Neidio i'r prif gynnwy

Rhan 1: Cod moeseg y gweinidogion

Yn yr adran hon:

  1. Y Gweinidogion
  2. Y Gweinidogion a'u Cyfrifoldebau
  3. Y Gweinidogion a Gweision Sifil
  4. Buddiannau Etholaethol a Phleidiol y Gweinidogion
  5. Buddiannau Preifat y Gweinidogion

Y Gweinidogion

Ymddygiad y Gweinidogion

1.1 Disgwylir i Weinidogion Llywodraeth Cymru gynnal safonau ymddygiad uchel ac ymddwyn mewn modd sy’n cynnal y safon uchaf o ran priodoldeb.

1.2 Dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol ym mhopeth y maent yn ymwneud ag ef a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch. Dylai’r berthynas waith gyda gweision sifil, Gweinidogion eraill, cydweithwyr a staff yn y Senedd fod yn weddus ac yn briodol. Nid yw aflonyddu, bwlio nac ymddygiad amhriodol neu wahaniaethol arall, ble bynnag y mae’n digwydd ac ni waeth a yw’n digwydd yng nghwrs busnes Gweinidogol ai peidio, yn gyson â Chod y Gweinidogion ac ni fyddant yn cael eu goddef.

1.3 Dylid darllen Cod y Gweinidogion yng ngoleuni'r ddyletswydd gyffredinol sydd ar y Gweinidogion i gydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau mewn cytuniadau, ac i ddiogelu uniondeb bywyd cyhoeddus. Disgwylir iddynt, yn benodol, barchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (fel y'u nodir yn Atodiad A), yn ogystal ag egwyddorion Ymddygiad Gweinidogion:

Atebolrwydd
  1. Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i roi cyfrif i'r Senedd am bolisïau a phenderfyniadau eu hadrannau a'u hasiantaethau a'r camau a gymerir ganddynt, ac i gael eu dal i gyfrif amdanynt;
  2. Mae o'r pwys mwyaf bod yr wybodaeth y mae’r Gweinidogion yn ei rhoi i’r Senedd yn gywir ac yn wir, a’u bod yn cywiro unrhyw gamgymeriad a wnaed drwy amryfusedd cyn gynted ag y bo modd. Bydd disgwyl i Weinidogion sydd yn camarwain y Senedd o fwriad gynnig eu hymddiswyddiad i Brif Weinidog Cymru;
  3. Dylai’r Gweinidogion fod mor agored â phosibl gyda'r Senedd a'r cyhoedd, ac ni ddylent wrthod darparu gwybodaeth heblaw mewn achosion lle na fyddai datgelu’r wybodaeth honno o fudd i'r cyhoedd. Wrth benderfynu ynghylch hyn, dylid ymgynghori â'r statudau perthnasol a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;  
  4. Yn yr un modd, dylai'r Gweinidogion ei gwneud yn ofynnol i weision sifil sy'n rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgorau'r Senedd ar eu rhan ac o dan eu cyfarwyddyd fod mor barod eu cymorth ag y bo modd o ran darparu gwybodaeth gywir, wir a llawn, yn unol â dyletswyddau a chyfrifoldebau gweision sifil fel y'u nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil;
Cydweithio
  1. Mae egwyddor cydgyfrifoldeb yn berthnasol i holl Weinidogion y Llywodraeth. Mae'n berthnasol i bob sefyllfa ac eithrio'r sefyllfaoedd a ddisgrifir ym mharagraff 4.7.
Cyfrifoldeb Personol
  1. Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat;
  2. Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno;
  3. Rhaid i'r Gweinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion a'u rolau fel Aelodau o’r Senedd ar wahân;
  4. Rhaid i'r Gweinidogion beidio â defnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.  Rhaid iddynt gynnal didueddrwydd y Gwasanaeth Sifil a pheidio â gofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw fodd a fyddai'n groes i God y Gwasanaeth Sifil.

1.4 Mae'r Cod hwn yn rhoi arweiniad i'r Gweinidogion ar sut y dylent weithredu a threfnu eu busnes mewn modd sy’n cynnal y safonau hyn. Mae’n rhestru'r egwyddorion a allai fod yn gymwys mewn sefyllfaoedd penodol. Rhaid i'r Gweinidogion hefyd barchu bob amser y gofynion a bennwyd gan y Senedd ei hun, ac yn benodol (mewn perthynas â Gweinidog sy'n gweithredu ar sail "etholaethol/rhanbarthol") y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

1.5 Mae'r Gweinidogion yn gyfrifol yn bersonol am benderfynu sut i weithredu ac ymddwyn yng ngoleuni'r Cod ac am gyfiawnhau'r hyn a wnânt a'r modd y maent yn ymddwyn o fewn y Senedd ac i'r cyhoedd. Y Prif Weinidog, yn y pen draw, sy'n gyfrifol am farnu pa safonau ymddygiad y mae’n eu disgwyl oddi wrth y Gweinidogion a pha ganlyniadau fyddai'n briodol am weithredu'n groes i'r safonau hynny. Er na fydd y Prif Weinidog yn disgwyl rhoi sylwadau ar bob mater y gellid dychmygu y byddai’n cael ei ddwyn i’w sylw, dim ond cyhyd ag y bo gan y Prif Weinidog hyder ynddynt y gall Gweinidogion barhau yn eu swyddi. Bydd canlyniad unrhyw achos o dorri’r Cod, sydd wedi’i gefnogi gan dystiolaeth, yn dibynnu ar natur yr achos.

1.6 Nid mater i'r Ysgrifennydd Parhaol na swyddogion eraill yw gorfodi’r Cod. Fodd bynnag, gall Gweinidogion ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n eu cynghori fod yn ymwybodol o’r Cod hwn a gwneud pob ymdrech i dynnu sylw Gweinidogion at unrhyw wrthdaro posibl y maent wedi sylwi arno. Fodd bynnag, ar y Gweinidogion eu hunain y mae’r cyfrifoldeb o hyd am lynu wrth y Cod ac am y penderfyniadau a wnânt.

1.7 Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu sut yr ymchwilir i gwynion o dan y Cod. Bydd fel arfer yn cyfeirio cwynion sylweddol am ymddygiad Gweinidogion at Gynghorydd Annibynnol i’w hystyried a rhoi cyngor arnynt, ond gallai hefyd ofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol ystyried y gŵyn ac adrodd yn ôl iddo. Gallai wneud hynny os yw’n fodlon y gellir ymateb i’r cwynion mewn modd mwy uniongyrchol neu arferol – er enghraifft pan fo tramgwydd diamheuol, neu pan nad oes achos argyhoeddiadol i’w ateb neu pan fernir bod y cwynion yn rhai o natur flinderus neu ddibwys. Gallai’r Prif Weinidog hefyd ofyn am ymchwiliad cwmpasu cychwynnol i’w gynorthwyo yn ei benderfyniad o ran cyfeirio’r gŵyn at Ymchwilydd Annibynnol ai peidio. Bydd y Prif Weinidog yn defnyddio’i farn ynglŷn ag unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a fydd yn deillio o’r cyngor. Bydd canfyddiadau’ Cynghorydd Annibynnol yn cael eu cyhoeddi. Bydd y trefniadau hyn yn berthnasol i’r Prif Weinidog hefyd, ac mae yntau’n atebol i’r Senedd.

1.8 Mae Cod y Gweinidogion yn berthnasol i’r Prif Weinidog ac i’r holl Weinidogion. Mae hefyd yn berthnasol i'r Cwnsler Cyffredinol. Oni nodir yn wahanol, mae'r term "Gweinidog" yn y Cod hwn yn cynnwys pob un o'r rhain.

Y Gweinidogion a'u Llesiant

1.9 Mae pwerau statudol y Prif Weinidog i benodi Gweinidogion a'u diswyddo yn deillio o Adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r pwerau hyn yn eang ac yn ddilyffethair.

1.10 Mae'r Prif Weinidog yn cydnabod bod Gweinidogion yn gallu bod o dan gryn bwysau personol ar adegau. Y rhan fwyaf o'r amser bydd y Gweinidogion yn addasu ar gyfer y pwysau hwn, nad yw’n unigryw i'w cyfrifoldebau Gweinidogol, fel rhan o'r gwydnwch sy'n angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl. Ond bydd y Prif Weinidog yn ystyried llesiant y Gweinidogion ac yn sicrhau bod trefniadau digonol ar waith i roi cymorth i Weinidogion pan fo'i angen os ydynt hwythau yn dymuno manteisio ar hynny. Caiff y trefniadau hyn eu dwyn i sylw'r Gweinidogion yn rheolaidd.

1.11 Yn benodol, bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod llesiant y Gweinidog neu'r Gweinidogion o dan sylw yn cael ei ystyried yn llawn fel rhan o'r trefniadau cynllunio a pharatoi ar gyfer ad-drefnu neu mewn amgylchiadau eraill lle y gallai Gweinidogion ymadael â'r Llywodraeth. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y Gweinidogion ar y pryd yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt eu defnyddio. Bydd hyn yn berthnasol yn arbennig pan fo Gweinidog yn ymadael â'r Llywodraeth o dan amgylchiadau a allai ddenu llawer o sylw yn y cyfryngau. Bydd y Prif Weinidog yn ymdrechu i sicrhau bod Gweinidogion sy'n ymadael yn cael y mathau priodol o gymorth.

1.12 Bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod gwybodaeth am unrhyw ad-drefnu yn cael ei chadw o fewn carfan mor dynn â phosibl o unigolion ag sy'n bosibl ym marn y Prif Weinidog.

Y Gweinidogion a'u Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau a Theitlau'r Gweinidogion

2.1 Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am strwythur cyffredinol a threfniadaeth Llywodraeth Cymru. Gyda chymeradwyaeth Brenhines y DU, bydd ef neu hi yn penodi Gweinidogion, a hefyd yn argymell unigolyn i'w Mawrhydi i fod yn Gwnsler Cyffredinol.

2.2 Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw dyrannu portffolios rhwng Gweinidogion. Rhaid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog os bwriedir gwneud unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar y ffordd y rhennir y swyddogaethau hynny ac ar y cyfrifoldebau dros gyflawni swyddogaethau'r Gweinidogion.

2.3 Dylai’r Gweinidogion fod yn arbennig o ofalus wrth drafod materion sy’n perthyn i faes cyfrifoldeb Gweinidogion eraill, gan ymgynghori â’u cyd-Weinidogion fel y bo’n briodol.

2.4 Rhaid i holl deitlau'r Gweinidogion, ac unrhyw newidiadau y bwriedir eu gwneud iddynt, gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog.

2.5 Mae pob Gweinidog yn atebol i’r Prif Weinidog.

Cael gafael ar y Gweinidogion

2.6 Dylai’r Gweinidogion roi gwybod i swyddfa’r Prif Weinidog am y digwyddiadau y byddant yn mynd iddynt, a hefyd am eu trefniadau ar gyfer penwythnosau a gwyliau, a hynny er mwyn i staff y swyddfa fedru hysbysu’r Prif Weinidog ar unwaith pa Weinidogion sydd ar gael os bydd unrhyw argyfwng sydyn yn codi. Fel y nodir ym mharagraff 9.3, rhaid i unrhyw Weinidog sydd am fod yn absennol o'r DU am unrhyw reswm geisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog yn gyntaf.

2.7 Os yw Gweinidog, am unrhyw reswm, yn absennol am gryn amser, mae’n bosibl y byddai'n ddymunol trefnu i aelod arall o'r Cabinet fod ar gael yn ei le i gynrychioli ei fuddiannau yn nhrafodaethau'r Cabinet neu mewn unrhyw gyfarfod arall ar y cyd rhwng y Gweinidogion. Dylid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn gwneud trefniadau i rywun gymryd lle Gweinidog sy'n absennol.

2.8 Os bydd Gweinidog, am ba reswm bynnag, am i Weinidog arall fynd i ddigwyddiad swyddogol neu wneud penderfyniad am fater penodol, dylid ymgynghori â’r Prif Weinidog yn gyntaf. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i’r berthynas rhwng Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion a benodwyd i'w helpu.

Cynghorwyr Arbennig

2.9 Mae cyflogi Cynghorwyr Arbennig yn dod â dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor sydd ar gael i'r Gweinidogion ac mae'n fodd i'r Gweinidogion gael cyngor uniongyrchol oddi wrth arbenigwyr nodedig yn eu maes proffesiynol. Mae hefyd yn atgyfnerthu didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol. Y Prif Weinidog sy'n penodi pob un. Os yw’r Prif Weinidog yn gadael ei swydd, mae'r cynghorwyr a benodwyd ganddo yn gadael hefyd. Gan mai’r Prif Weinidog sy'n penodi pob un, ni cheir ymrwymo i benodi unrhyw un heb gymeradwyaeth y Prif Weinidog yn gyntaf. Dylid gwneud pob penodiad o'r fath, a dylai pob Cynghorydd Arbennig weithredu, yn unol â'r amodau a'r telerau sydd yn y Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig ac yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

2.10 Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am benderfynu sut y rhennir swyddi Cynghorwyr Arbennig yn Llywodraeth Cymru, p'un a ydynt yn cael eu defnyddio i roi cymorth i Weinidogion unigol neu i’r Gweinidogion ar y cyd. Y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am ymddygiad Cynghorwyr Arbennig, gan gynnwys eu disgyblu. Bydd y Prif Weinidog yn atebol i'r Senedd ac i'r cyhoedd am y camau y mae'n eu cymryd a'i benderfyniadau o ran y Cynghorwyr Arbennig.

