Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant Carl Sargeant wedi cytuno i neilltuo £362,445 i Glwb Henoed Millbank yng Nghaergybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad y grant gan raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yw datblygu a gwella cyfleusterau a fydd yn atal diflaniad gwasanaethau cymunedol a darparu gwasanaethau a fydd yn helpu i leihau tlodi a’i effeithiau.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i ddymchwel y Clwb a’i ailadeiladu fel adeilad fydd wedi’i inswleiddio’n dda ac yn defnyddio ynni’n effeithlon fel na fydd angen ond y lefelau isaf posib o wres. Bydd y costau rhedeg yn isel hefyd a bydd hynny’n gymorth o ran cynnal yr adeilad at y dyfodol.

Gan gyhoeddi’r arian a fydd ar gael dywedodd Carl Sargeant:

“Pan fydd yr adeilad wedi’i gwblhau bydd yn cynnig cyfleusterau cymunedol cynaliadwy mewn ardal ddifreintiedig lle mae cyfleusterau yn brin a’r gallu i fanteisio ar gyfleusterau yn gyfyngedig. Os na chaiff yr arian ei roi at y cynllun yma, mae’n debygol y gwelir y cyfleusterau presennol yn cau yn y pendraw.

“Dyma fydd yr adeilad cymunedol cyntaf ar ffurf tŷ Goddefol yng Nghymru ac o ystyried y nodweddion ynni sy’n rhan ohono mae’n gweddu’n dda ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Mae’n dda gen i gymeradwyo’r cyllid ar gyfer Clwb Henoed Millbank er mwyn sicrhau parhad y gweithgareddau cymunedol pwysig, fel y clwb ieuenctid a’r cyrsiau hyfforddi, sy’n cael eu cynnig yno.”