Neidio i'r prif gynnwy

Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2019.

Prif bwyntiau

Mae'r ystadegau ar gyfer Cymru am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn cynnwys gwybodaeth am fewnforion i Gymru ac allforion o Gymru sy'n cael eu cludo ar y ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Mae'r data'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth.

Yn 2019, gwelwyd gostyngiad o 4.2% o gymharu â 2018 yng nghyfanswm y nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd yng Nghymru. Gwelwyd cynnydd o 12.0% yn y nwyddau a ddaeth i mewn i Gymru a chynnydd o 15.9% yn y nwyddau a adawodd Cymru yn 2019. 

Image
Nwyddau sy’n cael eu cario ar y ffyrdd yng Nghymru, i Gymru ac o Gymru gan Gerbydau Nwyddau Trwm sydd wedi’u cofrestru yn y DU oddi wrth 2015 i 2019

Cyrchfannau yn y DU

  • Yn 2019, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 40% o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd. Mae hwn yn ostyngiad o 4.2 pwynt canran o’i gymharu â 2018.
  • Cludodd HGVs 37 miliwn o dunelli o nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru, 28 miliwn o dunelli i Gymru o weddill y DU, a 28 miliwn o dunelli o Gymru i weddill y DU. 
  • O’r nwyddau a gludwyd o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 23% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 17% i Dde-orllewin Lloegr a 25% i Ogledd-orllewin Lloegr. Y rhanbarthau hyn oedd i gyfrif am gyfanswm o 66% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
  • Yr un tri rhanbarth oedd i gyfrif am 62% o'r nwyddau a gludwyd i mewn i Gymru o weddill y DU. Daeth 22% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 23% o Ogledd-orllewin Lloegr a 17% o Dde-orllewin Lloegr.

Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE)

  • Cafodd 40% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2019. Gwelwyd cynnydd yn 2019 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd i’r gwledydd hynny ac o'r gwledydd hynny.
  • Ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, gwelwyd cynnydd o 31% yn 2019 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd o’i gymharu â 2018.

Grwpiau nwyddau

Dyma'r grwpiau mwyaf o nwyddau (yn ôl pwysau) a gludwyd gan HGVs yng Nghymru yn 2019:

  • 15 miliwn o dunelli o gynhyrchion bwyd (gan gynnwys diodydd a thybaco)
  • 10 miliwn o dunelli o fwyn metelau a mathau eraill o gynhyrchion mwyngloddio a chwarelu (heb gynnwys glo a lignit)
  • 8 miliwn o dunelli o gynhyrchion a oedd yn gysylltiedig â gwastraff
  • 7 miliwn o dunelli o gynhyrchion amaethyddol

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.