2.11 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad blynyddol ar gyfer y Senedd yn amlinellu niferoedd, enwau a bandiau cyflog y Cynghorwyr Arbennig a'r bil cyflog cyffredinol ar eu cyfer.

Cynghorwyr Di-dâl

2.12 Gyda chytundeb y Prif Weinidog, caiff Gweinidogion benodi cynghorwyr di-dâl. Os penodir cynghorydd di-dâl, penodiad personol gan y Gweinidog o dan sylw ydyw. Nid oes unrhyw berthynas gontractiol rhwng cynghorydd o’r fath a Gweinidogion Cymru a, heblaw am yr isod, ni cheir defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer penodiadau o'r fath. Eithriadau yw penodiadau o’r fath, a dylid ceisio cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn gwneud unrhyw ymrwymiad. Wrth benodi, rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng y materion y bydd y cynghorydd di-dâl yn cynghori yn eu cylch a'i faterion preifat. Rhaid datgan hyn yn glir mewn llythyr penodi. Dylai'r llythyr nodi pa bynciau y caniateir (neu na chaniateir) i gynghorydd di-dâl ymdrin â hwy ac esbonio pa bapurau y byddant yn cael eu gweld.

2.13 Os yw cynghorydd yn gweithredu ar delerau tebyg i Gynghorydd Arbennig, ond gan wneud hynny'n ddi-dâl, dylai ymddwyn fel pe bai'n Gynghorydd Arbennig. Er nad ydynt yn weision sifil, mae'n ofynnol i gynghorwyr di-dâl, yn yr un modd â Chynghorwyr Arbennig, gynnal didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil. Mae'r rheolau arferol sy'n ymdrin â chyfrinachedd yn berthnasol o safbwynt yr angen i'r cynghorydd ddiogelu unrhyw wybodaeth swyddogol y mae'n ei gweld yn rhinwedd y penodiad. Mae'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol a'r Rheolau ar Benodiadau Busnes ar gyfer Gweision y Goron hefyd yn berthnasol i gynghorwyr di-dâl. Ni ddylai cynghorydd di-dâl gostio dim i bwrs y wlad, ac eithrio’r costau sy’n gysylltiedig â darparu swyddfa wedi ei dodrefnu, defnyddio ffôn a chyfleusterau teipio, cyfrifiadur personol, system negeseuon adrannol mewnol a chostau teithio sy'n codi wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Cynghorwyr Polisi Arbenigol

2.14 Gallai’r Prif Weinidog hefyd benodi Cynghorwyr Polisi Arbenigol i gynorthwyo’r Llywodraeth pan fydd yn datblygu polisïau. Byddant yn cael eu cyflogi fel gweision sifil tymor byr yn yr adran bolisi berthnasol.

Penodiadau gan y Gweinidogion

2.15 Rhaid gwneud penodiadau i'r gwasanaeth sifil yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil a Chod y Gwasanaeth Sifil. 

2.16 Dylid gwneud penodiadau cyhoeddus yn unol â gofynion y gyfraith a, lle bo'n briodol, y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus y mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn cyflawni ei rôl reoleiddiol oddi tano. Dylai penodiadau cyhoeddus hefyd ddilyn gweithdrefnau Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a dylent adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i sicrhau nad yw dylanwad dros benodiadau i’r gwasanaeth sifil a phenodiadau cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio at ddibenion pleidiol. 

Y Gweinidogion a Gweision Sifil

Y Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil

3.1 Mae dyletswydd ar y Gweinidogion:

  • wrth iddynt benderfynu ar bolisi, i roi ystyriaeth deg a'r pwys dyladwy i gyngor deallus a diduedd a gânt oddi wrth weision sifil, yn ogystal ag  i ystyriaethau eraill a chyngor arall;
  • i gynnal didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil, a pheidio â gofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw fodd a fyddai'n groes i God y Gwasanaeth Sifil a gofynion Deddf Diwygio a Llywodraethiant Cyfansoddiadol 2010.

3.2  Dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol yn eu perthynas waith â’r Gwasanaeth Sifil a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch. Yr Ysgrifennydd Parhaol, gan ymgynghori â’r Prif Weinidog, fydd yn ymchwilio i bryderon a godir gan staff ynghylch ymddygiad Gweinidogion tuag atynt. Yn yr un modd, gall y Gweinidogion ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n gweithio gyda hwy eu trin gyda’r parch a’r cwrteisi dyladwy i’w swydd a cheisio darparu gwasanaeth proffesiynol bob amser. Os bydd gan y Gweinidogion bryderon ynghylch ymddygiad unrhyw aelod o staff yna dylent eu codi gyda’r Ysgrifennydd Parhaol yn y lle cyntaf.

3.3 Mae cyfrifoldeb ar y gwasanaeth sifil i ddarparu cyngor diduedd, gwrthrychol ac onest i’r Gweinidogion gan gynnwys yr holl wybodaeth a dadansoddiadau perthnasol, hyd eithaf eu gallu. Ni ddylai’r Gweinidogion geisio cyfarwyddo staff ynglŷn â’r cyngor y byddant yn ei gael ond, wrth gwrs, ni fydd raid iddynt dderbyn na dilyn y cyngor hwnnw. Gall y Gweinidogion ddisgwyl i’r gwasanaeth sifil fod yn ystyriol o nifer y materion a anfonir atynt i’w hystyried a dylai’r gwasanaeth sifil geisio darparu gwybodaeth a chyflwyno materion mewn modd sydd mor fyr, clir a hwylus â phosibl.

3.4 Y Gweinidogion sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau i staff y Swyddfa Breifat sy'n eu cynorthwyo yn eu rôl fel Gweinidogion. Rhaid peidio â defnyddio'r aelodau hyn o staff i gynorthwyo'r Gweinidogion â materion sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid nag â materion sy'n gysylltiedig â'u hetholaethau.

Gweision sifil a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid

3.5 Os yw Gweinidog am gael papur briffio ffeithiol ar gyfer digwyddiad sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu ar gyfer digwyddiad arall nad yw'n gysylltiedig â'i rôl fel Gweinidog er mwyn esbonio polisïau neu gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru, caniateir i weision sifil ddarparu papur briffio o'r fath yn yr un modd ag y caniateir iddynt roi gwybodaeth i unrhyw Aelod arall o'r Senedd, ond nid yw'n briodol i Weinidog ofyn i weision sifil baratoi araith ddrafft ar gyfer digwyddiad o'r fath (er ei bod yn briodol iddo ofyn i Gynghorwyr Arbennig wneud hynny). Darperir papurau briffio ffeithiol yn ysgrifenedig fel arfer. Gallai’r Gweinidogion hefyd ofyn i weision sifil ddarparu briffiau technegol i Aelodau o’r Senedd neu Senedd y DU. Gellid darparu briffiau o’r fath ar lafar, gan gynnwys cyfle i ofyn cwestiynau, ond rhaid iddynt fod yn ffeithiol eu natur a gellir eu cynnig i Aelodau o bob plaid er mwyn cynnal didueddrwydd y gwasanaeth sifil.

3.6 Ni ddylai'r Gweinidogion ofyn i weision sifil fynd i Gynadleddau'r Pleidiau nac i gyfarfodydd sydd, o ran eu natur, yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, ac yn sicr, ni ddylent ofyn iddynt gymryd rhan ynddynt. Ni ddylai gweision sifil ychwaith yn rhinwedd eu swyddi dderbyn gwahoddiadau i gynadleddau sy'n cael eu cynnull neu eu noddi gan sefydliadau sy'n ymhél â gwleidyddiaeth plaid ac eithrio pan fo angen iddynt fod yn bresennol er mwyn cynnal busnes hanfodol, nad yw'n gysylltiedig â'r gynhadledd, ar ran Llywodraeth Cymru. (Nid yw hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynadleddau Cyngres yr Undebau Llafur neu Gydffederasiwn Diwydiant Prydain). Gwneir eithriad i'r rheol hon yn achos Cynghorwyr Arbennig. O dan delerau eu contractau, caniateir iddynt fynd i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid, gan gynnwys cynhadledd flynyddol y blaid (ond ni chaniateir iddynt siarad yn gyhoeddus yn y gynhadledd), a chadw mewn cysylltiad ag aelodau'r blaid.

Cysylltiadau â sefydliadau allanol

3.7 Mae Gweinidogion yn cwrdd â llawer o bobl a sefydliadau ac yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau wrth fynd ati i lunio polisi ar gyfer y Llywodraeth. Dylid cofnodi'r ffeithiau sylfaenol am gyfarfodydd ffurfiol rhwng y Gweinidogion a grwpiau buddiant, gan nodi'r rhesymau dros y cyfarfod, enwau'r rheini sy'n bresennol a'r buddiannau sy'n cael eu cynrychioli. Ni ddylai Gweinidogion gwrdd yn ffurfiol â sefydliadau materion cyhoeddus proffesiynol (lobïwyr) sy’n ceisio dylanwadu ar farn neu benderfyniadau’r Llywodraeth.

Derbyn a llofnodi deisebau

3.8 O bryd i'w gilydd, gofynnir i Weinidogion dderbyn deisebau. Mae derbyn ac ystyried deisebau yn rhan o waith arferol llywodraeth. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gallai'r ffordd y cânt eu derbyn (e.e ym mhresenoldeb y Wasg) arwain at gyhuddiadau o ragfarn. Er enghraifft, bydd angen i Weinidog benderfynu weithiau ar fater sy'n gysylltiedig â phwnc deiseb a ddaw i law. O'r herwydd, uwch was sifil fydd yn derbyn deisebau bob amser ar ran Llywodraeth Cymru.

3.9 Weithiau, gofynnir i Weinidog lofnodi deiseb. Ni fydd Gweinidogion Cymru byth, o dan unrhyw amgylchiadau, yn llofnodi deisebau sydd i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

Rôl y Swyddog Cyfrifyddu

3.10 Yr Ysgrifennydd Parhaol yw Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru. Mae adran 133 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru yn cael dynodi aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru i fod yn Swyddogion Cyfrifyddu ychwanegol sy’n gyfrifol am faes diffiniedig o weithgareddau Llywodraeth Cymru. Os gwneir penodiadau o'r fath, dylai'r Gweinidogion dalu sylw priodol i'w cyfrifoldebau.

3.11 Y Prif Swyddog Cyfrifyddu ac unrhyw Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl gyngor sy’n cael ei roi i Weinidogion yn cynnwys canllawiau priodol ar y defnydd priodol o arian cyhoeddus. Dylai’r Swyddog Cyfrifyddu dynnu sylw Gweinidogion at unrhyw wrthdaro tybiedig rhwng diben y Gweinidog a dyletswyddau’r Swyddog Cyfrifyddu. Ni all Swyddog Cyfrifyddu dderbyn nodau neu bolisi’r Gweinidog heb ei archwilio.

3.12 Mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn bersonol gyfrifol am ei gamau gweithredu a rhaid ei fod yn gallu rhoi sicrwydd i’r Senedd a’r cyhoedd, am y safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus. Golyga hyn ystyried:

  • Rheoleidd-dra – sicrhau bod gwariant o fewn pwerau cyfreithiol ac yn cyd-fynd ag awdurdod seneddol, gan gynnwys cwmpasau cyllideb;
  • Priodoldeb – sicrhau bod gwariant yn unol â’r gwerthoedd a’r ymddygiad a ddisgwylir gan y sector cyhoeddus;
  • Gwerth am Arian – sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn penderfyniadau ynghylch gwariant cyhoeddus;
  • Dichonoldeb – sicrhau y gellir gweithredu cynigion gwariant yn fanwl gywir, yn gynaliadwy neu yn unol â’r amserlen fwriedig.

3.13 Yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, os bydd Gweinidog neu Gwnsler Cyffredinol yn ystyried camau gweithredu y mae’r Swyddog Cyfrifyddu wedi cynghori yn eu herbyn gan eu bod yn anghydnaws â’u cyfrifoldebau, dylent geisio datrys y sefyllfa drwy ddeialog pellach yn y lle cyntaf. Os na ellir datrys y sefyllfa, dylid codi’r mater gyda’r Prif Swyddog Cyfrifyddu a fydd efallai’n dymuno trafod y mater gyda’r Prif Weinidog. Dim ond ar ôl cymryd y camau hyn y dylai’r Prif Swyddog Cyfrifyddu geisio Cyfarwyddyd ysgrifenedig gan y Prif Weinidog i fynd ati fel y cyfarwyddwyd, fel y nodwyd ym Memorandwm y Prif Swyddog Cyfrifyddu. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod angen cymryd pob cam posibl ymlaen llaw i ddatrys y sefyllfa gyda’r Gweinidog.

