Rydym yn ceisio eich barn ar y 'Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig'.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r cod ymarfer drafft ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ac ymddiriedolaethau'r GIG sy'n comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae'n nodi gofynion a gwybodaeth i gefnogi comisiynwyr ar:
- prosesau a gweithredoedd
- rolau a chyfrifoldebau
- strwythurau a argymhellir
Mae'n disodli'r canllawiau statudol 'Uwchgyfeirio pryderon ynghylch cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion a chau’r cartrefi hynny' a gyhoeddwyd yn 2009.
Dogfennau ymgynghori

Cod ymarfer drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

Cod ymarfer drafft: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Ffurflen ymateb: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Mehefin 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Tîm Cartrefi Gofal
Yr Is-adran Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