Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Adran 76(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cod Ymarfer sy'n nodi eu polisi ar gyfer cynhyrchu asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru. Mae adran 76(3)(a) yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru adolygu Cod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn barhaus.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru adolygu’r Cod yn ystod 2020. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn ar God drafft am ddeuddeg wythnos, gan ddechrau ar 8 Rhagfyr 2020 a gorffen ar 4 Mawrth 2021. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru lle darparwyd ffurflen ar-lein, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost i’r rheini â diddordeb allu ymateb iddo.

Crynodeb

Derbyniwyd un ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'r nifer isel o ymatebion yn debygol o adlewyrchu natur dechnegol yr ymgynghoriad a'r ffaith mai dim ond newidiadau cymharol fach a gynigiodd y Cod drafft i ddiweddaru ac egluro rhannau o'r Cod presennol. Mae'r polisi a nodir yn y Cod drafft o gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r rhan fwyaf o ddarnau o is-ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru yr un fath ag yn y Cod presennol.

Darparodd yr ymatebydd sylwadau ar rai adrannau o'r Cod drafft ac mewn perthynas â thri o'r eithriadau a nodir ym mharagraff 3.2 o'r Cod drafft. Mae'r canlynol yn grynodeb o sylwadau'r ymatebydd am y Cod drafft ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau hynny.

Sylwadau

Y sylw cyntaf

Roedd yr ymatebydd o'r farn bod rhywfaint o eglurhad defnyddiol yn y Cod presennol ynghylch diben Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i hepgor o'r diffiniad o Asesiad Effaith Rheoleiddiol ym mharagraff 2.2 o'r Cod drafft a dywedodd y dylid cadw'r eglurhad.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae paragraff 2.2 o'r Cod drafft yn nodi'r diffiniad o Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel y darperir yn adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ceir esboniad pellach am ddiben Asesiad Effaith Rheoleiddiol ym mharagraff 3.1 o'r Cod drafft, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r testun o'r Cod presennol y tynnodd yr ymatebydd sylw ato.

Yr ail sylw

Roedd yr ymatebydd yn anghytuno â hepgor y llinell ganlynol (sydd yn y Cod presennol) o'r Cod drafft a dywedodd fod yn rhaid i God yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol sicrhau bod y broses o asesu effaith unrhyw is-ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei hystyried pan fydd yr opsiynau ar gyfer datblygu'r polisi yn cael eu hystyried.

Ac eithrio yn yr achosion isod, rhaid ystyried asesiad o effaith unrhyw is-ddeddfwriaeth arfaethedig pan fydd yr opsiynau ar gyfer datblygu’r polisi yn cael eu hystyried.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r Cod drafft yn cyfeirio at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel 'rhan o broses barhaus sy'n dechrau gydag asesiad a oes angen deddfwriaeth i roi polisi newydd ar waith’ ac mae’r canllawiau'n glir y dylai gwaith ar Asesiad Effaith Rheoleiddiol ddechrau'n gynnar yn y broses o ddatblygu polisi. Fodd bynnag, er mwyn pwysleisio'r pwynt hwn ymhellach, caiff y Cod drafft ei ddiwygio i gynnwys llinell sy'n cyfarwyddo swyddogion i asesu effeithiau pan fydd yr opsiynau ar gyfer datblygu'r polisi yn cael eu hystyried.

Y trydydd sylw

Gofynnodd yr ymatebydd i ddolen gael ei chynnwys i God Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru yn Adran 4 y Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes Cod Asesiad Effaith Integredig sy'n cyfateb i’r Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae canllawiau mewnol ar Asesiadau Effaith Integredig yn rhoi cyngor i swyddogion Llywodraeth Cymru ar gynnal Asesiad o’r fath, gan gynnwys pryd y mae angen un.

Sylwadau am yr eithriadau yn Adran 3 o'r Cod drafft

Nodir yr eithriad perthnasol, sylw'r ymatebwyr ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y tabl isod.

Eithriad yn y Cod drafft Crynodeb o sylw’r ymatebydd Ymateb Llywodraeth Cymru
Lle mae diwygiadau ffeithiol yn cael eu gwneud i ddiweddaru is-ddeddfwriaeth ac nad ydynt yn newid y polisi mewn unrhyw ffordd arwyddocaol na sut y caiff ei gymhwyso mewn sefyllfa benodol. Awgrymodd yr ymatebydd fod angen mwy o eglurder neu eiriad mwy cyfyngol o amgylch yr eithriad i'w gwneud yn glir y dylid ystyried maint unrhyw effaith sy'n deillio o'r gwelliannau wrth benderfynu a yw'r eithriad yn berthnasol ai peidio. Mae'r eithriad hwn yn debyg i un yn y Cod presennol. Mae eisoes yn wir mai effaith gwelliant/gwelliannau yw'r brif ystyriaeth wrth benderfynu a yw'r eithriad presennol yn gymwys ai peidio. Ni fydd hyn yn newid o dan y Cod diwygiedig. Bydd y pwynt hwn yn cael ei wneud yn gliriach yn y Cod diwygiedig.

Lle mae angen yr is-ddeddfwriaeth ar fyrder er mwyn:

  1. negyddu neu leddfu bygythiad difrifol i iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion neu ddifrod difrifol i eiddo, NEU
  2. ymateb yn briodol i amgylchiadau sy'n deillio o fygythiad o'r fath.
Holodd yr ymatebydd sut yr oedd 'eiddo' yn cael ei ddiffinio ac a ellid cymhwyso'r eithriad i ddeddfwriaeth a fyddai'n cael effaith andwyol ar y sector y mae’n ei gynrychioli. Dywedodd hefyd y dylid cadw'r defnydd o'r eithriad ar gyfer argyfyngau go iawn. O ran y diffiniad o ‘eiddo’, bydd yr ystyr naturiol a chyffredin yn gymwys a bydd yn cynnwys eiddo tirol ac eitemau symudol. Y bwriad yw mai dim ond mewn sefyllfaoedd brys y defnyddir yr eithriad lle byddai’r oedi a fyddai'n cael ei achosi drwy ei gwneud yn ofynnol i baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gallu gwaethygu'r sefyllfa. Yn ddamcaniaethol, mae'n bosibl y gellid cymhwyso'r eithriad i ddeddfwriaeth frys yn y dyfodol a fyddai'n cael effaith andwyol ar y sector a gynrychiolir gan yr ymatebydd; nid yw hyn yn wahanol i unrhyw sector arall.
Lle mae’r is-ddeddfwriaeth yn Orchymyn Cychwyn neu'n Rheoliadau Cychwyn neu’n Reoliadau sydd hefyd yn gwneud darpariaeth neu arbedion canlyniadol, etc. Mynegodd yr ymatebydd bryder y gallai’r eithriad gael ei gymhwyso mewn sefyllfaoedd lle mae arbedion cost ar gyfer un parti (e.e. Llywodraeth Cymru neu reoleiddiwr) ond dim ond o ganlyniad i gostau ychwanegol sy'n cael eu hysgwyddo gan barti arall. Nid yw'r eithriad hwn wedi newid o'r Cod presennol. Ni fyddai'r eithriad yn gymwys yn y senario a ddisgrifiwyd gan yr ymatebydd oherwydd bod un neu fwy o barti’n ysgwyddo cost ychwanegol.  Bydd geiriad yr eithriad yn cael ei ddiwygio i egluro'r pwynt hwn.

 

Y camau nesaf

Y bwriad yw gosod Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig (sy'n ymgorffori'r newidiadau a nodwyd uchod) gerbron y Senedd yn gynnar yn y tymor newydd.