Cod asesiad effaith rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth
Cod ymarfer sy’n nodi sut ac o dan ba amgylchiadau y bwriadant wneud asesiadau effaith rheoleiddiol wrth wneud is-ddeddfwriaeth Gymreig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
1.1 Diben y Cod hwn yw nodi polisi Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol (RIAs) mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth berthnasol y maent yn bwriadu ei gwneud. Er y defnyddir y term “Gweinidogion Cymru” yn y Cod hwn, cymerir ei fod, oni nodir yn wahanol, yn cynnwys hefyd y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn unol ag adran 76(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
1.2 Mae'r Cod hefyd yn ailddatgan ymrwymiad Gweinidogion Cymru i ystyried effaith is-ddeddfwriaeth ar fusnes, y trydydd sector, llywodraeth leol ac eraill; ac ar ei ddyletswyddau statudol, a nodir isod.
1.3 Mae manylion ynglŷn â'r hyn a olygir wrth is-ddeddfwriaeth ar gael ar wefan Senedd Cymru.
2. Cynnwys y Cod hwn
2.1 Gwneir y Cod hwn o dan Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymarfer yn nodi sut ac o dan ba amgylchiadau y maent yn bwriadu cynnal asesiad effaith rheoleiddiol wrth wneud is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol.
2.2 Mae Adran 76(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu'r diffiniad canlynol ar gyfer Asesiad Effaith Rheoleiddiol:
“a regulatory impact assessment is an assessment as to the likely costs and benefits of complying with relevant Welsh subordinate legislation.”
2.3 Mae adran 76(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru'n darparu'r diffiniad canlynol mewn perthynas â “relevant Welsh subordinate legislation”:
“subordinate legislation is relevant Welsh subordinate legislation if it is made by the Welsh Ministers, the First Minister or the Counsel General and the statutory instrument (or a draft of the statutory instrument) containing it is required to be laid before the Senedd”.
2.4 Mae paragraff 3.3 o'r Cod hwn hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd Gweinidogion Cymru yn llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn wirfoddol ar gyfer is-ddeddfwriaeth sydd y tu allan i'r diffiniad o “relevant Welsh subordinate legislation”.
3. Y polisi o ran cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol
3.1 Mae RIAs yn rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru, y Swyddog Cyfrifyddu, Senedd Cymru a rhanddeiliaid am y costau, y manteision a'r risgiau tebygol sy'n gysylltiedig ag opsiynau polisi amgen. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y byddai’r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar wahanol unigolion, grwpiau a sefydliadau ac ati. Bwriedir i bob asesiad helpu Gweinidogion Cymru i nodi'r opsiwn a ffefrir o safbwynt gwerth am arian a'i nod yw cyflwyno'r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn i Senedd Cymru a rhanddeiliaid allu craffu ar y penderfyniad hwnnw'n effeithiol.
3.2 Polisi Gweinidogion Cymru fydd cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol bob amser ar gyfer is-ddeddfwriaeth berthnasol Gymreig (fel y'i diffinnir) - yn ddarostyngedig i'r eithriadau canlynol:
- Lle bo’r is-ddeddfwriaeth, yn syml, yn cynyddu ffi statudol, cyfradd treth, taliad, grant neu lwfans yn unol â fformiwla a bennwyd ymlaen llaw (er enghraifft, cyfradd chwyddiant).
- Lle bo angen diwygiadau technegol i newid geiriad y gyfraith yn hytrach na'i diben neu ei heffaith.
- Lle y mae diwygiadau ffeithiol yn cael eu gwneud i ddiweddaru is-ddeddfwriaeth ac nad ydynt yn newid y polisi (na’i effaith) mewn unrhyw ffordd arwyddocaol na sut y caiff ei gymhwyso mewn sefyllfa benodol.
- Lle bo'r is-ddeddfwriaeth yn Orchymyn Cychwyn neu'n Rheoliadau Cychwyn neu Reoliadau sydd hefyd yn gwneud darpariaeth neu arbedion canlyniadol (cyn belled nad yw’r arbedion hyn wedi’u gwneud drwy osod costau ychwanegol ar barti arall), etc.
- Lle byddai'r oedi a fyddai'n cael ei achosi drwy gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn trechu'r nod o wneud y ddeddfwriaeth dan sylw.
- Lle bo angen yr is-ddeddfwriaeth ar fyrder er mwyn:
- negyddu neu leddfu bygythiad difrifol i iechyd pobl, planhigion neu anifeiliaid neu ddifrod difrifol i eiddo, NEU
- ymateb yn briodol i amgylchiadau sy'n deillio o fygythiad o'r fath.
- Lle bo'r is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol yn cael ei gwneud wrth arfer pwerau statudol a roddir gan Ddeddf neu Fesur nad ydynt mewn unrhyw fodd yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru ynghylch sut y dylai’r pwerau hynny gael eu harfer.
