Cyflwyniad

  1. Diben y Cod hwn yw nodi polisi Gweinidogion Cymru  ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth berthnasol y maent yn bwriadu ei gwneud, gan ddefnyddio eu pwerau is-ddeddfwriaethol eu hunain [Er bod y term ‘Gweinidogion Cymru’ yn cael ei ddefnyddio yn y Cod hwn tybir, oni nodir yn wahanol, ei fod yn cynnwys y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol yn unol ag adran.76 (2)(b) Deddf Llywodraeth Cymru 2006].
  2. Ers pasio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol bellach am wneud is-ddeddfwriaeth yng Nghymru. Mae llawer o is-ddeddfwriaeth yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru a hynny mewn nifer o feysydd ac ar draws portffolios gweinidogol.
  3. Manylion is-ddeddfwriaeth ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  4. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ystyried effaith is-ddeddfwriaeth ar fusnes, y sector gwirfoddol, llywodraeth leol ac eraill; ac ar ei dyletswyddau statudol a gaiff ei egluro isod. Mae is-ddeddfwriaeth, fodd bynnag, yn amrywio’n fawr o ran ei natur ac felly mae angen i’r asesiad fod yn gymesur, hynny yw, bydd hyd a manylder yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gymesur â’r effaith reoleiddiol a gynigir.
  5. Gosodwyd y cod hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Hydref 2009.

1. Y sefyllfa statudol

1.1 Caiff y Cod hwn ei lunio o dan Adran 76 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymarfer yn nodi sut ac o dan ba amgylchiadau y bwriadant gynnal asesiad effaith rheoleiddiol wrth wneud is-ddeddfwriaeth Gymreig (fel y’i diffiniwyd).

2. Diffiniadau

2.1 Mae’r diffiniadau canlynol yn berthnasol at ddibenion y Cod hwn:

Asesiad effaith rheoleiddiol

  • “an assessment as to the likely costs and benefits of complying with relevant Welsh subordinate legislation” (Adran 76 (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006)
    Yn hyn o beth, gall Asesiad Effaith Rheoleiddiol gael ei ystyried:
    • yn broses i helpu Gweinidogion Cymru ystyried effaith y rheoliad arfaethedig ar fuddiannau unigolion, grwpiau, sefydliadau ac ati.
    • yn gyfrwng i alluogi Gweinidogion Cymru i bwyso a mesur costau a manteision yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt cyn gweithredu polisi, ac
    • yn fodd o gyflwyno’r dystiolaeth berthnasol ar effeithiau cadarnhaol a negyddol ymyriadau o’r fath at ddibenion craffu ar y dystiolaeth honno.

Is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol

  • Ceir yn Adran 76 (2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 y diffiniad canlynol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol:
    • “subordinate legislation is relevant Welsh subordinate legislation if it is made by Welsh Ministers, the First Minister or the Counsel General and the statutory instrument (or a draft of the statutory instrument) containing it is required to be laid before the Assembly”

2.2 Mae a wnelo is-ddeddfwriaeth fel arfer â newidiadau manwl i’r gyfraith a wneir fel arfer o dan bwerau sy’n deillio o Ddeddf Seneddol neu Fesur Cynulliad [Categori newydd o ddeddfwriaeth Gymreig all gael ei defnyddio, er enghraifft, i ddiddymu neu ddiwygio Deddfau sydd eisoes yn bod a/neu i wneud darpariaeth gwbl newydd. Ni ellir deddfu Mesurau ond lle bo gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol felly mae’n rhaid iddynt ymwneud ag un neu ragor o’r Materion a restrir yn y Meysydd a nodir yn Rhan 1, Atodlen 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006]. Fodd bynnag, yn unol â’r diffiniad o dan adran 76(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r darpariaethau yn y Cod hwn yn ymwneud yn benodol â pharatoi offerynnau statudol (OS) sydd i’w gosod gerbron y Cynulliad.