Buddiannau Etholaethol* a Phleidiol y Gweinidogion

* mae hyn yn cynnwys Gweinidogion sy'n Aelodau rhanbarthol o'r Senedd yn hytrach nag Aelodau etholaethol

Buddiannau Etholaethol a Phleidiol

4.1 Darperir cyfleusterau ar gyfer y Gweinidogion ar draul Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Yn gyffredinol, ni ddylid defnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer gweithgareddau etholaethol nac ar gyfer gweithgareddau plaid. Dylai’r Gweinidogion wneud eu gwaith etholaethol ar eu traul eu hunain, yn yr un modd â phe baent yn Aelodau o'r Senedd nad ydynt yn Weinidogion. Mae hawl gan Weinidogion i gyflog y Senedd ac i gael eu had-dalu am wariant sy'n codi'n naturiol wrth gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau o'r Senedd.

4.2 Yn gyffredinol, ni ddylai eiddo'r Llywodraeth gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith etholaethol nac ar gyfer  gweithgareddau gwleidyddol plaid. Er hynny, mae realiti bywydau gwaith y Gweinidogion yn golygu ei bod yn anochel y bydd eu busnes swyddogol fel Gweinidogion a'u gwaith etholaethol neu eu gwaith dros eu plaid yn gorgyffwrdd i raddau. O bryd i'w gilydd, mae’n bosibl y bydd y Gweinidogion am ddefnyddio eu hystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd sy'n ymwneud â gwaith o'r fath ac y byddai'n briodol iddynt eu cynnal er mwyn hwyluso'u bywydau fel Gweinidogion. Dyma rai enghreifftiau o achlysuron lle y byddai hynny'n briodol:

  1. Cyfarfodydd rhwng y Gweinidogion a'r staff sy'n rhoi cymorth iddynt yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd am resymau penodol wedi eu diffinio'n glir sy'n gysylltiedig â'u busnes fel Gweinidogion a'u busnes yn yr etholaeth, megis trafodaethau i drefnu eu dyddiaduron.

  2. Cyfarfodydd rhwng y Gweinidog ac etholwyr iddo sy'n cyflwyno sylwadau am bwnc sydd ym mhortffolio'r Gweinidog.

  3. Cyfarfodydd gydag Aelodau’r Senedd ei blaid ei hun i drafod sut i ymdrin â busnes y Senedd.

4.3 Os yw'r Gweinidogion, o dan amgylchiadau eithriadol, yn cynnal digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid ar eiddo Llywodraeth Cymru, dylent wneud hynny ar eu traul eu hunain neu ar draul y blaid.

4.4 Os oes yn rhaid i'r Gweinidogion benderfynu ar faterion sydd yn eu portffolios eu hunain a allai effeithio ar eu hetholaethau neu eu rhanbarthau etholaethol, dylent ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wrthdaro buddiannau ymddangosiadol. Yn yr un modd, ni ddylai Gweinidogion weithredu yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion mewn modd a allai ymddangos fel pe bai’n ffafrio’n amhriodol eu hetholaeth neu eu rhanbarth, neu un neu ragor o’u hetholwyr. Dylid osgoi datganiadau i’r wasg a wneir yn enw Gweinidog sy’n pwysleisio’n benodol y buddion i etholaeth neu ranbarth y Gweinidog hwnnw. Fodd bynnag, nid yw Gweinidogion wedi’u heithrio rhag gwneud unrhyw benderfyniadau a allai effeithio ar eu hetholaeth pan nad oes effaith benodol arni, er enghraifft wrth ystyried rhaglen weithredu ledled Cymru. Os nad yw Gweinidog yn siŵr a oes gwrthdaro ai peidio rhwng y swydd y mae’n ei gwneud fel Gweinidog a'i swydd yn yr etholaeth/rhanbarth, dylai ymgynghori â’r Prif Weinidog ynghylch sut i ymdrin â'r mater. Dylid cofnodi pob ystyriaeth ynghylch a allai gwrthdaro buddiannau fodoli, ac unrhyw gamau a gymerir o ganlyniad i hynny.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

4.5 Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ystyried cwynion am gamweinyddu neu am fethiant i ddarparu gwasanaethau gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd aelod o'r cyhoedd am gwyno am un o wasanaethau Llywodraeth Cymru ac efallai y bydd yn cysylltu â Gweinidog ynghylch ei bryderon. Mewn achosion o'r fath dylai'r Gweinidog:

  1. os nad yw'r achwynydd yn un o'i etholwyr, ei gyfeirio at ei Aelod etholaethol o’r Senedd;
  2. os yw'r achwynydd yn un o'i etholwyr, neu os nad yw am gysylltu â'i Aelod o’r Senedd, ei gyfeirio at Bolisi Cwynion Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru;
  3. os yw'r achwynydd wedi cael ymateb gan dîm cwynion Llywodraeth Cymru a'i fod yn dal yn anhapus, ei gyfeirio at weithdrefn gwynion yr Ombwdsmon (gall achwynydd godi cwyn gyda'r Ombwdsmon yn uniongyrchol). Dylai unrhyw Weinidog sy'n cyfeirio achwynydd at yr Ombwdsmon hysbysu'r Gweinidog perthnasol a'r Ysgrifennydd Parhaol ymlaen llaw.

4.6 Dylai'r Gweinidog, os oes modd, weithredu yn yr un modd yn union ag Aelodau eraill o'r Senedd ‒ yn enwedig os yw'r achwynydd yn un o’i etholwyr.

Arwain Dirprwyaethau a Chyflwyno Sylwadau (gan gynnwys achosion cynllunio): Y Rhan Gyffredinol sy'n cael ei Chwarae gan y Gweinidogion

4.7 Mae rhwydd hynt i'r Gweinidogion fynegi barn eu hetholwyr am faterion etholaethol wrth y Gweinidog cyfrifol drwy ohebu ag ef, drwy arwain dirprwyaethau neu drwy gyfweliadau personol ar yr amod eu bod yn ei gwneud yn glir eu bod yn gweithredu fel cynrychiolwyr eu hetholwyr yn hytrach nag fel Gweinidogion . Cynghorir y Gweinidogion i fod yn arbennig o ofalus gydag achosion sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio o fewn eu hetholaethau neu faterion tebyg eraill. Ym mhob achos o'r fath, mae'n bwysig eu bod yn ei gwneud yn glir mai cynrychioli safbwyntiau eu hetholwyr y maent, eu bod yn osgoi beirniadu polisïau Llywodraeth Cymru, a'u bod yn eu cyfyngu eu hunain i sylwadau y byddai’n rhesymol iddynt gael eu gwneud gan y rheini nad ydynt yn Weinidogion.

4.8 Unwaith y cyhoeddir penderfyniad, fel rheol, dylid ei dderbyn heb ei gwestiynu na'i feirniadu. Wrth fynegi safbwyntiau eu hetholwyr, mae'n bwysig bod y Gweinidogion yn gwneud hynny mewn modd nad yw'n creu anhawster i'r Gweinidogion sy'n gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw, a'u bod hefyd yn cadw cydgyfrifoldeb y Cabinet am y canlyniad mewn cof. Dylai'r Gweinidogion hefyd ystyried goblygiadau posibl eu sylwadau i’r cyfrifoldebau yn eu portffolio eu hunain.

Cynigion i'r Loteri

4.9 Er mwyn osgoi rhoi'r argraff bod Gweinidogion yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dyfarnu arian y Loteri, ni ddylai'r Gweinidogion, fel rheol, roi cefnogaeth gyhoeddus benodol i geisiadau am arian y Loteri. Os yw Gweinidog am gefnogi prosiect penodol o fewn ei etholaeth, dylai ei gwneud yn gwbl glir mai yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd ei etholaeth y mae'n gwneud hynny.

Buddiannau Preifat y Gweinidogion

Gwrthdaro Buddiannau

5.1 Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat – yn ariannol neu fel arall. Cyfrifoldeb personol pob un Gweinidog yw penderfynu a oes angen gweithredu a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi gwrthdaro neu argraff o wrthdaro, gan ystyried cyngor a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Gweithdrefnau

5.2 Wrth iddynt gael eu penodi i bob swydd newydd, rhaid i'r Gweinidogion roi rhestr ysgrifenedig gyflawn i'r Ysgrifennydd Parhaol o'r holl fuddiannau hynny y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau. Dylai'r rhestr gynnwys buddiannau priod neu bartner y Gweinidog ac aelodau o'i deulu agos y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau.

5.3 Pan fo hynny'n briodol, bydd y Gweinidog yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol i gytuno ar gamau ar gyfer ymdrin â buddiannau. Rhaid i'r Gweinidogion gofnodi'n ysgrifenedig y camau a gymerwyd, a rhoi copi o'r cofnod hwnnw i'r Ysgrifennydd Parhaol. Os teimlir bod y cyngor sy'n ofynnol yn fwy na’r hyn y gall swyddogion ei ddarparu’n briodol, cynghorir y Gweinidog i geisio ei gyngor proffesiynol ei hun, ac ef fydd yn ysgwyddo'r gost am y cyngor hwnnw.

5.4 Cynghorir y Gweinidogion i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn ddi-oed os yw eu hamgylchiadau yn newid o gwbl. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu at y Gweinidogion yn flynyddol yn gofyn iddynt gadarnhau bod y cofnod o'u buddiannau preifat yn gyflawn ac yn gyfredol.

5.5 Os yw'n briodol i Weinidog gadw buddiant preifat, dylai ddatgan y buddiant hwnnw wrth ei gyd Weinidogion os oes yn rhaid iddynt drafod busnes cyhoeddus sy'n effeithio ar y buddiant hwnnw mewn unrhyw fodd; ni ddylai'r Gweinidog hwnnw gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth am y busnes hwnnw. Gallai fod angen cymryd camau tebyg mewn perthynas â buddiannau blaenorol Gweinidog.

5.6 Mae'r wybodaeth bersonol y mae'r Gweinidogion yn ei datgelu i'r rheini sy'n eu cynghori yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Fodd bynnag, bydd datganiad a fydd yn cynnwys buddiannau Gweinidogion perthnasol yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol.

Buddiannau ariannol

5.7 Rhaid i'r Gweinidogion ofalu eu bod yn osgoi unrhyw berygl o wrthdaro buddiannau, neu’n osgoi rhoi’r argraff bod unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng eu swydd fel Gweinidog a'u buddiannau ariannol preifat. Dylent gadw at yr egwyddor gyffredinol o naill ai cael gwared ar unrhyw fuddiant sy'n arwain at y gwrthdaro buddiannau, neu gymryd camau eraill i'w atal. Dylent ystyried y cyngor a roddwyd iddynt gan yr Ysgrifennydd Parhaol wrth ddod i benderfyniad. Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Cyfrifyddu, mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldeb personol dros briodoldeb a rheoleidd-dra ariannol ar draws busnes Llywodraeth Cymru, a rhaid rhoi pwys penodol ar ei gyngor ef pan fo materion o'r fath yn codi. Ni ddylai gobaith neu ddisgwyliad Gweinidog o gael ei gyflogi yn y dyfodol gan gwmni neu sefydliad penodol ddylanwadu ar ei benderfyniad.

5.8 Pan benderfynir fel eithriad y gall Gweinidog gadw buddiant, rhaid i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru roi ar waith brosesau i wahardd y Gweinidog rhag cael gweld papurau penodol a sicrhau nad yw'r Gweinidog yn rhan o benderfyniadau a thrafodaethau penodol yn gysylltiedig â'r buddiant hwnnw.

5.9 Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosibl dod o hyd i ffordd o osgoi gwrthdaro buddiannau. Mewn achosion o'r fath, rhaid ymgynghori â'r Prif Weinidog er mwyn i drefniadau perthnasol gael eu gwneud, a'r Prif Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol mewn achosion o'r fath.

Partneriaethau

5.10 Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylai Gweinidogion sy'n bartneriaid, naill ai mewn cwmnïau proffesiynol, er enghraifft cyfreithwyr, cyfrifwyr etc, neu mewn busnesau eraill, fel rheol, roi'r gorau i'r gwaith hwnnw ac ni ddylent chwarae unrhyw ran yn y gwaith o reoli materion y cwmni neu'r busnes o ddydd i ddydd. Rhaid cael cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer unrhyw eithriadau i hyn.

Swyddi Cyfarwyddwyr

5.11 Wrth ddechrau ar eu swyddi, rhaid i'r Gweinidogion roi'r gorau i unrhyw swyddi cyfarwyddwyr. Mae hyn yn berthnasol pa un a yw'r swydd cyfarwyddwr mewn cwmni cyhoeddus neu gwmni preifat a pha un a yw’r swydd yn un lle y rhoddir tâl neu’n swydd fygedol. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw y caniateir iddynt gadw swyddi cyfarwyddwyr mewn cwmnïau preifat a sefydlwyd mewn cysylltiad ag ystadau teuluol preifat neu mewn cwmni a ffurfiwyd er mwyn rheoli fflatiau lle y mae'r Gweinidog yn denant, ar yr amod bod y Gweinidog, os yw'n teimlo ar unrhyw adeg fod gwrthdaro yn debygol o godi rhwng ei fuddiant preifat a'i ddyletswydd gyhoeddus, yn ymddiswyddo o'r swydd cyfarwyddwr hyd yn oed yn yr achosion hynny.

