Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Diben y Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yw cefnogi gwelliant parhaus yn natblygiad a darpariaeth gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru.

Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae person yn cyfathrebu â phobl eraill ac yn ymwneud â hwy a sut maent yn profi'r byd o'u cwmpas. Amcangyfrifir bod tua un y cant o blant ac ychydig dros un y cant o oedolion yn awtistig.  Nid yw cyfran sylweddol o bobl awtistig, yn enwedig y rhai ag iaith rhugl ac ystod gallu arferol, yn cael eu nodi yn ystod plentyndod ac maent yn dod yn oedolion heb ddiagnosis.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Strategol cyntaf Cymru ar Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2008.  Ei ddiben oedd pennu cyfeiriad clir ar gyfer datblygu gwasanaethau drwy sicrhau bod camau penodol a mesuradwy yn cael eu cymryd ac ar sail tystiolaeth o nifer yr achosion a'r angen, gan gomisiynu gwasanaethau rhyngasiantaethol ar lefelau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.  Roedd hefyd yn anelu at ehangu dealltwriaeth o awtistiaeth a'i fynychder yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (NAT) i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein strategaeth awtistiaeth, mae'r NAT yn cynnal gwefan awtistiaeth cymru gan ddarparu cyngor ac adnoddau arbenigol i gefnogi datblygiad gwasanaethau.  Mae prosiectau NAT wedi cynnwys gwaith i wella canlyniadau cyflogaeth a gweithio gyda chymunedau BAME i ddatblygu darpariaeth briodol sy'n seiliedig ar anghenion.

Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o'r Strategaeth ym mis Medi 2016 a dangosodd bod y strategaeth yn llwyddiannus o ran codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a darparu hyfforddiant ac offer ac adnoddau datblygu.

Er mwyn sicrhau cynnydd da a pharhaus, adnewyddwyd y strategaeth awtistiaeth genedlaethol yn 2016 gyda chynllun cyflawni cynhwysfawr sy’n defnyddio dull cyfannol yn seiliedig ar anghenion datblygu a darparu gwasanaethau awtistiaeth. Cyhoeddwyd Adroddiadau cynnydd blynyddol yn 2018 a 2019, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni wedi’i ddiweddaru yn 2018, yn cynnwys ymrwymiadau newydd, ac un ohonynt oedd cyhoeddi Cod Ymarfer ar wasanaethau awtistiaeth yn nhymor presennol y Cynulliad (h.y. erbyn Gwanwyn 2021).

Gwnaed yr ymrwymiad i gyflwyno Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (y Cod) mewn ymateb i Fil gan Aelod, sef Bil Awtistiaeth (Cymru)  a ddaeth gerbron y  Senedd yn 2018. Yn ystod y cyfnod craffu cyntaf ar y Bil, darparwyd tystiolaeth nad oedd gwasanaethau awtistiaeth yn diwallu anghenion y rhai a oedd yn ceisio asesiad neu gymorth pan gaent ddiagnosis.  Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil oherwydd y gellid cyflawni ei nodau drwy ddeddfwriaeth bresennol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006.  Pan wrthodwyd y Bil ar ddiwedd cyfnod craffu un yn 2019, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar anghenion pobl awtistig drwy gyhoeddi Cod Ymarfer statudol o dan y ddeddfwriaeth bresennol a oedd yn ailorfodi ac yn egluro'r dyletswyddau presennol a osodwyd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau a gynigir, yn y polisi a'r cylch cyflenwi drwyddo draw?

Mae'r Cod Ymarfer wedi'i gynllunio i ategu'r gwaith o ddarparu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006 i sicrhau y darperir gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl awtistig a'u teuluoedd neu ofalwyr.  Ei nod yw sicrhau bod y gwelliannau a gyflawnwyd drwy gyflawni Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar Awtistiaeth yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.  

