Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates fod mwy na 150 o sefydliadau wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Arloesol Llywodraeth Cymru.
Bydd y Gweinidog yn siarad mewn digwyddiad yn Wrecsam i nodi'r garreg filltir hon, y llwyddwyd i'w chyrraedd lai na dwy flynedd ar ôl i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi gael ei lansio gyntaf ym mis Mawrth 2017.
Mae'r Cod yn gofyn i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ymrwymo i gyfres o gamau sydd â’r nod o fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth ac arferion gweithio anghyfreithlon ac annheg.
Mae disgwyl i bob sefydliad sy'n cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau, ymrwymo i'r cod.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae angen inni greu cenedl fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael cyfle i gael gwaith teg sy'n talu cyflog byw a lle mae pob gweithiwr yn gallu datblygu ei sgiliau a'i yrfa.
“Yr uchelgais hwn sydd wrth wraidd ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a dyna pam gwnaethon ni ddatblygu'n contract economaidd. Mae'r contract hwnnw'n ei gwneud yn gwbl glir bod yn rhaid i fusnesau ddangos eu hymrwymiad i waith teg os ydynt am gael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.
“Mae'r cod yn helpu i fynd i'r afael â hynny, ac mae'n bleser cael dathlu'r garreg milltir hon yn y digwyddiad hwn heddiw.
“Mae'r cod yn ymdrin ag amrediad o arferion − o rai troseddol, anghyfreithlon ac anfoesegol i'r arfer cadarnhaol o dalu'r Cyflog Byw.
“Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ein Cod Ymarfer, a'n huchelgais i fod yn Genedl Gwaith Teg i gyd yn cyfrannu at yr un amcanion o hyrwyddo gwaith teg, o ddileu arferion anghyfreithlon, a chaniatáu i'n cyflogwyr gorau gystadlu am gontractau a chwsmeriaid dan yr un amodau.
“Mae hwn yn fater o sicrhau bod ein teuluoedd a'n cymunedau'n cael sicrwydd o ran gwaith, safon foddhaol o fyw, a gobeithion at y dyfodol.
“Dwi'n awyddus i adeiladu ar y sylfaen gref hon yn y dyfodol a defnyddio'n Contract Economaidd i annog rhagor o gwmnïau yng Nghymru i ymrwymo i'r cod."