Penodiadau Cyhoeddus

5.12 Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylai'r Gweinidogion roi'r gorau i unrhyw benodiad cyhoeddus arall sydd ganddynt.

Cyrff nad ydynt yn rhai cyhoeddus

5.13 Dylai'r Gweinidogion ofalu eu bod yn sicrhau nad ydynt yn gysylltiedig â chyrff sydd heb fod yn rhai cyhoeddus y gallai eu hamcanion wrthdaro i unrhyw raddau â pholisïau Llywodraeth Cymru gan, arwain, o'r herwydd, at wrthdaro buddiannau. Felly, ni ddylai'r Gweinidogion, fel rheol, dderbyn gwahoddiadau i noddi neu i gefnogi mewn rhyw fodd arall grwpiau pwyso neu sefydliadau sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol ddibynnol ar arian oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fel rheol, nid oes cymaint o wrthwynebiad i'r Gweinidogion eu cysylltu eu hunain ag elusen (yn amodol ar y pwyntiau uchod) ond dylent ofalu eu bod yn sicrhau, wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, nad ydynt yn eu rhoi eu hunain o dan rwymedigaeth fel Gweinidogion i'r rheini y cyfeirir apeliadau atynt, nac ychwaith yn rhoi’r argraff honno (ac o'r herwydd, ni ddylent gysylltu ag unigolion neu â chwmnïau at y diben hwn). Dylid ymgynghori â'r Prif Weinidog ym mhob achos o’r fath. Dylai’r Gweinidogion hefyd ystyried eu hymwneud ag unrhyw sefydliadau yn eu rôl fel Aelod o'r Senedd a sicrhau nad yw unrhyw gyngor a ddarparant yn ffafrio un sefydliad, neu’n ymddangos fel pe bai’n gwneud hynny, mewn perthynas â chyllid y Llywodraeth.

Undebau Llafur

5.14 Wrth reswm, nid oes gwrthwynebiad i Weinidogion fod yn aelodau o undebau llafur, ond rhaid iddynt ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau neu’n osgoi rhoi’r argraff bod gwrthdaro buddiannau. Yn unol â hynny, dylai’r Gweinidogion drefnu eu materion mewn modd sy'n osgoi unrhyw awgrym bod gan undeb y maent yn aelod ohono ormod o ddylanwad; ni ddylent gymryd rhan weithredol yng ngwaith yr undeb, dylent roi'r gorau i unrhyw swydd y maent yn ei dal mewn undeb ac ni ddylent gael unrhyw daliad cydnabyddiaeth gan undeb. Mae taliad mewn enw at ddibenion diogelu hawliau pensiwn Gweinidog yn y dyfodol yn dderbyniol.

Derbyn rhoddion a lletygarwch

5.15  Mae'r ffaith na ddylai unrhyw Weinidog dderbyn rhoddion, lletygarwch neu wasanaethau oddi wrth unrhyw un mewn modd a allai ei roi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff ei fod o dan rwymedigaeth, yn rheol sefydledig a chydnabyddedig. Mae'r un egwyddor yn berthnasol os cynigir rhoddion etc i aelod o'i deulu.

5.16 Mater i'r Gweinidogion arfer eu synnwyr cyffredin yn ei gylch yw hwn yn bennaf. Ond os oes gan unrhyw un o'r Gweinidogion amheuon neu anhawster yn hyn o beth, dylai geisio cyngor yr Ysgrifennydd Parhaol.

5.17 Eiddo Llywodraeth Cymru fydd rhoddion a roddir i Weinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion. Fodd bynnag, caiff y derbyniwr gadw rhoddion nad ydynt o werth mawr; sef gwerth o hyd at £320 ar hyn o bryd. Os na fydd y Gweinidog yn eu cadw, dylid rhoi rhoddion nad ydynt o werth mawr i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Is-adran y Cabinet i’w gwaredu.

5.18 Rhaid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Is-adran y Cabinet am unrhyw roddion sy’n werth mwy na hynny. Caiff y derbynnydd brynu rhoddion o’r fath am eu gwerth mewn arian parod (wedi’i leihau o £320) i’w cadw’n bersonol. Os na fydd y Gweinidog yn eu prynu, dylid rhoi rhoddion sy’n werth mwy na hynny i Is-adran y Cabinet i’w gwaredu.

5.19 Fel arfer, ni fydd tollau na TAW mewnforio yn daladwy ar fewnforio rhoddion swyddogol a dderbynnir dramor. Gall CThEM gynghori mewn achosion lle mae unrhyw amheuaeth. Wrth fewnforio rhoddion a dderbynnir dramor sy'n werth mwy na lwfansau arferol teithwyr, dylid eu datgelu i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a byddant hwy yn cynghori ar unrhyw dollau ac atebolrwydd i dalu treth. Yn gyffredinol, os yw Gweinidog am gadw rhodd, ef fydd yn atebol am dalu unrhyw dreth a all fod yn daladwy ar y rhodd honno.

5.20 Nid oes angen gwneud datganiad yng Nghofrestr Buddiannau'r Aelodau ynghylch rhoddion y mae Gweinidogion yn eu cadw. Mae rhoddion a roddir i’r Gweinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd yn dod o dan y rheolau sy'n ymwneud â Chofrestr Buddiannau Aelodau’r Senedd.

5.21 Mae’n rhaid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn Is-adran y Cabinet am unrhyw letygarwch sy’n werth mwy na £320 a roddir i Weinidogion. Os yw Gweinidog yn derbyn lletygarwch sy’n werth llai na £320 ond sydd ar raddfa neu o ffynhonnell y gellid yn rhesymol barnu ei bod yn debygol o ddylanwadu ar yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, dylid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet. Mae unrhyw letygarwch a roddir i’r Gweinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd yn dod o dan y rheolau sy'n ymwneud â Chofrestr Buddiannau’r Aelodau.

5.22 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr flynyddol o roddion a lletygarwch sy’n werth mwy na £320 a dderbynnir gan Weinidogion ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhestr yn manylu ar werth y rhoddion a’r lletygarwch a roddwyd ac yn nodi a gafodd rhoddion eu cadw gan Lywodraeth Cymru neu eu prynu gan y Gweinidog.

Enwebu ar gyfer anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau

5.23 O bryd i'w gilydd, gofynnir i’r Gweinidogion roi eu cefnogaeth bersonol i enwebiadau ar gyfer anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau. Ni ddylai’r Gweinidogion noddi enwebiadau unigol ar gyfer unrhyw ddyfarniadau, a hynny oherwydd y byddai'n anochel y byddai rhai yn cymryd bod Llywodraeth Cymru ei hun yn eu noddi. Yn yr un modd, ni ddylai’r Gweinidogion fel arfer gefnogi ceisiadau am gyllid o fannau eraill oni bai bod hynny er budd clir i Lywodraeth Cymru, ac nad oes perygl i’r gefnogaeth ymddangos fel pe bai’n dangos ffafriaeth, er enghraifft cefnogi cais sefydliad academaidd am gyllid gan un o Gynghorau Ymchwil y DU. Mae'n briodol i Weinidog roi cefnogaeth yn rhinwedd ei rôl fel Aelod o’r Senedd etholaethol yr ymgeisydd os nad oes gwrthdaro â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog, ac os na roddir yr argraff bod gwrthdaro o'r fath.

Geirda ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus

5.24 Gofynnir i'r Gweinidogion, yn yr un modd â staff Llywodraeth Cymru, beidio â rhoi geirda i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus. Dylid ymgynghori â'r Prif Weinidog os oes unrhyw amheuon yn hyn o beth. Yr eithriad yw pan fo Gweinidog yn gweithredu'n gyfan gwbl yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o’r Senedd neu'n bersonol, a bod hynny’n cael ei wneud yn amlwg.

Llenwi arolygon

5.25 Yn achlysurol, mae’r Gweinidogion yn cael cais i lenwi arolygon neu holiaduron. Gofynnir i'r Gweinidogion beidio â gwneud hynny, gan ystyried pa mor anodd yw gwahanu'r safbwyntiau personol hynny oddi wrth safbwyntiau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fo'r cais wedi'i dderbyn yn rhinwedd eu swydd fel Aelod o’r Senedd.

Derbyn penodiadau ar ôl gadael swydd Gweinidog

5.26 Ar ôl gadael eu swydd, gwaherddir y Gweinidogion rhag lobïo'r Llywodraeth am ddwy flynedd. Rhaid iddynt hefyd geisio cyngor y Pwyllgor Annibynnol ar Benodiadau Busnes am unrhyw benodiadau neu gyflogaeth y maent yn dymuno ymgymryd â hwy cyn pen dwy flynedd o adael y swydd.  Rhaid i gyn-Weinidogion wneud yn siŵr nad ydynt yn cyhoeddi unrhyw benodiadau newydd, nac yn ymgymryd â hwy, cyn i’r Pwyllgor allu rhoi ei gyngor.

5.27 Disgwylir i gyn-Weinidogion ystyried cyngor y Pwyllgor.

Rhan 2: Canllawiau gweithdrefnol ar gyfer y gweinidogion

Yn yr adran hon:

  1. Y Gweinidogion a'r Llywodraeth
  2. Y Gweinidogion a'r Cynulliad
  3. Y Gweinidogion a Chyflwyno Polisi
  4. Trefniadau Teithio’r Gweinidogion

Y Gweinidogion a'r Llywodraeth

Cydgyfrifoldeb

6.1 Mae egwyddor cydgyfrifoldeb yn golygu y dylai’r Gweinidogion fedru mynegi eu safbwyntiau yn blwmp ac yn blaen a disgwyl cael dadlau’n agored yn breifat gan sefyll ynghyd ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud. Mae hyn yn ei dro yn golygu ei bod yn ofynnol iddynt gadw safbwyntiau a fynegir, a chyngor a gynigir, o fewn Llywodraeth Cymru, gan y Gweinidogion a chan y gwasanaeth sifil, yn breifat. Ni ddylid datgelu’r prosesau mewnol a ddefnyddiwyd wrth wneud penderfyniad. Mae penderfyniadau a wneir gan y Cabinet yn rhwymo holl aelodau'r Llywodraeth. Er hynny, fel rheol, wrth gyhoeddi penderfyniadau o’r fath, esbonnir mai penderfyniadau’r Gweinidog o dan sylw ydynt. Yn achlysurol, mae’n bosibl y bydd yn ddymunol pwysleisio pwysigrwydd penderfyniad drwy ddatgan yn glir mai penderfyniad Llywodraeth Cymru ydyw. Mae rhwymedigaeth ar y Gweinidogion hefyd i sicrhau bod penderfyniadau y cytunir arnynt gan y Cabinet yn cael eu gweithredu.

6.2 Mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol hefyd i’r Dirprwy Weinidogion, ac mae'n berthnasol i'r Cwnsler Cyffredinol, yn amodol ar annibyniaeth y Cwnsler Cyffredinol mewn rhai swyddogaethau, fel yr esbonnir isod (gweler paragraffau 6.17- 6.23).

Busnes y Cabinet

6.3  Yn bennaf, mae'r busnes y mae'r Cabinet yn ymdrin ag ef yn cynnwys materion sy’n ymwneud mewn ffordd arwyddocaol â chydgyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, naill ai am eu bod yn codi cwestiynau pwysig sy’n gysylltiedig â pholisi, trethiant, y cyfansoddiad neu am eu bod o hanfodol bwys i’r cyhoedd.

6.4 Os yw materion yn gyfrifoldeb llwyr i un Gweinidog ac os nad ydynt yn ymwneud mewn ffordd arwyddocaol â chydgyfrifoldeb, nid oes angen dod â hwy gerbron y Cabinet oni bai bod y Gweinidog yn dymuno rhoi gwybod i'w gydweithwyr neu am gael eu cyngor hwy. Ni ellir rhoi meini prawf pendant ar gyfer materion o'r fath sy'n ymwneud â chydgyfrifoldeb. Gall Ysgrifenyddiaeth y Cabinet gynghori, ond y Prif Weinidog piau'r penderfyniad terfynol.

6.5 Ni ddylid dod â materion gerbron y Cabinet onid ymgynghorwyd yn briodol â’r Gweinidogion y mae’r materion hynny’n uniongyrchol gysylltiedig â’u portffolios ac oni bai bod eu safbwyntiau’n cael eu hadlewyrchu’n llawn yn y papur. Dylai’r swyddogion perthnasol ystyried cwestiynau sy’n ymwneud â mwy nag un Gweinidog ac y mae angen i’r Cabinet eu hystyried ar y cyd cyn i’r cwestiynau hynny gael eu cyflwyno gerbron y Gweinidog arweiniol, a hynny er mwyn diffinio’n glir y penderfyniadau y mae angen eu gwneud. Os oes gwahaniaeth barn rhwng y Gweinidogion, ni ddylid cyfeirio’r mater i’r Cabinet nes i’r holl ffyrdd eraill o'i ddatrys cael eu dihysbyddu, gan gynnwys trafodaethau rhwng y Gweinidogion o dan sylw. Bydd gan Swyddfa'r Cabinet rôl allweddol i’w chwarae yn y gwaith hwn.