Bydd y Cod yn hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith gwasanaethau statudol ac yn sicrhau darpariaeth hirdymor o wasanaethau awtistiaeth a all ddiwallu anghenion unigolion a rhoi cymorth i deuluoedd neu ofalwyr pobl awtistig.  Bydd yn ceisio gwella integreiddio a chydweithredu rhwng gwasanaethau er mwyn atal unigolion rhag syrthio rhwng cyfrifoldebau gwasanaeth ac yn hyrwyddo cyfranogiad pobl awtistig yn y gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Bydd y gofynion a nodir yn y Cod hefyd yn ceisio sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ar gael i bobl awtistig a'u bod yn cael eu cyfleu'n fwy effeithiol. Mae'n rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG ar addasu eu harfer er mwyn diwallu anghenion pobl awtistig yn well.  Bydd hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymyrryd lle ceir tystiolaeth nad yw sefydliadau statudol wedi cydymffurfio â gofynion y cod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae'r ffocws hwn ar waith atal a gweithredu ar y cyd yn cyd-fynd yn agos â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r gofyniad y mae'n ei roi ar gyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Y tymor hir

Datblygwyd y Cod Ymarfer i gefnogi datblygiad gwasanaethau awtistiaeth cynaliadwy sy'n addas ar gyfer byd sy'n newid yn gyflym.  Bydd y Cod yn gwella'r modd y cyflawnir y strategaeth awtistiaeth 10 mlynedd a adnewyddwyd ddiwethaf yn 2016, a chaiff ei ategu gan gynllun cyflawni.

Atal

Mae'r Cod Ymarfer yn atgyfnerthu’r dyletswyddau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n rhoi pwyslais ar wasanaethau ataliol, darparu ymyrraeth a chymorth cynnar ac atal anghenion sydd angen cymorth dwys neu frys rhag gwaethygu.    

Integreiddio

Mae rhan 4 o'r Cod yn gosod dyletswyddau ar Fyrddau Partneriaethau Rhanbarthol, a grëwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru, sydd â'r diben o ddod â gwasanaethau statudol at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau integredig.  Mae hyn yn cynnwys datblygu Asesiad o Anghenion Poblogaeth a Chynlluniau Ardal ar y cyd; bydd cynllunio a darparu gwasanaethau awtistiaeth yn flaenoriaeth mewn Asesiad o Anghenion Poblogaeth yn y dyfodol.  Bydd gwell integreiddio a chydweithredu rhwng gwasanaethau yn atal unigolion rhag syrthio rhwng cyfrifoldebau gwasanaethau ac yn hyrwyddo cyfranogiad pobl awtistig yn y gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. 

Cydweithio

Fel y nodwyd uchod, bydd y dyletswyddau a geir yn rhan 4 o'r Cod mewn perthynas â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn hyrwyddo cydweithio integredig a chydweithredol. Rydym hefyd yn parhau i wrando ar farn pobl awtistig drwy ymgysylltu'n uniongyrchol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ledled Cymru a thrwy drefniadau partneriaeth gyda sefydliadau cynrychioliadol.  Wrth ddatblygu'r Cod Ymarfer drafft, cynhaliwyd grwpiau technegol gennym ym mis Gorffennaf ac eto ym mis Tachwedd 2020, er mwyn sicrhau y gallai pobl awtistig a sefydliadau cynrychioliadol gyfrannu eu barn a llywio datblygiad y Cod.

Cyfranogiad

Fel y nodwyd uchod, cynhyrchwyd y Cod mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol – roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl awtistig, eu cynrychiolwyr, rhanddeiliaid iechyd ac awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector ac adrannau Llywodraeth Cymru.  Bydd y cyfranogiad parhaus hwn yn parhau wrth i'r cod gael ei weithredu a hefyd drwy fonitro a gwerthuso'r cod yn ffurfiol.

Sefydlwyd Grŵp Cynghori ar Awtistiaeth Llywodraeth Cymru i roi cyngor ar ddatblygu a chyflawni polisi awtistiaeth.  Drwy ei aelodaeth, mae'r grŵp yn gofyn am adborth gan bobl awtistig ar y modd y rhoddir y Cod ar waith.

Effaith

Bwriedir i'r cod ymarfer gyflawni'r canlyniadau canlynol:

  • Mae’r datganiad yn disgrifio'r canlyniadau llesiant cenedlaethol i bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ac i ofalwyr y mae arnynt angen cymorth
  • Gweithredu blaenoriaethau polisi awtistiaeth Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar Awtistiaeth 2016
  • Sicrhau bod Awdurdodau Lleol a chyrff iechyd y GIG yn gwybod am y gwasanaethau a'r cymorth y disgwylir iddynt eu darparu ar gyfer pobl awtistig o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Costau ac Arbedion 

Mae dadansoddiad cost a budd yn cael ei gynnal i lywio gwerthusiad effaith y Cod yn y dyfodol.  Dros amser, rhagwelir y bydd y Cod hwn yn arbed costau gan y bydd yn sicrhau bod penderfyniadau gwell a mwy gwybodus yn cael eu gwneud a fydd yn effeithio nid yn unig ar ansawdd y ddarpariaeth a chanlyniadau personol pobl, ond ar gostau cyffredinol hefyd.