2.3 Mae’r newidiadau all gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth yn amrywio o faterion technegol, fel uwchraddio ffigurau yn unol â chwyddiant, i gynnig mwy o fanylder o dan Ddeddf neu Fesur (gall Deddf neu Fesur ddiffinio ei diben neu ei ddiben cyffredinol a gosod y fframwaith cyfreithiol; yng nghynnwys yr is-ddeddfwriaeth y ceir y manylion perthnasol).

3. Gofynion rheolau sefydlog

3.1 Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r rheolau sy’n sail i holl drafodion y Cynulliad (er enghraifft y Cyfarfodydd Llawn a  chyfarfodydd pwyllgor ac ati). Ceir ynddynt ddarpariaeth benodol mewn perthynas ag asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Mae Rheol Sefydlog 24.1 yn datgan:

“Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad ac nad yw’n ddarostyngedig i weithdrefn seneddol, a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn”.

4. Y polisi o ran cynnal asesiad effaith rheoleiddiol

4.1 Ac eithrio yn yr achosion isod, rhaid ystyried asesiad o effaith unrhyw is-ddeddfwriaeth arfaethedig pan fydd yr opsiynau ar gyfer datblygu’r polisi yn cael eu hystyried. Mae hyn yn gyson â pholisi cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran ymgynghori ag eraill (gan gynnwys busnesau, llywodraeth leol a’r sectorau gwirfoddol) a’u cynnwys yn y broses o ddatblygu polisïau cyn gynted ag y bo modd. Mae’r profion a ddefnyddir wrth gynnal asesiad o’r fath yn rhan o broses barhaus sy’n dechrau wrth asesu a oes gwir angen deddfwriaeth i roi polisïau newydd ar waith. Caiff hyn ei wneud yn rhan o broses ehangach o ddatblygu polisi a elwir yn Borth i Bolisïau. Yn sgil y broses Porth i Bolisïau, bydd crynodeb o’r dogfennau yn cael eu cyhoeddi ar-lein..

4.2 Polisi Gweinidogion Cymru fydd cynnal asesiad effaith rheoleiddiol – i’w gynnwys yn rhan o’r Memorandwm Esboniadol sy’n cael ei osod ochr yn ochr â’r holl offerynnau statudol a’r offerynnau statudol drafft a wnaed/i’w gwneud gan Weinidogion Cymru ac sy’n cael eu gosod ganddynt gerbron y Cynulliad – gyda’r eithriadau canlynol:

  • Lle nad yw’r is-ddeddfwriaeth yn bodloni’r meini prawf yn adran 76, hynny yw nad yw’n cael ei gwneud gan offeryn statudol neu nad oes angen ei gosod gerbron y Cynulliad
  • Lle bo’r is-ddeddfwriaeth, yn syml, yn cynyddu ffi statudol yn unol â fformiwla a bennwyd ymlaen llaw (er enghraifft, cyfradd chwyddiant)
  • Lle bo angen gwneud diwygiadau technegol neu ddiwygiadau ffeithiol er mwyn diweddaru rheoliadau ac ati nad ydynt yn effeithio’n fawr ar bolisi 
  • Ar gyfer Gorchmynion Cychwyn sy’n rhoi deddfwriaeth sylfaenol neu Fesurau Cynulliad mewn grym gan gynnwys Gorchmynion o’r fath sydd hefyd yn arwain at wneud darpariaethau canlyniadol neu arbedion, etc
  • Lle bo’r is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol yn destun gweithdrefn ychwanegol o dan Senedd y DU. Mewn achosion o’r fath, bydd yn rhaid penderfynu ar y cyd ag Adran berthnasol Llywodraeth y DU a fydd angen asesiad effaith rheoleiddiol
  • Lle bo angen rhoi’r is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol yn ei lle yn ddi-oed i ddelio ag argyfwng (er enghraifft, Clwy’r Traed a’r Genau neu Ffliw Adar)
  • Lle bo is-ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol yn cael ei wneud wrth arfer y pwerau statudol hynny a ganiateir gan Ddeddf neu Fesur nad ydynt mewn unrhyw fodd yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru ynghylch sut y dylai’r pwerau hynny gael eu defnyddio.