6.6 Caiff holl bapurau’r Cabinet eu hanfon at holl aelodau’r Cabinet. Ond, cyn i hynny ddigwydd, mae’n hanfodol bod y Gweinidogion yr effeithir yn uniongyrchol ar eu portffolios yn cael gweld y papurau hynny, ac yn eu trafod ar eu ffurf ddrafft, os oes angen. Mae hyn yn cynnwys yn benodol y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Fusnes Llywodraeth Cymru. Dylid eu seilio hefyd ar gyngor cyfreithiol llawn gan yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ar y cyd â'r Cwnsler Cyffredinol, a dylent gynnwys arfarniad priodol o’r goblygiadau ariannol. Ni ddylai papurau'r Cabinet gynnwys unrhyw faterion ariannol sydd heb eu datrys. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, ar ôl cael cytundeb y Prif Weinidog, yn gwrthod dosbarthu papurau nad ydynt yn bodloni’r gofynion hyn ac, o’r herwydd, caiff y drafodaeth ar yr eitem honno ei gohirio. Dylai'r Gweinidogion gadw’r pwyntiau hyn mewn cof wrth glirio papurau y mae angen eu dosbarthu.

Gohebiaeth y Cabinet

6.7 Bydd angen i'r Prif Weinidog gymeradwyo pob darn o ohebiaeth y Cabinet cyn iddo gael ei ddosbarthu gan Swyddfa Breifat y Gweinidog arweiniol. 

Cyfarfodydd y Cabinet

6.8 Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael blaenoriaeth dros bob busnes arall er y deellir bod amgylchiadau eithriadol yn gallu codi’n achlysurol (ee busnes y Senedd neu fusnes dramor) sy'n golygu y gall fod angen i Weinidog fod yn absennol. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol o’r fath y dylai’r Gweinidogion wneud cais i fod yn absennol o’r Cabinet, a dylent wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ysgrifenedig i'r Prif Weinidog.

6.9 Mae arweiniad ar gynnal busnes y Cabinet i’w weld mewn canllawiau ar wahân. Mae agendâu’r Cabinet yn cael eu cynllunio cyn belled ymlaen llaw ag y bo modd er mwyn i ymrwymiadau polisi'r Gweinidogion gael eu datblygu mewn modd strategol. Er hynny, ar adegau, bydd angen dod â materion byrdymor a/neu faterion brys gerbron y Cabinet. Yn y naill achos a’r llall, dylai ysgrifenyddion preifat y Gweinidogion roi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet cyn gynted ag y bo modd os yw’n debygol y bydd angen trafodaeth.

6.10 Ac eithrio materion y mae brys eithriadol yn eu cylch, dylai pob trafodaeth yng nghyfarfodydd y Cabinet fod yn seiliedig ar bapur a ddosbarthwyd i’r holl Weinidogion ymlaen llaw. Mae hyn yn caniatáu i bawb sy’n bresennol drafod y mater ar sail gwybodaeth ac mae’n fodd hefyd i sicrhau bod cofnod priodol yn cael ei wneud o’r materion o dan sylw. Caiff y papurau fod yn enw un o’r Gweinidogion neu (ar ôl cael caniatâd y Gweinidog) yn enw swyddogion, ond dim ond papurau technegol, nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â materion gwleidyddol ddylai fod yn enw swyddogion. Dylai holl bapurau’r Cabinet fod ar gael i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet eu dosbarthu erbyn y prynhawn dydd Iau cyn pob cyfarfod fan hwyraf. 

6.11 Os yw maint y brys sy’n gysylltiedig ag unrhyw fater yn golygu nad oes modd dosbarthu papur, caniateir i’r Gweinidogion godi’r mater hwnnw ar lafar. Er hynny, mae trafodaethau am faterion o’r fath, o reidrwydd, yn fwy cyfyngedig na phe bai papur amdanynt, ac yn gyffredinol, nid yw’n briodol gwneud hyn os oes angen gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Dylai'r Ysgrifenyddion Preifat dynnu sylw swyddfa'r Prif Weinidog ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet at eitemau llafar y mae eu Gweinidog yn bwriadu eu codi cyn gynted â phosibl cyn y cyfarfod. Dim ond pan ofynnir fwy na 24 awr cyn cyfarfod y Cabinet y bydd y Prif Weinidog yn ystyried derbyn eitemau o dan ‘unrhyw fater arall’.

6.12 Dylai papurau’r Cabinet fod mor glir a chryno ag y bo modd. Fel rheol, ni ddylent fod yn fwy na phedair tudalen, ac mae’n bosibl na fydd Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn derbyn papur i'w ddosbarthu os yw’n rhy hir. Oni ellir ymdrin â’r materion o dan sylw mewn papur o’r fath, ni fydd modd, yn ôl pob tebyg, gwneud cyfiawnder â hwy yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael yng nghyfarfodydd y Cabinet. Mae’n bosibl y bydd y Gweinidogion am ymdrin â’r mater mewn gohebiaeth yn lle hynny. Dylai’r Gweinidogion sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu dilyn a, lle y bo angen, bod papurau a gyflwynir iddynt yn cael eu diwygio yn unol â hwy. Gall Ysgrifenyddiaeth y Cabinet roi cymorth manwl i swyddogion ym mhob achos.

Casgliadau a Chofnodion y Cabinet

6.13 Cyhoeddir agendâu, papurau a chofnodion y Cabinet chwe wythnos ar ôl y cyfarfod y maent yn ymwneud ag ef. Yn achlysurol, gellir dewis peidio â chyhoeddi papurau'r Cabinet, neu ddetholiadau ohonynt. Dylai'r Gweinidogion nodi wrth gyflwyno papur a ydynt yn ystyried ei fod yn anaddas i'w gyhoeddi, neu fod rhan(nau) ohono'n anaddas. 

Cyfrinachedd Dogfennau, etc

6.14 Dylai Gweinidogion sy'n rhoi'r gorau i'w swydd roi dogfennau'r Cabinet a/neu unrhyw bapurau swyddogol eraill sydd ganddynt yn ôl i Lywodraeth Cymru.

6.15 Pan fo’r weinyddiaeth yn newid, bydd y Prif Weinidog sy’n ymadael yn rhoi cyfarwyddiadau penodol ynghylch cael gwared ar bapurau’r Cabinet sy’n ymadael.

Hawl cyn-Weinidogion i weld papurau swyddogo

6.16 Mae’n arferiad i gyn-Weinidogion gael gweld, fel y bo’n rhesymol, ac yn ôl disgresiwn y Llywodraeth, bapurau a welwyd ganddynt pan oeddent yn eu swyddi. Ac eithrio cyn-Brif Weinidogion, cyfyngir yr hawl hwnnw i gyn-Weinidogion yn bersonol. Yn amodol ar gydymffurfio â Rheolau "Radcliffe" (paragraff 8.10), mae gan gyn-Weinidogion hawl i weld copïau o bapurau'r Cabinet a roddwyd iddynt pan oeddent yn eu swyddi, a hawl, yn yr adran berthnasol, i weld papurau swyddogol eraill y gwyddys eu bod wedi'u trin a’u trafod ar y pryd.

Y Cwnsler Cyffredinol

6.17 Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru ond mae yn aelod o Lywodraeth Cymru. Caiff y Cwnsler Cyffredinol fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Cabinet, a chymryd rhan ynddynt, drwy wahoddiad y Prif Weinidog. Y Cwnsler Cyffredinol yw cynghorydd cyfreithiol terfynol ac awdurdodol Llywodraeth Cymru ac ef sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gynrychiolaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn y llysoedd. Os nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn Aelod o’r Senedd, caniateir iddo, er hynny, gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd i’r graddau y mae’r Rheolau Sefydlog yn caniatáu hynny (ond ni chaiff bleidleisio) ac mae’n atebol i’r Senedd o ran arfer y swyddogaethau a roddir yn uniongyrchol i’r Cwnsler Cyffredinol. Ymhlith y swyddogaethau hynny y mae’r pŵer i gynnal achosion cyfreithiol er mwyn hyrwyddo neu ddiogelu budd y cyhoedd, i gyfeirio cwestiynau sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i’r llysoedd neu i gymryd rhan mewn achosion i benderfynu ar faterion sy’n ymwneud â datganoli. Y Cwnsler Cyffredinol hefyd fydd cynrychiolydd arferol Llywodraeth Cymru wrth iddi ymwneud â swyddogion cyfraith y DU a/neu swyddogion cyfraith y gweinyddiaethau datganoledig eraill.

6.18 Bydd yn briodol ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol am gwestiynau cyfreithiol penodol, gan amlaf y rhai mwyaf cymhleth yn gyfreithiol, neu’r rhai sy’n ddadleuol neu’n sensitif yn wleidyddol, neu’r rhai y mae iddynt y goblygiadau mwyaf eang. Dylid ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol drwy wneud cais i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gyfeirio'r mater ato. Er y gallai fod yn angenrheidiol a phriodol i Weinidog geisio barn y Cwnsler Cyffredinol yn uniongyrchol o dan amgylchiadau eithriadol, rhaid cael cyfarwyddyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn ceisio cyngor ysgrifenedig ffurfiol y Cwnsler Cyffredinol. Rhaid ceisio barn y Cwnsler Cyffredinol, neu gyngor yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol mewn da bryd, a hynny cyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i benderfyniadau tra phwysig y mae iddynt ystyriaethau cyfreithiol.

6.19 Yn gyffredinol, mae barn ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol, yn wahanol i bapurau eraill y Gweinidogion, ar gael i'r Gweinyddiaethau dilynol. Rhaid peidio â datgelu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi cyngor (neu nad yw wedi rhoi cyngor), na datgelu cynnwys y cyngor hwnnw, heb awdurdod y Cwnsler Cyffredinol, y tu allan i Lywodraeth Cymru.

6.20 Os yw swyddogaeth erlyn wedi ei breinio yn y Cwnsler Cyffredinol, rhaid i’r swyddogaeth honno gael ei harfer ganddo yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Rhaid i aelodau eraill Llywodraeth Cymru beidio ag ymyrryd, nac ymwneud mewn unrhyw fodd ag arfer swyddogaeth o'r fath.

6.21 Os yw swyddogaeth erlyn wedi ei breinio yn y Prif Weinidog, neu yng Ngweinidogion Cymru, bydd y swyddogaeth honno, fel rheol, yn cael eu harfer gan staff Llywodraeth Cymru, yn unol â threfniadau’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gyd-drafod â'r Cwnsler Cyffredinol. 

6.22 O safbwynt achosion sifil, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ddiogelu buddiannau Llywodraeth Cymru pan fo’n gweithredu fel cynrychiolydd ar ran Gweinidogion Cymru, neu ar ran y Prif Weinidog.

6.23 Pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithredu o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (neu’n arfer unrhyw swyddogaeth arall a freiniwyd yn y Cwnsler Cyffredinol o ddiogelu neu o hyrwyddo budd y cyhoedd), mae’r Cwnsler Cyffredinol yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn gymwys hefyd os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn arfer swyddogaeth o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (craffu ar Filiau). Er hynny, cyn cymryd unrhyw gamau o’r fath, dylai’r Cwnsler Cyffredinol hysbysu'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cymru perthnasol a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Achosion cyfreithiol y mae gan y Gweinidogion gysylltiad â hwy

6.24 O bryd i’w gilydd, bydd Gweinidogion yn gysylltiedig, mewn rhinwedd bersonol yn bennaf, ag achosion cyfreithiol ond o dan amgylchiadau a allai fod â goblygiadau iddynt yn eu sefyllfaoedd swyddogol. Mae difenwi yn enghraifft o faes lle y bydd achosion, yn ddieithriad, yn codi materion sy’n berthnasol i sefyllfa swyddogol y Gweinidog yn ogystal â’i sefyllfa breifat. Ym mhob achos o’r fath, dylai’r Gweinidogion ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn ymgynghori â’u cyfreithwyr eu hunain, er mwyn i’r Cwnsler Cyffredinol gael mynegi barn ynghylch sut y dylid ymdrin â'r achos o safbwynt budd y cyhoedd. 

