Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd yn ystod 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludo nwyddau ar ffyrdd
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2017, o’u cymharu â lefelau 2016, gwelwyd cynnydd o 2% yn y nwyddau a gariwyd ar y ffyrdd yng Nghymru, 25% o gynnydd yn y nwyddau i Gymru a 9% o gynnydd yn y nwyddau o Gymru.
DU Cyrchfan
- Yn 2017, roedd 47% o’r traffig cludo nwyddau yng Nghymru yn teithio o fewn Cymru yn unig. Dyna gwymp o 3.3 pwynt canran ers 2016.
- Cariodd Cerbydau Llwythi Trwm: 45 miliwn o dunelli o nwyddau ar y ffyrdd o fewn Cymru; 26 miliwn o dunelli i Gymru o weddill y DU; 25 miliwn o dunelli o Gymru i weddill y DU.
- Roedd 63% o’r nwyddau a gafodd eu cario ar y ffyrdd rhwng Cymru a gweddill y DU yn 2017 yn dod ac yn mynd i Ogledd Orllewin, De Orllewin a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
- O’r holl nwyddau a gafodd eu cario o Gymru i weddill y DU, roedd 29% wedi’u cario i Orllewin Canolbarth Lloegr, 22% i Dde Orllewin Lloegr ac 13% i Ogledd Orllewin Lloegr. Cafodd 64% o’r cyfanswm a gafodd ei gario o Gymru i weddill y DU ei gario i’r rhanbarthau hyn.
- O’r holl nwyddau a gafodd eu cario i Gymru o weddill y DU, roedd 23% wedi’u cario o Orllewin Canolbarth Lloegr, 18% o Dde Orllewin Lloegr a 21% o Ogledd Orllewin Lloegr. Cafodd 62% o’r cyfanswm a gafodd ei gario i Gymru o weddill y DU ei gario o’r rhanbarthau hyn.
Yr Undeb Ewropeaidd Cyrchfan
- Cafodd 50% o dunelledd mewnforion/allforion Cymru a gafodd ei gario ar y ffyrdd i’r UE ac o’r UE yn 2017 ei lwytho/dadlwytho yng Ngwlad Belg a Lwcsembwrg neu’r Almaen.
- Mae mewnforion ac allforion gafodd eu cario ar y ffyrdd rhwng Cymru a Gwlad Belg a Lwcsembwrg wedi gostwng yn 2017.
Y grwpiau mwyaf o nwyddau (yn ôl pwysau) a gafodd eu cario gan gerbydau nwyddau trwm
- 22 miliwn o dunelli o gynnyrch bwyd (gan gynnwys diodydd a thybaco).
- 11 miliwn o dunelli o fetel crai a chynnyrch eraill mwyngloddo a chwarelydda (gan gynnwys glo a choedlo).
- 9 miliwn tunnell o gynnyrch gwastraff.
- 8 miliwn tunnell o gynnyrch amaethyddol.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.