4.3 Mae’n bosibl y bydd yna achosion lle nad yw is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy Offeryn Statudol a/neu lle nad oes angen iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad ond lle gall y Gweinidogion ystyried fod iddi effaith sylweddol ac felly bod angen asesu ei heffaith. Bydd pob is-ddeddfwriaeth o’r fath yn cael ei hasesu fesul achos ac ar ôl gwneud hyn, gall Gweinidogion Cymru ddewis i fynd ati yn wirfoddol i wneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol p’un ai a fydd y ddeddfwriaeth yn dod o dan un o’r eithriadau a nodir ai peidio.

4.4 Lle bo mwy nag un Offeryn Statudol yn cael ei ddiwygio ar yr un pryd i fodloni un amcan polisi, a lle bo’r newidiadau yn dibynnu ar ei gilydd, dim ond un asesiad y bydd angen ei wneud.

5. Ymgynghori mewn perthynas ag asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth

Cynlluniau statudol Gweinidogion Cymru

5.1 Yn rhan o’r broses reoleiddiol a’r gwaith o wneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd Gweinidogion Cymru yn dilyn y camau cywir a phriodol er mwyn ymgynghori â’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio a’r rheini sydd â buddiant o ran effaith gyffredinol y ddeddfwriaeth. Bydd ymgynghori o’r fath yn gyson â darpariaethau’r cynlluniau partneriaeth statudol y ceir darpariaeth ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006:

Swyddogaethau statudol Gweinidogion Cymru

5.2 Wrth wneud Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y swyddogaethau statudol hynny a nodir isod (yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006):

  • Adran 77 – Cyfle cyfartal (lle bo’n rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau gan roi’r sylw dyladwy i’r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb)
  • Adran 78 – Yr Iaith Gymraeg (lle bo’n rhaid i Weinidogion Cymru fabwysiadu cynllun a strategaeth  sy’n nodi sut y caiff y Gymraeg ei hyrwyddo; sut y caiff ei defnyddio mewn perthynas â’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir; ac wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru y caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu trin yn gyfartal), ac
  • Adran 79 – Datblygu Cynaliadwy (lle bo’n rhaid i Weinidogion Cymru nodi mewn cynllun sut yr ânt ati i sicrhau, wrth gyflawni eu swyddogaethau, eu bod yn hybu datblygu cynaliadwy).

5.3 Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rheol yw ymgynghori am leiafswm o 12 wythnos ar gynigion polisi newydd/mawr a hefyd ymgynghori ar-lein.

5.4 Ymgynghoriadau cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar GOV.WALES.

6. Diwygio ac ail-lunio

6.1 Rhaid i Weinidogion Cymru barhau i adolygu’r Cod ar gyfer Asesiadau Effaith Rheoleiddiol (adran 76(3)(a) Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

6.2 Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu eu bod am ddiwygio neu ail-lunio’r Cod o bryd i’w gilydd, rhaid iddynt:

  • ymgynghori â’r gyfryw bobl a fydd yn eu tyb hwy yn briodol
  • cyhoeddi’r cod pan fyddant yn ei ail-lunio
  • cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau (naill ai’r diwygiadau eu hunain neu’r cod diwygiedig yn ei gyfanrwydd), ac
  • os caiff y cod ei ail-lunio neu ei ddiwygio, yna gosod copi gerbron y Cynulliad

7. Ymgynghori ynghylch y cod

7.1 O ystyried yn arbennig yr egwyddorion yn y cynllun ar gyfer llywodraeth leol, y cynllun ar gyfer busnesau a chynllun y sector gwirfoddol, cynhaliwyd gan Weinidogion Cymru ymgynghoriad llawn ag unigolion /sefydliadau perthnasol ar gynnwys y Cod hwn rhwng 21 Gorffennaf a 21 Hydref 2008.

7.2 Gofynnwyd i’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy ystyried cynnwys y Cod a rhoi eu barn ar ei gwmpas arfaethedig, yn arbennig mewn perthynas â’u maes penodol hwy o arbenigedd neu’r sector y maent yn gweithio ynddo.