Rydym yn gofyn am eich barn ar ddrafft diwygiedig o god asesu effaith rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r Cod yn nodi polisi Gweinidogion Cymru ar gyfer cyflawni Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth. Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru am y costau, y manteision a'r risgiau cymharol sy'n gysylltiedig ag ymyriadau polisi amgen. Mae'n eu galluogi i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ar y camau gweithredu mwyaf priodol o safbwynt gwerth am arian.
Bydd y cod ymarfer diwygiedig yn:
- egluro geiriad y cod
- adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r Cod gwreiddiol yn diwygio'r rhestr o eithriadau (sy'n disgrifio sefyllfaoedd lle na fyddai angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol).
Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 523 KB

Cod asesiad effaith rheoleiddiol drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 400 KB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Mawrth 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Ymgynghoriad ar God yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol
Llywodraeth Cymru
Llys-Y-Ddraig
Parc Busnes Penlle'r-gaer
Abertawe
SA4 9NX