3.3 Os nad oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol o dan y Cod hwn mewn perthynas â darn o is-ddeddfwriaeth (naill ai am ei fod y tu allan i gwmpas adran 76(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu am ei fod yn dod o fewn un o'r eithriadau) caiff Gweinidogion Cymru gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn wirfoddol. Bydd pob darn o is-ddeddfwriaeth nad yw'n gofyn am Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cael ei asesu'n unigol i benderfynu a fydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ynghlwm wrtho, serch hynny. Fel rheol, po fwyaf yw effaith darn o is-ddeddfwriaeth, mwyaf tebygol yn y byd ydyw y caiff Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei gynnal mewn perthynas ag ef.
3.4 Mae datblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhan o broses barhaus sy'n dechrau gydag asesiad a oes angen deddfwriaeth i roi polisi newydd ar waith. Rhaid asesu effaith is-ddeddfwriaeth pan fydd y dewisiadau ar gyfer datblygu polisi’n cael eu hystyried. Mae ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn datblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol cadarn ac mae'r dull yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru o ymgynghori a chynnwys eraill (gan gynnwys busnes, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol) wrth ddatblygu polisïau cyn gynted â phosibl.
3.5 Datblygir yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ochr yn ochr ag Asesiad Effaith Integredig (IIA). Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu'r fframwaith ar gyfer yr IIA, sy'n asesu effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol cynigion polisi (cadarnhaol a negyddol.
3.6 Mae a wnelo is-ddeddfwriaeth fel arfer â newidiadau manwl i’r gyfraith a wneir fel arfer o dan bwerau sy’n deillio o Ddeddf Seneddol, Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur gan y Cynulliad. Gall y newidiadau a wneir gan is-ddeddfwriaeth amrywio'n sylweddol o'r technegol, fel uwchraddio ffigurau yn unol â chwyddiant; at ddarparu rheolau manwl sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu Deddf neu Fesur. Ym mhob achos, dylai lefel y manylder a dyfnder y dadansoddiad yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol fod yn gymesur â maint yr effaith debygol.
3.7 Yn unol â gofynion Rheolau Sefydlog, caiff yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i gwblhau ei gynnwys fel rhan o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â darn o is-ddeddfwriaeth pan gaiff ei osod gerbron y Senedd.
3.8 Lle bo cysylltiad agos rhwng dau ddarn neu fwy o is-ddeddfwriaeth ac y gallai un Asesiad Effaith Rheoleiddiol fynd i'r afael yn ddigonol â phob un ohonynt, gellir paratoi un Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r holl ddarnau hynny o is-ddeddfwriaeth. Lle mae hyn yn wir, bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol (neu ddolen rhyngrwyd i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol) yn cael ei gynnwys ym mhob Memorandwm Esboniadol.
4. Ymgynghori mewn perthynas ag Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth
Cynlluniau a swyddogaethau statudol Gweinidogion Cymru
4.1 Fel rhan o’r broses reoleiddio a’r gwaith o wneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd Gweinidogion Cymru yn dilyn y camau cywir a phriodol er mwyn ymgynghori â’r rhai y mae'n debygol yr effeithir arnynt a’r rhai sydd â buddiant o ran effaith gyffredinol y ddeddfwriaeth. Bydd ymgynghori o’r fath yn gyson â darpariaethau’r cynlluniau partneriaeth statudol y ceir darpariaeth ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006:
- Adran 73 – Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol (Pennod 8)
- Adran 74 – Cynllun y Trydydd Sector (Pennod 3), a
- Adran 75 – Cynllun ar gyfer Busnes (paragraffau 17 – 23)
4.2 Wrth lunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw dyledus i'w dyletswyddau statudol gan gynnwys y rhai a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
4.3 Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru ymgynghori am 12 wythnos ar gynigion polisi newydd oni bai bod rheswm cryf dros wneud fel arall. Mae pob ymgynghoriad cyhoeddus ar gael ar-lein.
4.4 Mae Ymgyngoriadau presennol Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan LLYW.CYMRU.
5. Diwygio ac ail-lunio
5.1 Mae adran 76(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru barhau i adolygu'r Cod hwn.
5.2 Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu eu bod am ddiwygio neu ail-lunio'r Cod, mae adran 76(4) i (6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod rhaid iddynt:
- ymgynghori â’r cyfryw bobl a fydd yn eu tyb hwy yn briodol
- cyhoeddi’r Cod pan fyddant yn ei ail-lunio
- cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau (naill ai’r diwygiadau eu hunain neu’r Cod diwygiedig yn ei gyfanrwydd), ac
- Os caiff y Cod ei ail-lunio neu ei ddiwygio, yna gosod copi gerbron y Senedd.
6. Ymgynghori ar y Cod
6.1 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn ddrafft y Cod diwygiedig rhwng 8 Rhagfyr 2020 a 4 Mawrth 2021. Gofynnodd yr ymgynghoriad am ystyried cwmpas y Cod drafft a’r eithriadau arfaethedig.
6.2 Gosodwyd y Cod hwn gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2021.