Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludo nwyddau ar ffyrdd
Prif bwyntiau
Yn 2018, gwelwyd gostyngiad o 16% o gymharu â 2017 yng nghyfanswm y nwyddau a godwyd ar y ffyrdd yng Nghymru. Gwelwyd gostyngiad o 5% yn y nwyddau a ddaeth i mewn i Gymru a gostyngiad o 4% yn y nwyddau a adawodd Cymru yn 2018.
Cyrchfannau yn y DU
- Yn 2018, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 44 % o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd. Mae hwn yn ostyngiad o xx.x pwynt canran ers 2017.
- Cludodd HGVs 38 miliwn o dunelli o nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru, 25 miliwn o dunelli i Gymru o weddill y DU, a 24 miliwn o dunelli o Gymru i weddill y DU.
- O’r nwyddau a gludwyd o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 28% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 24% i Dde-orllewin Lloegr a 18% i Ogledd-orllewin Lloegr. Y rhanbarthau hyn oedd i gyfrif am gyfanswm o 71% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
- Yr un tri rhanbarth oedd i gyfrif am 62% o'r nwyddau a gludwyd i mewn i Gymru o weddill y DU. Daeth 25% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 19% o Ogledd-orllewin Lloegr a 18% o Dde-orllewin Lloegr.
Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE)
- Cafodd 42% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2018. Gwelwyd gostyngiad yn 2018 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd i’r gwledydd hynny ac o'r gwledydd hynny.
- Ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, gwelwyd gostyngiad o 11% yn 2018 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion, sef gostyngiad tebyg i'r un a welwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Y grwpiau mwyaf o nwyddau (yn ôl pwysau) a gafodd eu cario gan gerbydau nwyddau trwm
- 17 miliwn o dunelli o gynhyrchion bwyd (gan gynnwys diodydd a thybaco).
- 11 miliwn o dunelli o fwyn metelau a mathau eraill o gynhyrchion mwyngloddio a chwarelu (heb gynnwys glo a lignit).
- 9 miliwn o dunelli o gynhyrchion a oedd yn gysylltiedig â gwastraff.
- 9 miliwn o dunelli o gynhyrchion amaethyddol.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.