Neidio i'r prif gynnwy

Mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru yn mynd i gael codiad cyflog o 1% a bod y rheini sy’n ennill lleiaf yn mynd i weld eu cyflogau’n codi i lefel y Cyflog Byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyflogau mwy na 7,000 o’r gweithwyr sy’n ennill lleiaf yn codi i £8.45 yr awr, sy’n gyson â Chyflog Byw y Living Wage Foundation.

Yn ogystal â’r codiad cyflog hwn i lefel y Cyflog Byw, bydd codiadau cyflog eraill o 1 Ebrill 2017-18 yn cynnwys:  

  • Codiad cyflog cyfunedig o 1% ar gyfer pob aelod o staff yr Agenda ar gyfer Newid yn GIG Cymru
  • Codiad cyflog o 1% ar gyfer meddygon a deintyddion sy’n cael eu cyflogi gan bractisau
  • Cynnydd o 1% yng ngwerth Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol
  • Cynnydd o 1% yng ngwerth Dyfarniadau Ymrwymiad
  • Cynnydd o 1% yng ngwerth grant hyfforddwyr ymarferwyr cyffredinol
  • Cynnydd o 1% ar gyfer Ymarferwyr Cyffredinol Meddygol ac Ymarferwyr Cyffredinol Deintyddol sy’n gontractwyr annibynnol
  • Codiad cyflog o 1% ar gyfer Prif Weithredwyr y GIG, eu codiad cyflog cyntaf ers 2009.  

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Dw i’n dal i fod yn gwbl ymroddedig i daclo’r mater o gyflogau isel yng Nghymru a byddaf yn sicrhau bod y rhai sy’n ennill lleiaf yn GIG Cymru yn cael cyflog teg, fel y mae’r Living Wage Foundation yn ei argymell.

“Dw i’n codi cyflogau i lefel y Cyflog Byw felly – i £8.45 yr awr – ar gyfer pob aelod o staff sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y GIG, o 1 Ebrill 2017 ymlaen.  

“Dw i’n falch fy mod i’n gallu codi cyflogau yn unol ag argymhellion cyflog y cyrff adolygu cyflogau annibynnol a dangos ein hymrwymiad parhaus i staff sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio hefyd fy mod i wedi ymrwymo o hyd i weithio fel Partneriaeth Gymdeithasol â chyflogwyr a’r rheini sy’n cynrychioli staff y GIG i ystyried sut allwn ni symud ymlaen o ran y materion eraill a gafodd eu codi gan y cyrff adolygu cyflogau.”

Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi derbyn argymhellion ar gyflogau gan  Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a’r Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion.