Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Mai 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 493 KB
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn cynnal ymgynghoriad ynghylch Cod Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr mewn perthynas â darpariaethau a gyflwynwyd yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Tai (Cymru) ar 17 Medi 2014. Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer pobl sy’n gysylltiedig â gosod a rheoli eiddo preswyl yng Nghymru.
Rhan o amodau trwydded a roddir gan yr Awdurdod Trwyddedu yw i ddeiliad y drwydded gadw at God Ymarfer a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am gynnwys y Cod Ymarfer hwnnw.