Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, daw cod newydd cryfach i rym sy'n sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion wedi'i ddiwygio i gynnwys cyfres fanylach o weithdrefnau a gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill eu dilyn wrth lunio cynigion i gau ysgol wledig.

I'r diben hwn, mae'r Cod yn cynnwys dynodiad ar gyfer ysgolion gwledig, ar sail Dosbarthiad Trefol/Gwledig yr Ystadegau Gwladol.

Mae rhestr o ysgolion yng Nghymru sy'n dod o dan y dynodiad hwn wedi'i chynnwys yn y Cod.

Yn y dyfodol, bydd angen i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gadarnhau a yw ysgol ar y rhestr, a bydd y gweithdrefnau a'r gofynion pellach yn berthnasol. Fodd bynnag, nid yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol yn ôl-weithredol, ac nid yw'n berthnasol i gynigion sydd eisoes yn mynd rhagddynt, gan gynnwys y rheini y mae eu hymgynghoriad wedi'i gyhoeddi.

Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau - fodd bynnag, mae’n golygu bod yn rhaid i’r achos dros gau ysgol fod yn un cryf, ac na fydd y penderfyniad yn cael ei wneud hyd nes y bydd pob dewis ymarferol arall wedi ei ystyried, gan gynnwys ymlynu ag ysgolion eraill o dan un corff llywodraethu - hynny yw, ffedereiddio.

Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ar ei ffurf gryfach yn rhan o Gynllun Addysg Wledig ehangach sydd hefyd yn cynnwys Grant Ysgolion Bach a Gwledig y mae dros 370 o ysgolion ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi elwa arno eisoes.

Nod y Grant, sy'n cynnig cyfanswm o £2.5m y flwyddyn dros oes y Cynulliad hwn, yw hyrwyddo arloesi, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol i osgoi ynysu proffesiynol, ac mae'n darparu cymorth gweinyddol ychwanegol mewn ysgolion lle mae ymrwymiad addysgu'r pennaeth yn sylweddol.

Mae'r Grant hefyd yn cefnogi trefniadau i gydweithredu a ffedereiddio ag ysgolion eraill - a lle mae yna gyfleoedd a galw yn lleol, mae'n cefnogi defnyddio cyfleusterau ysgolion at ddibenion cymunedol.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Mae ysgolion gwledig yn gwbl ganolog i fywyd cymunedol  ac yn allweddol i genhadaeth addysg ein cenedl. Dw i am wneud yn siwr ein bod ni'n cefnogi disgyblion ac athrawon mewn ardaloedd gwledig a bod ein pobl ifanc i gyd yn cael yr addysg orau bosibl, lle bynnag y maen nhw'n byw.

"Dyna pam rydyn ni wedi cymryd camau i gryfhau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan sicrhau bod cynghorau a chynigwyr eraill yn gwneud eu gorau glas i gadw ysgol wledig ar agor cyn penderfynu ymgynghori ynghylch ei chau.

"Dydy hyn ddim yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond mae'n golygu y bydd pob opsiwn ac awgrym ar y bwrdd cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud. Gallai hyn gynnwys ffedereiddio ag ysgolion eraill neu gynyddu defnydd y gymuned o adeiladau'r ysgol.

"Wrth gwrs, dim ond un rhan o'n Cynllun Gweithredu Addysg Wledig yw hyn, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr drwy'r Grant Ysgolion Bach a Gwledig, a phrosiect E-sgol sy'n ceisio dod â holl ysgolion Cymru i mewn i'r oes ddigidol drwy gyflwyno technegau addysgu arloesol."