Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn cymryd cam arall ymlaen heddiw wrth i gynllun newydd gael ei lansio a fydd yn galluogi mwy o goetiroedd i fod yn rhan o’r rhwydwaith.
Mae Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn arwain y ffordd i goedlannau nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru ddod yn rhan o’r Goedwig.
Gallai’r rhain fod yn goetiroedd bach trefol neu goetiroedd cymunedol, tir preifat neu ffermydd, ardaloedd mawr o dir sy’n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau, neu goetiroedd sy’n cynhyrchu pren.
Bydd unrhyw berchennog tir neu reolwr tir yn gallu gwneud cais i’r cynllun a bydd unrhyw fath o goetir sy’n cael ei reoli’n dda yn gymwys, o goetiroedd newydd i goetiroedd hynafol.
Lansiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y cynllun yn ystod ymweliad â Choetir Bach Pencoetre yn y Barri, coetir bach newydd, a’r safle coetir cyntaf nad yw’n eiddo i Lywodraeth Cymru i gael statws Coedwig Genedlaethol Cymru.
Dywedodd:
“Rydym yn lwcus fod gennym gymaint o goetiroedd sy’n ffynnu ledled Cymru. Rydym am eu gwarchod a’u helpu i ffynnu, gan gynyddu eu bioamrywiaeth a chryfhau eu hecosystemau.
“Mae manteision clir i wneud hynny – agor mwy o fannau awyr agored, sy’n dda ar gyfer ein lles, yn ogystal â chreu cyfleoedd swyddi gwyrdd newydd.
“Mae creu Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhan allweddol o’r camau gweithredu y mae’n rhaid inni eu cymryd nawr er mwyn sicrhau ein bod ar y llwybr iawn i ddod yn genedl sero net erbyn 2050.”
Yn 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru, i greu ardaloedd newydd o goetiroedd a helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru, gydag ecosystemau cysylltiedig. Yn y dyfodol bydd cyfleoedd hefyd i dyfu pren Cymreig yn gynaliadwy.
Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:
“Mae cyhoeddiad heddiw yn golygu ein bod ar y ffordd i greu rhwydwaith gysylltiedig o goetiroedd ledled Cymru, drwy’r Goedwig Genedlaethol.
“Bydd yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd yn dod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i Gymru. Byddwn yn annog pawb sydd yn gymwys i gysylltu â’u Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol i Gymru i weld a oes modd i’w coetir fod yn rhan o’n gweledigaeth o greu Coedwig Genedlaethol Cymru a fydd yn ymestyn ledled y wlad.”
Dywedodd Claire Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae angen cynorthwyo adferiad natur ar frys a gwella coetiroedd yw un o’r pethau gorau y gallwn ei wneud yng Nghymru i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan bwysig drwy gyfrannu at yr ymateb hwnnw, mewn ffordd sy’n gweithio i bobl ac i natur.
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi’r Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru a byddem yn annog perchnogion coetiroedd i siarad gyda’n tîm o swyddogion cyswllt ymroddgar a fydd yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad gwerthfawr.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae cefnogi prosiectau sy’n helpu cynefinoedd a rhywogaethau i ffynnu, lleihau effeithiau newid hinsawdd a helpu pobl i gysylltu â threftadaeth naturiol yn flaenoriaeth i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn darparu’r ‘Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd’ a ‘Choetiroedd Bach’ mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd y cynlluniau hyn yn gwneud cyfraniad pwysig i Goedwig Genedlaethol Cymru ac yn cynyddu dealltwriaeth pobl a’u cysylltiad â threftadaeth naturiol unigryw Cymru yn ein trefi, ein dinasoedd a’n cefn gwlad.”