Mecanwaith

Mae'r pwerau sy'n galluogi gwneud y Cod Ymarfer statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth wedi'u cynnwys yn Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mae'n gyfystyr â chanllawiau o dan Adran 169 o'r Ddeddf honno.  Fe'i paratowyd hefyd o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf GIG (Cymru) 2006.

Mae adran 145 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi, ac o bryd i'w gilydd ddiwygio, un neu ragor o godau ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Casgliad

 

7.1 Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Datblygwyd y Cod Ymarfer statudol i sicrhau bod byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol a'u partneriaid yn deall y dyletswyddau presennol i ddarparu gwasanaethau awtistiaeth sy'n seiliedig ar anghenion, gan gynnwys cymorth i ofalwyr, ac i godi ymwybyddiaeth gyda phobl awtistig o'r cymorth a ddylai fod ar gael.

Datblygwyd y Cod dros gyfnod sylweddol o amser drwy ymgysylltu'n uniongyrchol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ledled Cymru.  Er mwyn llywio datblygiad y Cod, cynhaliwyd grwpiau technegol a digwyddiadau rhanddeiliaid gan roi cyfleoedd i ystod eang o randdeiliaid allweddol gan gynnwys pobl awtistig ddweud eu dweud ar y blaenoriaethau a'r camau gweithredu yn y Cod.  Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc awtistig ifanc ac oedolion a rhieni a gofalwyr.

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gyfer y Cod Ymarfer i ben ym mis Mawrth 2019.  Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion o'r ymgynghoriad cyntaf yn gadarnhaol ac, yn gyffredinol, roedd unigolion yn cefnogi'r canllawiau arfaethedig. Yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ychwanegol a gweithdai ymgysylltu wedi'u targedu gydag ystod eang o randdeiliaid (gan gynnwys pobl awtistig).

Er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant i'r holl randdeiliaid yn ein digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd, darparwyd canllaw hygyrchedd gennym yn amlinellu holl fanylion y lleoliad a'r digwyddiad i sicrhau y gallai pobl awtistig baratoi ymlaen llaw. Cynhyrchwyd yr holl ddogfennau'n ddwyieithog a gofynnwyd i'r rhai a oedd yn bresennol am eu dewis iaith ar gyfer y digwyddiadau. 

Cynhaliwyd ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod rhwng mis Rhagfyr 2020. Caiff ymatebion i’r ail ymgynghoriad eu cyhoeddi’n fuan.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae amcanion trosfwaol y Cod wedi’u nodi yn ei bedair adran.

  1. Trefniadau Asesu a Diagnosis ar gyfer Awtistiaeth
  2. Trefniadau ar gyfer cael gafael ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  3. Trefniadau ar gyfer Codi Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a Darparu Hyfforddiant
  4. Trefniadau ar gyfer Cynllunio a Monitro Gwasanaethau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid.

Bydd y Cod yn sicrhau bod pobl awtistig a'u teulu a/neu ofalwyr yn cael gofal a chymorth priodol drwy egluro gofynion awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG. 

Mae effeithiau cadarnhaol y cod ar y Gymraeg yn cynnwys hyfforddiant, adnoddau a deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.   Mae'n debygol na ddylai gael unrhyw effaith negyddol ar yr iaith gan fod y cod wedi'i gynllunio i greu system decach a theg i bawb sy'n gymwys i gael gofal a chymorth. 

Rydym wedi gweithio gyda grwpiau sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig wrth ddatblygu'r Cod i sicrhau ei fod yn cynnwys canlyniadau a pholisïau sy'n galluogi i'w hanghenion a'u gofynion gael eu diwallu.  Un cam gweithredu o'r fath yw'r gofyniad i gael cynrychiolaeth ar y bwrdd partneriaeth rhanbarthol drwy rôl yr hyrwyddwr awtistiaeth.

