Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol y gallech eu rhannu gyda'ch rhwydweithiau wrth i ni lansio'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn annog ein holl randdeiliaid i ymuno â'r sgwrs wrth i ni lansio'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) fel rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru – rhwydwaith gysylltiedig o goedwigoedd a fydd yn ymestyn hyd Cymru.

Isod ceir cyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol y gallech eu rhannu gyda'ch rhwydweithiau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein tagio mewn unrhyw negeseuon (@WGClimateChange @HeritageFundCYM @NatResWales) ac yn defnyddio'r hashnod #NationalForestWales.  

Postiadau a awgrymiwyd

  • Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd - TWIG - yn ariannu creu coetiroedd newydd a gwella ac ehangu coetiroedd presennol i fodloni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol.  #CoedwigGenedlaetholCymru
  • Rydym am wella ansawdd coetiroedd presennol i bobl, gan eu gwneud yn lleoedd mwy hygyrch, croesawgar a hwyliog i ymweld â nhw.  #CoedwigGenedlaetholCymru
  • Rydym am gefnogi cyfoethogi ein cynefinoedd coetir, cynyddu bioamrywiaeth o fudd i natur a'r amgylchedd.  #CoedwigGenedlaetholCymru
  • Rydyn ni'n plannu hadau ar gyfer Cymru fwy gwyrdd. Gyda'n gilydd gallwn greu coedwig genedlaethol ar hyd a lled Cymru, gan amddiffyn rhai o'n coetiroedd hynafol yn ogystal â chreu rhai newydd. #CoedwigGenedlaetholCymru 
  • Mae coedwigoedd yn cyfoethogi ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd. Bydd ein Coedwig Genedlaethol yn ysbrydoli llesiant trwy gynhyrchu cariad at yr awyr agored ac yn hwyluso’r buddion o fyw mewn amgylchedd coediog. #CoedwigGenedlaetholCymru 
  • Mae ein Coedwig Genedlaethol yn ymwneud â mwy na choed yn unig. Mae'n ymwneud â chwarae rhan yn tyfu a rhannu Cymru yn y dyfodol sy'n fyw ac yn ffynnu am genedlaethau i ddod. #CoedwigGenedlaetholCymru