6.25 O ran pa bryd y dylid cysylltu â’r Cwnsler Cyffredinol, dylid gweithredu fel a ganlyn:

  1. dylai Gweinidog ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bo’n bwriadu bygwth rhywun ag achos cyfreithiol neu ddwyn achos – er enghraifft, drwy ysgrifennu llythyr gelyniaethus – a allai roi’r argraff mai dyma’r cam cyntaf at fynd i gyfraith. Yn sicr, dylai ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn cyfarwyddo cyfreithwyr i gychwyn achos cyfreithiol, ac yn ddelfrydol cyn cysylltu â chyfreithwyr o gwbl;
  2. yn yr un modd, os yw Gweinidog yn ddiffynnydd mewn achos, dylai hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y bo modd. Os oes modd, dylai wneud hynny cyn iddo gyfarwyddo ei gyfreithwyr ei hun am y mater ond, pa un bynnag, dylai’r Gweinidog hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y byddo’n gwybod bod bygythiad o achos cyfreithiol;
  3. nid oes angen i Weinidog ymgynghori â’r Cwnsler Cyffredinol cyn ceisio cyngor ar fater, ar yr amod nad oes gan y Gweinidog, ar yr adeg honno, unrhyw fwriad i gychwyn achos ac nad oes unrhyw arwydd bod bwriad i gychwyn achos yn ei erbyn ef;
  4. gallai Gweinidog fod yn gysylltiedig ag achos mewn modd heblaw am fod yn un o’r partïon i’r achos hwnnw – er enghraifft, os yw’n dyst mewn achos. Er enghraifft, gallai Gweinidog sy’n cytuno i wneud datganiad o’i wirfodd o blaid un ochr yn hytrach na’r llall mewn achos o’r fath roi’r argraff, drwy amryfusedd, fod y Goron yn cefnogi un ochr mewn achos preifat. Yn fwy difrifol na hynny, gallai bod yn dyst olygu bod perygl y gofynnir i’r Gweinidog ddatgelu gwybodaeth neu ddogfennau sensitif y dylid hawlio imiwnedd budd y cyhoedd ar eu cyfer, ac o dan yr amgylchiadau hynny mae angen i’r Cwnsler Cyffredinol gael gwybod am y posibilrwydd hwnnw o’r cychwyn cyntaf. O dan amgylchiadau o’r fath, dylai’r Gweinidog hysbysu’r Cwnsler Cyffredinol cyn gynted ag y byddo’n gwybod y gallai fod yn gysylltiedig ag achos.

Y Gweinidogion a'r Senedd

Datganiadau gan Lywodraeth Cymru a Chyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru

7.1 Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i roi cyfrif i’r Senedd, ac i gael eu dal i gyfrif, am eu polisïau, eu penderfyniadau a’r hyn y maent yn ei wneud. Mae'n dilyn, felly, y dylai'r Gweinidogion, fel rheol, wneud datganiad i'r Senedd mewn perthynas â chyhoeddiadau pwysig.

7.2 Dylai cynigion y Gweinidogion ar gyfer busnes y Llywodraeth, gan gynnwys dadleuon a datganiadau llafar, gael eu cyflwyno i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Ysgrifenyddiaeth y Cyfarfod Llawn ac Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgorau er mwyn cael eu hamserlennu ac er mwyn i'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth gael cytuno arnynt. 

7.3 Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, y bydd datganiad llafar yn cael ei wneud yn y Senedd am unrhyw bwnc ar adeg benodol neu o fewn cyfnod penodol nes bod y Prif Weinidog a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth wedi cytuno ar yr amseriad arfaethedig a’r Gweinidogion perthnasol wedi cytuno ar gynnwys y datganiad.

7.4 Dylid anfon copïau o fersiwn derfynol cyhoeddiadau o’r fath at Ysgrifenyddion Preifat y Prif Weinidog a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Senedd ac i Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol, at Bennaeth Is-adran y Cabinet, Ysgrifennydd Preifat y Cynghorwyr Arbennig, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac i Swyddfa’r Wasg cyn gynted ag y byddant ar gael.

7.5 Fel rheol, yn unol â'r protocol y cytunwyd arno, dylid rhoi copi o destun unrhyw ddatganiad llafar i’r gwrthbleidiau awr cyn i’r datganiad gael ei wneud. At y diben hwn, rhaid i’r testun terfynol gyrraedd swyddfa'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth o leiaf awr a hanner cyn yr adeg y bwriedir gwneud y datganiad.

7.6 Bydd swyddfa’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth yn trefnu bod copi o destun terfynol datganiad llafar yn cael ei anfon ymlaen llaw at y Llywydd.

7.7 Dylid rhoi copïau o unrhyw ddatganiad y mae un o’r Gweinidogion yn bwriadu ei wneud gerbron y Senedd, (gan nodi "cadarnhaer mai dyna a draddodwyd " ar y datganiad hwnnw), ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfen sy'n cael ei chyhoeddi drwy gyfrwng y datganiad hwnnw, i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet a fydd yn trefnu eu bod yn cael eu hanfon at holl Aelodau’r Senedd wrth i'r Gweinidog godi i wneud y datganiad. 

7.8  Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi gwneud datganiadau pwysig ar y diwrnod olaf cyn Toriad. Fodd bynnag, mae'r Gweinidogion yn parhau i arfer eu swyddogaethau ac i wneud penderfyniadau yn ystod Toriadau ac mae'n briodol felly bod Datganiadau Ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi mewn cysylltiad â phenderfyniadau a chyhoeddiadau perthnasol fel y bo'r Aelodau Senedd yn cael eu hysbysu amdanynt.

Biliau Senedd Cymru a gyflwynir gan y Llywodraeth

7.9 Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, i gyflwyno Bil Senedd am unrhyw fater heb gael cytundeb y Cabinet ymlaen llaw. Ni ddylai’r Gweinidogion wneud ymrwymiadau, naill ai yn y Senedd neu y tu allan iddi, y bydd Bil Senedd yn cael ei gyflwyno ar adeg benodol neu o fewn cyfnod penodol heb gytundeb y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth.

7.10 Wrth gyflwyno Biliau Senedd yn y Senedd, dylai’r Gweinidogion sy’n gyfrifol amdanynt sicrhau eu bod hefyd yn cyflwyno Memorandwm Esboniadol clir, cynhwysfawr a llawn gwybodaeth, sy’n cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl Rheolau Sefydlog y Senedd. Rhaid i'r Bil gael ei glirio gan y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, a rhaid i'r Memoranda Esboniadol cysylltiedig gael eu clirio gan y Prif Weinidog, cyn iddynt gael eu cyflwyno.  

Darparu Cyhoeddiadau

7.11 Yn unol â Rheol Sefydlog 7.21, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Fusnes y Senedd sy’n gyfrifol am gyflwyno eitemau o fusnes y Llywodraeth yn y Cyfarfodydd Llawn i’r Swyddfa Gyflwyno. Os yw cynnig yn cyfeirio at un neu fwy o ddogfennau, rhaid iddynt fod ar gael i’r Aelodau ymlaen llaw.

Penderfyniadau Ariannol

7.12 Bydd pob cynnig sy’n ymdrin â Phenderfyniadau Ariannol o dan Reolau Sefydlog yn cael ei gyflwyno yn enw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth (hy yr Aelod Cyfrifol). Ef fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Senedd yn cymeradwyo’r Penderfyniad.

Cael gafael ar y Gweinidogion

7.13 Fel rheol, disgwylir y bydd ymrwymiadau’r Gweinidogion yn y Senedd yn cael blaenoriaeth dros ddigwyddiadau eraill, a chyfrifoldeb pob Gweinidog yw sicrhau bod ceisiadau i fod yn absennol o’r Senedd yn cael eu cyflwyno a’u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes y Senedd.

7.14 Rhaid i Weinidogion sy'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant (o hyd at 6 mis), neu absenoldeb estynedig arall o’r Llywodraeth, ofyn am ganiatâd y Prif Weinidog. Pan fo'r Prif Weinidog yn cytuno i gais o'r fath, rhaid i'r Gweinidog beidio ag arfer ei swyddogaethau fel Gweinidog yn ystod ei gyfnod o absenoldeb oni bai bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog sy'n ymdrin â chyfrifoldebau'r Gweinidog dros dro yn cytuno i hyn.

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol 

7.15 Er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau, ni ddylai’r Gweinidogion fod yn aelodau o unrhyw Grwpiau Trawsbleidiol. Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylent roi’r gorau i fod yn aelodau o unrhyw grwpiau o’r fath y maent, bryd hynny, yn aelodau ohonynt.

Ymddangos gerbron un o Bwyllgorau Dethol Senedd y DU

7.16 Caiff Pwyllgorau Dethol Senedd y DU wahodd un o Weinidogion Cymru i ddod i roi tystiolaeth ger eu bron. Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu a ddylid derbyn gwahoddiadau o’r fath ai peidio, ac os byddant yn cytuno i wneud hynny, cânt roi gwybodaeth berthnasol i’r Pwyllgorau hynny am bolisïau ac arferion Llywodraeth Cymru. Dylid hysbysu’r Prif Weinidog am amgylchiadau o’r fath.

Y Gweinidogion a Chyflwyno Polisi

Hysbysu am Bolisi

8.1 Caniateir defnyddio cyfleusterau swyddogol sy’n cael eu hariannu ag arian cyhoeddus ar gyfer gwaith cyhoeddusrwydd a hysbysebu sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru, ond ni chaniateir eu defnyddio er mwyn lledaenu deunydd sydd, yn ei hanfod, yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid. Mae’r confensiynau sy’n rheoli gwaith Gwasanaeth Gwybodaeth y Llywodraeth i’w gweld yng nghanllawiau Gwasanaethau Cyfathrebu'r Llywodraeth Propriety Guidance ‒ Guidance on Government Communications.

8.2 Er mwyn sicrhau bod busnes y Cabinet yn cael ei gydgysylltu'n effeithiol, dylai’r Prif Weinidog gael cymeradwyo amseriad a chopïau drafft o’r hyn y bwriedir ei gynnwys o ran polisi mewn pob cyhoeddiad pwysig, araith, datganiad i'r wasg a menter polisi newydd. Dylid ymgynghori â swyddfa'r Prif Weinidog cyn gwneud unrhyw benderfyniad i roi cyfweliadau pwysig ac ymddangos yn y cyfryngau, nail ai mewn print neu mewn darllediadau.

Cyhoeddi Papurau Ymgynghori

8.3 Cyn i Weinidog gyhoeddi Papur Ymgynghori, dylai ystyried a yw’r papur hwnnw’n codi materion y mae angen iddynt gael eu hystyried yn llawn ar y cyd, ac y mae angen iddynt, o’r herwydd, gael eu cymeradwyo gan y Cabinet (gweler Pennod 6). Os oes datganiad pwysig am bolisi mewn unrhyw bapur ymgynghori, dylid ei anfon at aelodau’r Cabinet cyn iddo gael ei gyhoeddi.

8.4 Ac eithrio pan fo papurau ymgynghori o’r fath yn ymdrin â materion cyffredin neu â rhai sydd heb fod yn bwysig iawn, mae pryd i’w cyhoeddi yn ddibynnol ar ystyriaethau tebyg i’r rheini sy’n berthnasol yn achos cyhoeddiadau a wneir gerbron y Senedd.

Areithiau

8.5 Ym mhob achos ac eithrio’r rheini a ddisgrifir ym mharagraffau 4.7 a 4.8, mae egwyddor cydgyfrifoldeb yn gymwys. Dylai'r Gweinidogion sicrhau bod eu datganiadau yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru ar y cyd. Dylai’r Gweinidogion fod yn ofalus iawn wrth gyfeirio at bynciau y mae Gweinidogion eraill yn gyfrifol amdanynt.

8.6 Dim ond er mwyn dosbarthu testunau neu areithiau sy'n ymwneud â busnes y Llywodraeth y dylai'r Gweinidogion ddefnyddio peirianwaith swyddogol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Ni ddylid defnyddio peirianwaith swyddogol i ddosbarthu areithiau a wneir mewn cyd-destun sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid.

8.7 Ni ddylai’r Gweinidogion dderbyn tâl am areithiau neu erthyglau yn y cyfryngau sy'n rhai swyddogol eu natur nac am areithiau neu erthyglau yn y cyfryngau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u cyfrifoldebau neu eu profiad fel Gweinidogion, naill ai ar eu rhan eu hunain neu gyda golwg ar roi’r ffi i elusen. Os yw’r sefydliad o dan sylw yn mynnu cyfrannu at elusen, y sefydliad hwnnw ddylai ddewis yr elusen. Mae hyn yn fodd i osgoi unrhyw feirniadaeth bod Gweinidog yn defnyddio ei swydd swyddogol i ddylanwadu ar roddion i elusennau neu i gael y clod am wneud hynny.

Darllediadau gan y Gweinidogion ar y Radio, ar y Teledu neu Ar-lein

8.8 Dylai Gweinidogion sy’n cael eu gwahodd i ddarlledu ar y radio, ar y teledu neu mewn gweddarllediadau, naill ai mewn cyd-destun gwleidyddol neu fel unigolion preifat, ystyried a oes cysylltiad rhwng y darllediad a chyfrifoldebau un o’r Gweinidogion eraill, ac os oes, dylent gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog cyn derbyn y gwahoddiad.

