Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cod Ymddygiad hwn yn gymwys i bob gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat trwyddedig. Dylid ei ddarllen ar y cyd â pholisi Trwyddedu Tacsis ac Amodau Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu hwn.

Efallai y bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ailystyried a ydych yn gymwys ac yn briodol i weithredu fel gyrrwr trwyddedig os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn.

Mae gweithredwyr a gyrwyr tacsi [nodwch enw'r Awdurdod Trwyddedu] yn llwyr ymrwymedig i gynnig y lefelau uchaf o wasanaeth i bob un o'n cwsmeriaid ac yn addo'r canlynol:

Dylai gyrwyr:

  1. Bod yn lân ac yn drwsiadus yn unol â Chod Gwisg yr Awdurdod Trwyddedu ar gyfer Gyrwyr Tacsi/Cerbydau Hurio Preifat a dylai eu bathodyn fod yn weladwy bob amser
  2. Croesawu teithwyr mewn ffordd gyfeillgar a chynnig cymorth rhesymol gyda'u bagiau ar ddechrau a diwedd y daith
  3. Ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser
  4. Sicrhau bod y cerbyd yn lân, yn ddiogel ac mewn cyflwr boddhaol bob amser
  5. Cyrraedd yn brydlon pan fyddant wedi cael eu hurio ymlaen llaw
  6. Bod yn broffesiynol ac yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill
  7. Rhoi derbynneb i'r huriwr os bydd yn gofyn am un
  8. Lle y bo angen, helpu teithwyr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd
  9. Trin gwybodaeth y maent wedi'i chael am deithwyr yn gyfrinachol
  10. Diffodd yr injan os bydd angen iddynt aros
  11. Gofyn bob amser a oes angen cymorth ar deithiwr sy'n agored i niwed a pheidio â  gwneud rhagdybiaethau
  12. Os bydd y teithiwr am deithio y tu allan i'r awdurdod lleol, cytuno ar bris cyn cychwyn neu gytuno i ddefnyddio tacsimedr (lle y bo'n gymwys)
  13. (Yn achos gyrwyr cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn) Sicrhau y gallant osod rampiau'r cerbyd yn gywir a helpu'r teithiwr yn y gadair olwyn i mewn ac allan o'r cerbyd yn ddiogel a chlymu'r gadair olwyn yn ddiogel.

Ni ddylai gyrwyr:

  1. Gwneud sylwadau gwahaniaethol ynghylch oedran, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, hil, crefydd na chredoau.
  2. Defnyddio iaith sarhaus nac amhriodol yn gyhoeddus.
  3. Smygu, defnyddio e-sigaréts, bwyta nac yfed yn y cerbyd
  4. Rhoi na chymryd manylion unrhyw flogiau na gwefannau personol na defnyddio unrhyw fath o ddull cyfathrebu electronig i anfon negeseuon at deithiwr nad ydynt yn ymwneud â hurio'r cerbyd. Mae hyn yn cynnwys safleoedd rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook, Twitter neu unrhyw fath arall o ddull cyfathrebu electronig at ddibenion negeseuon cymdeithasol.
  5. Defnyddio eu safle i orfodi neu gyflyru teithwyr i ddilyn cred wleidyddol, ysbrydol neu grefyddol.
  6. Tynnu lluniau (ac eithrio lluniau ar system CCTV cerbyd gymeradwy) o deithwyr hyd yn oed os byddant yn gofyn iddynt wneud hynny.
  7. Ymddwyn mewn ffordd y gellid ystyried ei bod yn ymwthiol, yn orbersonol neu'n amhroffesiynol gydag unrhyw deithiwr ac ni ddylai byth roi unrhyw fath o rodd nac arian i deithiwr, waeth pa mor fach neu ddibwys ydyw.
  8. Caniatáu i unrhyw gyfarpar sain beri niwsans i deithwyr
  9. Gwneud defnydd amhriodol o gorn y cerbyd drwy ei ganu i dynnu sylw hurwyr ato, ac eithrio mewn argyfwng.

Ymddygiad gyrwyr cerbydau hacni ar safleoedd tacsis (safleoedd swyddogol neu answyddogol), dylai gyrwyr:

  1. Ffurfio rhes drefnus a symud ar hyd y rhes yn brydlon ac mewn trefn
  2. Aros gyda'r cerbyd.
  3. Bod yn gwrtais wrth unrhyw farsialiaid tacsi a dilyn eu cyfarwyddiadau.
  4. Peidio â gadael i'r cerbyd fod ar y safle oni bai ei fod ar gael i'w hurio ar unwaith.
  5. Peidio ag aros am deithwyr sydd wedi'u hurio ymlaen llaw ar y safle