Mae'r Cod yn ystyried gofyniad Deddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch addasiadau rhesymol.  Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ddarparwyr gwasanaethau a'r rhai sy'n darparu nwyddau a chyfleusterau i wneud addasiadau rhesymol i bobl awtistig fel nad ydynt o dan anfantais o gymharu â phobl heb awtistiaeth. Yn yr un modd, mae'r Cod yn cyfarwyddo byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn hygyrch i bobl awtistig ac na ddylid gwrthod gwasanaethau na chymorth iddynt am eu bod yn awtistig. 

Mae'r Cod hefyd yn pwysleisio'r angen i bobl awtistig fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau amdanynt a'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn, gan fod gofyn cydgynhyrchu a chydweithio â phobl awtistig.

Nid ystyrir bod y Cod yn cael effaith andwyol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anableddau yn gyffredinol, a bydd yn cael effaith fuddiol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc awtistig.  Bydd y Cod yn ceisio gwelliannau o ran darparu gwasanaethau awtistiaeth drwy ei gwneud yn ofynnol i sicrhau cysondeb a llwybrau clir i gael mynediad at asesiadau a chymorth, nodi anghenion hyfforddi a darparu hyfforddiant addas mewn awtistiaeth ar gyfer gwahanol broffesiynau. 

Mae'r Cod, wrth geisio gwella mynediad at wasanaethau asesu, diagnosis a chymorth i blant a phobl ifanc yn gofyn am gydymffurfio â safonau llwybr cenedlaethol fel y'u datblygwyd gan y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc  (T4CYP) a safonau amseroedd aros cenedlaethol.  Mae problemau cydnabyddedig wedi bod gydag amseroedd aros hir ar gyfer asesu ar draws byrddau iechyd yng Nghymru; mae safon amser aros o 26 wythnos o atgyfeiriad i’r apwyntiad diagnosis cyntaf wedi bod ar waith ers 2018, ond canfu adolygiad cynnar yn 2019 nad yw'r dull casglu data yn gyson ledled Cymru, ac yn fwy diweddar mae effaith y pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar amseroedd aros. Bydd y Cod yn gatalydd i wella cydymffurfiaeth â safonau a chasglu ac adrodd data.

O ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer, gwnaed newidiadau i ystyried yr adborth gan ein rhanddeiliaid.  Mae enghreifftiau o'r newidiadau a wnaed i'r Cod yn ymwneud â: 

  • Terminoleg – Diwygiwyd y Cod i ddefnyddio’r termau Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth a phobl awtistig
  • Cyfeiriwyd yn gliriach yn y Cod ar bwysigrwydd y Gymraeg mewn asesiadau. 
  • Atgyfnerthwyd y cyfeiriadau a'r derminoleg yn y Cod ynghylch dewis, cyfranogiad a llais y plentyn.
  • Darparwyd eglurder yn y Cod ar y pwynt mynediad sengl ac a yw'n cwmpasu atgyfeiriadau plant ac oedolion. 
  • Rhoddwyd pwyslais cryfach yn y Cod ar ddarparu cymorth amgen.
  • Cyfeiriwyd yn gliriach yn y Cod ynghylch cynnig cymorth eiriolaeth gan gynnwys hunan-eiriolaeth.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant;  a/neu
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Bydd y Cod Ymarfer yn cyfrannu at y saith nod llesiant, yn arbennig:

Cymru lewyrchus - Gallai effaith darparu gwasanaethau amserol a phriodol i bobl awtistig ddarparu mwy o fynediad at hyfforddiant a chyflogaeth i oedolion awtistig sydd wedi'u tangynrychioli yn y gweithlu, a gwell cefnogaeth i'w rhieni/gofalwyr i barhau yn y gweithle tra'n ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofalu.

Cymru iachach – Nod y Cod yw gwella bywydau pobl awtistig drwy egluro'r gofynion iechyd a gofal cymdeithasol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG Cymru (2006) a fydd yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd ac ansawdd bywyd uwch i bobl awtistig a'u teuluoedd.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw IQ yn ffactor wrth asesu anghenion cymorth.

Cymru fwy cyfartal Bydd y Cod yn sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth ar draws y gymuned, drwy ofyn am hyfforddiant ymwybyddiaeth a hyrwyddo darparu addasiadau rhesymol i alluogi cynnwys yr holl bobl awtistig yn eu cymunedau ac wrth gael mynediad at wasanaethau. Bydd y cod hefyd yn cydnabod gofynion ychwanegol gofalwyr.