Erthyglau yn y wasg

8.9 Caiff y Gweinidogion gyfrannu at lyfr, cyfnodolyn neu bapur newydd, gan gynnwys papur newydd lleol yn eu hetholaeth, ar yr amod na fydd cyhoeddi'r cyfraniad hwnnw'n anghydnaws â'r rhwymedigaethau sydd arnynt i'r Senedd a'r ddyletswydd sydd arnynt i barchu egwyddor cydgyfrifoldeb y Gweinidogion. Ni ddylid derbyn unrhyw dâl am erthyglau o'r fath. Rhaid i unrhyw un o'r Gweinidogion sydd am newyddiadura'n rheolaidd gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw.

Llyfrau

8.10 Ni chaniateir i’r Gweinidogion, tra byddant yn eu swyddi, ysgrifennu a chyhoeddi llyfr am eu profiadau fel Gweinidogion. Ni chaniateir iddynt ychwaith, tra byddant yn Weinidogion, wneud cytundeb i gyhoeddi eu hunangofiant ar ôl gadael eu swyddi fel Gweinidogion. Mae'n ofynnol i gyn-Weinidogion sy'n bwriadu cyhoeddi eu hunangofiant gyflwyno’r llawysgrif drafft i'r Ysgrifennydd Parhaol mewn digon o bryd cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi, ac mae'n ofynnol iddynt hefyd gydymffurfio â'r egwyddorion a nodir yn Adroddiad Radcliffe, a gyhoeddwyd yn 1976 (Cmnd 6386).

Cyfweliadau Ymchwil

8.11 Ar brydiau, gofynnir i'r Gweinidogion gymryd rhan mewn cyfweliadau gyda phobl sy'n gwneud ymchwil academaidd. Dylai’r Gweinidogion gadw mewn cof fod posibilrwydd y gallai eu safbwyntiau gael eu mynegi mewn ffordd sy’n anghydnaws â’u cyfrifoldebau a’u dyletswyddau fel aelodau o Lywodraeth Cymru ac fel rheol, dylid gwrthod rhoi cyfweliadau o'r fath, ond caiff Gweinidogion gyfeirio'r unigolion hyn drwy eu Swyddfa Breifat at swyddogion, a all ymgysylltu â hwy fel y bo'n briodol.

Cwynion

8.12 Rhaid i Weinidogion sydd am wneud cwyn am newyddiadurwr neu am adran benodol o’r cyfryngau, naill ai i Gomisiwn Cwynion y Wasg neu i’r Comisiwn Safonau Darlledu, gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog.

Ystadegau

8.13 Mae angen i'r Gweinidogion fod yn ymwybodol o God Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU, sy'n diffinio arferion da o ran ystadegau swyddogol, ac y mae'n statudol ofynnol i bob sefydliadu sy'n paratoi Ystadegau Gwladol ei ddilyn, yn unol â darpariaethau Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007.

8.14 Mae angen hefyd i'r Gweinidogion roi sylw i Orchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 sy'n gosod amodau mewn perthynas â gweld ystadegau swyddogol ar eu ffurf derfynol, gan gynnwys cyfyngu ar bwy sy'n cael eu gweld cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae’r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gweinidogion sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn cael gweld yr ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi ac mae’n gwahardd gwneud unrhyw ddatganiad neu sylw i'r wasg cyn i'r ystadegau gael eu rhyddhau.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

8.15 Y sianeli swyddogol ar y cyfryngau cymdeithasol ddylai fod y prif ddull cyfathrebu ar gyfer polisïau’r Llywodraeth. Fodd bynnag, os bydd Gweinidogion yn dymuno ymgysylltu ag eraill sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol personol, i amddiffyn neu hyrwyddo polisïau’r Llywodraeth, dylent fod yn ofalus iawn wrth wneud hynny. Dylai’r Gweinidogion fod yn ymwybodol bob amser o'r rhwymedigaeth sydd arnynt i gynnal cydgyfrifoldeb y Cabinet. Wrth ddefnyddio unrhyw gyfryngau cymdeithasol, boed yn rhinwedd eu gwaith etholaethol neu yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion, rhaid iddynt arfer cymedroldeb ac ystyried enw da a statws Llywodraeth Cymru.

Trefniadau Teithio’r Gweinidogion

9.1 Wrth drefnu i deithio o fewn y DU neu’r tu allan iddi, dylai Gweinidogion a gweision sifil gadw mewn cof egwyddorion cynaliadwyedd a'r nod o leihau ôl troed carbon lle bynnag y bo modd, yn enwedig ar ôl i’r datganiad ar argyfwng hinsawdd gael ei wneud. Dylid ystyried y dull mwyaf priodol o deithio ar gyfer pob ymweliad, gydag ystyriaethau amgylcheddol bob amser yn flaenaf.

Ymweliadau dramor gan y Gweinidogion

9.2 Fel rheol, ni ddylid mynd ar ymweliadau dramor pan fo’r Senedd yn cyfarfod. Dylai’r Gweinidogion drefnu ymweliadau o’r fath yn ystod y Toriad neu, os yw hynny’n briodol, ar y diwrnodau hynny lle nad oes busnes wedi ei drefnu yn y Senedd, ac eithrio pan fo rhesymau anorfod sy’n gysylltiedig â busnes Llywodraeth Cymru. Yn benodol, dim ond yn ystod Toriad y Senedd y dylid mynd ar ymweliadau dramor sydd, yn bennaf, yn rhai ymchwiliol. At hynny, wrth gynllunio ymweliadau dramor, dylai’r Gweinidogion gofio bod cyfarfodydd y Cabinet yn cael blaenoriaeth dros unrhyw fusnes arall. Rhaid i ddigon o Weinidogion fod ar gael yn ystod y Toriadau i sicrhau bod busnes Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn effeithiol, ac o’r herwydd, mae’n bosibl y bydd angen cyfyngu ar y niferoedd sy’n absennol dramor neu ailfeddwl am ymweliadau dramor.

9.3 Dylai’r Gweinidogion hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach cyn gynted ag y byddant yn ystyried mynd ar unrhyw ymweliad dramor (er enghraifft, pan ddaw gwahoddiad i law). Yr Adran fydd yn gyfrifol am ymgynghori â staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu lle bo hynny'n briodol, ac am hysbysu’r Gweinidog o dan sylw am ei safbwyntiau. Ar ôl hynny, dylid rhoi rhan lawn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach wrth wneud y trefniadau ar gyfer yr ymweliad.

9.4 Rhaid i unrhyw Weinidog sydd am fod yn absennol o’r DU am unrhyw reswm  geisio cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog. Rhaid gwneud hynny cyn ymrwymo i unrhyw beth. Yn achos ymweliadau swyddogol, dylai’r achos busnes yn ceisio cymeradwyaeth ar eu cyfer gynnwys y rhesymau dros yr ymweliad a rhestr o’r gwledydd y bwriedir ymweld â hwy, y gost a rhestr o’r swyddogion a fydd yn mynd gyda’r Gweinidog. Dylai’r Gweinidogion nodi hefyd pa fudd fyddai i’r ymweliad. Dylid anfon copïau o’r achos busnes at y Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes Llywodraeth Cymru ac at y Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach.

9.5 Dylai Gweinidogion sy’n bwriadu mynd ar ymweliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar fusnes fel Aelod o’r Senedd neu ar fusnes arall nad yw’n ymwneud â swydd Gweinidog, neu ar wyliau, ystyried hysbysu'r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymlaen llaw. Bydd hysbysu'r Adran yn ei galluogi i roi unrhyw wybodaeth neu gyngor (ee mewn perthynas â sensitifrwydd gwleidyddol neu o ran diogelwch) y mae'n teimlo a allai fod yn fuddiol i'r Gweinidog ac i hysbysu cynrychiolwyr y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu bod un o Weinidogion y Llywodraeth yn eu hardal hwy, er nad yw yno yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog.

9.6 Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn i gynghorydd arbennig fynd ar ymweliad dramor neu os yw Gweinidog yn bwriadu mynd â’i briod neu ei bartner neu swyddog nad yw’n cael tâl gydag ef.

9.7 Ni ddylid gwneud unrhyw baratoadau, boed yn rhai dros dro ai peidio, ar gyfer ymweliadau dramor cyn ymgynghori â’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach. Wrth drefnu ymweliadau swyddogol gan y Gweinidogion, dylid, bob amser, ymgynghori’n agos â deiliad y swydd lysgenhadol berthnasol.

9.8 Dylai’r Gweinidogion ofalu mai hwy, yn bersonol, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo maint a chyfansoddiad unrhyw ddirprwyaeth y byddant yn gyfrifol amdano, gan wneud hynny cyn ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog. Bydd Is-adran y Cabinet yn cadw cofnod cynhwysfawr a chanolog o deithiau’r Gweinidogion dramor. Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn o bob un o'r teithiau dramor gan Weinidogion sy'n costio mwy na £500, ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau'r Gweinidogion dramor. Dylai’r Gweinidogion fod yn esiampl i eraill o safbwynt maint grwpiau o ymwelwyr, drwy sicrhau bod eu grwpiau eu hunain cyn lleied â phosibl.

9.9 Ar ôl pob ymweliad swyddogol dramor, dylai'r Gweinidogion ystyried gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Cabinet.

9.10 Os bydd Gweinidog yn cwrdd â sefydliad neu unigolyn allanol ac yn canfod eu hun yn trafod busnes swyddogol heb fod swyddog yn bresennol – er enghraifft mewn achlysur cymdeithasol neu ar wyliau – dylai unrhyw gynnwys o bwys gael ei drosglwyddo i’r adran cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.

Cysylltiadau â llywodraethau eraill

9.11 Dylai’r Gweinidogion gofio ei bod yn bwysig anfon nodyn at y Prif Weinidog o brif bwyntiau unrhyw drafodaethau y byddant, o bosibl, yn eu cynnal gyda chynrychiolwyr gwledydd neu ranbarthau tramor neu’r Gymanwlad. Mae hyn yn berthnasol yn achos trafodaethau anffurfiol yn ogystal â’r rheini sy’n gysylltiedig â busnes swyddogol. Dylid anfon copi o’r nodyn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd y staff yno yn sicrhau bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cael ei briffio yn ôl y gofyn. Dylai’r Gweinidogion nodi bod hyn yr un mor berthnasol os yw cysylltiadau o’r fath yn cael eu gwneud tra byddant ar eu gwyliau yn y wlad o dan sylw (ac os yw’r Gweinidogion yn bwriadu gwneud cysylltiadau o’r fath, rhaid iddynt geisio barn y Prif Weinidog cyn teithio).

Ymweliadau gan Weinidogion y Gymanwlad neu Weinidogion tramor

9.12 Dylai’r Gweinidogion ymgynghori â’r Prif Weinidog cyn gwahodd Gweinidogion llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol eraill i ymweld yn swyddogol â Chymru. Dylai’r swyddogion perthnasol hefyd hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach am ymweliadau personol neu swyddogol y gwyddant amdanynt gan Weinidogion llywodraethau eraill neu gan unrhyw un arall o’r un statws. Mater i’r Prif Weinidog fydd penderfynu a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn gwahodd Gweinidogion o wledydd tramor a gwledydd y Gymanwlad i Gymru.

Lletygarwch dramor

9.13 Pa un a ydynt yn gwneud hynny gartref neu dramor, ni ddylai’r Gweinidogion anghofio’r goblygiadau posibl i bolisi tramor a allai ddeillio o faterion beunyddiol megis cynnig lletygarwch i wleidyddion tramor sy’n ymweld â’r wlad hon, o dderbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol tebyg, neu o roi cefnogaeth gyhoeddus i ddeisebau, llythyrau agored, etc. Mae’n bosibl y gallai sylwedyddion tramor ystyried bod arwyddocâd penodol i hynny, hyd yn oed os yw’r cysylltiad yn un anffurfiol. Os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai’r Gweinidogion ofyn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn ymrwymo i unrhyw beth. Dylid hefyd ymgynghori â’r Swyddfa honno pryd bynnag y bo Gweinidog, yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog, yn bwriadu traddodi araith sy’n ymdrin â materion sy’n effeithio ar faterion tramor ac ar faterion y Gymanwlad.

9.14 Os bernir y bydd angen i Weinidog gynnig lletygarwch tra bydd dramor, dylid ceisio cyngor yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd staff yr Is-adran honno yn ystyried a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ai peidio ynghylch a fyddai hynny’n ddymunol ac ynghylch y math o adloniant i’w gynnig.

Galw’r Gweinidogion yn ôl o dramor

9.15 Os yw Gweinidog dramor ar ôl cael caniatâd ac os caiff ei alw’n ôl am resymau sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru neu â’r Senedd ‒ gan gynnwys pleidleisio ‒ ceir talu am y daith ychwanegol yn ôl ac ymlaen ag arian cyhoeddus.

