Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludo nwyddau ar ffyrdd
Prif bwyntiau
Mae'r ystadegau ar gyfer Cymru am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn cynnwys gwybodaeth am fewnforion i Gymru ac allforion o Gymru sy'n cael eu codi a’u cludo ar y ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Mae'r data'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth.
Effeithiwyd ar y data hyn gan bandemig y coronafeirws (COVID-19), a gafodd effaith sylweddol ar y gymdeithas a gweithgarwch economaidd ers mis Mawrth 2020. Gwnaeth cyfyngiadau COVID, i ryw raddau, effeithio ar weithgarwch cerbydau nwyddau ar y ffyrdd.
Codwyd cyfanswm o 83.0 miliwn tunnell o nwyddau yng Nghymru gan gerbydau nwyddau trwm a gofrestrwyd yn y DU. Mae hyn yn ostyngiad o 10.3% o'i gymharu â 2019. O'r swm hwn:
- gwelwyd gostyngiad o 3.2% yn y nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd yng Nghymru i 35.5 miliwn tunnell o'i gymharu â 2019
- gwelwyd gostyngiad o 9.9% yn y nwyddau a ddaeth i mewn i Gymru o weddill y DU i 25.0 miliwn tunnell
- gwelwyd gostyngiad o 20.1% yn y nwyddau a adawodd Cymru i weddill y DU i 22.4 miliwn tunnell yn 2020
Mae Siart 1 yn dangos sut mae cludo nwyddau ar y ffyrdd wedi'i ddosbarthu o fewn Cymru a gweddill y DU dros amser. Cludo nwyddau ar y ffyrdd 'o fewn Cymru' yw’r prif gyfeiriadau o ran llif nwyddau.
Cyrchfannau yn y DU
- Yn 2020, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 43% o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd. Mae hwn yn gynnydd o 3.1 pwynt canran o’i gymharu â 2019.
- Cludodd cerbydau nwyddau trwm 36 miliwn o dunelli o nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru, 25 miliwn o dunelli i Gymru o weddill y DU, a 22 miliwn o dunelli o Gymru i weddill y DU.
- O’r nwyddau a gludwyd o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 27% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 18% i Dde-orllewin Lloegr a 22% i Ogledd-orllewin Lloegr. Y rhanbarthau hyn oedd i gyfrif am gyfanswm o 67% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
- Yr un tri rhanbarth oedd i gyfrif am 66% o'r nwyddau a gludwyd i mewn i Gymru o weddill y DU. Daeth 18% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 24% o Ogledd-orllewin Lloegr a 23% o Dde-orllewin Lloegr.
Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE)
- Cafodd 27% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2020. Gwelwyd gostyngiad o 45% yn 2020 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd i’r gwledydd hynny ac o'r gwledydd hynny.
- Ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, gwelwyd gostyngiad o 16% yn 2020 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd o’i gymharu â 2019.
Grwpiau nwyddau
Mae Siart 2 yn dangos y 3 grŵp mwyaf o nwyddau (yn ôl pwysau) a gludwyd gan gerbydau nwyddau trwm yng Nghymru yn y flwyddyn 2020. Mwyn metelau a mathau eraill o gynhyrchion mwyngloddio a chwarelu oedd y mwyaf, sef 13.5 miliwn tunnell o bwysau. O'i gymharu â 2019, gwelwyd cynnydd o ran pwysau dau o'r tri grŵp nwyddau mwyaf 'Mwyn metelau a mathau eraill o gynhyrchion mwyngloddio a chwarelu' a 'Chynhyrchion a oedd yn gysylltiedig â gwastraff' o 33% a 31% yn y drefn honno yn 2020. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfanswm pwysau’r grŵp 'cynhyrchion bwyd' dros yr un cyfnod.
I gael rhagor o fanylion am grwpiau nwyddau, gweler cyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth: Nodiadau a diffiniadau ystadegau cludo nwyddau ar y ffyrdd (tudalennau 17-18).
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.