant gydag unrhyw un neu ragor o’ch credydwyr; neu
(c) penodi diddymwr, derbynnydd, derbynnydd gweinyddol, gweinyddwr, rheolwr gorfodol neu swyddog tebyg arall mewn perthynas â chi neu unrhyw un neu ragor o’ch asedau.

18. bod archeb statudol yn cael ei rhoi yn eich erbyn; 

19. eich bod chi’n rhoi’r gorau, neu’n bygwth gohirio neu roi’r gorau, i gynnal y cyfan neu ran berthnasol o’ch busnes; 

20. bod newid yn eich cyfansoddiad, eich statws, eich rheolaeth neu’ch perchnogaeth a/neu fod un o’ch archwilwyr allanol yn ymddiswyddo;

21. eich bod yn methu â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau adrodd statudol sy’n gymwys i chi (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ofynion ffeilio ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol);

22. bod unrhyw newid, parhaol neu dros dro, yn eich cyfranddalwyr, eich cyfarwyddwyr, eich ymddiriedolwyr neu’ch partneriaid a/neu Bersonél a all effeithio ar eich gallu i gyflawni’r Dibenion;

23. bod unrhyw ddigwyddiad, neu unrhyw amgylchiadau’n codi, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallai darparu’r Cyllid, a/neu barhau â’r trefniadau a ystyrir gan y llythyr hwn, ddwyn anfri arnom.

24. bod unrhyw ddigwyddiad, neu unrhyw amgylchiadau’n codi, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallech beidio â chyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw un o’ch rhwymedigaethau o dan yr Amodau hyn, neu y gallech fod yn analluog i wneud hynny.

Fersiwn 1: 8 November 2021