Ymweliadau gan y Gweinidogion yn y Deyrnas Unedig

9.16 Os yw’r Gweinidogion yn bwriadu mynd ar ymweliad swyddogol â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac os disgwylir iddynt fynd i ddigwyddiad cyhoeddus yn ystod yr ymweliad hwnnw, dylent hysbysu’r Prif Weinidog. Yn achos ymweliadau â Lloegr, dylid hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol; ac yn yr un modd, wrth ymweld â’r Alban, dylid hysbysu Prif Weinidog yr Alban, ac wrth ymweld â Gogledd Iwerddon, dylid hysbysu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Dylai’r Gweinidogion hefyd hysbysu’r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am unrhyw ymweliadau y maent yn bwriadu mynd arnynt i Ynysoedd y Sianel neu i Ynys Manaw. Hefyd, os yw’r Gweinidogion am ymweld ag un o sefydliadau Llywodraeth y DU yng Nghymru neu yn unrhyw le arall nad yw’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru (ee barics uned o’r Lluoedd Arfog), dylent hysbysu’r adran sy’n ei noddi ymlaen llaw.

9.17 Wrth i Weinidog baratoi i fynd ar ymweliad cyhoeddus yng Nghymru, mae’n arferiad iddo hysbysu’r Aelodau rhanbarthol o’r Senedd, yr Aelod etholaethol o’r Senedd a’r Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal. Dylid gofalu peidio ag anghofio gwneud hyn.  Ni chaniateir i’r Gweinidogion wahodd Aelodau o’r Senedd neu Aelodau Seneddol i fynd gyda hwy i ddigwyddiadau a drefnwyd gan drydydd parti, ond os ydynt yn rhoi digon o rybudd i’r Aelodau perthnasol, byddant yn gallu sicrhau eu bod yn cael cyfle i ofyn i’r trefnwyr lleol roi gwahoddiadau iddynt i ddigwyddiadau swyddogol y maent am fynd iddynt. Dylid darparu gwybodaeth debyg pan fo’r Gweinidogion yn ymweld â rhannau eraill o’r DU, gan gynnwys Aelodau perthnasol Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.

Treuliau teithio a chynhaliaeth

9.18 Wrth wneud eu trefniadau teithio a chynhaliaeth swyddogol, dylai’r Gweinidogion gadw at yr egwyddorion arweiniol isod:

  1. Priodoldeb: Ni ddylid defnyddio trafnidiaeth swyddogol, na hawlio treuliau, ar gyfer trefniadau teithio neu letygarwch sy’n gysylltiedig â busnes plaid, busnes preifat neu fusnes arall nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog, ac eithrio lle y gellir cyfiawnhau hynny am resymau sy’n ymwneud â diogelwch.
  2. Defnyddio adnoddau'n effeithlon: Mae’n rhaid cyfyngu ar rai gwasanaethau megis ceir swyddogol, a dylai’r Gweinidogion gofio bod angen eu defnyddio mewn ffordd effeithlon.
  3. Bod yn ymwybodol o gostau: Dylid ystyried faint fyddai trefniadau eraill yn eu costio cyn gwneud penderfyniadau a fyddai’n arwain at gostau sylweddol. Bydd hyn yn ystyriaeth benodol os yw teithiau awyr arbennig yn cael eu hystyried yn lle defnyddio gwasanaethau rheolaidd. Dylid cadw’r egwyddor hon mewn cof hefyd wrth ystyried trefniadau llety.
  4. Diogelwch: Dylai’r Gweinidogion gadw diogelwch mewn cof bob amser, yn enwedig wrth deithio mewn ceir.
  5. Bod yn atebol i'r cyhoedd: Mae’r Gweinidogion yn gyfrifol yn unigol am gyfiawnhau, gerbron y Senedd, yr hyn y maent yn ei wneud ac yn ei benderfynu. Byddant am eu bodloni eu hunain y byddai modd amddiffyn eu trefniadau yn gyhoeddus. 

9.19 Wrth ddefnyddio ceir swyddogol ac wrth deithio ar y trên neu mewn awyrennau, rhaid i drefniadau teithio’r Gweinidogion fod yn effeithlon ac yn gosteffeithiol bob amser. Pan fo’r Gweinidogion yn teithio ar fusnes swyddogol, Is-adran y Cabinet, fel rheol, ddylai dalu eu treuliau teithio. Mewn achosion lle nad oes unrhyw dreuliau yn cael eu talu yn y modd hwn, bydd y Gweinidogion am sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth amhriodol arnynt, nac ychwaith unrhyw ganfyddiad ohono.

Defnyddio Ceir Swyddogol

9.20 Bydd ceir swyddogol ar gael i’r Gweinidogion ac i’r Cwnsler Cyffredinol. Byddant ar gael hefyd i’r Ysgrifennydd Parhaol. Dylai’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol at unrhyw ddiben (ac eithrio dibenion sy’n gysylltiedig â phlaid, busnes preifat neu fusnes nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog) a fydd yn arbed amser.

9.21 Caniateir i’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol ar gyfer teithiau rhwng eu cartrefi a’r swyddfa yn ystod yr wythnos neu dros y penwythnos ar yr amod eu bod yn gweithio ar fusnes Llywodraeth Cymru ac yn cludo papurau sy’n gysylltiedig â gwaith Gweinidog yn ystod y daith.

9.22 Wrth deithio ar fusnes swyddogol, caniateir i Weinidog ddefnyddio car preifat yn lle car swyddogol a hawlio lwfans milltiroedd o dan yr un amgylchiadau ac ar yr un telerau â gweision sifil Llywodraeth Cymru.

9.23 Yn amodol ar y rheolau cyffredinol sydd i’w gweld yn y Cod hwn, caniateir i briod neu i bartner Gweinidog ddefnyddio’r car pan fônt yn mynd gyda’r Gweinidog i ddigwyddiadau swyddogol. Fel rheol, ni chaniateir i geir swyddogol gael eu defnyddio gan briod na phartner nac aelodau eraill o deulu’r Gweinidog mewn cysylltiad â digwyddiadau neu alwadau preifat neu wleidyddol.

9.24 Mae car a gyrrwr wedi eu neilltuo ar gyfer y Prif Weinidog. Bydd y ceir swyddogol sy'n weddill ar gael yn gyntaf i'r Gweinidogion eraill, yna'r Cwnsler Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol. 

Teithio ar Drên

9.25 Caniateir i’r Gweinidogion deithio yn y dosbarth cyntaf.

Teithiau Awyr

9.26 Caiff y Gweinidogion arfer eu disgresiwn a theithio mewn awyrennau sifil rheolaidd yn y wlad hon a thramor os ydynt o’r farn y byddai gwneud hynny’n arbed amser. Wrth archebu teithiau awyr o’r fath, dylent gadw’r gost, a diogelwch, mewn cof.

9.27 Dylai unrhyw deithiau awyr gan y Gweinidogion adlewyrchu cost allyriadau carbon, a hynny ar gyfradd briodol, gyda'r enillion yn cael eu cyfeirio at brosiectau datblygu rhyngwladol sy'n gyson ag amcanion y Gweinidogion ar gyfer datblygu cynaliadwy. Dylid nodi sut y bwriedir gwneud hyn yn yr achos busnes a gyflwynir i’r Prif Weinidog ar gyfer y siwrnai.

9.28 Caiff y Gweinidogion deithio yn y Dosbarth Busnes os yw ar gael ar yr awyren.

9.29 Dim ond at ddibenion swyddogol y dylid defnyddio buddiannau a geir drwy gynlluniau Hedfan yn Aml neu fuddiannau eraill a geir drwy deithiau y telir amdanynt ag arian cyhoeddus. Fel arall, dylid eu hildio, ac eithrio pan fônt yn de minimis (er enghraifft, cael mynd i lolfeydd ymadael arbennig neu fanteisio ar drefniadau archebu arbennig sy’n gysylltiedig â bod yn aelodau o glybiau ar gyfer y rheini sy’n hedfan yn rheolaidd). Er hynny, os nad yw’n ymarferol defnyddio’r buddiannau wrth deithio ar ran Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r Gweinidogion eu rhoi i elusen os caniateir hynny o dan delerau cynllun y cwmni awyrennau ac os dewisir yr elusen gan y cwmni awyrennau.

Teithio mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat

9.30 Mae’n bosibl yr awdurdodir teithiau mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat os nad oes gwasanaeth rheolaidd ar gael, os oes yn rhaid hedfan ond bod gofynion busnes Llywodraeth Cymru, ystyriaethau diogelwch, neu frys yn golygu na ellir defnyddio gwasanaeth rheolaidd. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol lle y gellir dangos nad oes unrhyw ddewis arall y dylid cymeradwyo teithiau awyr o’r fath. Dylid ceisio’r gymeradwyaeth honno oddi wrth y Prif Weinidog.

Costau teithio gwŷr/gwragedd/partneriaid

9.31 Pan fydd gŵr/gwraig/partner Gweinidogion yn mynd gyda hwy wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, caniateir defnyddio arian cyhoeddus i dalu eu treuliau weithiau, ar yr amod ei bod o fudd amlwg i'r cyhoedd iddo ef neu iddi hi fynd gyda'r Gweinidog. Mae angen cael cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw ym mhob achos.

Costau teithio Cynghorwyr Arbennig

9.32 Os oes angen, ac os yw hynny o fudd amlwg i’r cyhoedd, caniateir i Weinidog fynd â Chynghorydd Arbennig ar ymweliad dramor ar draul y cyhoedd. Dylid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog cyn i Gynghorydd Arbennig fynd ar ymweliad dramor gydag un o’r Gweinidogion.

Lletygarwch, rhoddion, etc.

9.33 Mae rheolau manwl ynghylch derbyn rhoddion, gwasanaethau a lletygarwch i’w gweld ym mhennod 5. Yn gyffredinol, ni ddylai’r Gweinidogion gynnig rhoddion na chyfnewid rhoddion. Er bod y bennod honno’n datgan yn glir na ddylai’r Gweinidogion nac aelodau o’u teuluoedd dderbyn rhodd oddi wrth unrhyw un a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff eu bod o dan rwymedigaeth, mae’n bosibl y byddai’n anodd iddynt wrthod rhodd oddi wrth lywodraeth (neu sefydliad) arall heb roi’r argraff eu bod yn anghwrtais. Ar y llaw arall, gall dderbyn rhodd neu wybod y caiff rhodd ei gynnig mewn rhai gwledydd ac o dan rai amgylchiadau olygu y gellid rhoi rhodd yn gyfnewid amdano. Wrth i’r Gweinidogion benderfynu a ddylent dderbyn rhoddion oddi wrth aelodau o lywodraethau (neu sefydliadau) eraill ai peidio, neu roi rhoddion iddynt, dylent, pryd bynnag y bo modd, ymgynghori â’r Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hynny o beth.

9.34 Gallai derbyn cynigion i deithio’n ddi-dâl gael ei gamddehongli. Er hynny, mae’n bosibl y byddai’n dderbyniol derbyn cynnig a roddir i Weinidog sydd ar fusnes swyddogol fynd gyda chynrychiolydd llywodraeth dramor y wlad y mae’n ymweld â hi, ar yr amod nad yw’n arwain at rwymedigaeth amhriodol, ac os yw’n fodd i arbed amser swyddogol neu’n gyfle i gynnal busnes swyddogol. Fel rheol, ni ddylid derbyn cynigon i deithio oddi wrth sefydliadau eraill, ac eithrio pan fônt yn rhan annatod o daith archwilio. O dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i Weinidogion dderbyn cynnig o’r fath os yw’n fodd i arbed amser swyddogol ac os nad oes unrhyw berygl y bydd yn arwain at rwymedigaeth amhriodol. Mewn achosion o’r fath, os yw’r siwrnai yn un hir, dylid ad-dalu’r sefydliad o dan sylw ag arian cyhoeddus, gan roi swm sy’n cyfateb i docyn dosbarth busnes ar wasanaeth rheolaidd. Os oes gan Weinidog unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai ymgynghori â’r Prif Weinidog.

Atodiad A: Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus

Anhunanoldeb

Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus ond gweithredu er budd y cyhoedd.

Uniondeb

Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth i bobl neu sefydliadau a allai geisio dylanwadu'n amhriodol arnynt wrth iddynt wneud eu gwaith. Ni ddylent wneud hynny er mwyn cael manteision ariannol neu unrhyw fanteision perthnasol eraill iddynt eu hunain, eu teulu neu eu ffrindiau. Rhaid iddynt ddatgan a datrys unrhyw fuddiannau a pherthynas.

Gwrthrychedd

Rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau'n ddiduedd, yn deg ac ar sail teilyngdod, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau a heb wahaniaethu neu ragfarn.

Atebolrwydd

Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau ac am yr hyn y maent yn ei wneud a rhaid iddynt ganiatáu i eraill graffu arnynt yn y modd sydd ei angen er mwyn sicrhau hynny.

Bod yn agored

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw. Ni ddylai gwybodaeth gael ei chadw rhag y cyhoedd oni bai bod rhesymau clir a chyfreithlon dros wneud hynny.

Gonestrwydd

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod yn eirwir.

Arweinyddiaeth

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus ymddwyn yn unol â'r egwyddorion hyn. Dylent fynd ati i hyrwyddo a chefnogi’r egwyddorion hyn i’r carn a bod yn barod i herio ymddygiad gwael pryd bynnag y'i gwelir.