Cymru o gymunedau cydlynolMae Adran 3 o'r Cod yn canolbwyntio ar y trefniant i hyrwyddo cynnwys pobl awtistig mewn gwasanaethau prif ffrwd drwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r gymuned ehangach i hyrwyddo dealltwriaeth o awtistiaeth a sut y gall bod yn awtistig gael effaith wahanol ar bob unigolyn.

Cymru o ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnuMae'r Cod Ymarfer yn atgyfnerthu gofynion safonau'r Gymraeg gan y dylai byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau lleol sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio a darparu a bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig yn weithredol i siaradwyr Cymraeg awtistig heb iddynt orfod gofyn amdano.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru i wella bywydau pobl awtistig fel eu bod yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phobl niwro-nodweddiadol.  Yn y rôl hon mae'r tîm wedi cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau am ddim y gall pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a'r gymuned ehangach eu defnyddio. Nod yr adnoddau, yr hyfforddiant a'r arweiniad yw cynyddu'r ddealltwriaeth ehangach o awtistiaeth tra'n cynnig offer, hyfforddiant a chyngor ymarferol i bobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi cydweithio â'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) i ddatblygu fframwaith data newydd i gasglu data'r Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth.  Dyma flwyddyn gyntaf y system newydd ac fe'i hystyrir yn 'flwyddyn ddatblygu' ac felly efallai na fydd cywirdeb yr holl ddata yn absoliwt, ond mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y gallwn gasglu data dibynadwy da a fydd yn helpu i lywio gweithgarwch a galw am wasanaethau ledled Cymru.

Ein blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol ac awtistiaeth yw sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Bydd y buddsoddiad rydym yn ei wneud i wasanaethau niwroddatblygiadol plant yn parhau ac rydym yn monitro'r canlyniadau'n ofalus. Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn parhau i gael ei ariannu hyd nes y daw'r adolygiad o'r galw a'r capasiti i ben yn ystod 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyflyrau niwroddatblygiadol yn llawer mwy amrywiol nag awtistiaeth a bydd gan lawer o unigolion gyflyrau sy'n cyd-ddigwydd.  Drwy'r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd (drwy adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol) byddwn yn nodi'r bylchau sy'n weddill o ran cymorth ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaethau nodded cynaliadwy sydd â'r adnoddau i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol.

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer adolygu a gwerthuso ar ôl gweithredu?

Bydd gwerthusiad o'r Cod Ymarfer o fewn 2 flynedd i'w gyhoeddi.  Bydd hyn yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru a yw'r polisi'n llwyddiant ai peidio a nodi meysydd y gallai fod angen gwaith pellach arnynt.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar yr adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol.  Bydd yn adolygu'r galw, y capasiti a’r dyluniad mewn perthynas  â gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru er mwyn datblygu argymhellion ac opsiynau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella gwasanaethau.  Bydd y gwaith hwn hefyd yn ystyried darpariaeth Gymraeg, gwasanaethau awtistiaeth oedolion a phlant, pontio rhwng y gwasanaethau i blant a'r gwasanaethau i oedolion.

Bydd y Cod yn cael ei weithredu o fis Medi 2021 a bydd cynllun cyflawni ar waith i nodi'n fanylach y camau penodol a gymerir a sut y cânt eu mesur a'u monitro.

Mae Grŵp Cynghori Cenedlaethol wedi'i sefydlu, i ddechrau er mwyn helpu i ddatblygu'r cynllun cyflawni ac unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd y grŵp yn monitro'r ddarpariaeth a'r cynnydd.  Mae aelodaeth yn cynnwys pobl ag awtistiaeth, gan gynnwys plant, yn ogystal â'u cynrychiolwyr teuluol a gofalwyr o sefydliadau statudol a thrydydd sector.

Datganiad

Datganiad

Rwy'n fodlon bod effaith y camau arfaethedig wedi'i hasesu a'i chofnodi'n ddigonol.

Enw'r Uwch Swyddog Cyfrifol / Dirprwy Gyfarwyddwr: Anthony Jordan

Adran: Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, yr Is-adran Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol

 

Date:  9 Mawrth 2021